Cydlynu trefniadau derbyn i ysgolion
Hoffem gael eich barn am reoliadau newydd ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn i ysgolion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Rheoliadau arfaethedig sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â rôl neu ddiddordeb yn nhrefniadau derbyn ysgolion, gan gynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau esgobaethol, paneli apêl derbyn disgyblion, rhieni/gofalwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Cyfyngir yr ymgynghoriad i'r newidiadau uchod yn unig.
Crynodeb
Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rheoliadau newydd sydd i'w gwneud o dan adran 89B o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ysgolion.
Bydd y Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun bob blwyddyn ysgol ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir (ac eithrio lleoliadau chweched dosbarth, ysgolion arbennig a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir, ond gan gynnwys ysgolion preswyl) yn eu hardal. Rhaid llunio a mabwysiadu’r cynllun cymhwysol cyntaf erbyn 1 Ionawr 2025, ac erbyn 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn. Bydd y cynllun cymhwysol cyntaf yn 2025 yn berthnasol i drefniadau derbyn blwyddyn ysgol 2027 i 2028.
Cynigir diwygiad cysylltiedig i Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 ("Rheoliadau 2011") i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol gynnwys crynodeb o gynllun cydlynol yr awdurdod lleol yn ei brosbectws cyfansawdd, i'w benderfynu bob blwyddyn, ynghyd ag esboniad clir o'r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol.
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i gyfyngu i'r newidiadau hyn yn unig. Am y tro, nid ydym yn gofyn am farn ar unrhyw faterion ehangach mewn perthynas ag apelau ynghylch derbyn disgyblion i ysgolion.
Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?
Mae adran 86(1) o Ddeddf 1998 yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i rieni gael nodi ysgol a ffefrir ganddynt a rhoi rhesymau dros eu dewis. Nid yw'r ddyletswydd honno'n berthnasol i ddisgyblion chweched dosbarth na'r rhai o dan oedran ysgol gorfodol. Mae awdurdodau lleol yn cyflawni'r ddyletswydd hon drwy roi gwybodaeth i rieni sy'n cynnwys manylion holl ysgolion ardal yr awdurdod lleol a sut i wneud cais am le i'w plentyn mewn ysgol.
Ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn fel rheol, ac felly mae'r awdurdod lleol yn darparu ffurflenni cais. Ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, y corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn. Mae'r awdurdod lleol yn cynnwys yn ei wybodaeth i rieni fanylion y meini prawf goralw mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sy'n rhoi syniad o'r flaenoriaeth a fyddai'n cael ei rhoi i geisiadau ar gyfer yr ysgolion hynny. Mae'r awdurdod lleol yn cynghori rhieni i wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hynny gan ddefnyddio ffurflen i'w darparu gan yr ysgol, a fydd fel rheol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r meini prawf goralw penodol.
Mae adran 86(2) o Ddeddf 1998 yn datgan bod rhaid i'r awdurdod derbyn gynnig lle fel rheol yn yr ysgol a ffefrir os oes lle ar gael.
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi prosbectws cyfansawdd blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am bob ysgol a gynhelir yn eu hardal. Rhaid cyhoeddi'r prosbectws cyfansawdd cyn 1 Hydref yn y flwyddyn gyhoeddi a heb fod yn hwyrach na chwe wythnos cyn y dyddiad erbyn pryd y caiff rhieni nodi ysgol a ffefrir ganddynt.
Nid yw'r ddyletswydd i gydymffurfio â dewis y rhieni yn gymwys os byddai hynny'n andwyol i ddarpariaeth addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau; neu os yw'r trefniadau ar gyfer derbyn disgybl i'r ysgol a ffefrir wedi'u seilio'n llwyr ar ddethol ar sail gallu neu ddawn, gyda'r bwriad o dderbyn disgyblion â gallu uchel neu â dawn yn unig, a byddai cydymffurfio â dewis y rhieni yn anghydnaws o dan y trefniadau hynny.
At hyn, mae adran 86(2A) o Ddeddf 1998 yn datgan y caiff awdurdodau derbyn ganiatáu i riant plentyn nodi mwy nag un ysgol a ffefrir ganddynt. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar yr awdurdod derbyn i gynnig lle i blentyn yn yr ysgol y mae ei riant wedi'i nodi fel ysgol a ffefrir os yw wedi mabwysiadu cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn, ar yr amod bod y plentyn yn cael cynnig lle mewn ysgol wahanol y mae'r rhiant hefyd wedi'i nodi'n ysgol a ffefrir.
Mae Rheoliadau 2011 yn nodi'r wybodaeth gyffredinol y mae'n rhaid ei chyhoeddi yn y prosbectws cyfansawdd.
Pam rydym yn cynnig newid?
Mae gan rieni hawl i wneud cais am le mewn unrhyw ysgol yr hoffent i'w plentyn ei mynychu. Fel y mae'r gyfraith yn sefyll yng Nghymru, mae'n rhaid i bob awdurdod derbyn gynnig lle i'r rhiant os oes lle ar gael. Gall rhieni, os ydynt wedi gofyn am leoedd gan wahanol awdurdodau derbyn, ddal eu gafael ar nifer o gynigion o leoedd, ac o bosibl gallai rhieni eraill beidio â chael unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt.
