Cwricwlwm i Gymru: adroddiad blynyddol 2024
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, a'n blaenoriaethau o fis Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae blwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn dynodi carreg filltir arall gan fod bron pob ysgol a darparwr addysgol arall yng Nghymru bellach yn defnyddio'r Cwricwlwm i Gymru gyda dysgwyr hyd at flwyddyn 8.
Ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae wedi bod yn fraint cael ymweld â nifer o ysgolion a gweld y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Mae mwy a mwy o ysgolion yn achub ar y cyfleoedd y mae ein fframwaith yn eu cynnig iddynt er mwyn creu cwricwlwm pwrpasol a diddorol ar gyfer pob un o'u dysgwyr. Hoffwn ddiolch i'n hysgolion, ein lleoliadau a'n staff addysgu i gyd am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, a hynny mewn amgylchiadau heriol yn achos llawer ohonynt.
Nid diweddaru, diwygio neu gyfnewid un cwricwlwm cenedlaethol am un arall rydym yn ei wneud. Rydym yn achub ar gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio cwricwlwm sy'n fwy diddorol, ymestynnol, cynhwysol a phwrpasol. Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i les ein plant a'n pobl ifanc, drwy ein dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol a'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mandadol, a thrwy sicrhau bod anghenion ein dysgwyr wrth wraidd y broses o gynllunio'r cwricwlwm.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn gofyn inni gwrdd â'n dysgwyr ble bynnag y maen nhw arni a'u helpu i wneud cynnydd parhaus yn eu dysgu drwy gydol eu haddysg. Mae hyn yn galw am ddysgu sy'n herio ac yn ysbrydoli. Rhaid i'r dysgu fod yn drylwyr o safbwynt academaidd, a rhaid bod modd ei gymhwyso'n ymarferol yn y byd go iawn hefyd. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gymell i ddysgu ac y gall lwyddo ni waeth beth fo'i fan cychwyn a'r llwybr y mae'n dewis ei ddilyn ym maes addysg, gwaith a bywyd yn fwy cyffredinol.
Mae'r mwyafrif llethol o benaethiaid yn dweud wrthyf eu bod yn cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru. Maent yn gweld y cyfleoedd hyn ac am sicrhau eu bod yn gwneud y pethau iawn i'w dysgwyr. Fodd bynnag, ochr yn ochr â'r cyfleoedd hyn mae heriau diamheuol, ac mae'n hollbwysig ein bod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr fel y gallant hwy, yn eu tro, gefnogi eu dysgwyr.
Mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar y diwygiadau ar hyn o bryd, y camau rydym wedi'u cymryd fel llywodraeth i gefnogi hyn dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn cyfeirio at y camau cymorth nesaf y byddwn yn eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd nesaf.
Gweithredu'r cwricwlwm: trosolwg
Gan adeiladu ar y cynnydd a'r ffocws a amlinellwyd yn adroddiad blynyddol 2023, mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r cynnydd y mae ysgolion a darparwyr addysg eraill, gan gynnwys lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion, yn ei wneud mewn perthynas â'r Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn amlinellu meysydd o gymorth parhaus.
Mae'r adran yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau ar draws ein partneriaid strategol (gan gynnwys consortia rhanbarthol, partneriaethau awdurdodau lleol ac Estyn), gan ymarferwyr, yn ogystal â gwybodaeth gynnar o weithgareddau gwerthuso a monitro. Lle mae gwybodaeth wedi'i chyhoeddi ar wahân, caiff dolenni eu cynnwys ar ddiwedd yr adroddiad hwn fel y gellir cyfeirio ati ymhellach. Fodd bynnag, mae rhai mewnbynnau yn llai ffurfiol o hyd ac nid ydynt wedi'u cyhoeddi. Nod yr adroddiad blynyddol hwn yw rhoi crynodeb o gynnydd gan ddefnyddio'r amrywiaeth eang o fewnbynnau a gafwyd drwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, cafwyd gwybodaeth gan y canlynol:
- cynghorwyr cefnogi gwella, partneriaid gwella ysgolion, trafodaethau tîm y cwricwlwm ac ymweliadau i ysgolion gan wasanaethau gwella ysgolion
- adolygiadau awdurdodau lleol o drefniadau gweithredu mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
- arolygiadau, diweddariadau ac adroddiad blynyddol Estyn
- prosiect Camau i'r Dyfodol
- gwerthusiadau o ddysgu a chymorth proffesiynol
- canlyniadau arolygon a grwpiau ffocws
- cyfarfodydd ar lefel ranbarthol a phartneriaeth â phenaethiaid ac uwch-arweinwyr
- presenoldeb ar lefel ranbarthol a phartneriaeth mewn cyfarfodydd clwstwr
- adborth anffurfiol a ffurfiol gan ymarferwyr drwy rwydweithio, gan gynnwys drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol a'r Grŵp Polisi
- ymchwil ansoddol (darganfyddiadau cynnar) ag uwch-arweinwyr ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: adroddiad Cam 2
- tystiolaeth o gam cyntaf yr Adolygiad Strategol o Bartneriaid Addysg
Caiff y darlun sy'n datblygu ei grynhoi isod:
Lleoliadau gofal plant meithrin a ariennir nas cynhelir
Rydym yn parhau i weld cynnydd cadarnhaol iawn mewn perthynas â gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru drwy dystiolaeth a gafodd ei dadansoddi'n annibynnol a'i chasglu gan awdurdodau lleol a'r sector gofal plant, drwy bartneriaid Cwlwm. Mae arweinwyr ac ymarferwyr wedi dangos ymrwymiad i groesawu'r newidiadau sydd eu hangen. Mae arweinwyr yn ymgysylltu'n dda ag ymarferwyr, rhieni a gofalwyr, ac athrawon ymgynghorol er mwyn helpu i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella sy'n arwain at welliannau o ran cynnydd dysgwyr, ansawdd y ddarpariaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o'r cwricwlwm.
Mae'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, sy'n pwysleisio ffocws y Cwricwlwm i Gymru ar egwyddorion datblygiad plant i gefnogi'r pedwar diben, wedi arwain at gynnig cyfleoedd mwy pwrpasol i ddysgwyr ddylanwadu ar eu dysgu eu hunain, arwain eu dysgu eu hunain ac archwilio'n annibynnol. Canfu adroddiad blynyddol Estyn fod ymarferwyr yn dangos dealltwriaeth effeithiol o sut a phryd i ymyrryd yn chwarae plant er mwyn eu helpu i wneud cynnydd. Ar ôl cyhoeddi'r trefniadau asesu i ategu'r cwricwlwm ym mis Gorffennaf 2023, mae'r rhan fwyaf o leoliadau’n dechrau datblygu eu prosesau asesu ac arsylwi yn briodol.
Rydym yn parhau i weithio gyda lleoliadau a'r sector yn ehangach i ddeall eu hanghenion parhaus o ran datblygu a gweithredu. Rydym wedi cynnal digwyddiadau ymgysylltu ar y trefniadau asesu, ac wedi cyhoeddi adroddiad ar sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2023 er mwyn gwella dealltwriaeth ymarferwyr.
Ar ôl cael adborth gan y sector, gwnaethom ganolbwyntio ar sut y gallwn helpu lleoliadau i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr a gwnaethom gyhoeddi pecyn cymorth o adnoddau. Mae'r rhain yn cynnwys poster, templed o gylchlythyr a chyngor ar sut y gallai lleoliadau fodloni'r gofyniad i gyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm a fabwysiadwyd ganddynt. Gwnaethom gyhoeddi canllaw diwygiedig i rieni a gofalwyr sy'n cynnwys cyngor ar fanteision addysg feithrin. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o astudiaethau achos ac adnoddau i egluro'r newidiadau i'r cwricwlwm, ynghyd ag adnoddau penodol i gefnogi arferion, gan gynnwys ym maes datblygiad plant, chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae a dysgu dilys a phwrpasol.
Ysgolion a gynhelir
Mae mewnbynnau gan ymarferwyr a phartneriaid ategol yn nodi'n gyson bod y mwyafrif helaeth o ysgolion yn parhau i wneud cynnydd da o ran rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Ceir adborth cyffredin ac arwyddion calonogol mewn perthynas â'r cynnydd y mae ysgolion yn ei wneud i ddiwygio'r cwricwlwm. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol mewn ysgolion hefyd fod hon yn daith barhaus, ac er bod gwelliannau byrdymor yn cael eu sicrhau, bod angen amser i wireddu manteision y Cwricwlwm i Gymru yn llawn.
Mae llawer o ysgolion wedi gweithio'n dda i ddatblygu cwricwla eang, cytbwys, perthnasol a diddorol. Yn yr ysgolion hyn, mae'r cwricwlwm yn rhoi gwerthfawrogiad i'r dysgwyr o'u cymuned leol, eu diwylliant a'u cynefin, sy'n ennyn eu diddordeb yn dda. Mae'r cwricwlwm yn cael ei ddatblygu gan adeiladu mewn ffordd systematig ar gynnydd yng ngwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau dysgwyr. Fodd bynnag, nid yw pob ysgol wedi meddwl digon eto am sut y bydd yn datblygu ei chwricwlwm ei hun yn unol â disgwyliadau'r Cwricwlwm i Gymru. Yn yr achosion hyn, mae ysgolion yn aml yn ceisio ôl-osod eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu blaenorol.
Er eu bod yn hyderus o hyd eu bod wedi cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr, dros y flwyddyn mae'r rhan fwyaf o ysgolion hefyd wedi dechrau gwerthuso eu cynlluniau cychwynnol ar gyfer y cwricwlwm. Mae hwn yn gam calonogol ymlaen yn y broses o roi'r cwricwlwm ar waith gan ei fod yn dangos cylchoedd adolygu a mireinio gweithredol. Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff ysgolion eu cefnogi o hyd gan wasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol a lleol drwy broses o hunanwerthuso, dysgu proffesiynol a chanllawiau pwrpasol. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn canolbwyntio ar fireinio agweddau penodol ar eu cwricwla, fel y ddarpariaeth ar gyfer sgiliau a themâu trawsgwricwlaidd neu agweddau manylach ar Feysydd penodol y cwricwlwm.
Mae natur y sgwrs rhwng gwasanaethau gwella ysgolion ac ysgolion wedi datblygu hefyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynllunio'r cwricwlwm ac addysgeg. Ar y cyfan, mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi pwyslais ar hunan-fyfyrio a cheir cydnabyddiaeth gynyddol bod cydweithio â chydweithwyr mewn ysgolion eraill, cymunedau lleol a thu hwnt yn ffordd effeithiol o ddatblygu dealltwriaeth a disgwyliadau cyffredin. Yn gyffredinol, nodir bod ysgolion yn blaenoriaethu'n fwy effeithiol, gyda thrafodaethau mwy cadarn yn cael eu cynnal ynghylch pam y dylid addysgu cynnwys penodol a sut mae hynny'n helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Nodir y gall y mwyafrif o ysgolion egluro'n well sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi eu dysgwyr i gyd, drwy ddulliau dysgu ac addysgu clir. Mae arweinwyr yn helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o ddiben yr hyn y maent yn ei addysgu.
O safbwynt natur y cymorth y mae ysgolion yn gofyn amdano ledled Cymru, gwelir bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar wella dysgu ac addysgu gan gysylltu hynny â dulliau cadarn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm. O fewn hyn, mae mwy o ysgolion yn gwerthfawrogi'r ffaith bod cymorth pwrpasol ar gael gan wasanaethau gwella ysgolion ar agweddau penodol ar y cwricwlwm, yn enwedig pan na all yr anghenion hynny gael eu diwallu'n realistig gan raglenni dysgu proffesiynol mwy strwythuredig. Ceir cydnabyddiaeth eang fod angen cyflwyno blaenoriaethau'r cwricwlwm i ysgolion mewn ffordd gliriach, gan gysylltu hyn â chymorth arbenigol lleol parhaus. Er enghraifft, mewn rhannau o Gymru, nodir mai cymorth pwrpasol i ysgolion mewn perthynas â chynnydd ac asesu sy'n cael yr effaith fwyaf ar allu ysgolion i fwrw ymlaen i ddatblygu'r cwricwlwm.
Mae ysgolion ledled Cymru yn parhau i dderbyn cyllid i gefnogi eu gwaith i ddatblygu'r cwricwlwm, y gwaith dysgu proffesiynol cysylltiedig a threfniadau cydweithio o fewn ysgolion a rhwng ysgolion. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr i gydweithio yn meithrin gallu o fewn eu hysgolion ac ar draws eu clystyrau (cynradd ac uwchradd) a'u rhwydweithiau. Mae trefniadau cydweithio clwstwr rhwng ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth o ran cymorth i wasanaethau gwella ysgolion ac mae'r mwyafrif helaeth o ysgolion yn cymryd rhan mewn rhyw fath o gydweithio ystyrlon. Mae heriau o ran dyrannu amser ac adnoddau i wireddu'r cwricwlwm yn broblem o hyd i ysgolion, yn ogystal ag ymgysylltu'n llawn â chyfleoedd dysgu proffesiynol a manteisio arnynt. Yn gyffredinol, mae ffocws gwaith clwstwr hefyd wedi datblygu yn ystod y flwyddyn, gan adeiladu ar waith sylfaenol a wnaed i ddatblygu ymddiriedaeth ac agenda gyffredin rhwng ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo.
Erbyn hyn, nodir bod y mwyafrif o glystyrau yng Nghymru yn cynnal trafodaeth broffesiynol sy'n canolbwyntio mwy ar agweddau penodol ar y cwricwlwm, fel datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y continwwm 3 i 16 ym Meysydd penodol y cwricwlwm. Mae cefnogi pontio yn thema gyffredin i glystyrau hefyd. Gellir ystyried bod rhai clystyrau yn defnyddio model o'r brig i lawr o hyd, gyda'r ysgol uwchradd yn llywio'r blaenoriaethau. Fodd bynnag, wrth i drefniadau cydweithio clystyrau aeddfedu, mae mwy yn cydnabod gwerth a chyfraniadau ymarferwyr o bob math o leoliadau. Er enghraifft, mwy o enghreifftiau o ymarferwyr cynradd yn helpu cydweithwyr uwchradd gydag agweddau ar addysgeg darllen wrth i ysgolion geisio mynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar gynnydd dysgwyr. Mewn nifer fach iawn o achosion, mae angen mwy o amser ar ysgolion i ddatblygu diwylliant o gydweithio fel clwstwr, ac mae'r gwasanaethau gwella ysgolion yn darparu cymorth er mwyn mynd i'r afael â hynny. Wrth i ymarferwyr ddod yn fwyfwy hyderus yn eu dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru, mae mwy o ysgolion wedi bod yn barod i rannu, gan arwain at ystod o effeithiau cadarnhaol.
Yn yr achosion hynny lle nodir nad yw ysgolion wedi dod ar draws llawer o heriau, os o gwbl, o ran datblygu eu cwricwlwm a darparu ar gyfer cynnydd a threfniadau asesu, gellir nodi fel arfer:
- bod gan yr ysgolion hynny drefniadau arwain cryf a sefydlog
- bod gwaith clwstwr effeithiol a phenodol yn digwydd
- bod cynnydd ym Meysydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio a'i ddatblygu mewn ffyrdd strwythuredig gan ddefnyddio syniadau ymarferwyr ac arbenigwyr amrywiol
- bod yr ysgolion yn manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol ffurfiol ac yn cael cymorth arbenigol pwrpasol lleol
- bod pwyslais cryf ar addysgu o ansawdd uchel
- bod trefniadau asesu wedi'u hystyried wrth gynllunio a datblygu'r cwricwlwm
- bod amrywiaeth o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio'n effeithiol
- bod dull clir yn cael ei ddefnyddio i ddeall cynnydd dysgwyr
Mewn achosion pan fo ysgolion yn wynebu heriau mewn perthynas â'u cwricwlwm, gellir nodi fel arfer:
- bod y trefniadau arwain yn wannach a/neu'n ansefydlog
- bod absenoldebau staff neu newidiadau mwy sylweddol i strwythur yr ysgol
- bod problemau'n ymwneud â chapasiti a/neu arbenigedd staff
- bod trefniadau gweithio clwstwr yn aneffeithiol
- bod bylchau mewn dealltwriaeth neu lai o bwyslais ar asesu
Mae'n glir o amrywiaeth o ffynonellau y byddai ysgolion, ar y cyfan, yn croesawu mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol ynghylch diwygio, yn enwedig o ran agweddau ymarferol ar gynllunio ar gyfer cynnydd a threfniadau asesu.
Mewn ysgolion cynradd, mae'r rhai sy'n gwneud y cynnydd mwyaf yn ymwreiddio eu dull gweithredu, er enghraifft, drwy gynnwys eu dysgwyr mewn ffordd ystyrlon yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm. Mae'r mwyafrif o ysgolion cynradd wedi mabwysiadu dull mwy thematig neu ryngddisgyblaethol o ddatblygu eu cwricwla. Mae'r datganiadau mandadol o'r hyn sy'n bwysig ym Meysydd y dyniaethau, y celfyddydau mynegiannol a gwyddoniaeth a thechnoleg yn aml yn cael eu datblygu drwy gyd-destunau penodol, mewn modd rhyngddisgyblaethol. Mewn ymateb i'w hunanwerthusiad o'u cwricwlwm, mae rhai ysgolion wedi datgysylltu dysgu ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg oddi wrth themâu ehangach er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar ddealltwriaeth gysyniadol o gysyniadau gwyddonol pwysig.
