Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar y canllawiau diwygiedig, Ymlaen â'r daith: disgwyliadau ar gyfer datblygu'r cwricwlwm yn barhaus a’i adolygu, a gyflwynir yn lle adran Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm (canllawiau’r Fframwaith).

Cyhoeddwyd canllawiau y Fframwaith ym mis Ionawr 2020. Cyn iddo gael ei gyhoeddi, bu'n destun ymgynghori eang a helaeth.

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddwyd Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022, yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion o ran y broses o gynllunio eu cwricwlwm a pharatoi i’w weithredu o 2022 ymlaen.

Y daith i weithredu’r cwricwlwm yw'r fersiwn ddiweddaraf o'r adran hon o'r canllawiau.

Dechreuodd pob ysgol gynradd a thua hanner yr ysgolion uwchradd ddefnyddio'r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022. Mae pob ysgol yn defnyddio'r Cwricwlwm i Gymru gyda disgyblion hyd at flwyddyn 8 o fis Medi 2023. Bydd hyn yn cael ei ehangu fesul blwyddyn hyd at 2026, pan fydd y Cwricwlwm i Gymru yn sail i addysgu a dysgu pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed.

Yn 2022, cyflwynwyd proses o ddiweddaru canllawiau y Fframwaith bob blwyddyn ar Hwb, gan arwain at gyhoeddi'r diweddariadau cyntaf ar-lein ddiwedd mis Ionawr 2023. Ystyrir mai diwedd mis Ionawr yw'r adeg fwyaf manteisiol o'r flwyddyn academaidd i ddiweddaru canllawiau ar y cwricwlwm. Mae'n osgoi dechrau tymor y gwanwyn ac yn golygu bod ysgolion a lleoliadau yn cael gwybodaeth ddiwygiedig mewn da bryd i lywio eu gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn academaidd ddilynol, a wneir fel arfer yn ystod tymor y gwanwyn a dechrau tymor yr haf.

Diweddarwyd Y daith i 2022 ddiwethaf ym mis Ionawr 2023 er mwyn adlewyrchu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm o fis Medi 2022. Y daith i weithredu’r cwricwlwm, sy'n rhan o’r Fframwaith ar hyn o bryd, yw'r fersiwn ddiweddaraf o'r adran hon o'r canllawiau. Ffocws yr ymgynghoriad hwn yw diweddariadau arfaethedig i'r adran hon o'r canllawiau ar gyfer mis Ionawr 2024 i adlewyrchu hynt ysgolion a lleoliadau ar eu taith i weithredu'r cwricwlwm.

Lluniwyd y diweddariadau arfaethedig i'r adran hon o'r canllawiau gan ymarferwyr a phartneriaid eraill er mwyn helpu ysgolion (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau eraill) i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm, a'i adolygu'n barhaus. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r broses gyd-ddatblygu. Mae'n gyfle i ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill gynnig mewnbwn a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r adran hon o'r canllawiau. Mae'r negeseuon a'r disgwyliadau yn y canllawiau diwygiedig yn gyson â fersiynau blaenorol a'r Fframwaith yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, mae'r diwygiadau arfaethedig i'r adran hon yn ei gwneud hi'n llawer byrrach a mwy penodol, fel ei bod yn haws i ymarferwyr ei defnyddio. Gwnaed hyn drwy ddefnyddio hyperddolenni i rannau eraill o'r canllawiau ar y cwricwlwm a deunyddiau ategol, yn hytrach nag ailadrodd gwybodaeth.

Cyhoeddwyd Y Daith i Weithredu fel canllawiau anstatudol i ddangos nad oedd y Cwricwlwm i Gymru, bryd hynny, yn cael ei weithredu ym mhob ysgol. Bwriedir i'r fersiwn hon, Ymlaen â'r daith, fod yn rhan o ganllawiau statudol ochr yn ochr ag adrannau eraill o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y cyfnod adborth hwn yn dod i ben ar 18 Tachwedd 2023 ac, wedi hynny, bydd Llywodraeth Cymru, grŵp o ymarferwyr a phartneriaid eraill yn mynd ati i ystyried yr holl ymatebion. Yna, bydd y canllawiau drafft yn cael eu diwygio ar y cyd ag ymarferwyr a phartneriaid mewn ymateb i'r adborth a gafwyd, a bydd yn rhan o ddiweddariad i ganllawiau’r Fframwaith ym mis Ionawr 2024.

Sut i ymateb

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad os gwelwch yn dda. Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy'r post neu e-bost i'r cyfeiriad isod erbyn 18 Tachwedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar llyw.cymru/ymgyngoriadau.

Mae'r canlynol yn ganllawiau drafft yr ydym yn gwahodd adborth arnynt.

Ymlaen â'r daith: disgwyliadau ar gyfer datblygu'r cwricwlwm yn barhaus a'i adolygu

1. Diben yr adran hon

Lluniwyd yr adran hon o'r canllawiau er mwyn helpu ysgolion (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau eraill) i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm, a'i adolygu'n barhaus. Bwriedir iddi roi canllawiau ar y modd y dylai ysgolion gynllunio a threfnu'r ffyrdd y byddant yn bodloni disgwyliadau'r cwricwlwm.

Mae hefyd wedi'i llunio gan ystyried yr holl ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion, a bydd o ddefnydd iddynt.

Nid yw wedi'i hanelu'n benodol at feithrinfeydd a ariennir nas cynhelir ond gall y canllawiau hyn fod o ddefnydd iddynt o hyd, ochr yn ochr â'r canllawiau Trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Bydd angen i bob ymarferydd fod yn hyderus o ran ei ddealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith y Cwricwlwm) cyn datblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer ei gyd-destun ei hun.

Bydd yr adran hon o'r canllawiau yn ffurfio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm. Pennir Fframwaith y Cwricwlwm ar sail genedlaethol ac mae'n cynnwys gofynion y cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth, ac amrywiaeth o ganllawiau ategol.