Yn aml, bydd y rhieni hynny na chawsant gynnig lle yn unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt yn apelio yn erbyn y ffaith bod lle wedi'i wrthod i'w plentyn yn un o'r ysgolion hynny, yn hytrach na derbyn lle mewn ysgol nad ydynt wedi'i nodi'n ysgol a ffefrir. Mae hyn yn gostus ac yn cymryd llawer o amser i awdurdodau derbyn ac mae'n tueddu i ymestyn y cyfnod ansicrwydd, gan fod mwyafrif yr apelau'n aflwyddiannus, yn enwedig mewn perthynas â phlant oedran derbyn, gan fod deddfwriaeth maint dosbarthiadau yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan geir cadarnhau apêl.
Er y gofynnir fel rheol i rieni sydd wedi cael cynnig lle i benderfynu a ydynt am dderbyn y lle o fewn terfyn amser penodol, nid oes unrhyw gyfrifoldeb na dyletswydd gyfreithiol arnynt i gadarnhau pa gynnig y maent yn ei dderbyn. Mae awdurdodau derbyn yn buddsoddi llawer iawn o amser yn cwrso ymatebion, weithiau'n aflwyddiannus. Mae hyn yn atal nifer o leoedd ysgol rhag cael eu rhyddhau tan fis Medi bob blwyddyn pan ddaw'n hysbys pa ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu. Mae "dal gafael" ar leoedd yn atal y broses o ddyrannu lleoedd i'r rhai sydd heb le.
Yn ogystal, efallai y bydd rhieni plant nad ydynt wedi cael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir yn cael gwybod wedyn bod lle iddynt wedi'r cwbl. Nid yn unig mae peidio â chael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir yn creu cythrwfl, ond hefyd yr anghyfleustra o orfod penderfynu wedyn ym mis Medi a ydynt am newid ysgol.
Pa newidiadau ydyn ni’n eu cynnig?
Rydym am sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod pob plentyn sy'n byw mewn ardal awdurdod lleol sydd wedi gwneud cais yn y cylch derbyn arferol yn cael cynnig un lle ysgol, ac un yn unig, ar y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol.
Rydym yn dymuno gwneud hyn drwy osod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i lunio, ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gynllun i gydlynu trefniadau derbyn ar gyfer pob ysgol a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ond gan gynnwys ysgolion preswyl) yn eu hardal. Mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn mynd ati'n wirfoddol i gydlynu eu trefniadau derbyn gydag awdurdodau derbyn yn eu hardal. Efallai y bydd gan rai awdurdodau gyn lleied â thair o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig. Felly, rydym am ystyried a oes angen gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol.
Bydd y Rheoliadau drafft arfaethedig yn datgan bod yn rhaid i’r cynllun cymhwysol cyntaf gael ei lunio a’i fabwysiadu gan awdurdodau lleol erbyn 1 Ionawr 2025, ac erbyn 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn. Bydd y cynllun cymhwysol cyntaf yn berthnasol i drefniadau derbyn blwyddyn ysgol 2027 i 2028. Bydd y Rheoliadau drafft hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymgynghoriad blaenorol ynghylch y cynllun cymhwysol.
At hynny, rydym am ddiwygio Rheoliadau 2011 i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol gynnwys yn ei brosbectws esboniad o'r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod gan rieni a disgyblion yr holl wybodaeth berthnasol ar sut i wneud cais am le o dan y trefniadau newydd.
Nid yw cynllun cydlynu trefniadau derbyn yn dileu unrhyw ymreolaeth sydd gan gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig mewn perthynas â'u trefniadau derbyn a'r penderfyniadau a wnânt ar bwy y maent yn eu derbyn. Ein nod yw cyflymu'r broses dderbyn i ysgolion, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cynnig lle yn brydlon, gwneud pethau'n fwy effeithlon i awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn, a lleihau'r ansicrwydd i rieni a dysgwyr.
Mae drafft o Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
- A ydych yn cytuno â'r cynnig i osod gofyniad ar awdurdodau lleol i gydlynu trefniadau derbyn disgyblion ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardal?
- Beth yn eich barn chi yw manteision neu anfanteision cydlynu trefniadau derbyn ysgolion?
- A ddylai'r gofyniad i ddatblygu cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ysgolion gael ei osod ar bob awdurdod lleol neu ar awdurdodau lleol penodol yn unig yng Nghymru? Os mai dim ond ar awdurdodau lleol penodol yn unig y dylid gosod y gofyniad, ar ba awdurdodau lleol y dylid ei osod?
- A ydych yn ystyried y bydd y rheoliadau arfaethedig yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol neu ysgolion? Os ‘ydw’, rhowch fanylion pellach am y costau hyn.
- A ydych yn ystyried y bydd y rheoliadau arfaethedig yn arwain at unrhyw arbedion i awdurdodau lleol, ysgolion, rhieni neu ofalwyr? Os ‘ydw’, rhowch fanylion pellach am yr arbedion hyn.
- A ydych yn cytuno y dylid ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol gynnwys crynodeb o gynllun cydlynol yr awdurdod lleol yn ei brosbectws cyfansawdd bob blwyddyn, ynghyd ag esboniad clir o'r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol?
- Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y rheoliadau arfaethedig ar gydlynu trefniadau derbyn ysgolion ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
- Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu'r rheoliadau arfaethedig ar gydlynu trefniadau derbyn ysgolion er mwyn sicrhau:
- eu bod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg or
- nad ydynt yn cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod.