Mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fe ddaeth cyfraith newydd yn diogelu annibyniaeth cymdeithasau tai yng Nghymru yn un o Ddeddfau’r Cynulliad yn swyddogol.
Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, a oedd yn y seremoni selio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays:
“Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn chwarae rôl hanfodol yn ein helpu ni i gwrdd â’n hymrwymiad i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021. Byddant hwy, yn eu tro, yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r sector barhau i gael y rhyddid i ddefnyddio benthyciadau gan y sector preifat i ategu grant tai cymdeithasol y Llywodraeth a rhaglenni cyllido eraill.
“Bydd y Ddeddf hon yn helpu i sicrhau tai fforddiadwy sydd gwir eu hangen a rhagor o opsiynau i Lywodraeth Cymru sicrhau’r budd mwyaf o gyfraniadau’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gymunedau lle maent yn gweithio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i bartneriaid yn y sector preifat sydd wedi gwneud ymrwymiadau tymor hir i gyllido sector annibynnol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Tai Cymunedol Cymru:
“Rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn mewn ffordd gadarn i basio’r ddeddfwriaeth hon i sicrhau annibyniaeth cymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn sicrhau y gall cymdeithasau tai barhau i ddenu buddsoddiad preifat ac adeiladu’r tai fforddiadwy sydd eu hangen yng Nghymru wrth i ni weithio tuag at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor presennol y Cynulliad.”
Mae’r Ddeddf yn diwygio ac yn dileu’r pwerau sydd yn nhyb Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos rheolaeth llywodraeth ganol a llywodraeth leol dros Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae hefyd yn cyflwyno pwerau newydd i leihau dylanwad awdurdodau lleol ar Fyrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Heb ailddosbarthu yn ôl i sefydliadau'r sector preifat, byddai'n rhaid i gyllid ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i adeiladu a gwella tai cymdeithasol gystadlu â blaenoriaethau eraill prosiect cyfalaf Llywodraeth Cymru.