Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y sefyllfa bresennol o ran y gyfraith

Mae adran 86 (1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i rieni gael nodi ysgol a ffefrir ganddynt. Mae awdurdodau lleol yn cyflawni'r ddyletswydd hon drwy roi gwybodaeth i rieni sy'n cynnwys manylion holl ysgolion ardal yr awdurdod lleol a sut i wneud cais.

Ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn fel rheol, ac felly mae'r awdurdod lleol yn darparu ffurflenni cais. Ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, y corff llywodraethu yw'r awdurdod derbyn. Mae'r awdurdod lleol yn cynnwys yn ei wybodaeth i rieni y meini prawf goralw mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sy'n rhoi syniad o'r flaenoriaeth a fyddai'n cael ei rhoi i geisiadau ar gyfer yr ysgolion hynny. Mae'r awdurdod lleol yn cynghori rhieni i wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hynny gan ddefnyddio ffurflen i'w darparu gan yr ysgol, a fydd fel rheol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r meini prawf goralw penodol.

Mae adran 86(2) o Ddeddf 1998 yn datgan bod yn rhaid i'r awdurdod derbyn gynnig lle fel rheol yn yr ysgol a ffefrir os oes lle ar gael. Yn nwylo'r awdurdod derbyn, felly, y mae'r ddyletswydd i gynnig y lle.

Y broblem gyda’r trefniadau presennol

Mae gan rieni hawl i wneud cais am le mewn unrhyw ysgol yr hoffent i'w plentyn ei mynychu. Fel y mae'r gyfraith yn sefyll yng Nghymru, mae'n rhaid i bob awdurdod derbyn gynnig lle i'r rhiant os oes lle ar gael. Gall rhieni, os ydynt wedi gofyn am leoedd gan wahanol awdurdodau derbyn, ddal eu gafael ar nifer o gynigion o leoedd, ac o bosibl gallai rhieni eraill beidio â chael unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt.

Yn aml, bydd y rhieni hynny yn apelio yn erbyn y ffaith bod lle wedi'i wrthod i'w plentyn yn un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt, yn hytrach na derbyn lle mewn ysgol nad ydynt wedi'i nodi'n ysgol a ffefrir. Mae hyn yn gostus ac yn cymryd llawer o amser i awdurdodau derbyn ac mae'n tueddu i ymestyn y cyfnod ansicrwydd, gan fod mwyafrif yr apelau'n aflwyddiannus, yn enwedig mewn perthynas â phlant oedran derbyn, gan fod deddfwriaeth maint dosbarthiadau yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan geir cadarnhau apêl.

Er y gofynnir fel rheol i rieni sydd wedi cael cynnig lle i benderfynu a ydynt am dderbyn y lle o fewn terfyn amser penodol, nid oes unrhyw gyfrifoldeb na dyletswydd gyfreithiol arnynt i gadarnhau pa gynnig y maent yn ei dderbyn. Mae awdurdodau derbyn yn buddsoddi llawer iawn o amser yn cwrso ymatebion, weithiau'n aflwyddiannus. Mae hyn yn atal nifer o leoedd ysgol rhag cael eu rhyddhau tan fis Medi bob blwyddyn pan ddaw'n hysbys pa ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu. Mae "dal gafael" ar leoedd yn atal y broses o ddyrannu lleoedd i'r rhai sydd heb le.

Yn ogystal, efallai y bydd rhieni plant nad ydynt wedi cael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir yn cael gwybod wedyn bod lle iddynt wedi'r cwbl. Nid yn unig mae peidio â chael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir yn creu cythrwfl, ond hefyd yr anghyfleustra o orfod penderfynu wedyn ym mis Medi a ydynt am newid ysgol.

Mae pŵer o fewn Deddf 1998 fel y'i diwygiwyd (Adran 89B) i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol (neu o bosibl bob awdurdod lleol) lunio cynlluniau i gydlynu trefniadau. Mae'r adran berthnasol o Ddeddf Addysg 2002 (adran 48) a ddiwygiodd Ddeddf 1998 i ddarparu ar gyfer cydlynu trefniadau wedi'i chychwyn i Gymru gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006.

