Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Hwn yw’r trydydd Adroddiad Blynyddol ar ein Hamcanion Cydraddoldeb a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2016–2020.

Yn ystod 2018-19, parhaodd Llywodraeth Cymru i lywio’r gwaith o hyrwyddo cyfle cyfartal yn wyneb y galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus o safon, pwysau cyni parhaus a gwaith i ddatblygu’r trefniadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym hefyd wedi buddsoddi’n eang er mwyn hyrwyddo tegwch a herio gwahaniaethu. Ariannodd Rhaglen Ariannu Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2017–2020 saith sefydliad cydraddoldeb arweiniol. Mae’r rhaglen yn cefnogi gwaith pwysig y Trydydd Sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol, gan gyflawni ledled Cymru, cyrraedd amrywiaeth o bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig a’n helpu i gyflawni’r amcanion cydraddoldeb.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru am ei gyngor a’i gymorth. Roedd ei waith yn ystod 2018-19 yn cynnwys yr adroddiad “A yw Cymru’n Decach?” a edrychodd ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, sydd wedi bod yn ffynhonnell werthfawr a hanfodol o dystiolaeth i’n helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn gadarn a bod ein polisïau a’n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl ac yn hygyrch i bawb.

Mae trechu tlodi yn flaenoriaeth glir i Lywodraeth Cymru. Mae’r ymdrech i sicrhau mwy o gydraddoldeb yn rhan annatod o’r Llywodraeth hon ac mae’n parhau i ddylanwadu ar bopeth a wnawn. Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hwn ac adrodd ar ddatblygiadau pellach y flwyddyn nesaf, gan gynnwys canlyniad ein Hadolygiad pwysig o Gydraddoldeb Rhywiol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2018, a’r gwaith rydym wedi dechrau arno i atgyfnerthu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Jane Hutt AC
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Pennod 1: Cyflwyniad

Mae Cymru wedi bod yn wlad â thraddodiad cryf o gynhwysiant a pharch at amrywiaeth erioed, sydd i’w briodoli’n rhannol i’n treftadaeth ddiwylliannol a morwrol. Rydym wedi parhau i adeiladu ar y cysylltiadau sy’n clymu cymunedau at ei gilydd er mwyn sicrhau bod “a welcome in the hillsides” yn parhau’n gytgan a adnabyddir ac a berchir ledled y byd, sy’n cwmpasu’r rhai a fu yma ers cenedlaethau ac eraill sydd wedi gadael ac wedi dychwelyd yn ogystal â newydd-ddyfodiaid.

Mae’n rhaid i’n polisïau a’n penderfyniadau gael eu llywio gan y rhai y maent yn effeithio’n fwyaf uniongyrchol arnynt. Mae ymgysylltu ag arbenigwyr, grwpiau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau yn sicrhau ein bod yn cael cymorth a chyngor er mwyn ein helpu i ddeall anghenion, problemau, rhwystrau a phrofiadau’r rhai â nodweddion gwarchodedig. Mae’n un o ofynion sylfaenol dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru.

Drwy gydol y flwyddyn bu Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd mewn llawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig, er mwyn deall eu blaenoriaethau a’r heriau y maent yn eu hwynebu’n feunyddiol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu fforymau a ddefnyddiwn i ymgysylltu ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol er mwyn trafod materion cydraddoldeb. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

Cadeirir pob un o’r fforymau hyn gan Weinidogion neu un o Uwch-swyddogion y Llywodraeth. Mae rhai ohonynt yn unigryw yn y DU o ran y ffordd y maent yn galluogi rhanddeiliaid ym maes cydraddoldeb i ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf o’r llywodraeth ynglŷn â’r materion sy’n bwysig iddynt. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rywfaint o’n gwaith yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019 i greu Cymru fwy cyfartal.

Mae’n amlinellu’r ffordd rydym wedi defnyddio ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb er mwyn integreiddio cydraddoldeb yn ein prosesau datblygu polisi a gwneud penderfyniadau. Rydym yn croesawu’r her sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth cydraddoldeb, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried yn ofalus sut mae ein gwaith yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl ac yn ein galluogi i ddiwallu anghenion amrywiol pob dinesydd sy’n byw yng Nghymru. Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd ein penderfyniadau yn cael effeithiau negyddol, mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut y gallwn gyfrannu’n gadarnhaol at hyrwyddo cydraddoldeb i bawb.

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach? 2018’ ym mis Hydref 2018, a darparodd dystiolaeth newydd sylweddol i lywio ac ategu gwaith pob lluniwr polisi ac asiantaeth gyflawni sy’n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Roedd yr adroddiad yn adnodd gwerthfawr er mwyn helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn gadarn a bod ein polisïau a’n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl a’u bod yn hygyrch i bawb.

Casglodd dystiolaeth o bob un o’r chwe agwedd ar fywyd, sef: addysg, iechyd, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Mae’r rhagolygon ar gyfer pobl anabl, rhai lleiafrifoedd ethnig a phlant o gefndiroedd tlotach wedi gwaethygu mewn llawer o agweddau ar fywyd. Mae risg y bydd yr anghydraddoldeb hwn yn ymwreiddio am genedlaethau i ddod, gan greu cymdeithas lle y bydd y grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl yn y daith tuag at wlad deg a chyfartal. Eleni, am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taenlenni data agored i ategu ei Hadroddiad Cydraddoldeb Cyflogwyr ar gyfer 2017-18. Yn dilyn hyn, buom yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus, ac yn eu cefnogi, drwy rannu canllawiau ar gyhoeddi tablau data agored, gan ddosbarthu Cwestiynau Cyffredin a chynnal gweminarau er mwyn rhannu arferion gorau.

Pennod 2: Cyflawni ein dyletswyddau o ran cydraddoldeb

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni ein dyletswyddau y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn nodi’r hyn rydym wedi’i wneud i ymgorffori gofynion adrodd statudol deddfwriaeth cydraddoldeb yn ein polisïau a’n harferion, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Mae’r ddyletswydd hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus, wrth iddo wneud ei waith, i roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:

  • Dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin cydberthnasau da rhwng y rheini sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.

Cyfeirir at y ddyletswydd hon fel Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn ogystal â’r ‘ddyletswydd gyffredinol’.

Er mwyn i gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru berfformio’n well a dangos eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, deddfodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb sy’n benodol i Gymru. Mae’r dyletswyddau hyn, a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y cyfeirir atynt hefyd fel Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru) yn gymwys i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru fel y’u rhestrir yn y rheoliadau, a elwir yn ‘awdurdodau rhestredig’.

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gosod cyfrifoldebau ar y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru o ran ymgysylltu, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gwahaniaethau o ran cyflog, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, trefniadau adolygu a chyflwyno adroddiadau. Cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol hwn yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2011 er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon (2018‑19) cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ymarfer monitro a edrychodd ar sut roedd y 73 o gyrff cyhoeddus rhestredig yn perfformio yn erbyn y dyletswyddau ac, yn benodol, sut roeddent yn defnyddio’r dyletswyddau i lywio’r gwaith o wella amrywiaeth o fewn y gweithlu a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganfyddiadau yn 2019 ac ers hynny mae wedi cyfarfod ag uwch-gynrychiolwyr o lawer o’r awdurdodau rhestredig er mwyn trafod materion sectoraidd a sut y gellir gwella cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Rhaglen Lywodraethu

Symud Cymru Ymlaen yw cynllun strategol pum mlynedd Llywodraeth Cymru, ac mae’n nodi’r hyn y mae Gweinidogion am ei gyflawni rhwng 2016 a 2021. Mae’n rhaglen feiddgar, strategol ac uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl Cymru o ddydd i ddydd.

Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn cymryd yr ymrwymiadau hynny ac yn nodi sut y cânt eu cyflawni drwy gyfuno ymdrechion y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru. 

Lluniwyd y strategaeth genedlaethol o fewn fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n nodi ein cyfraniad at gyflawni’r saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ a ‘Cymru o gymunedau cydlynus’.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ategu’r rôl y gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru ei chwarae o ran atgyfnerthu’r broses o roi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar waith drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Y darlun ehangach

Mae llawer o gyfreithiau eraill Cymru a’r DU, yn ogystal â chytuniadau a chonfensiynau rhyngwladol, yn ategu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfreithiau sy’n ymwneud ag agweddau penodol ar fywyd a gwaith, megis cyflogaeth, addysg, iechyd neu gyfiawnder, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â grwpiau penodol o bobl megis ffoaduriaid, pobl anabl neu blant. Mae’n bwysig cofio nad y Ddeddf Cydraddoldeb na Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r unig ddarnau perthnasol o ddeddfwriaeth.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi hawliau a rhyddidau sylfaenol ar gyfer pawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith ddomestig Prydain.

Mae’r Confensiwn yn deillio o Gyngor Ewrop (nid yr Undeb Ewropeaidd) ac mae’n seiliedig ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, sef y cytundeb rhyngwladol cyntaf ar egwyddorion sylfaenol hawliau dynol, a dderbynnir gan bron pob gwladwriaeth yn y byd. Mae’r DU yn dal i fod yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Datganiad Cyffredinol.

Rhaid i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y’u nodir yn Adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys saith confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan barti Gwladol y DU. Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol ymyrryd mewn perthynas â chamau gweithredu gan Weinidogion Cymru ac ati y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anghydnaws â rhwymedigaeth o’r fath, neu gyfarwyddo Gweinidogion Cymru ac ati i gymryd camau sydd o fewn eu pwerau os bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn gweithredu rhwymedigaeth ryngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau y caiff Cymru ei chynrychioli’n llawn yn yr adroddiadau a gyflwynir er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau i’r Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Ar 26 Chwefror 2019, cymerodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, sy’n un o lofnodwyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), ran mewn archwiliad i’w chydymffurfiaeth â’r Confensiwn.

Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol yn yr archwiliad undydd ar 26 Chwefror 2019 yn y Palais des Nations yng Ngenefa fel rhan o ddirprwyaeth y DU, ochr yn ochr â swyddogion o Lywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. Sicrhaodd presenoldeb ein swyddogion fod Cymru a materion Cymreig yn cael eu cyflwyno a’u codi yn ystod y broses archwilio. Roedd yr archwiliad yn gyfle i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a diogelu hawliau menywod a merched, yn ogystal â nodi ffyrdd o adeiladu ar ein cynnydd.