Gan mai canllawiau a gyhoeddir o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yw'r rhain, maent yn ganllawiau statudol ac, felly, rhaid i'w cynulleidfa darged eu hystyried wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno. Ym mhob rhan o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm, defnyddiwn y gair 'dylai' yn rheolaidd wrth gyfeirio at y disgwyliadau a nodir yn y canllawiau statudol hyn. Mae'r gair hwnnw yn cyfeirio at gamau yr argymhellwn yn gryf y dylai ysgolion eu cymryd. Nid yw'n nodi gofynion mandadol. Gan fod yr argymhellion hyn yn rhan o ganllawiau statudol, rhaid i ysgolion eu hystyried. Fodd bynnag, gyda rheswm da, gallant benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol.

Wrth gwrs, mater i bob ysgol fydd ystyried beth fydd yn gweithio orau yn ei lleoliad ei hun. Bydd angen pwyso a mesur yr holl ffactorau ac mae'n bosibl y bydd sefyllfaoedd lle y bydd lleoliad am fabwysiadu polisi gwahanol neu broses wahanol. Bydd rhyddid i leoliad lunio ei bolisi ei hun os bydd ganddo reswm da dros wneud hynny.

Diben y canllawiau statudol hyn yw helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu'r prosesau sefydliadol o ddatblygu ac adolygu eu cwricwlwm. Bwriedir iddynt helpu ysgolion i gynllunio a threfnu eu cwricwlwm wrth gyflawni eu dyletswyddau i wneud hynny, yn hytrach na nodi'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud yn benodol i'w gynllunio a'i adolygu.

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cymorth ychwanegol ar agweddau penodol ar y cwricwlwm y mae ysgolion wedi gofyn am ragor o fanylion yn eu cylch, fel cynnydd. Wrth gwrs, dylid darllen y canllawiau yng nghyd-destun dyletswyddau ehangach ysgolion a gweddill Fframwaith y Cwricwlwm.

I gael canllawiau manwl ar ddisgwyliadau Fframwaith y Cwricwlwm a sut i'w ddefnyddio i gynllunio eich cwricwlwm, gweler:

Canllawiau statudol:

Canllawiau anstatudol:

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ar gael i gefnogi'r broses o gynllunio'r cwricwlwm:

Bydd cymorth a gynigir gan bartneriaid, yn arbennig consortia rhanbarthol, partneriaethau ac awdurdodau lleol, yn adeiladu ar y canllawiau hyn. Amlinellir y cymorth hwn, a'r ffordd rydym yn disgwyl i ysgolion a phartneriaid weithio er mwyn helpu i wireddu'r cwricwlwm, yn Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Gweithredu.

2. Blaenoriaethau ar gyfer datblygu'r cwricwlwm a dysgu

Cwricwlwm ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam rydyn ni’n ei addysgu.

Egwyddor allweddol Cwricwlwm i Gymru yw ei fod yn seiliedig ar ddiben, mae deall pam y mae agweddau penodol ar ddysgu yn bwysig yn hanfodol i ddatblygu cwricwla ystyrlon. Mae cynnydd dysgwyr drwy'r cwricwlwm yn ganolog i'w datblygiad, ac mae asesu priodol yn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r cynnydd hwnnw a'r camau nesaf. Dylai'r cynnwys penodol sy’n cael ei gyflwyno i ddysgwyr eu helpu i ddeall diben y dysgu a’u cefnogi i wneud cynnydd.

2.1 Rôl arweinyddiaeth yn y broses gynllunio

Mae arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel mewn ysgol yn hanfodol er mwyn gwireddu Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus. Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn amlinellu'r disgwyliad y dylai pob ymarferydd yng Nghymru ddangos arweinyddiaeth drwy bob agwedd ar ei ymarfer proffesiynol er mwyn gwneud y canlynol:

  • datblygu diwylliant ar gyfer newid sy'n ymgorffori datblygu ar y cyd a ffyrdd disgwyliedig o weithio
  • blaenoriaethu amser ar gyfer deialog proffesiynol sy'n galluogi cymuned gyfan yr ysgol i ddeall newid ac ymrwymo iddo
  • cydnabod pwysigrwydd neilltuo amser a gwneud ymdrech i feithrin dealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm ar draws yr ysgol a chymryd camau i sicrhau bod hyn yn digwydd
  • defnyddio cynllun datblygu’r ysgol i bennu blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r hyn sydd ei angen i wireddu Cwricwlwm i Gymru yn yr ysgol
  • sicrhau cydweithio ystyrlon ac ymrwymiad cyffredin ar draws y continwwm 3 i 16
  • sicrhau cyfnod pontio effeithiol a chynnydd i bob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • osgoi creu polisïau ynghylch y cwricwlwm neu ddogfennaeth benodol neu ar wahân ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad (Maes), disgyblaeth pwnc, neu agwedd ar ddysgu, oni bai bod hyn yn ddefnyddiol i ymarferwyr, dysgwyr a chymuned yr ysgol

2.2 Datblygu cwricwlwm â diben

Dylai'r pedwar cwestiwn canlynol fod wrth wraidd pob cam o'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm – o drefniadau ysgol gyfan i gynllunio o ddydd i ddydd:

  • Diben: beth dylai ein dysgwyr ei ddysgu a pham?
  • Cynnydd: sut dylai cynnydd yn y dysgu hwnnw edrych?
  • Asesu: sut dylen ni asesu'r cynnydd hwnnw?
  • Addysgeg: sut mae ein hymarfer o ddydd i ddydd yn cefnogi ein cwricwlwm?

Bwriedir i'r cwestiynau hyn helpu ysgolion i nodi anghenion newidiol eu dysgwyr a'u cymunedau, ac ymateb iddynt.

Gall y deunyddiau ategol Dysgu â diben: cefnogi cyfnodau pontio ar hyd y continwwm 3 i 16 helpu ysgolion i gynllunio proses bontio effeithiol i bob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16.

Mae iechyd a lles dysgwyr yn ystyriaeth allweddol wrth fynd i'r afael â'r pedwar cwestiwn hwn. Mae'n sail i anghenion dysgwyr, gan alluogi dysgwyr i wneud cynnydd, ac yn rhan o'r broses o ddeall y cynnydd hwnnw. Wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm, bydd deall sut mae'n effeithio ar les dysgwyr ac yn ei gefnogi, yn allweddol i sicrhau dysgu llwyddiannus.

2.3 Diben: beth y dylai ein dysgwyr ei ddysgu a pham?

Dylai fod diben clir i bob cam o'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Mae gofyn pam y mae agweddau ar ddysgu yn bwysig, gan gynnwys gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol, yn helpu i roi ffocws i waith cynllunio ac i sicrhau bod dysgwyr yn deall diben yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut mae'n cyfrannu at gyflawni'r pedwar diben. Bydd pam y mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn dibynnu'n rhannol ar fannau cychwyn dysgwyr, eu hanghenion, a'u dysgu a'u profiadau blaenorol. Mae'r broses o gynnwys dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â'u hanghenion a nodi'r dysgu sy'n bwysig iddynt wedi'i hadlewyrchu yn yr egwyddorion addysgegol sy'n hanfodol er mwyn i bob dysgwr yng Nghymru gyflawni'r pedwar diben.

Mae gofyn ‘pam’ yn helpu ymarferwyr i ddeall y canlynol:

  • sut mae dysgu, gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn helpu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben
  • sut mae dysgu, gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn gysylltiedig â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig neu gysyniadau pwnc-benodol
  • sut mae dysgu, gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu
  • sut y gellir gwneud gwybodaeth a sgiliau yn soffistigedig ac yn heriol i ddysgwyr, fel sy'n briodol, dros amser
  • perthnasedd gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol i ddysgwyr

Mae canllawiau manylach ar ddewis yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau ar gyfer dysgu pwrpasol yn eich cyd-destun wedi'u nodi yng nghanllawiau Fframwaith y Cwricwlwm, yn enwedig yn adran Cynllunio eich cwricwlwm.

2.4 Cynnydd: Sut dylai cynnydd yn y dysgu hwnnw edrych?

O fewn Fframwaith y Cwricwlwm, rhaid i'r egwyddorion cynnydd a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig lywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer cynnydd yn uniongyrchol. Yn ymarferol, dylai fod rhesymeg glir dros y ffordd y bwriedir i ddysgwyr feithrin a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth dros amser, a hynny wrth ddysgu mewn unrhyw faes. Yn benodol, mae hyn yn golygu deall sut y bydd y dysgu yn helpu i gynyddu lled a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth o syniadau a disgyblaethau yn y meysydd, a mireinio eu sgiliau er mwyn helpu unigolion i ddod yn ddysgwyr mwy effeithiol sy'n cael cyfleoedd cynyddol i gymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau newydd. Gall ystyried cynnydd dysgwyr yn y ffyrdd hyn gynnig iaith gyson i drafod cynnydd, a gall helpu i lywio a threfnu deialog proffesiynol am gynnydd dysgwyr mewn ffyrdd mwy ystyrlon.

Drwy ddefnyddio’r egwyddorion cynnydd, gall ysgolion nodi ac ystyried y dysgu disgyblaethol yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer pob Maes, yn ogystal â myfyrio ar soffistigeiddrwydd cynyddol y sgiliau trawsgwricwlaidd a'r sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben.

Mae deunyddiau ategol ar gael sy'n cynnig enghreifftiau ymarferol o'r broses hon:

Mae gweithio mewn clystyrau a rhwydweithiau yn hanfodol i sicrhau cynnydd.

Er mwyn cefnogi'r broses o ystyried cynnydd, bydd yr adnoddau a ddatblygwyd drwy brosiect Camau i'r Dyfodol hefyd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Er mwyn cefnogi'r broses o gynllunio'r cwricwlwm, bwriedir i'r disgrifiadau dysgu, sydd wedi'u trefnu'n gamau cynnydd, helpu ymarferwyr i ddeall sut dylai cynnydd dysgwyr edrych. Maen nhw’n dangos cyflymder cynnydd yn fras er mwyn cefnogi ymarferwyr a llywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm a dysgu ac addysgu. Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylech ddefnyddio'r disgrifiadau dysgu fel canllaw, nid fel mesur. Hynny yw, dylech eu defnyddio i gadarnhau a fydd yr hyn rydych yn awyddus i'w addysgu:

  • yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau pwrpasol i gefnogi cynnydd y dysgwyr
  • yn cynnwys y lefel briodol o her, ehangder a dyfnder ar gyfer pob dysgwr

Mae'r disgrifiadau dysgu yn dangos y cynnydd y disgwylir i'r dysgwyr ei wneud dros gyfres o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi'u fframio'n fras ac yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i ddysgwyr wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir. Dangosyddion cynnydd ydynt, yn hytrach na'r unig ddiffinwyr o sut dylai cynnydd dysgwyr edrych. Mae hyn yn golygu y dylai ysgolion ddewis amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau a fydd yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir, gan ddyfnhau eu dysgu dros amser. Ni fwriedir i ddisgrifiadau dysgu gael eu 'cyflawni' drwy nifer bach o weithgareddau dysgu ond, yn hytrach, dylid eu defnyddio mewn modd datblygiadol dros amser. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr adran ar gyfer pob Maes.

Mae'r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd sy'n galluogi pob ymarferydd i gymryd rhan mewn deialog proffesiynol am gynnydd dysgwr. Rhaid i ysgolion gydweithio'n fewnol, gyda'u clwstwr, a gydag ysgolion a lleoliadau eraill fel sy'n briodol, er mwyn sicrhau proses gydlynol o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Mae hyn yn helpu i ddatblygu disgwyliadau cyffredin ar gyfer cynnydd dysgwyr, gan gefnogi eu proses bontio, ac mae'n sicrhau bod disgwyliadau'n darparu digon o gyflymder a her i ymestyn dysgwyr.

2.5 Asesu: sut y dylem asesu'r cynnydd hwnnw?

Nod asesu yw cefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd. Mae asesu yn galluogi ymarferwyr i ddeall y cynnydd y mae dysgwyr wedi'i wneud, nodi anghenion dysgwyr fel unigolion ac fel grŵp, a chynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Gall ysgolion gynllunio amrywiaeth o gyfleoedd asesu sy'n adlewyrchu’r dysgu a fwriedir ac i ddeall y cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud.

Mae'r adran hon yn adeiladu ar y canllawiau canlynol:

Mae cynllunio ar gyfer asesu pwrpasol yn hanfodol i ddeall cryfderau dysgwyr a meysydd i'w datblygu fel rhan annatod o'r broses cynllunio cwricwlwm. Dylai lywio pa gymorth a heriau penodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i wneud cynnydd, a'r camau nesaf yn eu dysgu.

Mae asesu yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o ddiben y dysgu a'r cynnydd a ddisgwylir, fel y'u mynegir yn yr egwyddorion cynnydd a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Wrth asesu cynnydd dysgwyr, dylid ystyried amrywiaeth o dystiolaeth er mwyn pennu a ydynt yn gwneud cynnydd – sut maent yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ac yn cymryd rhan mewn profiadau.

Dylai hyn gynnwys asesu’n barhaus ac asesu anffurfiol, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • arsylwi
  • trafod â dysgwyr
  • adnoddau asesu diagnostig
  • asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth
  • asesiadau crynodol lle y bo'n briodol i'r dysgu a fwriedir
  • defnyddio gwybodaeth o asesiadau personol fel ffordd hyblyg o gasglu gwybodaeth am gynnydd mewn perthynas â sgiliau darllen a rhifedd sy'n cefnogi anghenion dysgwyr unigol. Bwriedir iddynt fod yn adnodd diagnostig a byddant yn parhau i fod yn rhan statudol o asesu

2.5.1 Rôl disgrifiadau dysgu wrth lywio'r broses asesu

Er mwyn cefnogi'r broses asesu, bwriedir i'r disgrifiadau dysgu lywio amrywiaeth eang o ddulliau asesu sy'n casglu enghreifftiau o ddysgu ac yn helpu i bennu a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd, a sut. Wrth gynllunio'r asesu, dylid eu defnyddio i lywio'r canlynol:

  • dangosyddion cynnydd y gall dysgwyr eu dangos wrth iddynt feithrin eu dealltwriaeth a chymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau newydd ac anghyfarwydd
  • dealltwriaeth o gyflymder cynnydd dysgwyr mewn perthynas â disgwyliadau cyffredinol ar gam tebyg o'r continwwm dysgu
  • y broses o ddatblygu amrywiaeth eang o ddulliau asesu er mwyn asesu cynnydd

Mae disgrifiadau dysgu yn rhoi disgwyliadau eang ar gyfer cynnydd dros gyfres o flynyddoedd, a dylid eu defnyddio ar y cyd â disgwyliadau'r ymarferydd neu ysgol ei hun o'i ddysgwyr neu dysgwyr i ddewis cynnwys cwricwlwm heriol ac ystyrlon. Dylid defnyddio'r disgrifiadau dysgu a gwybodaeth asesu fel dangosyddion cynnydd dysgwyr yn hytrach na diffinwyr cynnydd dysgwyr: mae hyn yn cydnabod na fydd un dull asesu yn gallu rhoi darlun llawn o gynnydd dysgwr. Felly, dylai ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, ac ystyried pa rai fydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer diben y dysgu sydd wedi'i gynllunio. Dros amser, bydd amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ac amrywiaeth o ddulliau asesu yn helpu i ddeall cynnydd dysgwyr, wrth i ddysgwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth a dod yn ddysgwyr mwy effeithiol. Dylai'r dull asesu hwn lywio barn ymarferwyr am gynnydd dysgwyr.

Ni fwriedir i'r disgrifiadau dysgu gael eu rhannu'n gyfres o feini prawf asesu neu'n rhestr wirio ar gyfer dewis gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau neu'n pennu a yw dysgwr wedi 'cyflawni' cam cynnydd.

Mae deunyddiau ategol ychwanegol ar gael sy'n cynnig enghreifftiau ymarferol o'r broses hon:

2.6 Addysgeg: sut mae ein hymarfer o ddydd i ddydd yn cefnogi ein cwricwlwm?

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn dathlu galluogedd a barn broffesiynol pob ymarferydd. Wrth inni barhau i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar ymchwil o ymdrin ag addysgeg a gwella ysgolion, mae deall egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr gyflawni'r pedwar diben yn llwyddiannus. Dylai'r dulliau addysgegol a ddewisir a'r dewisiadau a wneir gan ymarferwyr fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o ddiben y dysgu, dulliau asesu, a'r cynnydd a fwriedir.

Mae'r adran hon yn adeiladu ar y canllawiau canlynol:

Disgwylir i ysgolion werthuso ansawdd eu darpariaeth yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod strategaethau addysgu yn diwallu anghenion newidiol dysgwyr yn eu cyd-destun. Gall y strategaethau hyn gynnwys y canlynol, ymhlith rhai eraill:

  • ffocws ar les dysgwyr a'u datblygiad yn y dyfodol, sy'n llywio dysgu sy'n briodol i datblygiad pob dysgwr, gan adeiladu'n effeithiol ar ddysgu a phrofiadau blaenorol
  • ffocws ar gynllunio cwricwlwm effeithiol sy'n cefnogi dull seiliedig ar ddiben o gynllunio a dilyniannu dysgu o fewn y meysydd dysgu a phrofiad (Meysydd) a rhyngddynt, gan werthfawrogi'r broses ddysgu ochr yn ochr â'r hyn sy'n cael ei ddysgu er mwyn sicrhau bod diben i'r dysgu ac y gellir ei drosglwyddo mewn modd ystyrlon i gyd-destunau newydd
  • cynnig profiadau dysgu dilys sy'n cefnogi twf personol dysgwyr ac yn eu helpu i fod yn effeithiol yn eu dysgu parhaus

Mae'r egwyddorion addysgegol yn helpu ymarferwyr i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i wneud dewisiadau gwybodus am y dulliau dysgu ac addysgu sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau posibl o fewn y Cwricwlwm i Gymru,

Mae adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi'r broses hon.

3. Disgwyliadau ymarferol ar gyfer dull iterus o gynllunio'r cwricwlwm

Mae'r adran hon o'r canllawiau yn adlewyrchu natur gylchol y broses o gynllunio'r cwricwlwm a'r camau y dylai ysgolion eu cymryd i gynllunio, gwerthuso a mireinio eu cwricwlwm. Bwriedir iddi gael ei defnyddio ochr yn ochr â'r canllawiau anstatudol: Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.

