Sut y gall colegau addysg bellach ddefnyddio RARPA i asesu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae cydnabod a chofnodi cynnydd a chyflawniad (RARPA) yn fodd o fesur cynnydd dysgwyr. Mae'n caniatáu i ymarferwyr asesu dysgwyr ar gyrsiau nad ydynt yn gysylltiedig â chymwysterau traddodiadol. Mae'n ddull defnyddiol ar gyfer asesu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol sydd yn aml yn dilyn rhaglenni wedi'u personoli nad ydynt yn gysylltiedig â chymwysterau allanol.
Mae RARPA hefyd yn darparu tystiolaeth i lywio prosesau hunanwerthuso colegau.
Canllawiau RARPA ar gyfer colegau addysg bellach Cymru
Mae canllawiau RARPA ar gael ar wefan Natspec. Maent wedi'u hanelu at golegau addysg bellach Cymru sy'n darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r canllawiau'n egluro'r cysylltiadau rhwng:
- RARPA
- Cynlluniau Datblygu Unigol
- Fframwaith arolygu Estyn
Mae'r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i:
- adnoddau
- cyrsiau hyfforddi
- offerynnau meddwl sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn