Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rhaglen ymchwil i ddarganfod mwy am rôl cynghorwyr yng Nghymru a'u cydnabyddiaeth ariannol. Mae'r rhaglen waith hon yn adeiladu ar werthusiad o gam cyntaf rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd yn 2019 a nododd yr angen am ddull wedi'i dargedu a'i deilwra o gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i'w helpu i gymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol. Dangosodd y gwerthusiad hefyd ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o rôl y cynghorydd a'r cyfraniad pwysig y mae'n ei wneud ar ran cymunedau.  

Mae un elfen ar yr ymchwil hon wedi cynnwys archwilio canfyddiadau cyffredinol y cyhoedd o rôl cynghorwyr a'r gwaith y maent yn ei wneud ac archwilio i ba raddau y mae'r canfyddiadau hynny'n dylanwadu ar y parch a ddangosir i gynghorwyr a chefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor o ddarparu taliadau ar gyfer eu gwaith. Comisiynodd Llywodraeth Cymru gwestiynau ychwanegol am rôl cynghorwyr yn nhon Mawrth 2021 o Arolwg Omnibws Cymru (a gynhaliwyd gan Beaufort Research Ltd), gyda dadansoddiad yn cael ei gynnal yn fewnol gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.  

Mae gwaith ymchwil ychwanegol yn cael ei wneud ochr yn ochr â'r gwaith hwn, gan gynnwys adolygiad tystiolaeth o gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr yng Nghymru ac ystod fach o wledydd astudiaethau achos, ac arolwg o gynghorwyr ar lefelau prif gyngor a chyngor cymuned a thref am eu llwyth gwaith a'u tâl cydnabyddiaeth.

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynnwys cyfweliadau gyda sampl gynrychioliadol o isafswm o 1,000 o oedolion 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer ton Mawrth 2021 o Arolwg Omnibws Cymru ym mis Mawrth 2021 rhwng 2 a 9 Mawrth 2021. Cwblhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau.

Lefelau diddordeb y cyhoedd mewn cynghorwyr ac yn y gwaith y maent yn ei wneud  

Roedd yn ymddangos bod gan ymatebwyr i Arolwg Omnibws Cymru ddealltwriaeth dda o rôl cynghorwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac fe wnaethant gynnig amrywiaeth o safbwyntiau ar eu gwaith o ddydd i ddydd.

Roedd tuag un rhan o bump (21%) o'r farn bod cynghorwyr yn cynrychioli eu hardaloedd lleol ac yn gweithredu ar ran trigolion lleol. Dywedodd 16% pellach fod cynghorwyr yn gyfrifol am reoli gwasanaethau lleol, tra oedd 14% o'r farn eu bod  yn gyfrifol am 'wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol'.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi clywed am gynghorwyr tref a chynghorwyr sir, ond roedd yn ymddangos bod ymwybyddiaeth is o gynghorwyr cymuned.     

Roedd tua thri chwarter o'r ymatebwyr wedi clywed am gynghorwyr tref (78%), ac roedd cyfran debyg wedi clywed am gynghorwyr sir (73%), tra oedd hanner yr holl ymatebwyr wedi clywed am gynghorwyr cymuned. Nid oedd llai na degfed (7%) wedi clywed am unrhyw rai o'r cynghorwyr o dan sylw.

Roedd gwahaniaethau sylweddol yng nghyfran yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y gwahanol fathau o gynghorwyr yn ôl oedran. Nid oedd cyfran uwch o ymatebwyr 16 i 34 oed (12%) wedi clywed am unrhyw rai o'r cynghorwyr a restrwyd, o'i gymharu â 4% o ymatebwyr 35 i 44 oed a 4% o'r ymatebwyr dros 55 oed.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (66%) yn cytuno yr hoffent glywed mwy am waith eu cynghorwyr lleol ac roedd bron i dri o bob pump o ymatebwyr (57%) yn cytuno yr hoffent gael mwy o lais yn yr hyn y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud fel rhan o'u rôl.

Roedd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr (63%) yn cytuno y dylai cynghorwyr 'fod ar gael i'r gymuned ar unrhyw adeg', a dim ond tuag un o bob deg o ymatebwyr (13%) oedd yn anghytuno â'r datganiad hwn. Roedd y gyfran a oedd yn cytuno â'r datganiad yn tueddu i fod yn uwch ymhlith ymatebwyr:

  • dros 55 oed
  • o grwpiau economaidd-gymdeithasol C2DE

Roedd bron tair rhan o bump o'r ymatebwyr (57%) yn cytuno yr hoffent gael mwy o lais yn yr hyn y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud yn eu hardal ac roedd  tua hanner yr holl ymatebwyr (52%) yn cytuno â'r datganiad 'Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn rhoi fy marn i gynghorwyr lleol'.

