Pryd a sut i ddefnyddio’r gydran yn LLYW.CYMRU sy’n eich galluogi i roi neges yn tynnu sylw at wybodaeth.
Cynnwys
Pryd i’w defnyddio
Cyn defnyddio’r gydran, gwnewch yn siŵr bod caniatâd i’w defnyddio gyda’r math o gynnwys ar LLYW.CYMRU sydd gennych dan sylw.
Defnyddiwch y neges er mwyn:
- tynnu sylw at rywbeth hynod o bwysig, fel dirwyo rhywun neu ddwyn achos llys yn ei erbyn
Sut i’w defnyddio
Wrth gynnwys negeseuon yn tynnu sylw at wybodaeth dylech:
- eu cadw’n gryno, rhyw 1 neu 2 linell fel arfer
- peidio defnyddio gormod ohonynt
- osgoi rhoi nifer o negeseuon yn agos at ei gilydd