Ar 11 Mawrth 2019, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar CEDAW ei Gasgliadau Terfynol. Mae’r Casgliadau Terfynol yn cynnwys rhestr o argymhellion i’w gweithredu gan Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon dros y pedair blynedd nesaf

Bydd yn ofynnol i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2023 yn amlinellu’r cynnydd y mae wedi’i wneud o ran gweithredu’r argymhellion hyn, yn ogystal â chamau gweithredu eraill sy’n ymwneud â hyrwyddo hawliau menywod a merched ers archwiliad 2019.

Pennod 3: Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2016–2020: cyflawniadau a heriau

Y Rhaglen Ariannu Cydraddoldeb a Chynhwysiant mae’r rhaglen hon yn darparu dull strategol a chydgysylltiedig o roi cyngor a chymorth i ddinasyddion a sefydliadau cymunedol ledled Cymru mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion cydraddoldeb a chynhwysiant allweddol.

Mae’r rhaglen yn cefnogi Amcanion Cydraddoldeb 2016-20 Llywodraeth Cymru a’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010; mae’n cynnwys Grant Cydraddoldeb ar gyfer sefydliadau cynrychioliadol a Phrosiectau Cynhwysiant ar gyfer tri maes gwaith penodol.

Rydym wedi cyhoeddi dogfen grynodeb o’r rhaglen sy’n rhoi manylion y gwasanaethau a ddarperir drwy’r rhaglen a manylion cyswllt perthnasol:

Buom yn cydweithio â’n partneriaid, gan gynnwys saith asiantaeth arweiniol y rhaglen, er mwyn darparu cymorth ledled Cymru mewn perthynas â:

  • rhywedd (WEN Cymru)
  • anabledd (Anabledd Cymru)
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr (TGP Cymru)
  • ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)
  • cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (Stonewall Cymru)
  • hil (EYST)
  • a throseddau casineb (Cymorth i Ddioddefwyr Cymru).
Crynodeb o’r cyllid a neilltuwyd yn 2018 i 2019:
Sefydliad Dyraniad
Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig (EYST) £120,000
Stonewall Cymru £150,000
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru £119,900
Anabledd Cymru £150,000
Prosiectau cynhwysiant
Cymorth i Ddioddefwyr £242,875
Tros Gynnal Plant £181,000
Cyngor Ffoaduriaid Cymru £426,000
Cyfanswm £1,389,775

Y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant: monitro perfformiad

Gwnaethom gymryd camau i wella ansawdd data monitro perfformiad a gesglir gan y sefydliadau a ariennir gan Raglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Gwnaethom gyfarfod â phob sefydliad yn unigol er mwyn ei helpu i ddatblygu mesurau perfformiad sy’n canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau.

Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys sefydliadau yn cael gwybodaeth am ganran yr unigolion sydd, yn dilyn y cyngor a’r cymorth a gawsant, yn gwybod mwy am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael iddynt; ac sy’n teimlo bod eu lleisiau yn fwy tebygol o gael eu clywed.

Yn ogystal â dangos ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau a ariennir gan y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant, bydd y darn hwn o waith yn fodd i wella’r corff o dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud â grwpiau o unigolion â nodweddion gwarchodedig.

Yn ystod ail flwyddyn y prosiect (2018‑19), gwariodd pob sefydliad yr holl gyllid a ddyrannwyd iddo a chyflawnodd ei amcanion cytûn yn llwyddiannus.

Rhoddir astudiaethau achos sy’n amlinellu effaith rhywfaint o’r cyllid hwn isod.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom ymgysylltu ac ymgynghori’n helaeth â phobl anabl a’u sefydliadau cynrychioliadol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu ein fframwaith diwygiedig: ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol’.

Goruchwyliwyd y gwaith hwn gan Grŵp Llywio a gadeiriwyd gan Brif Weithredwr Anabledd Cymru.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y fframwaith newydd drafft rhwng 22 Hydref 2018 a 18 Ionawr 2019. Dywedodd pobl anabl wrthym ei bod yn hanfodol gweithredu ar lefel leol, felly cynlluniwyd y fframwaith i annog gwasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel yng Nghymru i gymryd sylw a gweithredu. Gwnaed newidiadau pellach i’r fframwaith o ganlyniad i’r ymgynghoriad a chyhoeddwyd y fersiwn derfynol ym mis Medi 2019.

Sail dystiolaeth cydraddoldeb

Er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i’r nodau a geir yn y ddyletswydd gyffredinol, mae angen inni gael digon o dystiolaeth o’r effaith y mae ein polisïau a’n harferion yn ei chael, neu’n debygol o’i chael, ar bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Yn 2018-19, gwnaethom gyhoeddi amrywiaeth o allbynnau ystadegol, a helpodd i roi darlun clir inni o’r effaith y mae ein polisïau yn ei chael, a lle mae angen inni wneud mwy. Roeddent hefyd wedi galluogi ein rhanddeiliaid i nodi lle mae angen gwneud cynnydd pellach a’n dwyn i gyfrif. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hystadegau yn  llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil. Mae rhai o’r allbynnau ystadegol yn cynnwys:

  • Adroddiad Llesiant Cymru
  • Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
  • Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion
  • Absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion
  • Tablau StatsCymru ar Addysg Bellach gan gynnwys Oedran, Rhywedd ac Anabledd
  • Mesurau Deilliannau Dysgwyr ar gyfer Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned
  • Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • Ystadegau Addysg Uwch
  • Tablau StatsCymru sy’n cynnwys data ar feysydd cydraddoldeb (e.e. data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd a ffyrdd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofnodwyd yn flaenorol fel rhan o Arolwg Iechyd Cymru) 
  • Ystadegau Tlodi ar gyfer Cymru (a gynhyrchwyd drwy ddefnyddio set ddata Cartrefi ag Incwm islaw’r Incwm Cyfartalog)
  • Ystadegau hunaniaeth rywiol
  • Oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth
  • Plant sy’n derbyn gofal a chymorth
  • Ystadegau Iechyd Cymru
  • Mynediad i Feddygon Teulu
  • Adnodd mapio ystadegau iechyd a gofal Cymru
  • Darpariaeth tai fforddiadwy
  • Tablau StatsCymru ar Ddigartrefedd
  • Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru
  • Twf Swyddi Cymru.

Yn 2018-19, defnyddiwyd y wybodaeth hon, yn ogystal â chanllawiau pellach gan ein timau ystadegol, i lywio ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, ein cyngor i weinidogion ar bolisïau newydd arfaethedig neu newidiadau i bolisïau, ac ar gyfer cyfraniadau at sesiynau holi Pwyllgorau.

Rydym bob amser yn ceisio gwella’r trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth am gydraddoldeb, lle bynnag y bo’n ymarferol ac yn gosteffeithiol.

Er mwyn gwella ein gwybodaeth am gydraddoldeb cynhaliwyd y gweithgarwch canlynol yn 2018-19:

Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol

Er mwyn llywio Cam 1 yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a oedd yn cael ei gyflawni gan Chwarae Teg, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’r dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb yng Nghymru a oedd ar gael yn ôl rhyw. Lle roedd yn bosibl, cafodd yr ystadegau wedi’u coladu eu haenu yn ôl y nodweddion gwarchodedig eraill, sy’n cwmpasu agweddau gwahanol ar fywyd, gan gynnwys addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a diogelwch a chyfranogiad mewn cymdeithas.

Amrywiadau mewn Nodweddion Rhyw

Mewn cydweithrediad â Swyddfa Cydraddoldebau Llywodraeth y DU gwnaethom hwyluso digwyddiad bord gron er mwyn llywio’r cais am dystiolaeth ar gyfer Amrywiadau mewn Nodweddion Rhyw a oedd yn cael ei gynnal gan Swyddfa Cydraddoldebau Llywodraeth y DU, a oedd yn ceisio gwybodaeth am brofiadau ac anghenion pobl sydd ag amrywiadau mewn nodweddion rhyw.

Adroddiad Llesiant Cymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni’r saith nod llesiant, cyhoeddwyd fersiwn newydd o’n hadroddiad, Llesiant Cymru. Mae’r fersiwn hon yn cynnwys pennod ar ‘Cymru sy’n Fwy Cyfartal’, sy’n cynnwys crynodeb o’r ystadegau diweddaraf sy’n ymwneud â chydraddoldeb sy’n gymwys i Gymru.

Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn ystod 2018-19 gwnaethom greu cysylltiadau agosach â Chanolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn trafod y posibilrwydd o gydweithredu yn y dyfodol a chyfraniadau at yr archwiliad o ddata sy’n cael ei gynnal gan y ganolfan.

Mae cynlluniau i wella ein sail dystiolaeth cydraddoldeb yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Argaeledd data wedi’u dadgyfuno

    Byddwn yn parhau i gyhoeddi’r holl ddadansoddiadau ystadegol yn ôl nodweddion gwarchodedig lle mae maint y samplau yn caniatáu hynny, ac ystyried opsiynau i wella argaeledd data wedi’u dadgyfuno yng Nghymru. Bydd angen i unrhyw waith yn y maes hwn ystyried materion ymarferol megis maint cymharol fach y samplau sy’n gysylltiedig â’r arolygon cenedlaethol a gynhelir yng Nghymru a chosteffeithiolrwydd cynyddu maint samplau arolygon ac ystyried cyfleoedd i gysylltu data er mwyn gwrthbwyso hyn.

  • Hygyrchedd tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb

    Byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn wella’r ffyrdd y cyhoeddir ein hystadegau cydraddoldeb er mwyn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch ac addas i gynulleidfa amrywiol. Er enghraifft, byddwn yn gofyn am wybodaeth am y ffordd y mae adroddiad Llesiant Cymru yn cael ei ddefnyddio ac yn ymgorffori’r adborth hwn yn y gwaith rydym yn ei wneud i wella fersiynau o’r adroddiad yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau y caiff data sy’n ymwneud â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus eu cyhoeddi mewn ffordd fwy hygyrch fel data agored, ac yn darparu un lleoliad i’w gwneud yn hawdd cael gafael ar y wybodaeth hon.