Mae'r cwestiwn a ddylid gwneud rheoliadau i gyflwyno trefniadau cydlynol wedi bod yn destun ymgynghoriad o'r blaen wrth adnewyddu Codau Derbyn i Ysgolion. Ni chroesawyd yr awgrym pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth am y tro cyntaf. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl Deddf 2002, gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer disgyblion ysgolion cynradd, ac felly roedd llai o gystadleuaeth am leoedd. Gan nad oedd brys, i bob golwg, i fwrw ymlaen i gydlynu trefniadau, ond ein bod am hyrwyddo cydweithredu, mae deddfwriaeth ynghylch derbyn disgyblion wedi symud i gyfeiriad cyffredinol cydlynu drwy gyflwyno dyddiadau cynnig cyffredin ar gyfer lleoedd ysgolion uwchradd, a wnaed yn 2015, ac ar gyfer lleoedd ysgolion cynradd, a wnaed yn llawn yn 2018.

Wrth i'r gallu i ddarparu lleoedd i bawb fynd yn fwyfwy anodd mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar, mae wedi bod yn her i nifer o awdurdodau lleol, yn enwedig Caerdydd, i ddyrannu lleoedd a delio â'r apelau sy'n dilyn, ac maent wedi pwyso'n gryf am gynlluniau cydlynol. Mae Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, sydd â chynrychiolaeth o bob awdurdod derbyn yng Nghymru, ynghyd ag awdurdodau esgobaethol, wedi mynegi cefnogaeth i newid o'r fath.

Byddai'n bosibl cyflwyno cydlynu ar sail wahanol, fel mai dim ond yr awdurdodau lleol sydd â nifer sylweddol o wahanol awdurdodau derbyn yn eu hardal fyddai'n gorfod llunio cynlluniau. Dim ond 3 awdurdod derbyn sydd gan rai awdurdodau lleol, sy’n eu galluogi i fonitro derbyniadau yn agos. Mewn eraill, mae bron i 30 ac mae'n llawer mwy heriol. Byddai'n ddefnyddiol trafod gyda rhanddeiliaid p’un a ddylai'r ddarpariaeth fod yn berthnasol i rai awdurdodau lleol yn unig neu i bob awdurdod lleol.

Y cynnig

Y cynnig yw sefydlu mecanweithiau sy’n sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod pob plentyn sy'n byw mewn ardal awdurdod lleol sydd wedi gwneud cais yn y cylch derbyn arferol yn cael cynnig un lle ysgol, ac un yn unig, ar y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol.

Rydym yn dymuno gwneud hyn drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio, ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gynllun i gydlynu trefniadau derbyn ar gyfer pob ysgol a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ond gan gynnwys ysgolion preswyl) yn eu hardal.

Mae diwygiad i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Adran 86 (2A) yn datgan y caiff rhieni nodi mwy nag un ysgol a ffefrir ganddynt, ond os oes cynllun derbyn cydlynol a luniwyd yn gyfreithiol (y darperir ar ei gyfer mewn diwygiad arall i'r Ddeddf yn Adran 89B) ar waith, nid oes angen i bob awdurdod derbyn gynnig lle i'r rhiant hwnnw cyn belled â'i fod yn cael cynnig un lle y mae wedi’i nodi fel ysgol a ffefrir. Yn absenoldeb cynllun o'r fath, mae dyletswydd ar awdurdod derbyn i gynnig lle i bob ymgeisydd os oes un ar gael, p'un a yw awdurdodau derbyn eraill hefyd yn cynnig lle ai peidio. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei defnyddio yng Nghymru.

Ein nod yw cyflymu'r broses dderbyn i ysgolion, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cynnig lle yn brydlon, gwneud pethau'n fwy effeithlon i awdurdodau lleol, lleihau'r ansicrwydd i rieni, ac yn y tymor hir ei atal yn llwyr gobeithio.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig, a gall plant a phobl ifanc roi eu barn ac ymateb. O ystyried natur dechnegol y rheoliadau a'r ffaith mai ar awdurdodau derbyn y maent yn effeithio'n bennaf, nid ydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar wahân gyda phlant a phobl ifanc.

Adran 8: Casgliad

​​​​​​Sut y mae pobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Wrth i'r gallu i ddarparu lleoedd i bawb fynd yn fwyfwy anodd mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar, mae wedi bod yn her i nifer o awdurdodau lleol, yn enwedig Caerdydd, i ddyrannu lleoedd a delio â'r apelau sy'n dilyn, ac maent wedi pwyso'n gryf am gynlluniau cydlynol. Mae Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, sydd â chynrychiolaeth o bob awdurdod derbyn yng Nghymru, ynghyd ag awdurdodau esgobaethol, wedi cael yr holl wybodaeth am ein cynnig ac wedi mynegi cefnogaeth i newid o'r fath.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus o ddiddordeb arbennig i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n awdurdodau derbyn ar eu hysgolion, a bydd yn ffordd o gael gwybod eu barn. Ar ôl yr ymgynghoriad, caiff yr Asesiad Effaith Integredig ei ddiweddaru a’i ddarparu.

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?

Cadarnhaol:

  • Sicrhau bod rhieni yn derbyn cynnig o un lle ysgol yn unig, gan fynd i'r afael â'r broblem o atal lleoedd ysgol rhag cael eu rhyddhau a sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar le mewn ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.
  • Arbed costau a lleihau llwyth gwaith awdurdodau lleol drwy ddull gweithredu symlach.
  • Lleihau ansicrwydd i rieni a disgyblion.
  • Lleihau’r cythrwfl o beidio â chael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir, ond hefyd yr anghyfleustra o orfod penderfynu wedyn ym mis Medi a ydynt am newid ysgol.

Negyddol:

  • Gallai greu camganfyddiad y bydd rhai awdurdodau derbyn yn colli eu hymreolaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch derbyn disgyblion. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir, ac felly mae angen cyfathrebu’n briodol a thawelu ofnau. Drwy'r ymgynghoriad, byddwn yn ymchwilio i’r cwestiwn a oes angen i'r rheoliadau fod yn berthnasol i bob awdurdod lleol.

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a/neu
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Nod y cynnig yw sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau derbyn disgyblion i ysgolion yn y ffordd fwyaf effeithlon. Rydym am sefydlu mecanweithiau sy’n sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod pob plentyn sy'n byw mewn ardal awdurdod lleol sydd wedi gwneud cais yn y cylch derbyn arferol yn cael cynnig un lle ysgol, ac un yn unig, ar y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol.

Mae’r cynnig yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio, ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gynllun i gydlynu trefniadau derbyn ar gyfer pob ysgol a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ond gan gynnwys ysgolion preswyl) yn eu hardal.

Mae diwygiad i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Adran 86 (2A) yn datgan y caiff rhieni nodi mwy nag un ysgol a ffefrir ganddynt, ond os oes cynllun derbyn cydlynol a luniwyd yn gyfreithiol (y darperir ar ei gyfer mewn diwygiad arall i'r Ddeddf yn Adran 89B) ar waith, nid oes angen i bob awdurdod derbyn gynnig lle i'r rhiant hwnnw cyn belled â'i fod yn cael cynnig un lle y mae wedi’i nodi fel ysgol a ffefrir. Yn absenoldeb cynllun o'r fath, mae dyletswydd ar awdurdod derbyn i gynnig lle i bob ymgeisydd os oes un ar gael, p'un a yw awdurdodau derbyn eraill hefyd yn cynnig lle ai peidio. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei defnyddio yng Nghymru.

Ein nod yw cyflymu'r broses dderbyn i ysgolion, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael cynnig lle yn brydlon, gwneud pethau'n fwy effeithlon i awdurdodau lleol, a lleihau'r ansicrwydd i rieni.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau?

Byddwn yn parhau i drafod gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn ynghylch gweithredu'r rheoliadau, os dônt i rym, ac yn monitro unrhyw adborth a gawn.

Adran A: Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Amcanion y polisi

Effaith pa benderfyniad rydych chi’n ei hasesu?

