Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut gallwch chi apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cwympo coeden.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn ichi apelio

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch trwyddedau cwympo coed. 

Bydd yna adegau pan fyddwch am apelio yn erbyn penderfyniad CNC. Cyn apelio, dylech drafod eich achos gyda Swyddog Rheoleiddio Coetir CNC. Gwnewch hyn cyn gynted ag y medrwch gan y gallech ddatrys eich problem. Os ydych am dal ati i apelio, rhaid ichi wneud hynny o fewn 3 mis ar ôl y diwrnod y gwnaethoch chi dderbyn yr hysbysiad neu’r penderfyniad. 

Pryd cewch chi apelio

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cwympo coed os cafodd y penderfyniad ei wneud o dan adrannau canlynol Deddf Goedwigaeth 1967: 

Fe welwch grynodeb o'r rhain yn Neddf Coedwigaeth 1967: hawliau a rhesymau dros apelio. Maen nhw'n cael eu disgrifio'n fanwl hefyd yn Neddf Coedwigaeth 1967 (ar gov.uk).

Fyddwn ni ddim yn gallu ystyried eich apêl os:

  • nad oes gennych yr hawl i apelio, neu
  • os nad yw’ch rhesymau dros apelio yn berthnasol. 

Gall awdurdodau lleol hefyd wrthwynebu os yw'r hysbysiad a gyflwynir i chi yn effeithio ar goed neu goetir sy'n dod o dan Orchymyn Diogelu Coed (TPO). Os felly, bydd CNC yn trafod hyn gyda chi.

Y dyddiad cau ar gyfer apelio

Rhaid i chi apelio o fewn 3 mis o'r diwrnod ar ôl i chi gael yr hysbysiad neu'r penderfyniad. Fyddwn ni ddim yn ystyried apêl sy’n cyrraedd yn hwyr. Yr eithriad yw pan ddylai hysbysiad sy'n atal trwydded cwympo coed fod wedi dod i ben cyn i'r cyfnod atal ddod i ben. Er enghraifft, pan fydd yr amodau wedi’u bodloni, gan felly cael gwared ar y rhesymau dros atal y drwydded, ond bod y cyfnod atal yn hirach na'r cyfnod apelio o 3 mis. Mewn achos o'r fath, cewch apelio unrhyw bryd yn ystod y cyfnod atal. Bydd yr angen i gydymffurfio â hysbysiad yn cael ei ohirio nes bod yr apêl wedi'i chwblhau. Yr eithriad yw pan fydd "meini prawf argyfwng" ar waith. Sef pan fydd CNC o'r farn bod yr hysbysiad yn angenrheidiol i ymateb i risg difrifol o niwed i:

  • harddwch naturiol
  • fflora
  • ffawna
  • nodweddion daearegol
  • nodweddion ffisiograffigol
  • cynefinoedd naturiol 

Bryd hynny, daw'r hysbysiad i rym ar ddyddiad ei roi. Byddai angen i chi gydymffurfio â'r hysbysiad o'r dyddiad y daw i rym. Ond bydd dal gennych yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad os ydych am wneud hynny.

Sut i apelio

Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer rhesymau gwahanol dros apelio. Bydd CNC yn amgáu’r ffurflen apelio berthnasol a’r cyfarwyddiadau ar sut i apelio pan fydd yn:

  • anfon penderfyniad, neu 
  • hysbysiad atoch

Efallai y byddwch am gael cyngor arbenigwr pan fyddwch yn apelio ond nid yw hyn yn orfodol. 

Beth sy’n rhaid ichi ei ddarparu

I gyflwyno apêl, rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol:

  • ffurflen apelio berthnasol, wedi'i llenwi, gan nodi’r rhesymau perthnasol dros apelio 
  • copi o'r hysbysiad neu'r penderfyniad
  • copi o'r cyfarwyddyd neu'r drwydded cwympo coed wreiddiol 
  • map yn dangos yr ardal sy'n dod o dan apêl 
  • copi o unrhyw TPO sy'n effeithio ar safle'r apêl a manylion cyswllt yr awdurdod lleol perthnasol
  • unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn teimlo sy'n berthnasol i'ch achos

Anfonwch yr wybodaeth hon:

Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd
d/o Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth
Y Gangen Polisi Adnoddau Coedwigaeth
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Anfonwch gopi o'r ffurflen hefyd at CNC:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Ar ôl apelio

Byddwn yn cadarnhau bod eich apêl yn ddilys a’i bod wedi’n cyrraedd mewn pryd.

Os nad yw’ch apêl yn ddilys, byddwn yn sgrifennu atoch i esbonio pam ein bod yn gwrthod eich apêl.

Os bydd eich apêl yn ddilys, byddwn yn:

  • cydnabod ei bod wedi cyrraedd
  • rhoi mwy o fanylion am y broses apelio a gallwn ofyn am ragor o wybodaeth
  • sgrifennu at CNC a gofyn iddyn nhw roi gwybodaeth ar gyfer yr apêl
  • trefnu panel o 3 neu 4 o arbenigwyr annibynnol i glywed eich apêl ar ddyddiad cyfleus
  • trefnu ymweliad â’r safle os byddwch chi neu’r panel yn gofyn am hynny
  • rhannu’r holl dystiolaeth y byddwch chi ac CNC wedi’i darparu rhwng yr holl bartïon cyn y gwrandawiad
  • eich gwahodd i’r gwrandawiad i ddadlau’ch achos, yn bersonol neu trwy gyfarfod rhithwir. Bydd y panel o arbenigwyr yn clywed tystiolaeth CNC hefyd. 
  • gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.

Bydd y panel yn gwneud argymhellion. Bydd Dirprwy Brif Weinidog yn eu hystyried ac yn penderfynu ar y mater. 

Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch o ganlyniad yr apêl a’r rhesymau sy’n sail i’r penderfyniad. 

Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, efallai y bydd gennych hawl i iawndal. Dysgwch fwy yma: Pam y gallwn atal neu ddirymu eich trwydded cwympo coed (ar naturalresources.wales).

Os byddwch yn anghytuno â’r penderfyniad

Os nad oedd eich apêl yn llwyddiannus, rhaid i chi gydymffurfio â phenderfyniad gwreiddiol CNC a/neu delerau'r hysbysiad a roddwyd i chi. Gall peidio â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi neu gosb gan CNC. 

Mae penderfyniad Dirprwy Brif Weinidog yn derfynol. Dim ond ar bwynt cyfreithiol y gellir ei herio yn yr Uchel Lys (a elwir yn "adolygiad barnwrol"). Rhaid cael caniatâd y Llys i wneud hynny. Dylech holi barn gyfreithiol annibynnol i gael rhagor o wybodaeth os bydd hyn yn digwydd.