Cydnabod talent Cymru wrth i WorldSkills gyhoeddi carfan y DU ar gyfer Kazan 2019
Mae Christopher Caine, 18, Balaz Sparing, 19, Tom Harris, 19, Sam Everton, 18, Chloe Griffiths, 18, Kate Louise Evans, 19, Daniel Morgan, 18, Thomas Roberts, 19, ac Ellie Hanley, 17 i gyd wedi cyrraedd y rhestr hir o 49 o ymgeiswyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a fydd yn cael y cyfle i gystadlu am le yn y tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Kazan 2019.
Byddant yn treulio'r 12 mis nesaf yn mireinio’u sgiliau cyn i’r broses ffurfiol o ddewis tîm WorldSkills Kazan gael ei chynnal yn Sioe Sgiliau 2017. Bydd unigolion sydd wedi cystadlu yn y gorffennol yn cystadlu â’r rheini a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn 2017 a fyddant hefyd yn gymwys i gael lle yng Ngharfan y DU os bodlonant y meini prawf.
Caiff Carfan y DU yn WorldSkills Kazan 2019 ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2017. Bydd y rhai a gaiff eu dewis wedyn yn cychwyn y rhaglen hyfforddi a datblygu 18 mis sy’n cael ei rhedeg gan WorldSkills y DU. Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o gerrig milltir, gan gynnwys dewis Tîm y DU, a bydd angen i’r unigolion dan sylw fodloni’r gofynion hyn er mwyn symud ymlaen.
Cystadleuaeth ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yw WorldSkills, a dyma'r digwyddiad mwyaf yn y byd ym maes addysg alwedigaethol a rhagoriaeth sgiliau. Mae tua 1,000 o brentisiaid a dysgwyr rhwng 18 a 25 oed o 76 o wledydd yn dod ynghyd i gystadlu am fedalau mewn dros 40 o gategorïau o sgiliau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys gosod trydan, weldio, dylunio gwefannau, trin gwallt, coginio a gosod briciau.
Ynghyd â gweddill y cystadleuwyr, sicrhaodd naw llwyddiannus Cymru eu lleoedd yng ngharfan y DU ar ôl rhagori yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK a gynhaliwyd yn The Skills Show yn Birmingham fis diwethaf.
Buont yn cystadlu dros 3 niwrnod, gan ddangos eu sgiliau a'u gwybodaeth o flaen cynulleidfa o dros 75,000 o bobl. Dyma’r perfformiad gorau erioed gan Gymru yn y sioe sgiliau, gan ddod adref â 45 o fedalau, gan gynnwys 11 aur, 17 arian, 14 efydd a 3 chanmoliaeth uchel - gan ei rhoi ar frig y tabl.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
"Dyma newyddion gwych i Gymru, ac mae'n brawf o'r sgiliau o safon sy'n cael eu meithrin yma. Rwy'n cymeradwyo pob un o Gymru a gafodd ei ddewis ac yn llongyfarch Christopher, Balaz, Tom, Sam, Chloe, Kate Louise, Daniel ac Ellie ar eu llwyddiant anhygoel o gael cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Carfan y DU.
"Drwy gystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills, mae Cymru, fel rhan o garfan y DU, yn gallu rhannu arferion gorau mewn prentisiaethau, addysg bellach a sgiliau gyda gwledydd y byd, gan godi safonau ar raddfa fyd-eang.
"Yn ogystal â hyn, drwy ddefnyddio'r wybodaeth a gawn drwy gystadlu yn WorldSkills, rydyn ni'n gwybod ein bod yn gweithio yn unol â meincnodau rhyngwladol. Mae hynny’n dda i economi ehangach Cymru oherwydd y bydd y bobl ifanc hynny yn dechrau gweithio maes o law, os nad ydynt wedi gwneud eisoes, a bydd y sgiliau uwch hynny yn helpu busnesau i dyfu a chystadlu'n fwy effeithiol yn y farchnad fyd-eang."
O holl ranbarthau’r DU, Cymru sydd â’r nifer fwyaf o gystadleuwyr wedi’u dewis i fod yn aelodau o Garfan y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am holl aelodau Carfan y DU, ewch i wefan Wordskills (dolen allanol)