Cydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru gyda’r safonau: Tachwedd 2022
Cofnod o sut yr ydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Safonau sydd yn ymdrin â materion atodol
Yn unol â’r Safonau sy’n ymdrin a Materion Atodol sydd wedi eu cynnwys yn Hysbysiad Cydymffurfio Gweinidogion Cymru, darperir yr wybodaeth ganlynol er mwyn bodloni gofynion cydymffurfio.
Safon 155, 161, 167, 175
Mae Hysbysiad Cydymffurfio Gweinidogion Cymru, sydd yn darparu manylion y safonau Cyflenwi Gwasanaeth, Gweithredu, Llunio Polisi a Cadw Cofnodion sydd wedi eu gosod ar Weinidogion Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg, wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn ogystal ac ar y fewnrwyd staff.
Safon 156, 162, 168
Mae Polisi Cwynion i Gwsmeriaid Llywodraeth Cymru yn darparu’r weithdrefn ar gyfer cwyno. Mae’r polisi yn manylu ar y broses y byddwn yn ei dilyn os gwneir cwyn am fater sydd yn ymwneud â safonau’r Gymraeg.
Darparwyd canllaw i staff er mwyn eu hyfforddi ar sut i ddelio gyda chwynion sydd yn ymwneud â safonau’r Gymraeg, a chynhwysir delio gyda chwynion yn ein hyfforddiant cynefino i’n holl staff newydd.
Safon 157, 163, 169
Sicrheir goruchwyliaeth o gydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru gyda safonau’r Gymraeg mewn amryw o ffyrdd.
Darperir adroddiadau cyson i Fwrdd Llywodraeth Cymru ar weithrediad y Safonau.
Mae cwynion sydd yn berthnasol i’r safonau a’r Gymraeg yn fwy cyffredinol yn cael eu monitro fel rhan o waith monitro cwynion ehangach Llywodraeth Cymru, gyda phapur ar ddata blynyddol yn cael ei baratoi at sylw Bwrdd y Llywodraeth yn flynyddol. Cynhwysir adran yn y papur ar gwynion yn ymwneud a’r safonau a’r Gymraeg. Craffir ar natur y cwynion yn ogystal a data ar nifer y cwynion a dderbynnir gan bob Grwp yn y Llywodraeth.
Mae dangosyddion perfformiad ynghylch cydymffurfiaeth y Llywodraeth gyda’i ofynion statudol wedi cael eu cynnwys yn Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru. Mae’r Fframwaith Perfformiad, a gyflwynwyd yn 2019, yn cynnwys dangosyddion amrywiol am berfformiad y Llywodraeth mewn 19 o feysydd penodol, gan gynnwys y Gymraeg. Adroddir ar berfformiad i Fwrdd y Llywodraeth bob 6 mis. Edrychir ar 4 maes o safbwynt y Gymraeg: cefnogaeth sefydliadol i’r iaith, cydymffurfiaeth gyda'r safonau, defnydd y Gymraeg gan y gweithlu a sgiliau Cymraeg y gweithlu.
Trwy gyfrwng yr Holiadur Rheolaethau Mewnol, sydd yn rhan o gylch gwaith y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Llywodraethiant Corfforaethol, darperir adroddiad manwl i Fwrdd y Llywodraeth ar berfformiad y sefydliad o ran rheolaeth a llywodraethiant yn flynyddol. Mae adran benodol o fewn yr holiadur ar gydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg er mwyn craffu ar drefniadau grwpiau a chyfarwyddiaethau’r Llywodraeth i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’u dyletswyddau statudol.
Yn fwy cyffredinol mae Rhwydwaith Cydlynwyr y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o ddarparu sicrwydd ar gydymffurfiaeth. Mae’r Rhwydwaith yn cwrdd yn ddeufisol a darperir adroddiad llawn gan bob Cydlynydd ar weithgareddau eu hardal fusnes yn ystod y deufis diwethaf. Mae cyfarfodydd y Rhwydwaith yn allweddol ar gyfer trafod rhwystrau i gydymffurfio, arfer dda a rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau a dehongliadau allweddol o ofynion cydymffurfiaeth.
Darperir gwybodaeth yn flynyddol i’r Comisiynydd ar ffurf holiadur hunan asesu er mwyn darparu trosolwg o drefniadau’r sefydliad ar gyfer cydymffurfio gyda gofynion y safonau yn ogystal.
Safon 158, 164, 170
Mae Adroddiad Blynyddol yn cael ei ddrafftio mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol. Mae’r adroddiad yn delio gyda’r modd y bu i Weinidogion Cymru gydymffurfio gyda’r safonau (cyflenwi gwasanaeth, llunio polisi a gweithredu) yr oeddent o dan ddyletswydd i gydymffurfio gyda nhw yn ystod y flwyddyn.
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:
- Cwynion blynyddol yn ymwneud gyda cydymffurfiaeth gyda’r safonau
- Nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg
- Nifer a chanran yr aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd yn Gymraeg
- Nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd gyda chategori sgiliau ieithyddol y swyddi hynny.
Adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021 i 2022 ar LLYW.CYMRU