Nodir nad yw dealltwriaeth lleiafrif o ysgolion cynradd o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn ddigon cadarn eto. Yn sgil hyn, mae'r gwaith cynllunio wedi canolbwyntio'n gyfan gwbl ar yr hyn y mae dysgwyr yn ei ddysgu, yn hytrach na diben y dysgu hwnnw (a'r ffordd orau o'i gyflawni). Fel y nodwyd gan Estyn, nid yw rhai ysgolion cynradd yn cynnwys agweddau pwysig fel y sgiliau trawsgwricwlaidd yn effeithiol eto. Fodd bynnag, ar y cyfan, mae pwyslais cryf i'w weld ar addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a gaiff eu cymhwyso mewn cyd-destun ar draws Meysydd y cwricwlwm.
Mewn ysgolion uwchradd mae gwaith i gyflwyno trefniadau'r cwricwlwm yn fwy amrywiol. Mae'r mwyafrif yn trefnu eu cwricwlwm mewn ffordd fwy disgybledig, gydag ymarferwyr yn addysgu o fewn arbenigeddau pwnc, ond mae cynllun y cwricwlwm cyffredinol uwchlaw hyn yn amrywio rhwng ysgolion gwahanol. Yn yr enghreifftiau gorau, mae ysgolion wedi treialu gwahanol ddulliau cyn eu gwerthuso a'u mireinio. Yn aml, nid yw'r ysgolion y mae Estyn a gwasanaethau gwella ysgolion wedi nodi eu bod yn llai llwyddiannus yn rhoi digon o bwyslais ar addysgu effeithiol, neu caiff newidiadau i'r cwricwlwm eu llesteirio ar ôl i'r ysgolion gamddehongli egwyddorion allweddol y cwricwlwm. Mae hunanwerthusiadau ysgolion yn dangos bod angen mabwysiadu cwricwlwm mwy heriol.
Ar y cyfan, mae ymgysylltu â'r broses gynllunio yn cymryd mwy o amser mewn ysgolion uwchradd, gyda nifer fach yn ymdrin â hyn drwy'r angen i ddatblygu addysgeg. Mae arweinwyr ysgolion uwchradd yn myfyrio ar yr angen i godi disgwyliadau ar ôl arsylwi ar ddysgu a chynnydd. Drwy gymorth, mae dealltwriaeth ddyfnach o'r Cwricwlwm i Gymru a'r angen i ymateb i'r her o wireddu'r pedwar diben yn darparu'r ateb sydd ei angen. I wneud hyn, mae angen i bob arweinydd ysgol ymgysylltu â'r broses hon o safbwynt deallusol, a nodir bod hyn wedi digwydd yn amlach yn ystod y flwyddyn hon. Mae rhai ysgolion yn poeni o hyd am ddatblygu eu cwricwlwm ymhellach heb fanylion am asesiadau allanol (er enghraifft, y cymwysterau TGAU newydd). Dylai manylebau cymwysterau newydd a gyhoeddir o fis Medi ochr yn ochr ag adran newydd ar ddysgu 14 i 16 yng nghanllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru, gefnogi gwaith pellach yn y maes hwn.
Mewn ysgolion pob oed, nodir bod arweinwyr yn sefydlu gweledigaethau clir ar gyfer y cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwella addysgu. Maent yn annog ymarferwyr i dreialu dulliau addysgu a, thrwy werthusiadau systematig, maent yn addasu eu darpariaeth ar sail eu canfyddiadau. Mae rhai o'r gwendidau a welir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i'w gweld o hyd yn y sector hwn hefyd.
Mae ysgolion arbennig yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau cwricwlwm sy'n cynnig ehangder a chydbwysedd addas. Mae Estyn yn nodi bod cydweithio i gynllunio'r cwricwlwm yn nodwedd gyffredinol gadarn yn yr ysgolion hyngyda’r broses hon yn ystyried syniadau gan ddysgwyr ac ymarferwyr.
Unedau cyfeirio disgyblion
Yn ôl Estyn, cymysg fu cynnydd unedau cyfeirio disgyblion wrth roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol a nodwyd, roedd y cwricwlwm yn ddigon eang a dwfn ac yn cefnogi dysgu, cynnydd, iechyd emosiynol ac anghenion therapiwtig. Mae cymorth ar gael o hyd gan wasanaethau gwella ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm, drwy drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru.
Sicrhau ac ymwreiddio tegwch i bob dysgwr
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob dysgwr ac rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion a lleoliadau er mwyn helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau a datblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben. Mae ein gwaith i fynd i'r afael ag anfantais economaidd, yn enwedig y Grant Datblygu Disgyblion ac ysgolion bro, yn parhau i helpu dysgwyr o bob cefndir i ymgysylltu â'u dysgu.
Amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn thema drawsgwricwlaidd yn y Cwricwlwm i Gymru ac mae'r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu cwricwlwm sy'n hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o amrywiaeth.
Mae DARPL yn cael effaith gynyddol ledled Cymru. Erbyn diwedd tymor y gwanwyn, roedd 27,500 o weithwyr addysg proffesiynol wedi ymgysylltu â DARPL drwy ddigwyddiadau byw, ymgynghoriadau ac adnoddau anghydamserol.
Yn ystod 2023 i 2024, mae prosiect DARPL wedi symud ymlaen i gam 2 sy'n cynnwys ehangu campws rhithwir DARPL, mireinio'r gymuned ymarfer hydredol, gwaith pwrpasol gyda chonsortia addysg ac awdurdodau lleol, a ffocws allweddol ar ledaenu ehangach, gan gynnwys allgymorth rhyngwladol. Yn ail gynhadledd flynyddol DARPL i arweinwyr ym mis Mehefin, rhoddwyd rhagor o gymorth i uwch-arweinwyr ar eu taith tuag at sicrhau arweinyddiaeth wrth-hiliol barhaus.
Dangosodd sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol fod cynrychiolaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau tegwch a chynwysoldeb - mae angen i ddysgwyr weld pobl fel nhw eu hunain a phobl o'u cymunedau yn y cwricwlwm, gan gynnwys unigolion sy'n cynrychioli pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, cymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, cymunedau LHDTC+, a phobl anabl.
Mae'r penderfyniad i barhau â phrosiect Cyngor y Celfyddydau, Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol, wedi cynnig mwy o gyfleoedd i archwilio hanes amlddiwylliannol Cymru drwy ddysgu creadigol.
Un o feysydd Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau ydyw, sy'n canolbwyntio ar Gynefin er mwyn helpu ysgolion i:
- archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol
- archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru yn y gorffennol a'r presennol
- gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr creadigol mewn amgylchedd dysgu er mwyn gwella ansawdd dysgu ac addysgu
- helpu ysgolion i roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith
Mae Cymuned, sef map rhyngweithiol o gymunedau (a lansiwyd ym mis Chwefror), yn dangos cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol eraill yng Nghymru. Cafodd y map ei gynllunio'n benodol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, drwy weithio'n agos gydag ymarferwyr, arbenigwyr addysgol ac aelodau o'r cymunedau sydd ar y map. Mae'r map yn helpu ysgolion i archwilio ardaloedd lleol o arwyddocâd a chyfleoedd i ddysgu am brofiad bywyd o hiliaeth. Caiff y map ei ddiweddaru bob blwyddyn tan 2029.
Hawliau dynol
Rydym yn parhau i weithio gyda chonsortia rhanbarthol a phartneriaethau, gyda chymorth gan Gomisiynydd Plant Cymru, er mwyn datblygu adnoddau dysgu proffesiynol i helpu ymarferwyr i ddeall Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Yn dilyn modiwlau 1 a 2 sydd wedi'u cyhoeddi'n barod, mae modiwl 3 yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a'i nod yw helpu ymarferwyr i ddeall ffyrdd o drefnu, cynllunio, ac adolygu cwricwlwm eu hysgol mewn perthynas â hawliau.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae system addysg gynhwysol yn un lle y gwrandewir ar anghenion dysgwyr ac yr ymatebir iddynt, a lle y caiff pob dysgwr ei gefnogi i gyfranogi'n llawn mewn addysg gyda dull ysgol gyfan yn cael ei fabwysiadu i ddiwallu ei anghenion. Gyda'i gilydd, mae'r diwygiadau i'r Cwricwlwm i Gymru a'r system ADY yn gweithio fel catalydd ar gyfer newid sy'n anelu at gyflawni hyn.