Asesiad effaith integredig

Yn gyffredinol, bydd polisïau, rhaglenni, buddsoddiadau a deddfwriaeth yn llwyddiannus os cânt eu hasesu’n briodol o ran eu heffaith cyn eu rhoi ar waith. Mae cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan bwysig o’r broses o lunio polisi. Ym mis Gorffennaf 2018, cyflwynwyd adnodd Asesu Effaith Integredig newydd. Diben yr adnodd hwn oedd galluogi adrannau Llywodraeth Cymru i ystyried effaith polisi a chamau gweithredu’r Llywodraeth mewn perthynas ag amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys tlodi a nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â’r effaith ar blant a phobl ifanc. Roedd hefyd wedi helpu i roi mwy o bwyslais ar fonitro’r canlyniadau hirdymor i bobl sy’n byw mewn tlodi a’r rhai â nodweddion gwarchodedig. Mae’r adnodd wedi helpu i symleiddio a safoni’r ffordd rydym yn cynnal asesiadau effaith a lleihau dyblygu.

Darparodd sefydliadau allanol arbenigedd a gwnaethant sicrhau ansawdd wrth i’r adnodd gael ei ddatblygu. Roedd y sefydliadau hynny yn cynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, swyddfa’r Comisiynydd Plant, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Plant yng Nghymru a Rhwydwaith Cydraddoldebau’r GIG yng Nghymru.

Asesiad o effaith y gyllideb ar gydraddoldeb

Er mwyn ein helpu i ymgorffori ystyriaethau ynglyˆn â chydraddoldeb yn ein cynlluniau gwariant, cyfarfu Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE) Llywodraeth Cymru yn ystod 2018-19, ym mis Gorffennaf 2018 a mis Ionawr 2019.

Rhoddodd BAGE gyngor a chymorth i:

  • wella ystyriaethau ynglŷn â chydraddoldeb ar gyfer cyllidebau olynol
  • helpu i fapio a gwella’r sail dystiolaeth cydraddoldebau a’r sail dystiolaeth economaidd-gymdeithasol er mwyn llywio ystyriaethau cyllidebol yn y dyfodol
  • helpu i ddadansoddi tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb a meithrin dealltwriaeth o anghydraddoldebau yng Nghymru er mwyn gwella Asesiad Llywodraeth Cymru o effaith ei chyllideb ar Gydraddoldeb yn y dyfodol.

Caffael

Mae cyrff gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £6.4 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan gyflenwyr. Mae’n bwysig bod pob punt a gaiff ei gwario bod gwario’n ofalus, gan sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru.

Cyflawni’r Ddyletswydd Caffael o fewn Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru

Fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru, rhaid inni wneud y canlynol:

  • ystyried o ddifrif a ddylai’r meini prawf ar gyfer dyfarnu contract gynnwys ystyriaethau i helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (gweler Atodiad 1)
  • ystyried o ddifrif a fyddai’n briodol gosod amodau mewn perthynas â pherfformiad contract er mwyn helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Ein polisi caffael

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn cynnwys 10 egwyddor allweddol y dylai pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â hwy wrth gyflawni eu gweithgareddau caffael. Mae’r WPPS wedi’i fabwysiadu’n eang gan gyrff cyhoeddus mawr yng Nghymru. Mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol wedi cadarnhau eu bod wedi’i fabwysiadu ac mae’r defnydd ohono’n cael ei fonitro.

Mae’r datganiad polisi yn darparu y dylid ystyried Gwerth am Arian fel y cyfuniad gorau posibl o gostau gydol oes, nid yn unig yn nhermau cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau o ansawdd da i’r sefydliad, ond hefyd y budd i gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd, nawr ac yn y dyfodol.

Mae nifer o ffactorau ysgogi allweddol o fewn y datganiad polisi sy’n dylanwadu ar y broses o ystyried cydraddoldeb, gan gynnwys:

  • sicrhau bod polisïau allweddol megis Budd Cymunedol wedi’u cynnwys mewn contractau
  • symleiddio’r broses gaffael a lleihau rhwystrau i gyflenwyr
  • sicrhau y rhoddir sylw priodol i gydraddoldeb ar y cam dewis cyflenwr
  • hysbysebu cyfleoedd i ennill contract drwy wefan GwerthwchiGymru
  • cwblhau Asesiad Risg Cynaliadwyedd wrth gynllunio a chaffael er mwyn sicrhau bod contractau cyhoeddus yn ystyried eu dyletswyddau o ran cydraddoldeb wrth gyflawni contractau.

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern a sicrhau cyflog teg am waith teg ym mhob cadwyn gyflenwi yn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn anfon neges gref mai dim ond â chyflenwyr cyfrifol a moesegol yr ydym am wneud busnes. Yn 2018-19, mabwysiadodd 20 o gyrff yn y Sector Cyhoeddus, 9 corff yn y Trydydd Sector a 59 o gyrff preifat y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Prif-ffrydio a Chynnwys Cydraddoldeb o fewn Trefniadau Caffael: Canlyniadau

Yn 2018-19, gwariodd Llywodraeth Cymru tua £700m ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith a gaffaelwyd yn allanol. Bu’r tîm Masnachol o fewn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r busnes er mwyn ymgorffori dyletswyddau Cydraddoldeb Cymru yn ein contractau drwy wneud y canlynol:

  • Defnyddio’r Asesiad Risg Cynaliadwyedd ar gyfer holl gontractau Llywodraeth Cymru gwerth mwy na £25,000, gan sicrhau bod dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hystyried a bod camau yn cael eu cymryd mewn contractau lle y bo’n briodol.
  • Defnyddio cymalau Budd Cymunedol mewn contractau priodol er mwyn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl dan anfantais a thargedu cymorth addysgol gan ein cyflenwyr ar draws cymunedau yng Nghymru.
  • Mabwysiadu’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac arferion gorau yn ein hymarferion caffael.
  • Adolygu ein dogfennaeth safonol er mwyn sicrhau bod manylebau a dogfennau contract yn adlewyrchu arferion gorau.

Pennod 4: Edrych ymlaen

Bydd creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael cyfle i wireddu eu potensial ac yn gallu cyfrannu’n llawn at yr economi, yn galluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn cyflawni’r nodau hyn.

Mae cymryd camau i ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun Trefniadau Pontio’r UE, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Atgyfnerthu’r broses o Weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Yn ystod 2018-19, cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymarfer monitro helaeth er mwyn asesu pa mor dda roedd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru. Nododd yr ymarfer nad oedd yr un o’r 73 o gyrff rhestredig yn cydymffurfio’n llawn â’r dyletswyddau hyn ac argymhellodd y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid atgyfnerthu dyletswyddau penodol er mwyn canolbwyntio’n fwy ar yr anghydraddoldebau allweddol sy’n parhau i fodoli yng Nghymru a chymryd camau er mwyn mynd i’r afael â nhw.

Gan edrych y tu hwnt i 2018-19, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau sawl maes gwaith hanfodol, sef:

  • Cyhoeddi bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Rhan Un o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wed’i rhoi ar waith, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith eu penderfyniadau strategol ar y bobl a’r grwpiau tlotaf.
  • Adolygu Dyletswyddau Penodol Cymru o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol, yn gymesur ac yn effeithiol.
  • Gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i adolygu’r trefniadau monitro ac adrodd ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel bod data ac adroddiadau ar gydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hawdd eu canfod a’u deall.
  • Datblygu Cynllun Gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag arymhellion sy’n deillio o’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.
  • Comisiynu ymchwil i opsiynau ehangach i atgyfnerthu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a fydd, ymysg pethau eraill, yn ystyried y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig o fewn cyfraith Cymru a ph’un a all fod angen deddfwriaeth newydd, fel Bil Hawliau Dynol ar gyfer Cymru. Disgwylir y caiff canfyddiadau’r ymchwil hon eu rhannu erbyn diwedd 2020.
  • Bydd ein cynigion ar gyfer Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol statudol, ynghyd â darpariaethau i sicrhau bod prosesau caffael cyhoeddus yn arwain at fwy o fanteision cymdeithasol a datblygu ein hagenda gwaith teg, yn darparu fframwaith i sicrhau mwy o gydraddoldeb cymdeithasol ym mhob rhan o economi Cymru. Mae’r cynigion yn rhan o’n hymateb i ganfyddiadau’r Comisiwn Gwaith Teg, a wnaeth gyfres o argymhellion yn ystod gwanwyn 2019 ynghylch y ffordd y dylai Llywodraeth Cymru annog arferion gwaith teg ledled Cymru. Gwnaeth y Comisiwn Gwaith Teg argymhelliad penodol y dylid rhoi’r trefniadau ar gyfer partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol gadarnach. Bydd y Bil yn bywiogi ein trefniadau ar gyfer partneriaeth gymdeithasol, gan roi sicrwydd a strwythur mewn tirwedd fwy cymhleth, integredig a chydweithredol o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaethau economaidd rhanbarthol.

Bydd adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd gwaith hyn.

Astudiaethau achos

Astudiaeth achos: Rhaglen Modelau Rôl Stonewall Cymru

 Y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Nod: Sicrhau mwy o gyfle cyfartal i bobl LGBT

Adborth gan ymgeisydd ar gyfer y Rhaglen Modelau Rôl:

“Pan glywais gyntaf am y Rhaglen Modelau Rôl, roeddwn i’n meddwl ei fod yn rhywbeth roeddwn yn bendant am ei wneud. A minnau ond wedi dechrau rhwydwaith LGBT yn fy ngweithle ychydig fisoedd ynghynt, roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol iawn (yn enwedig fel y cyd-gadeirydd) glywed gan gwmnïau eraill am yr hyn y maent yn ei wneud dros staff LGBT a sut y gallwn ddod yn arweinydd yn fy sefydliad.

Roedd y wybodaeth a gefais drwy’r rhaglen yn anhygoel. Gwnes i gyfarfod â phobl wych o sefydliadau eraill ac roedd yn gyfle gwirioneddol i glywed am y ffordd y mae sefydliadau a rhwydweithiau eraill wedi datblygu, yn ogystal â meithrin rhai cysylltiadau newydd. Mae’r wybodaeth hon, ynghyd â’r sgiliau a ddysgais gan Stonewall, wedi bod yn werthfawr iawn i mi ac rwyf wedi’i chymhwyso at y gwaith rwyf wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yn bendant. Ar ôl dilyn y rhaglen rwy’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus yn gweithredu fel model rôl, yn enwedig fel aelod iau o’r staff, ac rwy’n gallu sicrhau bod fy ymddygiad yn y swyddfa a’r tu allan iddi yn adlewyrchu’r gwerthoedd rwyf i a Stonewall yn eu harddel.”

