Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cafodd Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gyfraith newydd yn ceisio rhoi terfyn ar gosbi corfforol i blant yng Nghymru, yn helpu i warchod eu hawliau ac yn cryfhau  ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Nodwyd yr achlysur heddiw gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn selio’r Bil yn swyddogol, gan olygu y daw’r gyfraith i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd wedi arwain ar y Bil:

Does dim rheswm byth i daro plentyn - efallai bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol yn y gorffennol ond nid yw’n dderbyniol mwyach. Mae ein plant ni’n haeddu cael eu trin gyda’r un parch ac urddas ag oedolion.

Er bod selio’r Bil wedi cael ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd achosion o Covid-19, rydyn ni’n falch o fod wedi cymryd y cam hanesyddol hwn i helpu i warchod plant a’u hawliau.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y ddeddfwriaeth hon a’i chefnogi.