Dywedodd mwyafrif clir o'r ymatebwyr (70%) nad oeddent yn dymuno dod yn gynghorydd a dywedodd tua chwarter o'r  ymatebwyr (24%) eu bod yn agored i'r syniad er nad oeddent wedi ystyried dod yn gynghorydd.  

Dim ond 2% o'r ymatebwyr oedd naill ai'n gweithio fel cynghorwyr ar yr adeg y cynhaliwyd yr arolwg, neu wedi bod yn gynghorwyr yn y gorffennol.  

O'r 52 o ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi ystyried dod yn gynghorydd, dywedodd 21 o ymatebwyr fod eu diddordeb yn deillio o awydd i helpu eraill ac i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, a chredai 12 ymatebydd ei fod yn cynnig cyfle i wneud cyfraniad at yr ardal leol. Ymhlith yr atebion eraill a roddwyd roedd: roedd ymatebwyr yn teimlo cymhelliant i fod yn gynghorydd o ganlyniad i'w hanfodlonrwydd gyda chynghorwyr presennol yn eu hardaloedd ac roeddent yn credu y gallent wneud y swydd yn well; roedd ymatebwyr wedi cael eu hannog gan eraill i ddod yn gynghorydd; neu wedi datblygu diddordeb mewn dod yn gynghorydd ar ôl iddynt ymwneud â gwleidyddiaeth leol.

Pan ofynnwyd iddynt pam yr oeddent wedi penderfynu peidio â bod yn gynghorydd, dywedodd nifer fach o ymatebwyr (11 o ymatebwyr) nad oeddent yn teimlo'n ddigon hyderus nac yn meddu ar gymwysterau addas i ymgymryd â'r rôl ac roedd 9 ymatebydd arall yn teimlo na allent ymrwymo'r amser y mae ei angen i ymgymryd â'r rôl.

Lwfansau a chydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr

Roedd ymatebwyr yn gefnogol i roi hawl i gynghorwyr gael cyflog sylfaenol, costau teithio ac offer i gefnogi eu rôl, ond roedd yn ymddangos bod gwahaniaeth barn ar y mater o gynnig lwfans gofalwyr dibynnol i gynghorwyr i dalu am gostau gofal plant, gofalu am breswylwyr oedrannus a/neu ddibynyddion eraill.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai fod gan gynghorwyr hawl i gael cyflog sylfaenol (72%), TGCh ac offer swyddfa eraill (70%) a chostau teithio (65%). I'r gwrthwyneb, dim ond tua dau o bob pump o ymatebwyr (43%) oedd yn cytuno y dylai fod gan gynghorwyr  hawl i gael lwfans gofalwyr dibynnol, gyda mwy na chwarter (27%) yn anghytuno, a thua chwarter (24%) yn parhau'n niwtral ar y mater.  

Roedd gwahaniaethau sylweddol mewn ymatebion i lwfansau a chydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr yn ôl oedran, gyda chymorth ar gyfer darparu cyflog sylfaenol a chostau teithio ar eu huchaf ymhlith ymatebwyr 35 i 54 oed (72%) a thros 55 oed (75%) yn y drefn honno, tra oedd y gyfran a oedd yn cytuno y dylai fod gan gynghorwyr hawl i gael lwfans gofalwyr dibynnol yn uwch ymhlith y rhai 16 i 34 oed (54%).

Cyfraniad cynghorwyr o fewn cymunedau lleol

Roedd dros hanner yr holl ymatebwyr o'r farn nad oedd cynghorwyr lleol wedi gwneud fawr o gyfraniad neu ddim cyfraniad o gwbl yn eu hardal leol.

Pan ofynnwyd iddynt esbonio eu hatebion, rhoes yr ymatebwyr ystod o sylwadau negyddol, a oedd yn cynnwys nad oedd unrhyw dystiolaeth yn eu hardal o'r hyn yr oedd cynghorwyr wedi'i wneud, bod  cynghorwyr lleol yn 'ddiwerth', neu nad oedd ymatebwyr erioed wedi clywed gan eu cynghorwyr lleol neu ddim yn gwybod pwy oeddent.  