Sylwadau Swyddog Rhaglenni Stonewall Cymru:

“Cwrddais â’r unigolyn hwn am y tro cyntaf drwy ein Rhaglen Modelau Rôl yn 2017 pan ddywedodd ar ddechrau’r diwrnod nad oedd yn siaradwr cyhoeddus hyderus iawn. Ers dilyn y Rhaglen Modelau Rôl, mae wedi bod yn siaradwr gwadd yn un o’n cynadleddau yn y gweithle, wedi ymweld ag ysgol er mwyn siarad mewn gwasanaeth am ei brofiadau ei hun o fod yn unigolyn LGBT, ac wedi cynnal sesiwn codi ymwybyddiaeth am LGBT yn ei weithle.

Mae wedi bod yn bleser gweld ei hyder yn cynyddu. Mae bellach yn teimlo’n fwy cyfforddus yn annerch grwpiau mawr o bobl yn gyhoeddus ac yn gwneud hynny gyda’r fath frwdfrydedd.”

Astudiaeth achos: Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol

Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywiol

Nodau:

  • Dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal

Ar 8 Mawrth 2018, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyhoeddodd y Prif Weinidog Adolygiad Cyflym o Gydraddoldeb Rhywiol a fyddai’n cael ei arwain gan Arweinydd y Tyˆ a’i gefnogi gan yr elusen Chwarae Teg.

Prif ffocws Cam 1 oedd casglu tystiolaeth o Gymru, y DU a gwledydd eraill a nodi cyfleoedd ar gyfer y gwaith manwl yn ystod Cam 2. Ystyriodd yr adolygiad sut mae polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei bennu, sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud a ffyrdd o weithio ym mhob rhan o’r Llywodraeth, a mapiodd y polisïau a’r fframweithiau presennol sy’n ymdrin â chydraddoldeb rhywiol. Ystyriodd hefyd enghreifftiau o lywodraethau ledled y byd er mwyn inni allu dysgu o’u modelau a’u harferion.

Mabwysiadodd yr adolygiad ddull gweithredu rhyngblethol, sy’n cynnwys gweithio ar draws gwahanol feysydd cydraddoldeb, gan gynnwys rhyw, hil, anabledd ac oedran, gyda’r nod o sicrhau na chaiff unrhyw un ei adael ar ôl. Rydym yn cydnabod bod menywod a merched sy’n wynebu amryfal ffurfiau ar wahaniaethu sy’n gorgyffwrdd yn aml yn cael eu hallgáu o unrhyw gynnydd.

Cyhoeddwyd adroddiadau Cam 1 ym mis Mehefin 2018.

Dilynwyd hyn gan Gam 2 yr adolygiad a barhaodd i mewn i ail hanner 2019, y tu hwnt i gwmpas yr adroddiad hwn. Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd yr adolygiad yn cynnig map ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

Astudiaeth achos: lleihau anghydraddoldebau, cynyddu mynediad at gyfleoedd a gwella’r berthynas rhwng cymunedau

Cenedl noddfa

Nodau:

  • Dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal
  • Meithrin cysylltiadau da

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n Genedl Noddfa ar 29 Ionawr 2019. Cafodd ein ‘Cenedl Noddfa – cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches’ ei lunio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, “Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun” a gyhoeddwyd yn 2017, yn ogystal â materion pwysig eraill i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Nid yw polisi mudo wedi’i ddatganoli ac, felly, mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu sut y dylid datrys rhai materion pwysig. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac adrannau eraill o Lywodraeth y DU, yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru, er mwyn gwella amodau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.065m i’r Rhaglen Hawliau Lloches am 3 blynedd, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Ebrill 2020, er mwyn darparu gwasanaethau cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei hymestyn am flwyddyn arall, tan 31 Mawrth 2021. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan gonsortiwm o asiantaethau trydydd sector, dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Atodiad 1: Ein dyletswyddau cyfreithiol

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 “Deddf 2010” yn disodli deddfau gwrthwahaniaethu blaenorol Cymru, Lloegr a’r Alban, gan eu cyfuno mewn un Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu oherwydd:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol.

Cyfeirir at y categorïau hyn fel y ‘nodweddion gwarchodedig’.

Mae Deddf 2010 hefyd yn cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd â thri nod cyffredinol. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Yn achos Llywodraeth Cymru mae hyn yn cynnwys llunio polisïau a darparu gwasanaethau ac mewn perthynas â chyflogeion.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y rheoliadau)

Yng Nghymru, mae’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig hefyd i ddyletswyddau penodol a geir yn y Rheoliadau. Cyfeirir at y Rheoliadau hyn hefyd fel dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru.

Mae ‘awdurdodau rhestredig’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19. Lle rydym wedi cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu rywbeth tebyg, rydym ond yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen ac sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru.

Nod dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru yw ei gwneud yn bosibl i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gael ei chyflawni’n well. Maent yn gwneud hynny drwy fynnu, er enghraifft, fod cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi amcanion cydraddoldeb, yn ogystal â chynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, bodloni gofynion ymgysylltu, llunio adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy. Mae’n rhaid i’r amcanion cydraddoldeb, fel eu swyddogaeth graidd, geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n ymwneud â’r naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf 2010.

Rheoliad 16: Adroddiadau blynyddol

Mae Pennod 1 o’r adroddiad hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth rannol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn yn nodi sut maent yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol.

Mae Pennod 1 yn cynnwys nifer o ddatganiadau cynnydd sy’n amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag ymgysylltu, tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Mae Rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig ddarparu datganiad blynyddol o effeithiolrwydd y camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar wahân sy’n ymdrin â’r wybodaeth hon erbyn y dyddiad cau statudol ar gyfer ei gyflwyno, sef 31 Mawrth 2019.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae’r ddyletswydd yn adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol er mwyn helpu i sicrhau y cyflawnir eu swyddogaethau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r ddyletswydd hon yn pwysleisio ymhellach y pwys y mae Gweinidogion Cymru yn ei roi ar brif-ffrydio cydraddoldeb yn eu gwaith a sicrhau y rhoddir sylw dyledus iddo pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau. Mae’r ddyletswydd o dan Ddeddf 2006 yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Pennod 1 o’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos sy’n nodi sut rydym wedi arfer ein swyddogaethau o ran rhoi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Atodiad 2: Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 i 2020

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cryfhau ein hymdrechion i fodloni tri gofyniad y ddyletswydd gyffredinol ac yn ein helpu i weithio tuag at greu Cymru sy’n fwy cyfartal. Maent yn amlinellu ein hymrwymiad i ddileu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd ac yn rhwystro dyheadau. Maent yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor a dwfn iawn sy’n aml yn pontio’r cenedlaethau ar gyfer y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cyhoeddwyd yr wyth Amcan Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2016 ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru. Roedd yr adborth a gawsom o blaid cadw hanfod yr amcanion gwreiddiol a gyhoeddwyd gennym yn 2012, yn ogystal ag atgyfnerthu’r cysylltiad â threchu tlodi ac ehangu’r cwmpas i gynnwys ein gwaith ar gynhwysiant a chydlyniant cymunedol.

Dangosyddion cydraddoldeb

Daw ein dangosyddion lefel uchel o Adroddiad Llesiant Cymru 2018-19, sy’n adrodd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd rydym yn ei wneud fel cenedl tuag at gyflawni’r saith nod llesiant drwy gyfeirio at 46 o ddangosyddion cenedlaethol. Mae ein hamcanion cydraddoldeb yn cyfrannu at gyflawni’r nod llesiant o greu Cymru sy’n fwy cyfartal a’n huchelgais i greu cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd‑gymdeithasol). Mae’r data yn dangos, er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, er enghraifft mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn lleihau, fod angen gwneud llawer mwy o hyd er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys disgrifiad a siart o dueddiadau diweddar ar gyfer pob un o’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn rhoi dolenni i’r ffynonellau data ac, os ydynt ar gael, gyhoeddiadau ystadegol lle mae’r dangosyddion yn cael eu dadansoddi’n fanylach.

Mae’r fersiwn lawn o  Adroddiad Llesiant Cymru 2017-18 ar gael ar LLYW.CYMRU.

Crynodeb o’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb yn 2017 i 2018

Yn yr adran hon, cewch ragor o wybodaeth am ddetholiad o enghreifftiau o weithgareddau sy’n helpu i gyflawni pob un o’r wyth Amcan Cydraddoldeb.

Amcan 1: Cynllunio a darparu gwasanaethau

Rhoi anghenion, hawliau a chyfraniadau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig wrth galon cynllunio a darparu’r holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth. Yn benodol, sicrhau cymorth a mynd i’r afael â rhwystrau i alluogi pobl anabl i fwynhau eu hawl i fyw’n annibynnol a chael llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.

Addasiadau i dai

Ymgynullodd y Grŵp Llywio Addasiadau i Dai ym mis Medi 2018. Roedd y Grwˆ p yn cynnwys partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid allweddol a oedd yn ymwneud â darparu cymhorthion ac addasiadau yng Nghymru. Sefydlwyd pedwar Grwˆ p Gorchwyl a Gorffen hefyd a thrwy nifer o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn, helpodd y Grwpiau i ddatblygu a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018, ac adroddiad dilynol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Mehefin 2018. Gwaith y Grwpiau oedd sicrhau y byddai’r argymhellion, gyda’i gilydd, yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gael mynediad cyfartal at wasanaethau a chymorth; y byddai eu barn a’u gofynion yn cael eu hystyried yn llawn ac y byddai cyngor yn cael ei roi ar symleiddio’r system o ddarparu cymhorthion ac addasiadau er mwyn helpu pobl i fyw’n annibynnol. Yn y pen draw, cynorthwyodd y gwaith ymdrechion Llywodraeth Cymru drwy sicrhau bod y system o ddarparu addasiadau yn trin pawb yn gyfartal a’i bod yn canolbwyntio ar y dinesydd.

Cafodd ein gwaith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach i’w gwneud yn haws i bobl anabl ddod o hyd i gartrefi addas ei lywio gan lawer o argymhellion adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar Dai a Phobl Anabl yn 2018. Rydym wedi bod yn ystyried yr argymhellion hyn yn ofalus er mwyn llywio ein gwaith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach i’w gwneud yn haws i bobl anabl ddod o hyd i gartrefi addas.

