Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gyda’i gilydd wedi cychwyn proses ffurfiol i ddatrys yr anghydfod â Llywodraeth y DU dros bargen â Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gyda’i gilydd wedi cychwyn proses ffurfiol i ddatrys yr anghydfod â Llywodraeth y DU dros eu hawl i gael cyllid canlyniadol wedi i Brif Weinidog y DU lunio bargen â Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud yn glir bod yn rhaid i unrhyw gyllid ychwanegol i Ogledd Iwerddon barchu'r egwyddorion cyllido a'r rheolau a weithredir drwy gyfrwng fformiwla Barnett.
Drwy weithredu fformiwla Barnett yn y modd arferol, byddai Cymru'n cael £1.67 biliwn yn ychwanegol, a'r Alban yn cael £2.9 biliwn yn ychwanegol.
Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, ac Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth yr Alban, Derek Mackay, wedi ysgrifennu at y Trysorlys yn galw am weithredu proses ffurfiol i ddatrys yr anghydfod drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Rydyn ni wedi nodi'n glir wrth Lywodraeth y DU bod yn rhaid i unrhyw gyllid ychwanegol sy’n cael ei roi i Ogledd Iwerddon barchu'r egwyddorion cyllido a'r rheolau sydd ar waith drwy gyfrwng fformiwla Barnett.
"Mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar y trefniadau hyn sydd wedi'u hen sefydlu, a hynny ar draul Cymru a rhannau eraill o'r DU.
"Mae'r trefniadau sydd wedi'u cynnig i Ogledd Iwerddon yn effeithio'n uniongyrchol ar feysydd sydd wedi'u datganoli. Am y rheswm hwn, dylai pob rhan o'r DU gael manteisio ar yr arian ychwanegol.
"Drwy weithredu fel hyn, mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar Gymru i fuddsoddi mewn seilwaith, yn y gwasanaeth iechyd ac yn y system addysg, gan felly amddifadu Cymru o £1.67 biliwn o gyllid ychwanegol.
"Mewn cyfnod pan fo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o dan bwysau oherwydd polisi cyni parhaus a niweidiol Llywodraeth y DU, mae'n hollol briodol bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid drwy reolau fformiwla Barnett.
"Er gwaethaf ei holl wendidau, bwriad fformiwla Barnett yw bod yn glir a gweithredu drwy ddilyn rheolau. Mae'n anfaddeuol bod Llywodraeth y DU yn fodlon "osgoi" y rheolau hynny. Dyna pam ein bod wedi cychwyn proses ffurfiol i ddatrys yr anghydfod â'r llywodraeth er mwyn i Gymru gael ei thrin yn deg ochr yn ochr â phob gwlad yn y DU."
Dywedodd Derek Mackay:
“Mae Llywodraeth yr Alban yn anghytuno’n sylfaenol â’r ffordd y mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i ddyrannu i Ogledd Iwerddon. Rydyn ni wedi dweud dro ar ôl tro bod yr holl feysydd y mae’r pecyn cyllido £1 biliwn wedi’u dyrannu iddynt yn rhai sydd wedi’u datganoli ac y dylai fformiwla Barnett fod yn berthnasol, felly.
“Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth y DU yn dadlau na ddylai unrhyw symiau Barnett ddeillio o’r fargen hon ac mae’n gwrthod cydnabod y bydd yr Alban, Cymru a Lloegr ar eu colled o filiynau o bunnoedd.
“Nid yw hynny’n iawn – ac mae’r fargen yn mynd yn groes i egwyddorion datganiad polisi cyllido Trysorlys y DU.
“Mae unrhyw awgrym bod y trefniant cyllido hwn yn debyg i’r cyllid blaenorol a roddwyd i fargeinion dinesig yn yr Alban yn anghywir ac nid oes modd cymharu’r ddau beth. Mae’r cyllid sy’n cael ei roi i fargeinion dinesig yn amodol ar y gweinyddiaethau datganoledig yn rhoi arian cyfatebol o’u cyllidebau eu hunain, ac mae hefyd angen cyfraniadau gan awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol eraill. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU wedi addo bargeinion dinesig i Ogledd Iwerddon yn ychwanegol at y £1 biliwn o wariant ychwanegol.
“Rwy’n parhau i obeithio y bydd modd inni ddod i gytundeb boddhaol ynghylch y sefyllfa hon a fydd yn golygu y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ffordd deg a rhesymol i’r Alban, Cymru a Lloegr. Ond er mwyn dod i gytundeb o’r fath, mae angen i ni weithredu proses ffurfiol i ddatrys yr anghydfod.”