Roedd adroddiad thematig Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023, yn dangos enghreifftiau o arferion effeithiol a meysydd gweithredu pwysig ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae adolygiad thematig arall o'r system ADY wrthi'n cael ei gynnal er mwyn adeiladu ar ganfyddiadau blaenorol ac ystyried sut y caiff y system ADY ei rhoi ar waith mewn ysgolion a lleoliadau. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr a bydd yn adnodd ymarferol i ysgolion a lleoliadau rannu arferion effeithiol fel y gallant werthuso eu hunain a gwella lle bo angen.
Digwyddiadau tegwch a chynwysoldeb
Yn ystod 2023 i 2024 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru i edrych ar sut y gall y cwricwlwm gefnogi tegwch a chynwysoldeb a helpu pob dysgwr i oresgyn rhwystrau, gwneud cynnydd yn ei ddysgu a chyflawni ei botensial.
Lluniodd rhai o'r ysgolion a'r lleoliadau a gymerodd ran astudiaethau achos sy'n cynnwys dulliau gweithredu ar gyfer darpariaeth ddysgu ychwanegol, dod yn ysgol ystyriol o drawma a goresgyn anfantais economaidd. Mae cyfeiriadur o'r sefydliadau a fynychodd y digwyddiadau ac a all roi cymorth i ysgolion a lleoliadau mewn perthynas â thegwch a chynwysoldeb wedi cael ei gyhoeddi hefyd.
Ymunodd 140 o gyfranogwyr â sgwrs ar-lein y Rhwydwaith Cenedlaethol ar degwch a chynwysoldeb ym mis Ebrill. Cafodd adnoddau a oedd yn deillio o'r sgwrs ac yn ymwneud â'r sgwrs eu cyhoeddi ar lwyfan y Rhwydwaith Cenedlaethol. Gellir gweld adnoddau a nodwyd gan gyfranogwyr trwy fewngofnodi i Hwb ac ymuno â rhwydwaith Tegwch a Chynwysoldeb Mae'r gwersi a ddysgwyd o'r sgwrs wedi cael eu rhannu ar draws Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru.
Cynllunio a mireinio'r cwricwlwm a threfniadau asesu o fewn ac ar draws Meysydd
Deall sut i gynllunio'r cwricwlwm
Canfu Estyn fod llawer o ysgolion wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Yn yr achosion lle gwelwyd y datblygiadau mwyaf llwyddiannus i'r cwricwlwm, roedd darparwyr wedi rhoi blaenoriaeth i wella ansawdd yr addysgu ochr yn ochr â chynllunio eu cwricwlwm. Yn ogystal, roedd yr ysgolion hyn wedi canolbwyntio'n fanwl ar helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o gynllunio cwricwlwm.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi Ymlaen â'r Daith sy'n nodi ein disgwyliadau parhaus ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu. Mae'r rhan hon o ganllawiau statudol y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cymorth clir ynghylch disgwyliadau ar gyfer cynllunio dysgu â diben. Mae'r canllawiau hyn, sydd wedi'u hategu gan amrywiaeth o ddeunyddiau ategol a'u datblygu ar y cyd â'r proffesiwn, yn ymateb i anghenion y proffesiwn yn yr ystyr eu bod yn fyrrach ac yn symlach.
Gan adeiladu ar beilot cynllunio'r cwricwlwm llwyddiannus yn 2023, rydym yn darparu cymorth dysgu proffesiynol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm yn genedlaethol. Bydd y cymorth hwn, a gafodd ei ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr a phartneriaid addysgol, yn arwain at ddull seiliedig ar ymchwil o gynllunio cwricwlwm a threfniadau asesu effeithiol sy'n gydnaws â'r Cwricwlwm i Gymru.
Fel y nodwyd yn y trosolwg uchod, er bod gwaith clwstwr yn amrywio rhwng ysgolion a lleoliadau, mae ymarferwyr yn cydnabod yn gynyddol bwysigrwydd cydweithio er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, a phwysigrwydd cydberthnasau cryf rhwng ysgolion er mwyn hwyluso trafodaethau proffesiynol. Mae Estyn a gwasanaethau gwella ysgolion wedi nodi'n glir mai datblygu dealltwriaeth o gynnydd a nodweddion cynnydd effeithiol ymhlith dysgwyr yw'r agwedd ar gynllunio'r cwricwlwm (ynghyd â dulliau asesu) sy'n achosi'r her fwyaf i ysgolion. Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ac astudiaethau achos er mwyn rhoi enghreifftiau o'r disgwyliadau ar gyfer gwaith ysgol i ysgol.
Mae darganfyddiadau cynnar o waith ymchwil yn dangos bod uwch-arweinwyr yn cydnabod eu bod yn rhan o broses ddiwygio hirdymor gyda’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno i flynyddoedd ysgol ychwanegol fesul blwyddyn tan 2026 i 2027 pan fydd ysgolion a lleoliadau yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru gyda phob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Mae peth ansicrwydd o hyd ond mae llawer o ymarferwyr yn cymryd perchnogaeth dros gynllunio'r cwricwlwm, gan groesawu'r ymreolaeth a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny. Fodd bynnag, mae rhai yn teimlo'n ansicr o ran symud i ffwrdd oddi wrth arferion sefydledig, yn enwedig mewn perthynas ag asesu. Rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i ddatblygu amrywiaeth o gymorth er mwyn gwella hyder a gallu ym maes diwygio'r cwricwlwm wrth inni barhau i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r amrywiaeth o ffynonellau a nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn yn dangos yn glir mai asesu, cynllunio'r cwricwlwm a chynnydd dysgwyr yw'r prif flaenoriaethau o hyd i benaethiaid. Cafwyd adborth tebyg gan y proffesiwn yn sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol am y cwricwlwm ac addysgeg ym mis Ionawr a mis Chwefror hefyd.
Cefnogi'r Meysydd Dysgu a Phrofiad
Y Celfyddydau Mynegiannol
Caiff Maes y celfyddydau mynegiannol ei gefnogi drwy ddwy raglen allweddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yw rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a chaiff ei hariannu drwy drefniant cyllid cyfatebol. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n gyffredinol ar gefnogi creadigrwydd yn y cwricwlwm ac yn enwedig ym Maes y Celfyddydau Mynegiannol, ond nid dim ond o fewn y maes hwnnw. Mae'r rhaglen hefyd yn cysylltu'n uniongyrchol â chreadigrwydd ac arloesedd, sef sgiliau sy'n hanfodol i bedwar diben y cwricwlwm. Mae gan y rhaglen gyfres o linynnau a'r mwyaf nodedig yw Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi ymgysylltu â bron 800 o ysgolion ers sefydlu'r rhaglen. Cafodd yr adroddiad gwerthuso annibynnol ar gam cyntaf y rhaglen ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Mae'n nodi bod y rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol, gan dynnu sylw at enghreifftiau niferus o arferion da, yn enwedig mewn perthynas ag Ysgolion Creadigol Arweiniol a chymorth rhwng ysgolion.
Cafodd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol ei sefydlu yn 2022 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu. Mae rhaglen waith eang y cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth yn canolbwyntio ar ddarpariaeth ysgolion sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r cwricwlwm. Yn 2023 i 2024, ymgysylltodd y rhaglen â mwy na 33,000 o ddysgwyr drwy fenter ‘profiadau cyntaf’ a 30,000 o ddysgwyr eraill drwy linynnau eraill y ddarpariaeth sy'n canolbwyntio ar ysgolion.
Iechyd a Lles
Nododd yr adroddiad darganfyddiadau cynnar fod iechyd a lles yn fwy datblygedig ar y cyfan o ran cynllunio ar y cyd a gweithio mewn ffordd integredig na rhai o Feysydd eraill y cwricwlwm. Rydym wedi gweld bod rhai ysgolion yn gwneud hyn yn dda, yn enwedig ysgolion cynradd sy'n fwy cyfarwydd â gweithio mewn ffordd fwy cyfannol. Ond rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth o waith arloesol mewn ysgolion uwchradd ar brosiectau sy'n ymwneud â chydberthnasau iach a sgrinio iechyd. Serch hynny, mae'r pandemig wedi gadael ei ôl ar ddysgwyr, er enghraifft, nododd adroddiad PISA 2022 fod gan ddysgwyr yng Nghymru lefel gyfartalog is o foddhad bywyd (6.16) o gymharu â chyfartaledd yr OECD (6.75).
Fel gyda'r cwricwlwm ehangach, mae digwyddiadau'r Rhwydwaith Cenedlaethol eleni ac ymweliadau â rhwydweithiau o ysgolion wedi dangos bod camau i gynllunio a rhoi'r Maes ar waith yn amrywio cryn dipyn. Mae hyn yn amrywio o ddealltwriaeth gyflawn o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a dull cyfannol o weithredu’r cwricwlwm, i ysgolion sydd wrthi'n edrych ar iechyd a lles yn nhermau'r ddarpariaeth i ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth. Mae rhai ysgolion uwchradd yn dweud ei bod yn anodd gweithio mewn ffordd gydlynol drwy'r ysgol gyfan pan fo unigolion gwahanol yn arwain agweddau gwahanol ar iechyd a lles.
Ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae pecyn cymorth i helpu ymarferwyr i ddeall y Maes yn well ac i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm yn fwy hyderus, ynghyd â chymorth o ran cynnwys pwnc a thema i ysgolion, yn cael ei ddatblygu. Y nod yw y bydd y pecyn cymorth hwn yn cyd-fynd â chyfleoedd dysgu proffesiynol ar gynllunio'r cwricwlwm, trefniadau asesu a chynnydd a bydd ar gael yn yr hydref.
Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod Rhwydwaith Cymru o Ysgolion sy'n Hybu Iechyd a Lles yn cyd-fynd â'r Maes. Drwy ddull cydweithredol newydd, mae cydlynwyr y rhwydwaith wedi bod yn helpu ymarferwyr i adolygu adnoddau ar Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â'r Cwricwlwm i Gymru. Yn ogystal, mae swyddogion y cwricwlwm yn cydweithio â chydweithwyr ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gyd-ddatblygu amrywiaeth o adnoddau er mwyn helpu ysgolion i roi'r Maes iechyd a lles ar waith.
Fel rhan o'r gwerthusiad ffurfiannol o'r cwricwlwm, caiff archwiliad dwfn o'r Maes iechyd a lles ei gynnal eleni. Bydd hwn yn cynnwys gwaith ymchwil ansoddol manwl gydag amrywiaeth o ymarferwyr ac uwch-arweinwyr er mwyn nodi llwyddiannau, heriau, dulliau cymorth defnyddiol a ble mae angen rhagor o gymorth.
Er ei bod yn cyd-fynd yn agos â'r Maes iechyd a lles, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn thema drawsbynciol yn y cwricwlwm a chaiff ei hystyried ar wahân yn yr adran ar elfennau trawsgwricwlaidd isod.
Y Dyniaethau
Er mwyn cefnogi dysgu ac addysgu hanes o fewn y Cwricwlwm i Gymru, gwnaethom gomisiynu Peniarth (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) i lunio poster ar-lein â gwybodaeth am 25 o unigolion a digwyddiadau yn hanes Cymru. Mae pob ysgol gynradd ac uwchradd wedi cael pum copi o boster 'Brethyn Cymru', sy'n rhoi cyfle i ymarferwyr a dysgwyr archwilio eu hanes amlddiwylliannol fel cenedl. Mae'r cod QR sydd ar y poster yn arwain at fwy o wybodaeth ar Hwb, a gellir defnyddio'r ddwy ran i ysgogi trafodaeth a rhagor o waith. Cafodd yr adnodd ei ddatblygu yn sgil yr argymhelliad yn adroddiad yr Athro Charlotte Williams y dylid creu adnoddau a deunyddiau trawsgwricwlaidd i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, er mwyn dysgu ac addysgu am amrywiaeth yng Nghymru nawr ac yn y gorffennol.
Mae cynlluniau wedi cael eu rhoi ar waith i ddatblygu rhagor o ddeunyddiau ategol ar hanes Cymru. Fel rhan o hyn, byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr, ymarferwyr a chydweithwyr yn Adnodd i adeiladu ar yr adnoddau sydd ar gael yn barod, er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol ddeunyddiau dwyieithog hyblyg o ansawdd uchel sy'n rhoi llinell amser ar gyfer hanesion Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau ategol dwyieithog eraill sy'n cyd-fynd â Maes y dyniaethau wedi cael eu llunio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- adnoddau ar gyfer prosiect gwleidyddiaeth a ddatblygwyd er mwyn helpu dysgwyr i ddeall amrywiaeth o systemau llywodraethu a sut mae pobl wedi cael eu cynrychioli yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r adnoddau yn cefnogi dysgwyr mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- adnoddau llythrennedd yn y cyfryngau er mwyn helpu ymarferwyr i hwyluso gwaith dysgu am y gwahanol fathau o gamwybodaeth y gallai ddysgwyr ddod ar eu traws - o gamwybodaeth a gaiff ei lledaenu'n anfwriadol, i ddefnydd bwriadol o gamwybodaeth mewn straeon newyddion, rhwng gwledydd sy'n rhyfela ac ar y cyfryngau cymdeithasol
- nod astudiaethau achos dinasyddiaeth fyd-eang yw helpu ysgolion drwy ddangos sut mae ysgolion wedi cynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu dinasyddiaeth mewn ffordd effeithiol a diddorol fel rhan o'r broses o gynllunio'r cwricwlwm
- ar ôl i brosiect peilot Robert Owen (cwmnïau cydweithredol a busnes cymdeithasol) ddod i ben, cafodd adnoddau eu cyhoeddi ar Hwb ym mis Mai
- cwblhawyd prosiect peilot yr undebau a byd gwaith a chafodd adnoddau eu datblygu i'w cyhoeddi ar Hwb
- Cymuned, map rhyngweithiol o gymunedau a gafodd ei lansio ym mis Chwefror (gweler yr adran uchod ar Amrywiaeth am ragor o fanylion)
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rydym yn parhau i roi cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy'r pecyn cymorth ar gyfer llafaredd a darllen, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cafodd y pecyn cymorth ei ddiweddaru yn 2023 i egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i addysgu ffoneg mewn ffordd systematig a chyson wrth addysgu darllen cychwynnol (ac ysgrifennu).
Gweithiodd y Prosiect Peilot Mentora Darllen dan arweiniad Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, gyda darllenwyr anfoddog mewn 12 o ysgolion cynradd ledled Cymru er mwyn helpu i fagu eu hyder, eu cymhelliant a'u cariad at ddarllen, yn ogystal â datblygu adnoddau a deunyddiau hyfforddiant i fentoriaid a'r rhai y maent yn eu mentora.
Drwy brosiect llafaredd Ein Llais Ni rydym yn datblygu cymorth ac adnoddau i ymarferwyr er mwyn gwneud cynnydd o ran sgiliau siarad a gwrando Cymraeg ym mhob un o Feysydd y cwricwlwm. Mae’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn canolbwyntio ar ddatblygu a threialu rhaglen Gymraeg bwrpasol sy'n datblygu geirfa a sgiliau llythrennedd Cymraeg er mwyn gwella deilliannau darllen ymhlith plant rhwng 8 ac 11 oed.
Gwnaethom roi cyllid i Book Trust Cymru er mwyn helpu i greu amgylchedd a diwylliant dysgu cadarnhaol yn y cartref, gan annog llythrennedd cynnar drwy ddefnyddio llyfrau a darllen ar y cyd. Rhwng 2022 a 2023, diolch i £5 miliwn o gyllid ychwanegol, rhoddwyd llyfr o ansawdd i bob dysgwr er mwyn ysgogi cariad at ddarllen. Cyflwynodd y prosiect 438,245 o lyfrau i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd a 168,870 o dalebau llyfrau i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd. Fel rhan o'r prosiect hwn hefyd, cafodd pob ysgol 50 o lyfrau i'w hychwanegu at eu llyfrgelloedd.
Mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig o ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg a chaiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Medi. Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd ag adolygiad tebyg o sgiliau darllen Saesneg a gyhoeddwyd y llynedd, yn llywio ein gwaith parhaus i gefnogi gwaith dysgu ac addysgu llythrennedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Yn sgil nifer o heriau ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgolion, mae rhaglen Dyfodol Byd-eang 2022 i 2025 yn amlinellu ein huchelgais i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dysgu ieithoedd. Partneriaeth â chydweithwyr amrywiol yw'r rhaglen, gan gynnwys Estyn, y British Council a'r consortia addysg rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol. Rydym yn ymrwymedig o hyd i weithio gyda'n partneriaid Dyfodol Byd-eang i hyrwyddo'r sgiliau iaith sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn cystadlu yn y farchnad fyd-eang.
Mae cyllid y rhaglen Dyfodol Byd-eang wedi cefnogi rhaglen mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern Prifysgol Caerdydd sydd wedi gweithio gyda 127 o ysgolion uwchradd dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethom barhau i ariannu'r consortia addysg rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol wrth iddynt helpu ysgolion cynradd i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol, y nod oedd ennyn brwdfrydedd dysgwyr gan greu momentwm wrth iddynt symud i'r ysgol uwchradd. Mae'r cyllid hefyd yn rhoi cymorth uniongyrchol i athrawon cynradd drwy raglen TEachers Learning to Teach languages (TELT) y Brifysgol Agored sy'n gwella eu sgiliau ym maes addysgeg ac wrth addysgu Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Fandarin.