Nododd dadansoddiad o brosesau casglu data rhaglen arainnu Hwyluso rai anghysondebau a bylchau mewn data yn y cofnodion o addasiadau i dai. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio mynd i’r afael ag ansawdd a chwmpas y data drwy weithio gyda sefydliadau partner. Helpodd y dadansoddiad i wella ein dealltwriaeth o’r ffordd y darperir addasiadau mewn perthynas â chysondeb a thryloywder gwasanaethau ledled Cymru.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg

Craffwyd ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ac fe’i pasiwyd yn unfrydol wedyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2017, a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018. Cyhoeddwyd Cod ADY drafft a rheoliadau drafft cysylltiedig er mwyn ymgynghori arnynt ym mis Rhagfyr 2018. Cafwyd mwy na 600 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, a daeth mwy na 1000 o bobl i’r digwyddiadau ymgynghori.

Rydym wedi bod yn defnyddio cyllid grant trawsnewid ADY er mwyn helpu partneriaid cyflawni (gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach (SABau), byrddau iechyd lleol, y Tribiwnlys ac Estyn) i baratoi ar gyfer trosglwyddo i’r system newydd. Yn 2018, gwnaethom benodi pum arweinydd trawsnewid a fu’n gweithio yn eu rhanbarthau ac ym mhob rhan o’r sector addysg bellach. Rhoddodd yr arweinwyr gyngor, cymorth a her i awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach (SABau) a phartneriaid cyflawni eraill er mwyn iddynt baratoi i drosglwyddo i’r system ADY newydd. Wrth wneud hynny, maent wedi defnyddio gwaith y grwpiau arbenigol a sefydlwyd, a oedd yn cwmpasu meysydd gan gynnwys Cydgysylltwyr ADY, Iechyd, Cynlluniau Datblygu Unigol a Hyfforddiant.

Fel rhan o’r rhaglen drawsnewid gyffredinol rydym wedi ariannu amrywiaeth o hyfforddiant, gan gynnwys:

  • Datblygu sgiliau craidd i bob ymarferydd. Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n elfen ganolog o’n dull gweithredu newydd, ym mhob lleoliad addysg/ysgol.
  • Dyrannwyd £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant i raddedigion. Datblygu uwch-sgiliau i’r rhai a fyddai’n cyflawni rôl Cydgysylltwyr ADY, gan ddisodli’r cydgysylltwyr anghenion addysgol arbennig presennol.
  • Datblygu sgiliau arbenigol drwy roi cyllid i gefnogi hyfforddiant i raddedigion ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol a ddarperir gan awdurdodau lleol sydd ar gael i leoliadau addysg, e.e. seicolegwyr addysg ac athrawon dysgwyr â nam ar eu golwg neu eu clyw ac, yn 2018, athrawon dysgwyr â nam ar y synhwyrau a ddarperir gan awdurdodau lleol.
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr

Gwnaethom nodi, ar ddechrau 2019, fod angen cynllun gweithredu newydd ac rydym bellach wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol strategol newydd ar gyfer gofalwyr.

Disgwylir i Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr, a sefydlwyd yn 2018-19 ac a gyfarfu ddwywaith yn y flwyddyn honno, gyfarfod am y pumed tro i roi cyngor ar lunio cynllun strategol cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr. Bydd hyn yn adeiladu ar y tair blaenoriaeth genedlaethol. Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi y byddai grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd yn cael ei greu. Yn 2019-20, mae’r grwˆ p hwn yn cael ei sefydlu a bydd yn rhoi adborth i Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr ac yn cynrychioli amrywiaeth ehangach o brofiadau gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

Yn dilyn cynlluniau datblygu cynharach a luniwyd mewn ymateb i alwadau gan ofalwyr ifanc a sefydliadau gofalwyr, gwnaethom ddechrau ar waith i adolygu ymchwil a gomisiynwyd i fodel posibl ar gyfer cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc. Bydd y cerdyn hwn yn galluogi gofalwyr ifanc i gael y cymorth a’r gydnabyddiaeth y mae ganddynt hawl iddynt o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, pan fyddant mewn cysylltiad â gweithwyr addysg proffesiynol a gweithwyr iechyd proffesiynol yn benodol.

Ers dechrau 2019 rydym wedi bod yn datblygu’r gwaith hwn, ac ers haf 2019 rydym wedi bod yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru i gyd‑gynhyrchu’r prosiect.

Amcan 2: Cyngor ac eiriolaeth

Sicrhau darpariaeth ddigonol o ran gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eirioli hygyrch, o ansawdd uchel i alluogi pobl â nodweddion gwarchodedig i ddeall ac arfer eu hawliau a gwneud dewisiadau gwybodus.

Sgoriau ar Ddrysau

Datblygwyd ymgyrch ‘Sgoriau ar Ddrysau’ dros dystysgrifau mynediad mewn mannau cyhoeddus gan Gynghrair Pobl Anabl Pen‑y‑bont ar Ogwr, ac mae wedi bod yn destun deiseb i’r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n cefnogi egwyddorion yr ymgyrch hon ac yn falch iawn ei bod yn cael ei datblygu. Mae’r cynnig yn cyd-fynd yn agos ag ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud mewn perthynas â’r Model Cymdeithasol o Anabledd a hygyrchedd yn ein Fframwaith newydd, ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol’. Rydym wedi gofyn i Anabledd Cymru weithio’n agos gyda Chynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu cynllun peilot sy’n debygol o gael ei gyflwyno’n ddiweddarach eleni.

Cymunedau Digidol Cymru

Rhwng 1 Ebrill 2017 a 30 Mehefin 2019, helpodd Cymunedau Digidol Cymru fwy na 780 o sefydliadau i gefnogi mwy na 67,000 o bobl drwy eu cymell i ddefnyddio’r rhyngrwyd a sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i wneud hynny’n effeithiol. At hynny, lleolwyd 2,048 o wirfoddolwyr a hyfforddwyd mwy na 6,300 o staff rheng flaen a gwirfoddolwyr.

Hyfforddodd y rhaglen 4,600 o Arwyr Digidol (gwirfoddolwyr ifanc) i helpu pobl hyˆn mewn ysbytai a chartrefi gofal i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol. Gall ehangu cynhwysiant digidol ar gyfer ein dinasyddion, yn enwedig ein poblogaeth hyˆn, gyfrannu at wella iechyd a lles y boblogaeth, er mwyn gwella ansawdd y gofal a ddarperir yn barhaus a sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf posibl o’r adnoddau sydd ar gael inni. Mae cynhwysiant digidol yn allweddol er mwyn sicrhau bod y sector iechyd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd posibl i wella mynediad at wybodaeth a chyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu gofal drwy dechnolegau digidol. Mae’n amlwg y bydd y rhai na allant ddefnyddio technolegau digidol yn ei chael hi’n anodd defnyddio gwasanaethau iechyd digidol a gwasanaethau digidol ehangach.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg

Mae’r Cod ADY yn nodi’r gofyniad i ALlau roi cyngor a gwybodaeth am ADY mewn gwahanol fformatau er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob cynulleidfa berthnasol. Gallai yn gynnwys, er enghraifft, llunio taflenni neu bosteri wedi’u targedu at wahanol gynulleidfaoedd a datblygu apiau wedi’u targedu at blant hyˆn a phobl ifanc.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod ADY a’r rheoliadau drafft rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2019. Yng ngoleuni’r adborth a gafwyd gan randdeiliad, rhoddir ystyriaeth i sut y gellir gwneud y Cod mor glir â phosibl, gan alluogi’r rhai â swyddogaethau o dan y Ddeddf i ddeall eu rhwymedigaethau statudol yn llawn a gweithredu’r system newydd.

Yn 2018, fel rhan o Raglen Trawsnewid ADY, penodwyd pum Arweinydd Trawsnewid ADY i roi cyngor, cymorth a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt baratoi ar gyfer rhoi’r system ADY newydd ar waith.

Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi asesiadau cyflym o dystiolaeth a chanllawiau ar ymyriadau effeithiol er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.

Hygyrchedd i ymwelwyr

Mae Datganiadau Hygyrchedd/Canllawiau ar Hygyrchedd yn dal i fod yn ofyniad sylfaenol ar gyfer cymryd rhan yng Nghynlluniau Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru. Diben y rhain yw sicrhau bod busnesau yn disgrifio eu darpariaeth hygyrchedd yn gywir er mwyn i ymwelwyr allu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ble i aros o ystyried eu gofynion.

Mae Llyfrynnau Meini Prawf Graddio Croeso Cymru yn dangos i fusnesau twristiaeth y safonau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd ansawdd, ac maent yn cynnwys syniadau ac awgrymiadau ynglŷn ag arferion gorau o ran Hygyrchedd. Mae Cynghorwyr Ansawdd yn parhau i gyfeirio busnesau at wefannau a sefydliadau sy’n darparu cymorth pellach.

Rhoddwyd cymorth ariannol er mwyn helpu busnesau a mentrau twristiaeth i wella eu darpariaeth hygyrchedd. Dyma rai enghreifftiau:

  • Cafodd Clwb Traeth y Bermo, y Bermo £60,000 i greu llety 4 seren pwrpasol i ymwelwyr a allai ddarparu’n llawn ar gyfer pobl â phob math gwahanol o nam corfforol neu feddyliol, gyda staff cwbl gymwysedig a llety ychwanegol i ofalwyr.
  • Cafodd Canvas & Campfires, Llanwnnen £25,000 er mwyn ychwanegu dwy babell saffari gwbl hygyrch.
  • Cafodd Seawake, Porthaethwy gymorth ariannol ar gyfer cwch ‘rib’ cwbl hygyrch 10m newydd pwrpasol y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau symudedd gael mynediad iddo.
  • Cafodd Bae Caswell, Gŵyr £68,000 tuag gost prosiect gwerth £85,000 i greu cyfleusterau ‘Changing Places’ o ansawdd uchel â chyfarpar traeth arbenigol. Mae’r cyfleusterau wedi’u cynllunio’n benodol i bobl ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu dwys, yn ogystal ag anableddau eraill sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar symudedd. Mae Croeso Cymru wedi bod yn annog y sector i weithio gyda darparwyr cymdeithasol er mwyn galluogi mwy o bobl, ac amrywiaeth ehangach o bobl, i gael gwyliau yng Nghymru.

