Rydym eisiau eich adborth ar ganllawiau anstatudol ar gyfer unigolion sy’n gyfrifol am gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y 4 egwyddorion hyn:
- meithrin lles pob dysgwr
- cydweithio systematig rhwng dysgwr, rhieni/gofalwyr, ysgolion a darparwyr AHY
- mynediad at gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr
- cefnogi ailintegreiddio dysgwyr sy'n derbyn AHY i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol a’u cefnogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu’r byd gwaith.
Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 500 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Yn ogystal â’r arolwg ymgynghori ffurfiol, mae cyfres o weithdai ymgynghori ar-lein ar yn cael eu cynnal yn ystod Mawrth 2021 i gasglu barn fanylach gan randdeiliaid ar y canllawiau drafft.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'r gweithdai hyn, cysylltwch â Kerry KilBride i gael mwy o wybodaeth trwy: kerry@miller-research.co.uk
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 29 Mawrth 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Uned Gwireddu’r Cwricwlwm
Is-adran Cwricwlwm ac Asesu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