Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o’r rheoliadau coed a’r newidiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflawniad

Mae cwympo coed yn rhan angenrheidiol o waith rheoli coetiroedd cynaliadwy. Mae'n caniatáu i ni gynaeafu carbon sydd wedi'i gloi mewn pren at sawl diben. 

Mae tir sydd wedi’i glirio o goed yn cael ei ailblannu er mwyn cloi rhagor o garbon. 

Mae dulliau cynaliadwy o reoli coetir yn cyfrannu at gynnal a gwella cyflwr ein coetiroedd.

Rheoli cwympo coed

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rheoleiddio gweithgareddau cwympo coed, trwy Ddeddf Coedwigaeth 1967.

Rhaid ichi gael trwydded cyn cwympo coeden fyw, er bod rhai eithriadau i hyn. 

Dysgwch fwy am yr eithriadau ac edrychwch a oes angen trwydded gwympo ar wefan CNC

Deddf Coedwigaeth 1967 sy’n rhoi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cwympo coed yng Nghymru a Lloegr.  Mae’n disgrifio’r drefn a’r pwerau mewn perthynas â: 

  • thrwyddedau cwympo
  • gorchmynion cadw coed
  • cyfarwyddiadau cwympo, ac
  • apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan y ddeddf

Mae hefyd yn rhestru dyletswyddau a phwerau CNC o ran:

  • rheoleiddio gweithgareddau cwympo coed
  • datblygu cynlluniau creu coetir
  • rheoli cynhyrchu a chyflenwi pren a chynnyrch coedwigaeth eraill

Pwerau newydd

O dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, mae dyletswydd hefyd ar CNC i daro cydbwysedd rhesymol rhwng plannu a rheoli coed a chynhyrchu pren, a diogelu bioamrywiaeth a’r amgylchedd.

I’w helpu â’r ddyletswydd hon, cafodd Deddf Coedwigaeth 1967 ei newid. Mae gan CNC bellach y pwerau i:

  • ychwanegu amodau amgylcheddol at drwydded gwympo i ddiogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd wrth gwympo coed
  • newid, atal neu ddirymu trwydded gwympo ar ôl ei rhoi os gwelir bod rhywbeth yn annerbyniol. Er enghraifft:
  • yr angen i newid rhywogaeth coeden i'w hailblannu yn sgil risg o glefyd, neu
  • sensitifedd annisgwyl yn dod i'r amlwg megis presenoldeb rhywogaeth warchodedig, neu
  • niwed amgylcheddol yn digwydd yn ystod gweithrediadau cwympo coed

Pryd a sut y caiff y pwerau newydd hyn eu gwneud

Rhaid i bob cais am drwydded cwympo sy’n cyrraedd ar ôl 1 Ebrill 2024 fodloni’r pwerau newydd hyn.

Mae CNC wedi llunio canllawiau ar y ffordd y byddant yn rhoi’r pwerau newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys: 

Caiff swyddogion Rheoleiddio Coetir CNC archwilio safle:

  • i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded gwympo, neu 
  • i ymchwilio os cafodd coed eu cwympo heb drwydded gwympo

Gallai CNC roi rhybudd ffurfiol i chi ddelio â phroblem os nad ydych wedi gallu ei datrys trwy drafod. Bydd yn rhoi’r ffurflen apelio berthnasol i chi a’r manylion ble i’w hanfon. 

Apelio yn erbyn penderfyniad gan CNC

Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad gafodd ei wneud gan CNC, rhaid dilyn proses ffurfiol. 

Cyn dechrau ar y broses apelio ffurfiol, rydyn ni’n eich cynghori i drafod eich achos gyda Swyddog Rheoleiddio Coetir CNC. Gallai hyn ddatrys y mater a dylech wneud hynny cyn gynted ag y medrwch. Dim ond 3 mis sydd gennych i apelio, gan ddechrau ar y diwrnod y cawsoch y penderfyniad neu’r rhybudd gan CNC. 

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut i apelio yn erbyn penderfyniad cwympo coed