Amcan 3: Cyflogaeth a sgiliau

Adnabod a lleihau ffactorau sy’n achosi anghydraddoldebau o ran cyflogaeth, sgiliau a chyflog sy’n gysylltiedig â rhywedd, ethnigrwydd, oedran ac anabledd, gan gynnwys cau’r bylchau cyrhaeddiad mewn addysg a lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Cynyddu nifer y bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd cyfyngus sy’n cael gwaith

Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei strategaeth 10 mlynedd, ‘Gwella Bywydau: Dyfodol Gwaith, Iechyd ac Anabledd’, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Uned Gwaith ac Iechyd a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn cysylltu â’r gwaith o gynyddu nifer y bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd cyfyngus sy’n cael gwaith ledled Cymru. Mae hyn wedi cynnwys cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o Gynllun Mynediad i Waith DWP a chynyddu nifer y cyflogwyr sy’n ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru.

Yng Nghymru, nododd  Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018) raglen waith drawslywodraethol er mwyn helpu pobl i gael gwaith ac mae cryn dipyn o waith eisoes wedi’i wneud (gweler Cam Gweithredu 3.1). Yn y Cynllun mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl anabl mewn gwaith.

At hynny, cefnogodd y Cynllun y gwaith o gyflawni’r fframwaith “Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol”, a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2019, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’r tlodi a wynebir gan bobl anabl, drwy hyrwyddo cyfle cyfartal a’u helpu i fanteisio ar addysg, cymorth cyflogadwyedd a chymorth sgiliau a symud ymlaen i ymgymryd â swyddi ystyrlon yn haws ac yn fwy hwylus. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a’r Adran Gwaith a Phensiynau, er mwyn deall a lleihau’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl, ac eraill, rhag dod o hyd i swydd barhaus a gwneud cynnydd yn y swydd honno.

Ategir y fframwaith gan Gynllun Gweithredu a oedd yn cynnwys ymrwymiadau i helpu pobl anabl o oedran gweithio i gael gwaith drwy greu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Anabledd a chyflwyno cynllun gwobrau anabledd Cymru i gyflogwyr.

Rydym yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu ac atgyfnerthu rheoliadau penodol Cymru ar gyfer dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys dyletswyddau sy’n ymwneud â hil a chyflogaeth i’r anabl a bylchau cyflog.

Ym mis Rhagfyr 2018 lansiodd Llywodraeth Cymru y  Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau Cynhwysol. Cafodd y Cynllun ei gyd-lunio a’i gymeradwyo gan grŵp o arbenigwyr ym maes cyflogaeth i’r anabl (Gweithgor Prentisiaethau Cynhwysol) ac roedd yn cynnwys camau gweithredu ymarferol i ddileu rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag manteisio ar y rhaglen Brentisiaeth. Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da yn erbyn y camau gweithredu a geir yn y cynllun, sef: creu deunyddiau marchnata hygyrch, mwy cynhwysol, gwneud newidiadau i’n meini prawf cymhwysedd a gwella’r cymorth a roddir i unigolion a chyflogwyr. Dengys y ffigurau diweddaraf, ar gyfer 2017‑18, fod 5.6% o’r holl ddysgwyr mewn darpariaeth dysgu seiliedig ar waith yn anabl. Rydym yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu a chryfhau y rheoliadau penodol i Gymru ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd yn cynnwys dyletswyddau o gwmpas cyflogaeth o ran hil ac anabledd a bylchau cyflog.

Cynllun cyflogadwyedd

Mae  Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018) yn nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i helpu pobl i gael gwaith heddiw, wrth baratoi’r gweithlu ar gyfer heriau’r dyfodol hefyd. Gosodwyd targedau 10 mlynedd6 i leihau’r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU er mwyn lleihau diweithdra ac anweithgarwch a chynyddu lefelau cymwysterau a nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith.

Mae i’r Cynllun bedair thema benodol, sef:

  • darparu cymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra i’r unigolyn
  • pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i gefnogi eu staff
  • cael gwared ar y bwlch sgiliau 
  • pharatoi ar gyfer newid sylweddol yn y farchnad lafur

Mae’n cyflwyno strategaeth uchelgeisiol i greu gweithlu hynod hyfforddedig a chynhwysol, un a all ymateb yn effeithiol i anghenion sgiliau cenedlaethol a rhanbarthol, ac addasu’n dda i fyd gwaith y dyfodol. Yn ganolog i’r uchelgais hon, rydym yn ymrwymedig i helpu pawb i gyflawni eu potensial llawn drwy gyflogaeth ystyrlon, ni waeth beth fo’u gallu, eu cefndir na’u nodweddion gwarchodedig.

Bwriedir i’r Cynllun fod yn rhan ategol o’r darlun cyffredinol o dwf economaidd cynhwysol mewn cymdeithas decach, y mae Llywodraeth Cymru am ei datblygu; ac mae’n gweithio ar draws y Llywodraeth, wrth geisio cyflawni nodau cyffredin, er mwyn sicrhau canlyniadau cyflogadwyedd gwell i bobl Cymru. Rydym yn cydweithio i ganolbwyntio ein hymdrechion, lleihau dyblygu a gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau.

Parhau a wnaeth y gwelliannau hirdymor yn y farchnad lafur yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019, gyda chynnydd yn y gyfradd cyflogaeth a gostyngiad mewn cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru (Cyfradd gyflogaeth yn ôl ardal leol yng Nghymru, blwyddyn a rhyw ar StatsCymru). Y gyfradd cyflogaeth oedd 73.1% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019, o gymharu â 72.8% y flwyddyn flaenorol, a dyma’r ffigurau uchaf ers i gofnodion cymeradwy ddechrau. Gostyngodd anweithgarwch economaidd i 23.3%, sef y ffigur isaf a gofnodwyd erioed, a gostyngodd y gyfradd diweithdra i 4.5%, sy’n isel iawn mewn cyd-destun hanesyddol. Yn achos pob un o’r tri mesur, mae’r bylchau rhwng y DU a Chymru wedi lleihau.

Cynyddodd cyfraddau cyflogaeth i’r anabl hefyd (Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabl, hyd at Mawrth 2013 ar StatsCymru). Cynyddodd y gyfradd cyflogaeth i’r anabl yng Nghymru o 45.3% i 48.1% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019. Roedd y ffigur hwn yn is na chyfradd y DU, sef 51.4%, ond mae’r bwlch wedi lleihau, gyda chynnydd cyflymach yn y gyfradd cyflogaeth i’r anabl yng Nghymru o gymharu â’r DU yn gyffredinol.

Yn gyffredinol, cynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru ychydig yn 2019 i 14.5%, o gymharu â 13.7% yn 2018 (2017 - 14.8%). (Gweler isod fanylion am ddyletswydd cydraddoldeb gadarn y sector cyhoeddus a sefydlwyd er mwyn mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn cyflog a chyflogaeth).

Mae cyfran y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi cynyddu ychydig i 10.3% yn 2018, sef cynnydd o lai nag un pwynt canrannol, ond mae’n dal i fod yn un o’r canrannau isaf a welwyd ers dros ddegawd. Cynyddodd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc 0.7% i 14.2% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019. (Mae data NEET 2018 yn ddata dros dro).

STEM

Bu Uned Ynni Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith “Merched yn y Maes Niwclear” (WIN) y diwydiant niwclear, sy’n cwmpasu’r DU gyfan, er mwyn cynyddu nifer y menywod o Gymru sy’n aelodau o’r rhwydwaith, gan hyrwyddo’r neges i ddarpar aelodau o dîm WIN a sefydliadau a all fod â diddordeb yn ei waith. Cynhaliodd y Sefydliad Niwclear a Merched yn y Maes Niwclear (WIN UK) ddigwyddiad Lansio WIN Cymru ym mis Hydref 2017, ond prin yw’r gwaith a wnaed yn 2018-19 oherwydd y penderfyniad i atal y gwaith ar ddatblygu Wylfa Newydd dros dro. Cafwyd cynrychiolaeth ehangach yn y digwyddiad Digidol blynyddol, ‘Yr wˆ yl Ddigidol’, sef digwyddiad blaenllaw’r Sector TGCh. Cynhaliwyd Gŵyl Ddigidol 2018 ar 21 a 22 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Denodd y digwyddiad ychydig o dan 2,000 o gynadleddwyr, yr oedd 34% ohonynt yn fenywod (sef cynnydd o 1% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol). Mae’r ffigur hwn yn uwch na chyfartaledd y diwydiant, sef tua 19% o fenywod.

Roedd 45% o’r siaradwyr yn fenywod ac roedd 60% o’r croesawyr yn yr ystafelloedd yn fenywod.

Hefyd, cynhaliwyd cinio Menywod ym maes Technoleg ar yr 21ain, lle y daethpwyd â menywod o wahanol rannau o’r diwydiant technoleg at ei gilydd i rwydweithio.

Cyflwynwyd gweithdy a ganolbwyntiodd ar argymhellion adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus i aelodau o’r Cwmnïau Clwstwr Dyfeisiau Fferyllol a Meddygol. Yn ystod y flwyddyn, croesawodd y Clwstwr hefyd gynrychiolwyr o Gyrfa Cymru a’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol i’w gyfarfodydd lle y trafodwyd cyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion lleol. Arweiniodd hyn at ddatblygu dull gweithredu cydweithredol er mwyn sicrhau bod cwmnïau Gwyddorau Bywyd yn bresennol mewn cynifer o ddigwyddiadau ysgolion â phosibl. Fel rhan o becyn cymorth i Tata Steel, gwnaethom roi cymorth ariannol ar gyfer recriwtio prentisiaid a graddedigion, helpu mwy o recriwtiaid benywaidd i ymgymryd â phrentisiaethau i fod yn dechnegwyr labordy, a chefnogi’r prentis peirianneg benywaidd cyntaf y mae’r cwmni wedi’i recriwtio mewn tair blynedd.

Mae’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol, neu’r NDEC, yn ganolfan dechnoleg un pwrpas o’r radd flaenaf a leolir yng Nghymoedd De Cymru. Dechreuodd weithredu ym mis Ionawr 2019 a chafodd ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru a’r cwmni Technoleg, Thales. Fe’i sefydlwyd ar gyfer BBaChau, academyddion, sefydliadau ac unigolion sydd am ddysgu mwy am dechnoleg, manteisio ar gyfleusterau o’r radd flaenaf a chael cyngor o safon gan arbenigwyr digidol uchel eu parch. Mae’r NDEC yn darparu hyfforddiant mewn arferion digidol ac yn rhoi help a chymorth i gwmnïau sydd am fireinio eu syniadau, datblygu eu busnes a manteisio ar y cyfleoedd digidol a gynigir gan Gymru. Mae ganddi gysylltiadau agos ag ysgolion yng Nglynebwy ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn technoleg ddigidol, gan gynnwys cyfarwyddyd gyrfaoedd, teithiau maes a chysgodi.

Amcan 4: Aflonyddu a difrïo

Lleihau nifer yr achosion o bob math o aflonyddu a cham-drin, gan gynnwys (ond nid yn unig) trais yn erbyn menywod, troseddau casineb, bwlio, cam-drin plant, cam-drin domestig, a cham-drin pobl hŷn.

Anti-bullying in education

Mesurau gwrth-fwlio ym maes addysg Rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, gwnaethom barhau i ymgysylltu’n helaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio’r gwaith o ddiwygio a diweddaru canllawiau gwrth-fwlio.

Rhwng 14 Tachwedd 2018 a 15 Chwefror 2019, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau gwrth-fwlio drafft, a ategwyd gan weithdai rhanbarthol. Ymhlith y cynrychiolwyr a oedd yn bresennol yn y gweithdai hyn roedd plant a phobl ifanc o ranbarthau Gogledd Cymru a De Cymru; sefydliadau elusennol a sefydliadau yn y trydydd sector megis ‘Gweithredu Addysgol sy’n Herio Homoffobia (EACH)’, ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ ac ‘Anabledd Cymru’; yr Heddlu; Gwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol a phobl o gymunedau Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn rhanbarth De Cymru.

Mae adborth o’r ymgynghoriad a’r gweithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at sawl maes lle y gellid atgyfnerthu’r canllawiau drafft ymhellach er mwyn cefnogi’r rhai sy’n ymwneud â herio bwlio mewn ysgolion yn well. Roedd hyn yn cynnwys cais am ddarpariaeth gliriach i gefnogi unigolion y mae bwlio ar sail anghenion dysgu ychwanegol, oedran, diwylliant, anabledd, rhywedd, rhyw, hil, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol, yn effeithio arnynt.

Cyhoeddwyd y gyfres ddiwygiedig o ganllawiau a’r pecyn adnoddau ategol ar gyfer wythnos gwrth-fwlio 2019 (11-15 Tachwedd 2019).

Diogelu

Mae Barnados Cymru yn parhau i ddatblygu’r gyfres o adnoddau sy’n ymwneud â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, a gyhoeddir ar HWB ynghyd â’r ffilm ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant ar gyfer blwyddyn 6 a wnaed gan Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan.

Amcan 5: Amrywiaeth a phenodiadau cyhoeddus

Cyflawni cronfa fwy amrywiol o benderfynwyr mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus trwy adnabod rhwystrau i ymgysylltiad a chyfranogiad ar gyfer pobl o gefndiroedd amrywiol a mynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol ac wedi’u targedu i gynyddu amrywiaeth penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’ yw Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth ag uwch-arweinwyr, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’r sector gwirfoddol. Mae’n ddatganiad o fwriad ac yn pennu cyfeiriad i ystyried camau gweithredu i godi ymwybyddiaeth o benodiadau cyhoeddus yn well a sicrhau bod y broses mor gynhwysol â phosibl.

Mae’r Strategaeth yn nodi’r achos moesol, yr achos deddfwriaethol a’r achos busnes cadarn dros amrywiaeth a chynhwysiant ac yn bwriadu adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud gan Fyrddau. Yn fras, mae pum nod:

  • casglu a dadansoddi data (yn enwedig data amrywiaeth) yn well
  • datblygu cyflenwad cadarn ar gyfer penodiadau cyhoeddus
  • sicrhau bod gennym fathau agored a chadarn ac, o bosibl, newydd o brosesau asesu penodiadau cyhoeddus
  • sicrhau bod aelodau’r Bwrdd yn gwbl ymwybodol o gydraddoldeb ac amrywiaeth a’u bod wedi cael gwybodaeth lawn am y pwnc, yn enwedig mewn perthynas â’u rôl
  • atgyfnerthu arweinyddiaeth mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth.

Lansiwyd Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru ym mis Chwefror 2020 gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

Mae llythyr cylch gwaith Chwaraeon Cymru ar gyfer 2018–2021 yn nodi’n glir fod disgwyl iddo fuddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, lle mae amrywiadau sylweddol mewn lefelau cyfranogiad a lle mae diffyg cyfleoedd neu awydd i gadw’n heini. At hynny, mae ei Strategaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn nodi chwe maes o fwriad strategol. Un o’r rhain yw sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon – lle mae chwaraeon yn gynhwysol ac yn darparu profiad gwych i bawb. Mae Chwareaon Cymru hefyd yn ailfodelu’r ffordd y mae’n helpu i ddarparu cyfleoedd chwaraeon lleol drwy gyflwyno’r Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol. Nod y Rhaglen hon yw sicrhau bod mwy o bobl yn actif drwy chwaraeon, ac mae’n canolbwyntio ar bobl ifanc a’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gyfranogiad.

Noddodd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio Cymorth Cynllunio Cymru er mwyn grymuso unigolion a grwpiau cymunedol i gymryd rhan fwy effeithiol mewn materion cynllunio sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys paratoi cynlluniau datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Sicrhaodd hefyd fod barn a phryderon trydydd partïon y mae gwaith datblygu yn effeithio arnynt yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru, wrth baratoi deddfwriaeth, polisi a chyngor technegol. Defnyddiwyd Cymorth Cynllunio Cymru hefyd fel mecanwaith cyflawni ar gyfer datblygiad a hyfforddiant ar faterion cynllunio i’r grwpiau hyn. Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn ariannu rhaglen Merched mewn Amaeth sy’n rhan o wasanaeth ehangach Cyswllt Ffermio. Nod y cynllun yw helpu merched a newyddddyfodiaid i oresgyn rhwystrau a meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sefydlu a rhedeg busnes cynaliadwy a llwyddiannus.

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad i ferched mewn amaeth ym mis Mehefin 2018 a ddenodd 86 o gynadleddwyr. ‘Manteision cig coch mewn deiet gytbwys’ oedd pwnc y prif siaradwr, Dr Carrie Ruxton PhD, Nutrition Communications, yn y fforwm ym Mangor Is‑goed ac yn Llandrindod, gan yr Athro Robert Pickard, Athro Emiritws mewn Niwrobioleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn y digwyddiad hwn roedd cyfle i gael sgwrs fer un i un â nifer o wynebau cyfarwydd ym myd amaeth gan gynnwys cynrychiolwyr o’r llywodraeth a byrddau diwydiant, y sector bancio, y cyfryngau, ac amaeth-farchnadwyr arbenigol. Daeth y rhaglen ar gyfer y ddau ddigwyddiad i ben gyda’r ysgolhaig Nuffield a newyddiadurwr a darlledwr adnabyddus Anna Jones yn annerch y cynadleddwyr ar ‘Help or Hinder?’ a’r sylw sy’n cael ei roi i faterion ffermio yn y cyfryngau newyddion.

Yn ystod y cyfnod adrodd, roedd y rhaglen hefyd wedi helpu merched yn y diwydiant i ddod at ei gilydd i rannu profiadau ac ystyried atebion posibl a oedd y tu allan i’r maes masnachol arferol drwy grwpiau Agrisgôp penodedig. Teithiodd grŵp Merched mewn Amaeth Llanbedr Pont Steffan i Lundain er mwyn mynd i’r digwyddiad ‘Meat Women in Business’. Mae nifer o grwpiau o ferched bellach yn gweithio i ychwanegu gwerth at gynhyrchion y sector sylfaenol sy’n cynnwys ffocws ar gig oen. Maent yn trafod y problemau yn y gadwyn gyflenwi sy’n effeithio ar eu busnes a’u teuluoedd. Arweiniodd hyn at ddatblygu eu busnes gwerthu cig oen mewn bocsys eu hunain a mwy o gynhyrchion cig oen cyfleus er mwyn ateb y galw cynyddol am brydau bwyd y gellir eu coginio’n gyflym.

Mae annog arweinwyr benywaidd y dyfodol hefyd yn flaenoriaeth allweddol er mwyn cynnal yr agenda cydraddoldeb. Roedd grŵp Agrisgôp Arweinwyr Benywaidd, a sefydlwyd i annog merched i ystyried eu cryfderau a’u gwendidau er mwyn deall y sgiliau y mae eu hangen i arwain diwydiant ffyniannus, yn ganolog i ddatblygiad y grŵp hwn. Roedd digwyddiadau i annog trafodaeth ac ystyried yr hyn sydd ei angen i wneud penderfyniadau doeth mewn busnes, gan gynnwys arallgyfeirio, hefyd ar yr agenda.

Amcan 6: Cydlyniant cymunedol

Cryfhau cydlyniant cymunedol trwy feithrin perthnasoedd da, cynhwysiant, parch a dealltwriaeth o fewn a rhwng cymunedau ledled Cymru.

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb

Cyfarfu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb deirgwaith yn ystod 2018-19 a thrafododd faterion a oedd yn cynnwys rhoi gwybod am droseddau casineb, troseddau casineb cysylltiedig ag oedran ac ymateb i ymosodiadau terfysgol. Mae’r Bwrdd yn dwyn ynghyd bartneriaid allweddol o’r pedwar heddlu, swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu, gwasanaeth erlyn y goron, cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol a’r trydydd sector.

Mae’r Bwrdd yn grwˆ p sefydlog i roi cyngor i Weinidogion Cymru a llunwyr polisi ar fynd i’r afael â throseddau casineb. Amlygodd adroddiad Arolygu Troseddau Casineb 2018, a luniwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a’r Gwasanaethau Tân ac Achub, fod dull gweithredu cyson a chydgysylltiedig y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb yn arfer da.

Cyllid ar gyfer Troseddau Casineb

Rhoddwyd £360,000 o gyllid ychwanegol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Bydd yr arian ychwanegol, ar ben ei chyllid blynyddol, yn ei helpu i gynyddu ei gallu i roi cymorth a gwasanaeth eirioli i ddioddefwyr troseddau casineb. Mae’r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae gan Cymorth i Ddioddefwyr staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbennig a all roi cymorth emosiynol wedi’i deilwra i ddioddefwyr troseddau casineb er mwyn helpu unigolion i ymdopi â’u profiadau.