Mae tri cham i'r broses o gynllunio a mireinio'r cwricwlwm yn barhaus, o gynllunio ar sail ysgol i gynllunio o ddydd i ddydd. Bydd y tri cham isod yn parhau i fod yn berthnasol i ysgolion wrth iddynt ddyfnhau eu dealltwriaeth a mireinio eu cwricwlwm:

  1. Datblygu dealltwriaeth
  2. Cynllunio, profi a mireinio'r cwricwlwm
  3. Gwerthuso ac adolygu'n barhaus

Camau cylchol yw'r rhain, sy'n golygu y dylai ysgolion ddychwelyd atynt dros amser ac mewn mwy o fanylder. Dylai ysgolion anelu at ddatblygu eu dealltwriaeth o Gwricwlwm i Gymru ac o'u dysgwyr eu hunain yn barhaus. Dylent gynllunio, profi a mireinio eu cwricwlwm yn barhaus, yn ogystal â gwerthuso ac ystyried i ba raddau y mae eu cwricwlwm yn gweithio yn ymarferol, a sut y gellid eu gwella. Dylai pob cam adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ar y cam blaenorol a helpu ysgolion ar y cam nesaf.

Mae hyn yn galluogi pob ysgol i adolygu a mireinio ei chwricwlwm yn barhaus, ac mae'n cynnig dull i ysgolion uwchradd ei ddefnyddio wrth iddynt ymestyn y cwricwlwm i garfannau hŷn dros y blynyddoedd. Wrth i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm, bydd angen iddynt ailedrych ar y cwestiynau a ofynnir ar bob cam a phrofi a mireinio eu dulliau gweithredu.

Mae buddsoddi yn y cam cyntaf i bennu diben yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ysgol gyfan yn deall Fframwaith y Cwricwlwm a datblygu cwricwlwm sy'n ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn llawn. Mae hyn yn allweddol i sicrhau sylfaen gadarn i lunio a mireinio cwricwlwm.

Dylai'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm rymuso ysgolion i fod â hyder yn y cwricwlwm y maent yn ei gynllunio. Nid oes angen i ymarferwyr gyfiawnhau hyn drwy lunio deunydd ychwanegol, fel dogfennau hir i ddangos prosesau cynllunio.

Mae cynllunio'r cwricwlwm yn broses barhaus o wella. Mae angen i ysgolion fodloni gofynion deddfwriaethol a pharhau i ddatblygu a mireinio eu cwricwlwm drwy broses iterus barhaus.

Bydd y myfyrio sy'n sail i ddatblygu'r cwricwlwm yn ennyn hyder yn yr hyn a addysgir. Yn yr un modd, mae datblygu dysgwyr sy'n awyddus i ddysgu drwy gydol eu hoes yn hanfodol er mwyn cyflawni’r pedwar diben a chefnogi'r dewisiadau a wneir ynglŷn â'r hyn a ddysgir. Ni ddylai ysgolion ruthro na chymryd llwybrau byr yn y broses gynllunio, drwy brynu cwricwlwm ‘parod’.

Ceir gwybodaeth ychwanegol a chwestiynau y gall ysgolion fod yn awyddus i'w hystyried yn Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella.

3.1 Datblygu a mireinio dealltwriaeth

Dylai ymarferwyr ddatblygu dealltwriaeth o fodel Cwricwlwm i Gymru a'r egwyddorion sy'n sail iddo. Mae hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o ganllawiau ac ymchwil, er mwyn mireinio eu gweledigaeth a'u proses o gynllunio'r cwricwlwm. Dylai pob ymarferydd fyfyrio ar arferion cyfredol a cheisio deall anghenion newidiol dysgwyr yn eu cymunedau.

3.1.1 Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Yn gyntaf, dylai arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu dealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm a'u dysgwyr yn barhaus, gan gynnwys:

  • rôl a phwysigrwydd diben wrth gynllunio cwricwlwm – gan ganolbwyntio ar hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a pham
  • sut mae’r pedwar diben yn llywio blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a chynnydd dysgwyr
  • model y cwricwlwm a’r dull asesu a nodir ar gyfer pob ymarferydd yng nghanllawiau’r Fframwaith
  • profiadau, anghenion, galluoedd, diwylliannau a gwerthoedd amrywiol dysgwyr er mwyn helpu i ddeall yr hyn y mae’r pedwar diben yn ei olygu iddyn nhw a'u cyd-destun
  • y ddealltwriaeth gysyniadol a nodir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a sut y gellir datblygu'r rhain drwy'r cwricwlwm er mwyn sicrhau cynnydd dysgwyr
  • yr hyn a ddysgir a'r profiad geir drwy werthuso ac adolygu'r cwricwlwm cyfredol

Bydd yn cymryd amser i ddatblygu dealltwriaeth ddofn a dylai hyn fod yn broses barhaus. Dylai arweinwyr ac ymarferwyr sicrhau bod eu dull o gynllunio'r cwricwlwm:

  • yn seiliedig ar weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm a'r dysgu a'r addysgu sy'n ei gefnogi
  • yn cydnabod anghenion a chyd-destunau dysgwyr a'r ffordd y mae'r rhain yn datblygu
  • yn cynnwys dysgwyr, teuluoedd, llywodraethwyr (neu bwyllgorau rheoli mewn unedau cyfeirio disgyblion) ochr yn ochr ag eraill yng nghymuned ehangach yr ysgol er mwyn adlewyrchu cyd-destun yr ysgol ac anghenion dysgwyr yn y ffordd orau posibl
  • yn cydnabod natur iterus y broses o gynllunio'r cwricwlwm, gan ymateb yn effeithiol i anghenion newidiol dysgwyr yn eu cymunedau
  • yn ystyried gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau a’r rôl y mae pob un ohonynt yn ei chwarae wrth alluogi dysgu, fel y nodir yng nghanllawiau’r Fframwaith
  • yn helpu i ddatblygu addysgeg sy'n seiliedig ar ymchwil wrth anelu at fod yn ysgol fel sefydliad sy'n dysgu
  • yn gwerthfawrogi rôl dysgu proffesiynol wrth ddiwygio'r cwricwlwm ac yn deall y disgwyliadau mewn perthynas â hyn i gefnogi pob ymarferydd
  • yn cynnwys proses ymgysylltu ddwyffordd â rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol
  • yn cynnwys cydweithio ac ymgysylltu'n barhaus â chymheiriaid, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol
  • yn adlewyrchu gwerthusiad o'r broses gyflwyno’r cwricwlwm hyd yma (yn yr ysgol ac yn genedlaethol)

3.1.2 Cwestiynau allweddol i ysgolion

Dylid ystyried y cwestiynau isod ochr yn ochr â rhai yn Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella:

  • Sut rydym yn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gwricwlwm a arweinir gan y dibenion?
  • A yw arweinyddiaeth drwy'r ysgol yn cefnogi'r diwylliant a'r amodau sydd eu hangen er mwyn newid?
  • Beth yw'r prif rwystrau i newid? Sut yr eir i'r afael â nhw?
  • I ba raddau y mae ein cwricwlwm cyfredol yn adlewyrchu nodau a dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru?
  • I ba raddau rydym yn sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar waith i gefnogi'r broses datblygu cwricwlwm?
  • Sut rydym wedi ystyried ein hymateb i'r cwestiynau a ofynnir yng nghyflwyniad Cynllunio eich cwricwlwm?
  • Beth mae'r pedwar diben yn ei olygu i ddysgwyr a'n cyd-destun ni? Sut y dylai'r rhain ysgogi blaenoriaethau ac arferion ein hysgol?
  • Beth yw ein dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i'n dysgwyr?
  • Sut mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn llywio'r broses cynllunio cwricwlwm? Sut maen nhw’n cysylltu â'r hyn sydd ei angen ar ein dysgwyr?
  • Sut rydym yn deall anghenion newidiol ein dysgwyr a'r gymuned? Sut mae ein cwricwlwm a'n harferion wedi newid? Beth sy'n gweithio'n dda? Pam?
  • Beth yw diben ein dulliau dysgu ac addysgu presennol? Pa agweddau ar ein dull gweithredu presennol y gellir eu datblygu? Ble mae'r diben yn aneglur? Sut mae dysgu proffesiynol yn cefnogi dysgu pwrpasol?
  • Beth rydym wedi ei ddysgu drwy ymgysylltu â rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol?
  • Sut mae anghenion dysgu proffesiynol ymarferwyr yn cael eu nodi? Beth yw effaith dysgu proffesiynol ar gynnydd dysgwyr? Sut rydym yn gwybod hyn?
  • Beth rydym wedi ei ddysgu drwy ein proses o werthuso ac adolygu'r cwricwlwm?

3.2 Cynllunio, profi a mireinio'r cwricwlwm

Rhaid i ysgolion ddatblygu a mireinio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu, yn unol â'r gofynion mandadol, gan ystyried y canllawiau statudol. Dylent hefyd fynd ar drywydd eu blaenoriaethau i helpu i wireddu eu cwricwlwm yn eu cynllun gwella ysgol. Dylai ysgolion ystyried i ba raddau y mae pob ymarferydd yn deall diben y dysgu sy'n cael ei gynllunio, pa mor glir y mae diben y dysgu hwnnw yn llywio'r dysgu ac addysgu, a sut mae hyn yn cefnogi profiadau dysgu cydlynol wedi'u trefnu'n dda i bob dysgwr. 

Dylai cwricwlwm ysgol adeiladu ar y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm. Dylai ystyried pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau allweddol y dylai dysgwyr feddu arnynt er mwyn gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar diben. Mae hyn yn golygu y dylai'r cwricwlwm alluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • dod yn ddysgwyr mwy effeithiol
  • dyfnhau eu dealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd a'u hymgysylltiad â nhw
  • meithrin a chymhwyso sgiliau mewn modd mwy soffistigedig
  • cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth
  • nodi cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu i gyd-destunau newydd yn gynyddol

3.2.1 Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Dylai ysgolion bennu a mireinio egwyddorion cynllunio sy'n helpu i wneud y canlynol:

  • sicrhau safonau uchel a galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd addas a chynaliadwy
  • datblygu, gwerthuso a mireinio dulliau o fodloni gofynion mandadol y cwricwlwm

Mae'r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Rhaid i'r ddealltwriaeth hon gael ei datblygu o fewn yr ysgol a rhwng yr ysgolion y mae'r mwyafrif o ddysgwyr yn pontio rhyngddynt. Rhaid iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r disgwyliadau ar gyfer cynnydd dysgwyr, gan gydnabod bod cynnwys neu gyd-destun pynciau neu themâu yn debygol o amrywio. Drwy ddefnyddio'r datganiadau mandadol o'r hyn sy'n bwysig a'r egwyddorion cynnydd, disgwylir i ymarferwyr nodi'r ddealltwriaeth gysyniadol a fydd yn galluogi dysgwyr yn eu cyd-destun i wneud cynnydd wrth ddysgu. Mae datblygu, gwerthuso a mireinio dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws clwstwr yn hanfodol i sicrhau disgwyliadau uchel, heriol a chydlynol: gan sicrhau bod y dysgu yn datblygu ar draws y continwwm 3 i 16.

Rhaid i arweinwyr:

  • hwyluso a chefnogi cydweithio mewn clystyrau er mwyn sicrhau cydberchenogaeth dros gynnydd. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn pontio'n effeithiol ar hyd y continwwm 3 i 16. Dylai hyn sicrhau cydlyniant rhwng ysgolion a grwpiau blwyddyn, ac adlewyrchu gweledigaeth unigryw pob ysgol ar yr un pryd. Dylai gefnogi cynnydd dysgwyr ac ymwneud â datblygu, gwerthuso a mireinio prosesau ar y cyd er mwyn helpu dysgwyr i bontio ar hyd y continwwm 3 i 16 cyfan.

Mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn ysgol yn helpu i sicrhau cwricwlwm cydlynol ym mhob rhan o'r ysgol (gan gynnwys trefniadau asesu i gefnogi cynnydd pob dysgwr). Dylai ysgolion:

  • sicrhau dealltwriaeth o'r ffordd y bydd y cwricwlwm bwriadedig yn helpu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach dros amser a throsglwyddo'u dysgu i gyd-destunau newydd
  • ystyried sut y caiff y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd, a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd a rhyngddynt, eu defnyddio i lywio'r broses o ddylunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu, yn ogystal â sut y caiff sgiliau hanfodol, sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsgwricwlaidd eu hymgorffori
  • ystyried y rôl y mae disgyblaethau gwahanol yn eu chwarae i gefnogi dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben, yn ogystal â phwysigrwydd dulliau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyflawn a chydgysylltiedig. Mae gofyn pam y mae dysgu'n bwysig yn y disgyblaethau hyn yn hanfodol yn hyn o beth
  • ar ôl datblygu disgwyliadau ysgol gyfan neu leoliad cyfan ar gyfer cynnydd, ystyried sut y gellir trefnu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau posibl
  • cynllunio dysgu ac addysgu sy'n adeiladu ar eu cwricwlwm

Dylai ysgolion ddewis amrywiaeth o ddulliau dysgu sy'n briodol i'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau disgyblaethol dan sylw, ochr yn ochr ag anghenion datblygiadol dysgwyr. Dylent adeiladu ar gysylltiadau naturiol rhwng y cysyniadau, yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir mewn Meysydd gwahanol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen dealltwriaeth gref o sut mae cynnydd yn edrych yn y disgyblaethau gwahanol i ddechrau, cyn datblygu unrhyw ddulliau rhyngddisgyblaethol o fewn y Meysydd a rhyngddynt. Pan fydd dulliau yn cyfuno dysgu mewn disgyblaethau gwahanol, dylent ddyfnhau dealltwriaeth o gysyniadau a gwybodaeth ochr yn ochr â meithrin sgiliau. Mae'n hanfodol bod y dysgu yn ystyrlon ac yn cael ei ddatblygu mewn cyd-destun sy'n ddilys i ddiben y dysgu. Mae'n annhebygol iawn y bydd un dull gweithredu yn briodol ym mhob sefyllfa, er enghraifft ceisio cysylltu'r holl ddysgu ag un thema neu bwnc.

Rhaid i ysgolion hefyd gyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm.

3.2.2 Crynodebau o'r cwricwlwm

Mae'r adran sy'n rhoi crynodeb o'r ddeddfwriaeth yn nodi'r gofynion ar gyfer cyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm.

Dylai crynodebau o'r cwricwlwm gynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cwricwlwm yn barhaus
  • sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y Fframwaith, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
  • gwybodaeth am sut mae'r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu
  • sut mae'r cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus

Dylid cyhoeddi crynodebau o'r cwricwlwm cyn dechrau pob blwyddyn academaidd.

Mae enghreifftiau o grynodebau o'r cwricwlwm wedi'u cyhoeddi mewn blog gan Addysg Cymru.

Ceir rhagor o gyngor ar y gofynion i leoliadau nas cynhelir gyhoeddi crynodeb yn y pecyn cymorth ymgysylltu.

3.2.3 Cwestiynau allweddol i ysgolion

  • I ba raddau mae ein cwricwlwm yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol?
  • I ba raddau rydym yn deall anghenion lles ein dysgwyr?
  • Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y bydd eu hangen ar ein dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r cysyniadau a nodir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig? Sut mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu gwerthoedd a thueddiadau'r pedwar diben? Pam y mae'r rhain yn bwysig i'n dysgwyr?
  • Sut mae'r ffordd rydym yn cynllunio'r cwricwlwm yn adlewyrchu gofynion mandadol Cwricwlwm i Gymru?
  • I ba raddau rydym yn deall yr egwyddorion cynnydd? Sut rydym yn disgwyl i ddysgwyr wneud cynnydd? Sut y gallwn sicrhau bod hyn yn seiliedig ar ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu a datblygiad plant? Sut dylai'r cynnydd hwn edrych dros eu taith dysgu 3 i 16? Sut y gallwn gydweithio i gefnogi hyn?
  • Ym mha Feysydd, datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a disgyblaethau y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd drwy ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a gynlluniwyd. Pa gysylltiadau naturiol all ehangu a dyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr?
  • Sut y byddwn yn ymgorffori themâu trawsgwricwlaidd yn ein cwricwlwm?
  • Sut y gall dulliau gweithredu disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol gefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gwahanol? Pa ddulliau gweithredu allai fod yn briodol ar gamau ac oedrannau gwahanol ar daith dysgwr?
  • Sut y gallwn osod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr ar draws y continwwm dysgu? Sut rydym yn cefnogi pob dysgwr i feddu ar ddisgwyliadau uchel ohono'i hun?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm yn cynnwys pob dysgwr?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm yn adlewyrchu ein blaenoriaethau? Pa adnoddau sydd eu hangen i gefnogi hyn?
  • Sut rydym yn defnyddio ein rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol i fireinio ein meddylfryd?

3.3 Gwerthuso ac adolygu'n barhaus

O fewn cyd-destun y canllawiau gwella ysgolion, dylai ysgolion sefydlu cylch parhaus o werthuso ac adolygu'r broses o gynllunio eu cwricwlwm, y cytunwyd arno gan y pennaeth a'r corff llywodraethu. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion adolygu eu cwricwlwm yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a nodir yn y Ddeddf. Dylai ysgolion hefyd geisio ymateb i anghenion newidiol eu dysgwyr a'u cymunedau a chynnal a gwella arferion a disgwyliadau presennol. Dylai ysgolion fyfyrio ar effeithiolrwydd eu cwricwlwm a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i wella.

3.3.1 Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Dylai ysgolion wneud y canlynol:

  • myfyrio ar effaith y cwricwlwm ar ddysgwyr, gan gynnwys i ba raddau y mae'r cwricwlwm a'i gynnwys yn eu helpu i: gynnwys dysgwyr a'u cefnogi i gyflawni'r pedwar diben; codi safonau; cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad; a chefnogi cynnydd dysgwyr
  • myfyrio ar y broses o gynllunio eu cwricwlwm, yn seiliedig ar eu profiad a'u dealltwriaeth gynyddol, er mwyn llywio'r broses o fireinio'r cwricwlwm yn y dyfodol a'i ddatblygu ymhellach wrth iddo gael ei ymestyn i grwpiau blwyddyn ychwanegol
  • datblygu a defnyddio systemau i fyfyrio ar effeithiolrwydd Cwricwlwm i Gymru, addysgeg a threfniadau asesu, a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i wella profiadau dysgwyr
  • adolygu lled a dyfnder y cwricwlwm presennol a sut y gellid cysylltu'r dysgu ymhellach
  • Defnyddio gwaith gwerthuso ac adolygu i lywio meddwl yn y dyfodol er mwyn datblygu a mireinio dealltwriaeth. Dylai hyn helpu i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r pedwar diben, a'r hyn y maent yn ei olygu o ran cynllunio dysgu pwrpasol i ddysgwyr, a defnyddio hyn i lywio'r gwaith o fireinio'r cwricwlwm a dulliau asesu ac addysgeg
  • datblygu, gwerthuso a mireinio modelau ymholi proffesiynol ysgol gyfan i lywio a helpu i hwyluso'r broses o gynllunio'r cwricwlwm yn barhaus
  • parhau i ddatblygu, treialu a mireinio cynllunio ar gyfer pontio fel rhan o'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar waith i gefnogi bontio dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • parhau i ddatblygu, treialu a mireinio trefniadau priodol sy'n cynnwys rhieni a gofalwyr mewn proses gyfathrebu ddwyffordd am gynnydd eu plentyn
  • adolygu eu crynodeb o'r cwricwlwm er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu eu cwricwlwm
  • ystyried pa wersi a ddysgwyd y byddai'n ddefnyddiol eu rhannu ag ysgolion eraill, rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, rhaid i ysgolion ystyried a yw'r cwricwlwm yn parhau i fodloni gofynion cyfreithiol y fframwaith.

