Neidio i'r prif gynnwy

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolwr ar unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn ystod eich cofrestriad ar gyfer y rhaglen cydlunio hon, ac wrth ichi gymryd rhan ynddi.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus.

Beth ydym ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth

Yn ein cylch gwaith fel rheolwr, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a dderbynnir at y dibenion isod.

Trefnu'r rhaglen cydlunio:

  • anfon manylion atoch ynglŷn â'r rhaglen o gyd-ddylunio;
  • gofyn am eich cyfranogiad yn ystod y rhaglen o gyd-ddylunio a gweithgareddau ymgysylltu dilynol;
  • anfon manylion unrhyw ddigwyddiad y gallwch ei fynychu fel rhan o'r rhaglen;
  • anfon deunydd atoch ar ôl i chi fynychu unrhyw ddigwyddiadau, lle bo hynny'n briodol;
  • cofnodi presenoldeb a chofnodion y digwyddiadau ymgysylltu y gallech eu mynychu.

Dibenion ystadegol ac ymchwil:

  • llywio, dylanwadu a gwella polisi rheoli tir;
  • targedu cyllid yn effeithiol.

Dibenion cyhoeddi (a gyflawnir mewn ffordd sy'n sicrhau na ellir adnabod unigolion):

  • cyhoeddi crynodeb o'r safbwyntiau (dienw) a fynegwyd gan gyfranogwyr yn y rhaglen o gyd-ddylunio.

Dibenion ymgysylltu yn y dyfodol:

  • nodi unigolion y dylid cysylltu â hwy ar gyfer ymgysylltu cysylltiedig yn y dyfodol sy'n ymwneud â Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac is-ddeddfwriaeth ddilynol sy'n ymwneud â'r Bil.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r rhaglen ymgysylltu hon yn ymwneud â hwy, neu gan y staff hynny sy'n cynllunio ymgysylltu yn y dyfodol. Bydd eich data personol hefyd yn cael ei weld yn llawn gan drydydd partïon achrededig sy'n cynorthwyo gyda'r rhaglen ymgysylltu ar ran Llywodraeth Cymru.

Os bydd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu yn y dyfodol gan ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol, yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd partïon achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Os cyhoeddir eich barn ddienw fel rhan o'r crynodeb o'r rhaglen ymgysylltu, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw wrth i ni ddatblygu Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac is-ddeddfwriaeth ddilynol a pherthnasol.  Ni chedwir unrhyw ran o'ch data gan Lywodraeth Cymru am fwy na phum mlynedd.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • cael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch ac i'w gyrchu
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
  • i (o dan rai amgylchiadau) gludadwyedd data
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'r defnydd ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod.

Manylion Cyswllt

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/