Mathemateg a Rhifedd
Yn sgil y cynllun mathemateg a rhifedd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, mae grŵp ymchwil, tystiolaeth a chyngor wedi cael ei sefydlu yn cynnwys wyth ysgolhaig sy'n helpu i ddatblygu camau gweithredu'r cynllun. Mae dysgu proffesiynol yn cael ei ddatblygu er mwyn helpu i wella safonau mathemateg a rhifedd. Caiff y dysgu proffesiynol hwn ei gynhyrchu ar y cyd ag ymarferwyr, partneriaid gwella addysg ac arbenigwyr academaidd ym maes mathemateg a rhifedd ac addysgu mathemateg a rhifedd. Rydym wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Gwasanaeth Addysg Ariannol Cymru i gyhoeddi amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ar gyfer addysg ariannol ar Hwb ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd. Mae'r deunyddiau hyn, sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, yn helpu i ddatblygu llythrennedd ariannol yn gynyddol fel elfen o'r sgiliau trawsgwricwlaidd.
Drwy gydweithio ag aelodau o Fforwm Addysg Ariannol Cymru, mae pecyn cymorth addysg ariannol wedi cael ei gyhoeddi i gyfeirio ymarferwyr at adnoddau defnyddiol i'w helpu i gynllunio eu darpariaeth llythrennedd ariannol.
Rhoddwyd cyllid i Brifysgol Abertawe gyflwyno rhaglen gymorth mathemateg Cymru (oedd gynt o’r enw y rhaglen gymorth mathemateg bellach). Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfleoedd dysgu proffesiynol i'r rhai sy'n addysgu mathemateg safon uwch a mathemateg bellach, hyfforddiant i ddysgwyr, ac adnoddau cyfoethogi ar gyfer y cyfnod cyn-16 ac ôl-16. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi'r cynllun mathemateg a rhifedd, a chaiff gweithgarwch ychwanegol er mwyn helpu rhieni i ymgysylltu â dysgu eu plant ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Rydym yn parhau i gefnogi gwaith dysgu ac addysu ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) drwy amrywiaeth o grantiau. Mae'r cyllid hwn yn galluogi ysgolion i fanteisio ar brofiadau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr mewn amrywiaeth o gyd-destunau ymarferol diddorol, fel codio, ffiseg a gweithio gyda diwydiant ar heriau STEM. Maent hefyd yn cefnogi ymarferwyr drwy ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein a deunyddiau ategol ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Mae Technocamps wedi cael cyllid i gefnogi gweithgareddau STEM ar gyfer dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys magu hyder, gwybodaeth a sgiliau ym maes cyfrifiadureg. Mae'r rhaglen yn targedu ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ymgymryd â gwaith codio, meddwl mewn ffordd gyfrifiadurol a thechnoleg ddigidol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr ym maes defnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg fel dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â dulliau diddorol i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, fel defnyddio Minecraft.
Cafodd y rhaglen mentora ffiseg ei rhoi ar waith gan Brifysgol Caerdydd er mwyn helpu dysgwyr ym mlynyddoedd 9 i 11 i ddilyn llwybrau ffiseg ôl-16. Er bod y rhaglen hon yn canolbwyntio'n bennaf ar lwybrau safon uwch, mae'r rhaglen wedi ehangu i gynnwys prentisiaethau a llwybrau eraill at ffiseg a pheirianneg. Cafodd tua 7,300 o oriau mentora eu darparu yn 2023 i 2024 gan helpu dysgwyr i ddefnyddio eu dealltwriaeth o ffiseg mewn sefyllfaoedd diddorol ac ymarferol.
Darparodd rhwydwaith ffiseg ysgogol y Sefydliad Ffiseg gyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr arbenigol ac anarbenigol drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn. Mae'r cyfleoedd hyn yn darparu cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb i ymarferwyr fel y gallant gynnal gwersi ffiseg cyffrous a diddorol, ac maent hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o gymwysterau a llwybrau gyrfa ffiseg. Mae'r rhaglen hefyd yn helpu ysgolion i fabwysiadu dulliau fwy cynhwysol o ddysgu STEM.
Rhoddodd Cynllun Addysg Beirianneg Cymru brofiadau peirianneg ymarferol i ddysgwyr ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ôl-16. Roedd prosiectau fel y gystadleuaeth F1 mewn ysgolion, y prosiect 6ed dosbarth a'r prosiect Denu Merched i Faes STEM, wedi rhoi cyfle i ddysgwyr weithio gyda gweithwyr proffesiynol er mwyn defnyddio eu gwybodaeth am fathemateg, ffiseg a pheirianneg mewn cyd-destunau newydd a chyffrous.
Cafodd canolfannau gwyddoniaeth Techniquest ac Xplore gyllid dros y flwyddyn er mwyn cynnig profiadau i ysgolion archwilio amrywiaeth o bynciau a chyfleoedd dysgu STEM. Yn ogystal ag arddangosfeydd rhyngweithiol, cynhaliodd y canolfannau weithdai ar bynciau fel y corff dynol a magnetedd, ac roedd ganddynt labordai lle gallai dysgwyr gynnal arbrofion.
Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid sy'n rhan o'r bwrdd Gweinidogol Tegwch mewn Addysg STEM ac i ddefnyddio eu harbenigedd. Mae'r grŵp hwn yn rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer gweithgareddau’r Llywodraeth sy'n helpu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgysylltu â chyfleoedd dysgu a gyrfaoedd ym maes STEM.
Cynnydd, asesu a chyfathrebu â rhieni a gofalwyr
Cynnydd
Camau i’r Dyfodol
Mae prosiect Camau i'r Dyfodol yn rhan o'n gwaith parhaus i gefnogi dealltwriaeth a sicrhau cynnydd fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r prosiect yn gweithio gydag ymarferwyr, uwch-arweinwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r system addysg i feithrin y gallu i gynllunio cynnydd mewn cwricwla. Ar ôl cwblhau Cam 1, cafodd adroddiad ei gyhoeddi yn nodi'r canfyddiadau a oedd yn canolbwyntio ar ddeall hyder y system â chynnydd a datblygu'r sail dystiolaeth i gefnogi hyn ymhellach.
Yng Ngham 2, daeth ymarferwyr, partneriaid addysgol ac ymchwilwyr ynghyd i nodi meysydd â blaenoriaeth o ran cynnydd wrth gynllunio'r cwricwlwm, ac i ddatblygu deunyddiau ategol ar y cyd. Cafodd yr adnoddau a ddeilliodd o hyn eu cyhoeddi ym mis Medi 2023. Cawsant eu datblygu:
- i fod yn ystyrlon ac yn hawdd i ymarferwyr eu defnyddio a'u trin
- i gefnogi dealltwriaeth gyffredin ym mhob rhan o'r system o'r Cwricwlwm i Gymru a sut i ddatblygu cynnydd wrth gynllunio'r cwricwlwm
- i alluogi ymarferwyr i ymgysylltu â'r ffyrdd o feddwl, y prosesau cynllunio a'r adnoddau a luniwyd gan y prifysgolion a chyfranogwyr y prosiect
- i adlewyrchu ffordd o feddwl a gwaith dysgu ymarferwyr a'r partneriaid a'r sefydliadau eraill dan sylw.
Cynlluniwyd yr adnoddau i fod yn ymarferol ac i ddarparu'r dulliau a'r deunyddiau sydd eu hangen ar ymarferwyr i ddatblygu eu ffordd o feddwl. Cafodd adroddiad Cam 2 ei gyhoeddi ar ôl y deunyddiau, gan amlinellu'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect a'r camau nesaf i gefnogi cynnydd. Mae gwaith bellach wedi dechrau ar Gam 3 ac fel rhan o'r gwaith hwnnw mae Camau yn gweithio gydag ymarferwyr yn eu hysgolion a'u lleoliadau ar gynllunio'r cwricwlwm a chynnydd, er mwyn llunio astudiaethau achos manwl o brosesau datblygu ysgolion.
Asesiadau Personol
Mae rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i'r ffordd y caiff cynnydd dysgwyr ei nodi yn yr adroddiadau asesu personol. Caiff y newidiadau hyn eu hamlinellu yn Newidiadau Allweddol ar gyfer Medi 2023. Y nod yw helpu i feithrin dealltwriaeth well o gynnydd o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Gwnaethom gyhoeddi Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, o 2018 i 2019 i 2022 i 2023 ar 13 Mehefin. Mae'r data dienw o asesiadau personol a gyflwynir yn yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol. Maent yn dangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau demograffig, fel gwahaniaethau yn ôl rhyw, neu yn ôl y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Mae hyn yn dilyn y datganiad ystadegol cychwynnol ym mis Tachwedd 2023, sef Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: o 2018 i 2019 i 2022 i 2023.
Dysgu 14 i 16 a chymwysterau
Ar ôl i Cymwysterau Cymru gyhoeddi'r gyfres newydd o TGAU Gwneud-i-Gymru ym mis Mehefin 2023, mae CBAC wedi bod yn cwblhau'r don gyntaf o fanylebau TGAU i'w rhannu ag ysgolion ym mis Medi. Bydd y manylebau hyn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar ysgolion i baratoi i addysgu dysgwyr blwyddyn 10 o dan y Cwricwlwm i Gymru am y tro cyntaf ym mis Medi 2025.