Mae Rheoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau drafft") yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun cymhwysol ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn yr ysgolion y maent yn eu cynnal, a chymryd camau penodedig i sicrhau bod y cynllun yn cael ei fabwysiadu ganddyn nhw eu hunain a chan bob corff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn ar ysgol a gynhelir yn eu hardal.

Diben Rheoliadau 2024 yw gwneud darpariaeth ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn disgyblion i ysgolion. Bwriad y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod rhieni yn cael cynnig un lle ysgol, ac un yn unig.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Nod y cynnig yw lliniaru'r ansicrwydd i rieni a'u plant wrth aros am ymateb ynghylch eu cais am le ysgol.

Gall rhieni nodi unrhyw ysgol yr hoffent i'w plentyn ei mynychu fel ysgol a ffefrir. Rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau sy’n galluogi rhieni plant yn eu hardal i nodi ysgol a ffefrir. Mae awdurdodau lleol yn cyflawni'r ddyletswydd hon drwy roi gwybodaeth i rieni sy'n cynnwys manylion yr holl ysgolion a sut i wneud cais. Pan fo rhiant yn nodi dewis yn unol â'r trefniadau hynny, bydd awdurdodau derbyn fel rheol yn cydymffurfio oni bai bod yr ysgol yn llawn, ac os felly dilynir y meini prawf goralw. 

Fel yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, mae'r awdurdod lleol yn darparu ffurflenni cais ar gyfer yr ysgolion hyn. Mae'r awdurdod lleol hefyd yn cynnwys yn ei wybodaeth i rieni y meini prawf goralw mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sy'n rhoi syniad o'r flaenoriaeth a fyddai'n cael ei rhoi i geisiadau ar gyfer yr ysgolion hynny. Mae'r awdurdod lleol yn cynghori rhieni i wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hynny gan ddefnyddio ffurflen i'w darparu gan yr ysgol, a fydd fel rheol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r meini prawf goralw penodol.

Ar hyn o bryd, mae gan bob awdurdod derbyn unigol ei drefniadau derbyn ei hun er bod Cod Derbyn i Ysgolion statudol Llywodraeth Cymru a’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion yn amlinellu dulliau cyffredin y mae'n rhaid i bob awdurdod derbyn gydymffurfio â nhw. Mae lle i amrywio, ond mewn gwirionedd, mae hyn yn tueddu i gael ei gyfyngu i feini prawf goralw pob awdurdod derbyn.

Mae gan bob awdurdod derbyn ffurflen gais ar gyfer ei ysgolion. Os yw rhiant, felly, er enghraifft, yn dymuno gwneud cais am le mewn ysgol gymunedol ac ysgol ffydd, bydd angen iddynt gwblhau dwy ffurflen gais. Ar ôl derbyn y ceisiadau, bydd pob awdurdod derbyn yn asesu eu ceisiadau yn erbyn eu meini prawf goralw penodol eu hunain, ac yn blaenoriaethu pob ymgeisydd.

Unwaith y bydd yr ymgeiswyr yn cael eu blaenoriaethu, bydd pob awdurdod derbyn yn anfon cynigion o lefydd i blant ar y dyddiad cynnig cyffredin. Gall rhai rhieni dderbyn nifer o lythyrau yn cynnig lle, felly, gan wahanol awdurdodau derbyn. Nid yw pob awdurdod lleol yn cyfyngu eu cynigion i'r prif leoliad a ffefrir, ac maent weithiau’n cynnig lle ym mhob ysgol a ffefrir sydd â lle. O dan y system bresennol, felly, nid yw'n anghyffredin i rai rhieni gael cynnig nifer o leoedd, ond gallai rhieni eraill beidio â chael unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt. 

Gan nad oes rheidrwydd ar rieni na dyletswydd gyfreithiol i gadarnhau pa gynnig y maent yn ei dderbyn, mae hyn yn atal nifer o leoedd ysgol rhag cael eu rhyddhau tan fis Medi bob blwyddyn pan ddaw'n hysbys pa ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu.

