Mae prosiect newydd gwerth £2.15m i helpu ffermwyr eidion a defaid i weld sut y gallen nhw wella'u busnesau a pharatoi ar gyfer Brexit yn dechrau heddiw.
Bydd y prosiect Meincnodi Cig Coch (dolen allanol), o dan nawdd Cronfa Bontio'r UE Llywodraeth Cymru, yn helpu 2,000 o ffermwyr i ddeall perfformiad technegol ac ariannol eu busnes a sicrhau eu bod yn gystadleuol mewn marchnad gyfnewidiol.
Hybu Cig Cymru fydd yn rheoli'r prosiect a bydd ffermwyr yn cael bwydo gwybodaeth am eu busnes o heddiw ymlaen. Bydd y prosiect ar agor am ddau fis, ac yn cau 10 Rhagfyr.
Mae cynhyrchwyr cymwys ledled Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan trwy lenwi holiadur ar-lein ar berfformiad ariannol a ffisegol eu busnesau ym mlynyddoedd ariannol 2016-17-2017-18. Y cyntaf i'r felin fydd yn cael cymryd rhan.
Bydd y ffermwyr, am gymryd rhan, yn cael asesiad o'u busnes a'u cynhyrchiant a fydd yn cynnwys eu cymharu'n ddi-enw â busnesau tebyg yn y sector. Bydd y ffermwyr sy'n cymryd rhan yn cael tâl o £1,000 am eu hamser.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Prin chwe mis sydd i fynd erbyn hyn cyn bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae perygl mawr y gallwn adael heb gytundeb. Dyw'r angen i baratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit erioed wedi bod yn fwy.
"Fel Llywodraeth, rydyn ni wastad wedi dweud y gwnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi'r sector amaeth i baratoi ac i addasu i'r heriau a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig. Yn gynharach eleni, cyhoeddais y byddwn yn neilltuo £2.15m ar gyfer prosiect meincnodi cig coch newydd i helpu ffermwyr eidion a defaid i wneud hynny.
"Gan ddilyn gwaith llwyddiannus ein prosiect ar gyfer Ffermwyr Godro, bydd y system yn helpu dwy fil o ffermwyr eidion a defaid i feincnodi eu perfformiad technegol ac ariannol a nodi lle gallai'u busnes wella.
"O heddiw ymlaen, mae ffermwyr eidion a defaid yn cael bwydo'u data a chael asesiad personol o'u busnes. Bydd y prosiect ar agor am ddau fis ac rwy'n pwyso ar bob ffermwr sy'n gymwys i ddysgu mwy a chymryd rhan yn y prosiect.
"Mae hwn yn fuddsoddiad hanfodol i'r sector ar adeg anodd. Bydd yn helpu ffermwyr eidion a defaid i barhau'n gystadleuol mewn byd cyfnewidiol, i wneud yn fawr o bob cyfle ac i sicrhau eu bod yn gallu llwyddo mewn byd ar ôl Brexit."
Dywedodd Rheolwr Datblygu Diwydiant Hybu Cig Cymru, John Richards:
"Dyma gyfle i'r cynhyrchydd cig coch gymryd cam yn ôl i asesu cyflwr ariannol ei fusnes ac edrych yn fanwl ar sut y mae'n gwneud. A ninnau ar drothwy Brexit, mae'n hanfodol bod ein busnesau mewn cyflwr ariannol dda. Mae'n bryd nawr i'n sector dorchi'i lewys a chyfrannu at y darlun mawr.
Fe fydd buddiannau i ffermwyr sy'n rhoi o'u hamser i gymryd rhan yn y prosiect; byddan nhw'n cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau doeth am eu busnesau i'w gwneud yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol. Gallai hynny arwain at fusnesau mwy hyderus a chystadleuol yn y dyfodol."