Mae CBAC hefyd yn datblygu rhaglen dysgu proffesiynol a chanllawiau, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru, i sicrhau bod ymarferwyr mewn sefyllfa i addysgu'r cymwysterau newydd yn hyderus. Mae hyn yn cynnwys sioe deithiol dros Gymru gyfan yn ystod gwanwyn 2025, y llwyddwyd i'w threfnu drwy gydlynu diwrnodau HMS ar draws clystyrau ysgolion uwchradd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £250,000 yn 2024 i 2025 a 2025 i 2026 i gefnogi'r rhaglen dysgu proffesiynol hon.
Yn ogystal, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei adroddiad penderfyniadau ar y ddarpariaeth lawn o gymwysterau 14 i 16 ym mis Ionawr. Cadarnhaodd yr adroddiad y bydd:
- yn bwrw ymlaen â'r gwaith i ddatblygu cyfres cymwysterau sgiliau sy'n cynnwys:
- cymhwyster seiliedig ar brosiect, sef y prosiect personol, sy'n asesu dysgwyr yn erbyn sgiliau cyfannol y Cwricwlwm i Gymru.
- ystod eang o unedau ar gyfer sgiliau bywyd a sgiliau gwaith.
- yn bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu cyfres o gymwysterau mewn pynciau cysylltiedig â gwaith o dan yr enw Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) ar lefel 1 a lefel 2 ac o dan yr enw Sylfaen ar lefel mynediad a lefel 1.
- yn bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu ystod o gymwysterau Sylfaen sy'n gysylltiedig â Meysydd y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi cyrraedd lefel TGAU eto.
Bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2027. Mae Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried opsiynau ar gyfer un neu fwy o gymwysterau Sylfaen mewn Cymraeg.
Ar y cyd â'r cymwysterau TGAU diwygiedig, bydd y cymwysterau hyn yn rhan o'n Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol, a'r nod yw y byddant yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion dysgwyr ac economi Cymru. Byddant yn darparu dewis cynhwysol, cydlynol a dwyieithog y gall ysgolion ei gynnig i ddysgwyr, gan eu helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Gan gydnabod rôl bwysig cymwysterau yn y cwricwlwm i ysgolion a dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ym mis Chwefror ar ddysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau yn amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu ym mlynyddoedd 10 ac 11 ac yn ceisio helpu ysgolion i ddeall a chyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol gan helpu i sicrhau hefyd bod dysgwyr yn parhau i ddilyn cwricwlwm eang a chytbwys wrth iddynt weithio tuag at gymwysterau.
Cyflwynodd y canllawiau drafft yr Hawl i Ddysgu 14 i 16, sef y dysgu y bydd pawb ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn ei gyflawni o dan y Cwricwlwm i Gymru. Yn ogystal â chynnig eang o gymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, mae'r hawl hefyd yn cynnwys cymorth i ddysgwyr ddeall eu cryfderau a'u diddordebau, ac i gynllunio eu camau nesaf ar ôl iddynt adael addysg orfodol yn 16 oed. Drwy'r canllawiau, gwnaethom amlinellu ein disgwyliadau cenedlaethol clir er mwyn helpu i ddarparu tegwch a chysondeb yn y cwricwlwm, gyda phob ysgol yn gwerthfawrogi'r un pethau sy'n cyfrannu at gynnydd dysgwr a'i allu i symud ymlaen yn llwyddiannus.
Rydym wrthi'n adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau statudol terfynol ym mis Medi, fel y gall ysgolion eu defnyddio i gynllunio'r cwricwlwm y byddant yn ei gynnig i flynyddoedd 10 ac 11 ochr yn ochr â'r manylebau TGAU newydd.
Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr
Yn ôl Estyn, er bod y rhan fwyaf o ysgolion eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd o gyfathrebu â rhieni, dim ond nifer fach ohonynt sy'n ymgynghori â rhieni am eu dewisiadau o ran cyfathrebu. Mae adran Cefnogi cynnydd dysgwyr: asesu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru, yn nodi'r gofynion statudol ar gyfer rhannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr bob tymor, a'r gofyniad i roi crynodeb o wybodaeth am ddysgwyr unigol bob blwyddyn. Mae ysgolion ac ymarferwyr yn parhau i ddatblygu ffyrdd o rannu gwybodaeth am gynnydd dysgwyr yn effeithiol â rhieni a gofalwyr, a rhoi gwybod am y camau nesaf yn eu dysgu.
Canfu gwaith ymchwil Cam 2 i weithrediad cynnar, o gymharu â chanfyddiadau cam 1, fod uwch-arweinwyr yn disgrifio amrywiaeth ehangach o ffyrdd o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, a chynnydd yn y defnydd o ddulliau electronig, yn ychwanegol at ddulliau wyneb yn wyneb traddodiadol (er enghraifft, rhannu enghreifftiau o waith a fideos ar apiau ystafell ddosbarth fel Dojo, Seesaw a Google Classroom). Mae'n galonogol nodi bod y wybodaeth a rennir â rhieni a gofalwyr yn aml yn canolbwyntio ar gynnydd yn hytrach na chyrhaeddiad.
Soniodd uwch-arweinwyr ei bod yn heriol denu rhieni a gofalwyr i ddigwyddiadau neu weithgareddau a oedd yn ymwneud yn benodol â'r Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, gwnaethant nodi bod dulliau mwy arloesol ac anffurfiol o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr (er enghraifft, perfformiadau neu arddangosiadau dysgwyr) yn arwain at fwy o gyfranogiad. Mewn datblygiad arall o gymharu â Cham 1, ni fynegodd unrhyw uwch-arweinwyr yng Ngham 2 bryderon ynglŷn â hysbysu rhieni am newidiadau i'w cwricwlwm. Roedd yn ymddangos bod yr uwch-arweinwyr yn teimlo'n fwy hyderus i rannu gwybodaeth am eu cwricwlwm.
Mae'n debyg mai prif bryder uwch-arweinwyr ynghylch ymgysylltu â rhieni oedd sut y byddent yn ymateb i newidiadau yn y wybodaeth roeddent yn ei rhannu am gynnydd eu plentyn yn yr adroddiadau diwedd blwyddyn. Mynegwyd y pryder hwn yn amlach gan uwch-arweinwyr mewn ysgolion uwchradd nag ysgolion cynradd. Rydym yn parhau i ddatblygu astudiaethau achos ar ffurf fideo gydag ysgolion i ddangos y gwaith parhaus y maent yn ei wneud i ddatblygu'r dulliau y maent yn eu defnyddio i ymgysylltu a rhannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr, ac i gofnodi eu llwyddiannau a gwersi defnyddiol a ddysgwyd.
I rieni a gofalwyr dysgwyr iau, mae'r canllaw diwygiedig ar fanteision addysg feithrin hefyd yn cynnwys adnoddau sy'n egluro'r newidiadau i'r cwricwlwm, yn ogystal ag adnoddau ar ddatblygiad plant, chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae a dysgu dilys a phwrpasol.
Elfennau trawsgwricwlaidd
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn rhan o werthoedd ac ymagweddau cyffredinol y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Maent yn sgiliau galluogi a hebddynt ni all dysgwyr ymwneud â chwricwlwm eang a chytbwys na datblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm.
Cymhwysedd Digidol
Cafodd dysgu digidol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ei gefnogi drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru i gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol drwy gydol y flwyddyn. Llwyddodd y cyllid hwn i ddarparu ar gyfer ystod o ddysgu proffesiynol penodol, ynghyd â chymorth pwrpasol mwy ymarferol i ysgolion ar gynllunio a datblygu'r cwricwlwm mewn perthynas â meithrin sgiliau digidol ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Cafodd cymhwysedd digidol ei gefnogi hefyd drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Technocamps, y cyfeiriwyd ati uchod yn y Maes gwyddoniaeth a thechnoleg.
Yn ogystal, rydym wedi gweithio gyda'r BBC a Sefydliad Micro:bit i sicrhau y gall ysgolion cynradd ledled Cymru fanteisio ar eu darpariaeth Micro:bit newydd. Cofrestrodd 94 y cant o ysgolion cymwys yng Nghymru i gael set o'r sglodion rhaglenadwy hyn ar gyfer eu hystafelloedd dosbarth. Cafodd cyfleoedd dysgu proffesiynol cysylltiedig ar gyfer defnyddio'r Micro:Bits yn effeithiol eu creu mewn partneriaeth â Technocamps.
Llythrennedd
Caiff manylion am y cymorth ar gyfer llythrennedd eu nodi uchod yn yr adran ar gymorth ar gyfer y Maes ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu.