Roedd y rhai a oedd yn fwy cadarnhaol o'r farn bod eu cynghorwyr wedi helpu i sicrhau newidiadau cadarnhaol i'w hardaloedd lleol, drwy’r canlynol: gwelliannau i wasanaethau lleol megis parciau, cyfleusterau hamdden ac adeiladau cymunedol; gosod biniau sbwriel mewn mannau cyhoeddus a chadw cymunedau'n lân ac yn daclus; a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phroblemau traffig lleol ac amodau ffyrdd.

Ymddygiad ac agweddau tuag at gynghorwyr

Dangosodd yr arolwg fod gan ymatebwyr agweddau cymysg tuag at gynghorwyr yn eu hardal, gyda thua chwarter yn dweud eu bod yn cael eu hystyried mewn modd cadarnhaol ar y cyfan a chyfran debyg yn dweud eu bod yn cael eu hystyried mewn modd negyddol.

Dywedodd tua chwarter o’r ymatebwyr (26%) fod cynghorwyr yn cael eu hystyried mewn modd cadarnhaol ar y cyfan a dywedodd tuag un o bob pump o ymatebwyr (21%) fod cynghorwyr yn cael eu hystyried mewn modd  negyddol ar y cyfan gan drigolion yn eu hardal. Dywedodd tua thraean o'r ymatebwyr (31%) nad oeddent yn cael eu hystyried mewn modd cadarnhaol nac yn negyddol yn eu hardal.

Roedd ymatebwyr 16-34 oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr eraill o feddwl bod cynghorwyr yn gyffredinol yn cael eu hystyried mewn modd cadarnhaol gan drigolion yn eu hardal.

Pan ofynnwyd iddynt egluro eu hatebion, rhoes yr  ymatebwyr ystod o sylwadau cadarnhaol a negyddol. Roedd yr ymatebion cadarnhaol cyffredin yn cynnwys 'maent yn gwneud gwaith da' a 'maent yn gwneud llawer i'r ardal'; 'pobl neis', 'cyfeillgar', 'poblogaidd iawn ac uchel eu parch'; 'hawdd mynd atyn nhw', 'cyfathrebu'n dda' a 'thryloyw'; a 'gweithio'n galed i'r gymuned', 'sicrhau yr eir i'r afael â materion lleol' a 'parod eu cymorth' (6%).

Roedd sylwadau negyddol yn tueddu i ganolbwyntio ar y diffyg cyswllt a'r rhyngweithio cyfyngedig rhwng cynghorwyr a thrigolion lleol; y dystiolaeth gyfyngedig sy'n dangos bod cynghorwyr wedi gwneud unrhyw beth yn yr ardal; a'r defnydd o dermau negyddol, megis 'diwerth', 'ynddo drostynt eu hunain' a 'peidio â gwrando ar drigolion'.

Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi gweld unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol na gelyniaeth tuag at gynghorwyr yn eu hardal a dywedasant nad oedd unrhyw newid wedi bod yn safon yr ymddygiad tuag at gynghorwyr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Dywedodd ymatebwyr a oedd wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol neu elyniaeth yn erbyn cynghorwyr yn eu hardal eu bod wedi dod ar draws sylwadau negyddol neu gamdriniaeth tuag at gynghorwyr ar-lein ac wedi gweld cynghorwyr yn cael eu cam-drin ar lafar neu fod yn destun galw enwau a sarhad.

Roedd bron dau o bob tri ymatebydd (64%) o'r farn bod safon yr ymddygiad tuag at gynghorwyr wedi aros yr un fath yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Roedd y gyfran fach o ymatebwyr a oedd yn credu ei bod wedi gwella (5%) yn priodoli hyn i'r ffaith bod cynghorwyr yn fwy gweladwy yn y gymuned leol a bod mwy o barch yn cael ei ddangos tuag at gynghorwyr yn eu hardaloedd. Roedd ymatebwyr a oedd yn credu ei bod wedi gwaethygu (5%) yn teimlo nad oedd eu cynghorwyr lleol yn ymwneud yn ddigonol â materion lleol ac wedi dod yn llai gweladwy yn lleol a gwnaethant nodi bod y defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud yn llawer haws cam-drin cynghorwyr ar lafar.

Manylion cyswllt

Awdur: Nerys Owens (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru)

Safbwyntiau'r ymchwilwyr a dim o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw'r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Nerys Owens
E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 81/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-292-9

Image
GSR logo