Yn aml, bydd rhieni yn apelio am leoedd mewn ysgolion a ffefrir, yn hytrach na derbyn cynnig o le mewn ysgol nad ydynt wedi’i nodi’n ysgol a ffefrir. Mae hyn yn gostus ac yn cymryd llawer o amser i awdurdodau derbyn, ac mae'n tueddu i ymestyn y cyfnod ansicrwydd. Er y gofynnir fel rheol i rieni sydd wedi cael cynnig lle i benderfynu a ydynt am dderbyn y lle o fewn terfyn amser penodol, mae awdurdodau derbyn yn buddsoddi llawer iawn o amser yn cwrso’r ymatebion hyn, weithiau'n aflwyddiannus. Mae "dal gafael" ar leoedd yn atal y broses o ddyrannu lleoedd i'r rhai sydd heb le.

Efallai y bydd rhieni plant nad ydynt wedi cael cynnig lle mewn ysgol a ffefrir yn cael gwybod wedyn bod lle iddynt wedi'r cwbl yn yr ysgol a ffefrir. Nid yn unig mae peidio â chael cynnig lle yn yr ysgol a ffefrir yn creu cythrwfl, ond hefyd yr anghyfleustra o orfod penderfynu wedyn ym mis Medi a ydynt am newid ysgol.

Mae diwygiad i Ddeddf 1998, Adran 86 (2A), yn datgan y caiff rhieni nodi mwy nag un ysgol a ffefrir ganddynt, ond os oes cynllun derbyn cydlynol a luniwyd yn gyfreithiol (y darperir ar ei gyfer mewn diwygiad arall i'r Ddeddf yn Adran 89B) ar waith, nid oes angen i bob awdurdod derbyn gynnig lle i'r rhiant hwnnw cyn belled â'i fod yn cael cynnig un lle y mae wedi’i nodi fel ysgol a ffefrir. Yn absenoldeb cynllun o'r fath, mae dyletswydd ar awdurdod derbyn i gynnig lle i bob ymgeisydd os oes un ar gael, p'un a yw awdurdodau derbyn eraill hefyd yn cynnig lle ai peidio.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig, a gall plant a phobl ifanc ymateb. O ystyried natur dechnegol y rheoliadau a'r ffaith mai ar awdurdodau derbyn y maent yn effeithio'n bennaf, nid ydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar wahân gyda phlant a phobl ifanc.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Sut y mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel y’u nodir yn erthyglau CCUHP a’i Brotocolau Dewisol?

Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun?

Sut y mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant?
Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol

Gwelliannau (X)

Heriau (X)

Esboniad

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.

 

X

 

O dan y system bresennol, nid yw'n anghyffredin i rai rhieni gael cynnig nifer o leoedd, ond gallai rhieni eraill beidio â chael unrhyw gynigion ar gyfer unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt.

Nod y rheoliadau yw llehau’r ansicrwydd o ran lleoliadau ysgol a symleiddio'r broses, i sicrhau nad yw rhieni a’u plant yn dioddef straen a phryder y gellir ei osgoi.

Cyngor i’r Gweinidog a’i benderfyniad

Sut bydd eich dadansoddiad o’r effeithiau hyn yn cyfrannu at eich cyngor i Weinidogion?

Rydym yn hyderus bod yr asesiad effaith wedi nodi effeithiau cadarnhaol ar blant a phobl ifanc, felly byddwn yn cynghori'r Gweinidog i fwrw ymlaen i ymgynghori.

Cyfathrebu â Phlant a Phobl ifanc

Os ydych wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ynglŷn â’ch cynnig, sut y byddwch yn rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?

Mae'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn fabwysiadu cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn. Nid yw'r broses gais wedi newid i rieni a phobl ifanc (yn achos y chweched dosbarth).

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig, a gall plant a phobl ifanc ymateb. O ystyried natur dechnegol y rheoliadau a'r ffaith mai ar awdurdodau derbyn y maent yn effeithio'n bennaf, nid ydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar wahân gyda phlant a phobl ifanc.

Monitro ac Adolygu

Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau derbyn i fonitro effaith y rheoliadau, ac yn eu hadolygu yn unol â hynny.