3.3.2 Cwestiynau allweddol i ysgolion

  • A yw'r cwricwlwm yn gwireddu ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau? Sut rydym yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn berthnasol, yn heriol ac yn gynhwysol?
  • A ydym yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a disgwyliadau y Fframwaith?
  • Beth sydd wedi gweithio'n dda? Pam y mae wedi gweithio'n dda? Sut y gallwn adeiladu ar yr egwyddorion hynny, a'u hehangu?
  • Sut y gallwn barhau i godi disgwyliadau ar gyfer pob dysgwr?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, yn ogystal â'n profiad a'n dealltwriaeth gynyddol o gynllunio cwricwlwm?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein haddysgeg a'n harferion yn parhau i ddatblygu er mwyn cefnogi'r cwricwlwm i bob dysgwr?
  • Sut y gallwn barhau i ddatblygu ein cwricwlwm mewn cyd-destun sefydliad sy'n dysgu?
  • Sut rydym yn ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol? Sut rydym yn gwybod bod ein dysgwyr yn gwneud cynnydd o ganlyniad i'r cwricwlwm a gynlluniwyd gennym? A ydym yn fodlon ar ein dull o fonitro'r cynnydd hwnnw? Sut rydym yn rhannu'r dull hwn yn effeithiol â rhieni a gofalwyr?
  • Beth sydd wedi gweithio'n dda? Pam y mae wedi gweithio'n dda? Sut rydym yn gwybod ei fod wedi gweithio'n dda?
  • I ba raddau rydym yn gwerthuso effaith newid er mwyn nodi ein camau nesaf ar gyfer gwella? 
  • Beth y gellir ei wella? Sut? Pam y mae angen gwneud y gwelliant hwnnw?
  • Sut y gallwn sicrhau bod profiadau parhaus dysgwyr yn llywio'r broses o fireinio ein cwricwlwm?
  • Beth y gallwn ei ddysgu o brofiadau ysgolion eraill? Beth yw egwyddorion yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn yr ysgolion hynny? Sut y gallwn adeiladu ar yr egwyddorion hynny yn ein cyd-destun ein hunain?
  • Sut rydym yn craffu ar gylch gwerthuso parhaus er mwyn llywio cynllun a gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm sy'n parhau i ddiwallu anghenion newidiol ein dysgwyr a'n cyd-destun?
  • Sut rydym yn defnyddio ein rhwydweithiau lleol a chenedlaethol i lywio ein cylch myfyrio a gwerthuso?

Dylai’r cwricwlwm fod yn esblygu'n barhaus, gan geisio gwireddu'r disgwyliadau uchaf, a chynnig y cymorth gorau ar gyfer lles ac ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, a dylid esblygu a gwella'r dysgu a'r addysgu i ategu hyn. Nid yw'n weithgaredd untro a wneir unwaith a dyna ni.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych yn cytuno bod y canllawiau Ymlaen â’r daith arfaethedig hyn, ochr yn ochr â chanllawiau cyfredol y Cwricwlwm i Gymru, yn nodi disgwyliadau ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru?

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych yn cytuno bod y canllawiau Ymlaen â’r daith arfaethedig hyn, yn cynnwys lefel briodol o fanylder?

Cwestiwn 3

I ba raddau ydych yn cytuno bod y canllawiau Ymlaen â’r daith arfaethedig hyn yn cyfeirio'n effeithiol at ddeunyddiau ategol y Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau'r Fframwaith?

Cwestiwn 4

I ba raddau ydych yn cytuno bod y canllawiau a roddwyd yn Ymlaen â’r Daith ar grynodebau o'r cwricwlwm yn ddefnyddiol?

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol yr adran Ymlaen â’r daith hon o ganllawiau y Cwricwlwm i Gymru ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

a fyddai modd ffurfio neu addasu’r adran Ymlaen â’r daith hon o ganllawiau y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau:

  • ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
  • nad yw’n cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod os gwelwch yn dda.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office

 

Atodiad: Amserlenni

Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Gwnaeth ysgolion uwchradd a ddewisodd gyflwyno'r cwricwlwm i Flwyddyn 7 hefyd ddechrau'r broses ym mis Medi 2022; gyda’r cwricwlwm yn orfodol i Flwyddyn 7 a Blwyddyn 8 o fis Medi 2023.

Wrth i Gwricwlwm i Gymru gael ei ehangu fesul blwyddyn hyd at 2026 i 2027, dylai ysgolion uwchradd weithio'n agos iawn gyda'u hysgolion cynradd clwstwr er mwyn deall eu profiadau, gan gynnwys deall eu profiad o gynnydd dysgwyr, er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio cyfnodau pontio. Disgwylir i ysgolion gymryd rhan mewn gwaith yn eu clystyrau a'u rhwydweithiau a rhyngddynt, gan gynnwys drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol.

Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru
  2023 i 2024 2024 i 2025 2025 i 2026 Y tu hwnt i 2026
Lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir; ysgolion cynradd; a Blynyddoedd 7 ac 8 Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus
Blwyddyn 9 Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus
Blwyddyn 10 Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus
Blwyddyn 11 Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Cynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru Defnyddio Cwricwlwm i Gymru; gwella'n barhaus