Rhoddwyd £480,000 i ddatblygu’r Grant Troseddau Casineb mewn Cymunedau Lleiafrifol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda lleiafrifoedd ethnig a chymunedau ffydd lleiafrifol i gyflwyno prosiectau er mwyn mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru.

Cydlyniant cymunedol

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £360,000 yn 2018-19 i ariannu rhwydwaith o wyth Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ledled Cymru. Chwaraeodd y Cydgysylltwyr rôl hanfodol, gan weithio gyda llywodraeth leol, cymunedau, y sector gwirfoddol a gwasanaethau lleol i feithrin cydlyniant, goddefgarwch a pharch, a helpu i wrthsefyll bygythiad eithafiaeth a throseddau casineb.

Yn 2018, datblygodd Llywodraeth Cymru Rwydwaith Cyfathrebu er mwyn hyrwyddo naratif o gynhwysiant, goddefgarwch a pharch i Gymru gyfan. Roedd hyn yn cynnwys rhannu negeseuon cadarnhaol a herio stereoteipiau negyddol ynghylch mewnfudo, Sipsiwn, Roma a Theithwyr a nodweddion gwarchodedig Hil, Crefydd neu Gredo, Rhyw, Anabledd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Ailbennu Rhywedd ac Oedran. Roedd partneriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, derbynwyr grant y Rhaglen Ariannu Cydraddoldeb a Chynhwysiant, heddluoedd Cymru, Undebau Llafur, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddfeydd pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid yn y trydydd sector. Datblygwyd y negeseuon hyn gyda phartneriaid ac roeddent yn tueddu i ganolbwyntio ar achlysuron arbennig neu ddyddiadau yn y flwyddyn megis Mis Hanes Pobl Dduon neu Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Hefyd, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i sefydliadau partner i ddathlu digwyddiadau ar y dyddiadau hynny.

Rhoddodd Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2017 to 2020 arian i sefydliadau cynrychioliadol i ddarparu gwasanaethau a chymorth i bobl a chymunedau ledled Cymru o dan saith thema, sef:

  • Hil
  • Rhywedd
  • Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd
  • Anabledd
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Throseddau Casineb.

Bu’r sefydliadau a ariannwyd, sef EYST, WEN Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, consortiwm Rhaglen Hawliau Lloches a arweinir gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, TGP Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, yn gweithio’n agos gyda’r Cydgysylltywr Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, a gwnaethant gymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a’r sefydliadau eu hunain i rannu gwybodaeth a rhoi’r newyddion diweddaraf am faterion cyfredol a chydfentrau i hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant yng Nghymru.

Cafodd ‘Cenedl Noddfa – cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches’ ei lunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Aeth y cynllun i’r afael â llawer o’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – “Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun” – yn ogystal â materion pwysig eraill i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019.

Amcan 7: Tlodi ac anghydraddoldeb

Lleihau tlodi, lliniaru effeithiau tlodi a gwella amodau byw ar gyfer y grwpiau hynny sydd fwyaf mewn perygl o fyw mewn aelwydydd ar incwm isel, yn enwedig pobl anabl, rhieni sengl, rhai grwpiau ethnig lleiafrifol penodol, a theuluoedd â phlant anabl.

Diwygiadau lles

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi cefnogi 214,326 o ddyfarndaliadau i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gyda £44.8 miliwn o grantiau wedi’u talu ers mis Ebrill 2013. Mae’r galw am y gronfa yn parhau a gwelodd mis Mawrth 2019 y nifer mwyaf o geisiadau a gafwyd mewn un mis ers iddi ddechrau yn 2013. O ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y ceisiadau mae’r gyllideb wedi cynyddu £2 filiwn er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd mewn angen, gan sicrhau bod y cymorth hwn ar gael i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn cael cymorth ariannol gwerth £244 miliwn gan Lywodraeth Cymru a ddarperir drwy’r Setliad Llywodraeth Leol. O ganlyniad, mae bron 300,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu rhag unrhyw gynnydd yn eu hatebolrwydd i dalu’r dreth gyngor, gyda 220,000 ohonynt yn parhau i beidio â gorfod talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Yn 2018-19, dyfarnwyd contractau newydd i gyflwyno Rhaglen Cartrefi Clyd a chynlluniau Nyth ac Arbed er mwyn gwella safonau yn y sector tai cymdeithasol a helpu pobl ar incymau isel neu sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bwriedir i’r cynlluniau hyn fynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy wella effeithlonrwydd thermol ac effeithlonrwydd ynni cartrefi ar gyfer pobl sy’n byw ar incwm is. Yn y flwyddyn adrodd, cafodd mwy na 15,600 o gartrefi gyngor diduedd am ddim ar arbed ynni drwy gynllun Nyth, a chafodd mwy na 3,800 o aelwydydd becyn o fesurau gwella ynni yn y cartref. Llwyddodd y gwelliannau hyn i arbed £409 ar y bil ynni blynyddol, ar gyfartaledd. Sicrhaodd cynllun Arbed, sy’n seiliedig ar ardaloedd, welliannau effeithlonrwydd ynni cartref mewn 145 o gartrefi eraill yn 2018-19.

Cyfuno: Creu Cyfleoedd drwy Ddiwylliant

Mae rhaglen Cyfuno yn canolbwyntio ar helpu’r cymunedau hynny sydd o dan anfantais economaidd. Yn draddodiadol, mae’r cymunedau hyn yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad ar ddiwylliant a threftadaeth, a’r manteision y gallant eu cyflwyno.

Bu nifer o bartneriaethau Cyfuno yn gweithio’n llwyddiannus yn 2018-19 mewn ffordd wedi’i thargedu gyda grwpiau Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Mae enghreifftiau yn cynnwys Dinas a Sir Abertawe, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar y celfyddydau, cerddoriaeth, amgueddfeydd ac ysgrifennu creadigol ac ymweliadau i 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan weithio gyda sefydliadau megis Hwb Cerddoriaeth Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas. At hynny, cynhaliodd Abertawe Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid i 15 o bobl o sefydliadau diwylliannol yn y ddinas. Cynhyrchodd y bartneriaeth ffilm fer ar y rhaglen er mwyn dathlu Wythnos Ffoaduriaid ym mis Mehefin 2018.

Mae rhaglen Cyfuno wedi’i hymgorffori yng Nghynllun Cenedl Noddfa (gweler Amcan X uchod) a diwygiwyd telerau ac amodau grant fel bod disgwyl i ardaloedd eraill a gwmpesir gan raglen Cyfuno weithio gyda grwpiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn 2018-19.

Mae rhaglen Cyfuno wedi creu nifer o gyfleoedd i unigolion a chymunedau â nodweddion gwarchodedig neu sydd dan anfantais neu nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol.

Roedd rhaglen Cyfuno yn cynnig mwy o gyfleoedd i unigolion mewn cymunedau difreintiedig gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth. Drwyddi, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, cestyll, theatrau, cymdeithasau tai, ysgolion ac asiantaethau gwirfoddoli.

Mae Cydgysylltwyr Cyfuno wedi tynnu sylw at y ffigurau canlynol:

Dangosydd cyfuno 2017 i 2018 2018 i 2019
F1 Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar a Dysgu fel Teulu 4979 13087
F2 Ennill cymhwyster 423 720
F3 Gwirfoddoli’n rheolaidd fel llwybr i waith 332 761
F4 Cwblhau lleoliad profiad gwaith 110 160
F5 Sgiliau digidol gwell 50 997
F6 Agwedd well tuag at ddysgu ffurfiol 2689 3046
F7 Y gallu i reoli lles meddyliol ac iechyd corfforol yn well 2941 5400

Ar 31 Mawrth 2019 y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd 8.54% neu £3,365. Mae wedi cynyddu ychydig o 7.96% ar 31 Mawrth 2018.

Mae’r cynnydd hwn yn siomedig. Mae nifer o resymau posibl dros y cynnydd yn y bwlch cyflog wedi’u nodi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o ferched na dynion ond mae merched yn cael eu gorgynrychioli ar raddau is. Mae ymarferion recriwtio helaeth diweddar, e.e. i recriwtio prentisiaid a staff dros dro i weithio ar Brexit, wedi gwaethygu’r sefyllfa hon drwy ddod â mwy o ferchnad na dynion i mewn i raddau is y sefydliad.

Arweiniodd cynllun ymadael gwirfoddol a gynhaliwyd yn ystod yr un cyfnod at fwy o ferched â chyflogau uwch yn gadael y sefydliad na dynion.

Nid yw ein bwlch cyflog i’w briodoli i broblemau o ran cyflog cyfartal ond mae’n adlewyrchu lefelau rolau yn y sefydliad. (Mae tangynrychiolaeth hanesyddol merched mewn uwch-rolau yn newid yn araf oherwydd diffyg trosiant o ran uwch-rolau).

Rydym yn parhau i weithio i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ein sefydliad lle mae’n bosibl inni wneud hynny, e.e. drwy dargedu codiadau cyflog at ein graddau isaf lle mae merched yn cael eu gorgynrychioli, drwy gefnogi merched sydd am ymuno â’r Uwch Wasanaeth Sifil a’i graddau bwydo a thrwy ddatblygu ein sail dystiolaeth ar gyfer unrhyw ffactorau a all gyfyngu ar allu merched i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y sefydliad, sy’n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ein sefydliad.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau cyflog cyfartal rheolaidd y bwriedir iddynt dynnu sylw at unrhyw feysydd sy’n peri risg o fewn ein system gyflog. Mae’r gofynion adrodd o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Lloegr a’r Alban oherwydd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Caiff ffigurau ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU, eu cyfrifo’n wahanol ac, felly, mae’n anodd eu cymharu. Mae ffigur Llywodraeth Cymru, sef 8.54%, yn is na’r ffigur ar gyfer rhai sefydliadau tebyg yng Ngymru, e.e. Cyngor Sir Powys (9.8%) a Chyngor Abertawe (11.1%), ond mae’n uwch nag eraill, e.e. Cyngor Caerdydd (3.2%) a Chyngor Dinas Caerdydd (4.8%).

Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ffigur ar gyfer bwlch cyflog anabledd nac ethnigrwydd. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi i ddiweddaru ein harchwilad cyflog cyfartal blynyddol er mwyn cyfrifo a chyhoeddi ffigurau ar gyfer bwlch cyflog anabledd a bwlch cyflog ethnigrwydd yn y dyfodol.