Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) ddoe i barhau i drafod y trefniadau cyllid a fydd yn cael eu rhoi ar waith pan fydd pwerau treth newydd yn cael eu datganoli i Gymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth treth dirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018 ac mae Deddf Cymru 2014 yn galluogi i dreth incwm gael ei datganoli'n rhannol.

Roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus David Gauke AS yn cynrychioli Llywodraeth y DU ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.

 

Fe gafodd y Gweinidogion drafodaeth adeiladol ynghylch amrywiol opsiynau ar gyfer y trefniadau cyllid newydd. Ystyriwyd yn benodol sut y dylai'r grant bloc gael ei addasu yn sgil datganoli treth, a pherthynas hynny gyda fformiwla Barnett a'r cyllid gwaelodol.

 

Hefyd bu'r Gweinidogion yn trafod o dan ba amgylchiadau y dylai effeithiau penderfyniadau ar bolisiau treth arwain at drosglwyddo cyllid rhwng llywodraethau.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd, ar ôl Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU.

 

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

 

25 Hydref 2016