Rhifedd
Fel y nodir uchod yn yr adran ar gymorth ar gyfer y Maes mathemateg a rhifedd, mae cymorth ar gyfer rhifedd yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r cynllun mathemateg a rhifedd.
Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (addysg a phrofiadau byd gwaith)
Mae Gyrfa Cymru yn parhau i gefnogi gweithwyr addysg ac addysgu proffesiynol gydag amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau i'w helpu i drefnu, gynllunio, a darparu addysg a phrofiadau byd gwaith ym mhob un o chwe maes y cwricwlwm.Mae'n darparu amrywiaeth o sesiynau ymgynghori a hyfforddi, gan gynnwys: tystysgrifau a gymeradwyir gan yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol.
Mae'r pecyn cymorth addysg a phrofiadau byd gwaith ar gyfer ymarferwyr, uwch dimau arwain a'r rhai sy'n cefnogi pobl ifanc wedi cael ei ddiweddaru. Mae'n cefnogi gwaith i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso addysg gyrfaoedd, er mwyn gwireddu ac ymwreiddio addysg a phrofiadau n byd gwaith mewn ysgolion a lleoliadau.
Cafodd gwobr ansawdd Gyrfa Cymru, sy'n helpu i roi addysg a phrofiadau byd gwaith ar waith, ei lansio ym mis Hydref 2023. Mae'r wobr newydd yn cynnig dull tri cham a meini prawf ansawdd y gellir eu rhoi ar waith mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig. Mae'r camau yn cwmpasu meini prawf sy'n gysylltiedig â'r chwe dimensiwn ansawdd sy'n sail i addysg a phrofiadau byd gwaith.
Rydym yn parhau i ystyried ffyrdd o helpu ysgolion i ddatblygu cysylltiadau â busnesau, entrepreneuriaid a chyflogwyr lleol, ar ôl i waith ymchwil i'r cydberthnasau rhwng ysgolion a chyflogwyr ddod i ben. Llwyddodd prosiect peilot Robert Owen hefyd i gysylltu ysgolion â busnesau cymdeithasol lleol er mwyn archwilio eu gwaith mewn cymunedau lleol, yn ogystal â strwythur y busnes.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Pan oedd uwch-arweinwyr mewn ysgolion uwchradd yn paratoi i roi'r cwricwlwm ar waith o fis Medi 2023, ni wnaethant nodi bod rhieni wedi codi pryderon am addysg cydberthynas a rhywioldeb, er bod y pwnc wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau ar y pryd. Gwnaethant nodi eu bod yn teimlo'n hyderus i egluro eu hymagwedd at addysg cydberthynas a rhywioldeb i rieni pe bai unrhyw gwestiynau'n cael eu codi.
Mae rhai ysgolion wedi penodi ymarferwyr arweiniol dynodedig ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb ac wedi mapio eu darpariaeth bresennol ar draws Meysydd y cwricwlwm. Roeddent hefyd yn rhoi cyngor a syniadau i arweinwyr Meysydd ar sut i ymwreiddio cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb yn eu cwricwlwm. Dywedodd uwch-arweinwyr fod cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei roi ar waith yn bennaf ym Meysydd iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg a'r dyniaethau.
Teimlai rhai uwch-arweinwyr yr hoffent gael canllawiau mwy penodol ar beth y dylid ei addysgu i ddysgwyr ar adegau gwahanol ar eu taith drwy'r cwricwlwm, a phriodoldeb pynciau penodol i oedrannau gwahanol. Dywedodd rhai uwch-arweinwyr fod staff wedi manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol da drwy eu consortiwm rhanbarthol. Nododd eraill, er yr hoffent fod wedi cael mwy o arweiniad, fod ganddynt hyder yng ngallu'r staff i ddatblygu eu hymagwedd eu hunain at addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio ag arweinwyr addysg cydberthynas a rhywioldeb y gwasanaethau gwella ysgolion i drafod eu darpariaeth dysgu proffesiynol a'r arferion gorau i'w rhannu'n genedlaethol. Ar y cyd ag ymarferwyr a chydlynwyr ysgolion iach, rydym yn parhau i adolygu adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r cwricwlwm ac i fapio unrhyw fylchau mewn adnoddau. Rydym wrthi'n comisiynu adnoddau ychwanegol i gefnogi themâu mandadol yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Cefnogi diwygiadau
Adnoddau a deunyddiau ategol
Rydym yn ymrwymedig i helpu ysgolion i weithredu'r cwricwlwm drwy gynnig adnoddau sy'n cyd-fynd â'i egwyddorion. Mae adolygiad o adnoddau'r cwricwlwm ar Hwb yn mynd rhagddo ar y cyd ag ymarferwyr, swyddogion o Lywodraeth Cymru a datblygwyr adnoddau. Ar ddiwedd mis Mehefin, roedd 471 o adnoddau a deunyddiau ategol ar gael sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru yn uniongyrchol. Caiff adnoddau cwricwlwm newydd a gyflwynir i Hwb eu cynnwys yn yr adolygiad hefyd.
Mae'r adolygiad hwn hefyd yn gyfle i gynnal ymarfer mapio a lle caiff bylchau sylweddol eu nodi, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Adnodd er mwyn helpu i gyd-ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol newydd i ysgolion.
Adnodd
Adnodd yw'r corff hyd braich newydd a fydd yn goruchwylio'r adnoddau addysgol dwyieithog a ddarperir yng Nghymru er mwyn cefnogi gwaith a dysgu ac addysguo dan y Cwricwlwm i Gymru. Daeth yn weithredol y llynedd a phenodwyd ei brif weithredwr cyntaf, sef Emyr George, yn gynharach eleni. Mae Adnodd wedi dechrau recriwtio staff ac mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid i adnabod anghenion er mwyn dechrau comisiynu a chyhoeddi adnoddau yn ddiweddarach eleni. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Adnodd i drosglwyddo grantiau a chontractau presennol sy'n gysylltiedig â datblygu adnoddau, wrth i'r corff ymgymryd â mwy o'i swyddogaethau. Mae Adnodd wedi bod yn gweithio'n agos gyda CBAC i nodi pa adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r cymwysterau TGAU newydd a fydd ar gael pan gaiff y cymwysterau newydd eu cyflwyno o fis Medi 2025.
Yn y cyfamser, mae anghenion a nodwyd yn barod mewn perthynas ag adnoddau a deunyddiau ategol i’r cwricwlwm yn cael eu diwallu drwy waith comisiynu parhaus gan Lywodraeth Cymru. Caiff ein canllaw ar adnoddau a deunyddiau ategol, a gafodd ei lunio ar y cyd ag ymarferwyr, hefyd ei ddiweddaru dros yr haf i adlewyrchu cyfrifoldebau Adnodd.
Y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
Mae sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn rhoi llwyfan agored i bob ymarferydd yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith yn ystyried materion allweddol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm drwy sgyrsiau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae'r rhwydwaith yn parhau i nodi'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â diwygio ac i fynd i'r afael â nhw, gan roi cyfle i ddod ynghyd i rannu gwersi a ddysgwyd, meithrin gallu a phennu'r blaenoriaethau ar gyfer cymorth cenedlaethol. Mae hynny'n cynnwys pwyslais ar feysydd trawsgwricwlaidd fel cynllunio'r cwricwlwm a chynnydd.
Mae dros 500 o ymarferwyr wedi cymryd rhan yn sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn ystod y flwyddyn academaidd hon, drwy sgyrsiau a oedd yn canolbwyntio ar:
- y cwricwlwm a chynnydd
- trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
- Meysydd dysgu a phrofiad
- tegwch a chynwysoldeb
- addysgeg
- Deallusrwydd Artiffisial
Grŵp polisi
Yn yr hydref, gwnaethom wahodd ymarferwyr i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i fod yn rhan o Grŵp Polisi Cwricwlwm i Gymru. Erbyn hyn mae gan y grŵp 38 o aelodau sy'n cynrychioli gwahanol fathau o ysgolion a lleoliadau o bob cwr o Gymru sy'n cydweithio i ddatblygu polisi a helpu i roi'r cwricwlwm ar waith. Enghraifft gynnar o waith y grŵp hwn o ymarferwyr oedd y gwaith i ddatblygu adran Ymlaen â'r Daith canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.
Dysgu proffesiynol
Dysgu proffesiynol o ansawdd uchel
Er mwyn gweithredu'r hawl yn llawn a sicrhau y gall ymarferwyr fanteisio ar amrywiaeth o brofiadau a rhaglenni dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, cafodd proses gadarn a thrylwyr newydd i gymeradwyo dysgu proffesiynol ei lansio ym mis Mawrth. Caiff y broses ei harwain gan Banel Cymeradwyo Cenedlaethol, sy'n cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol, uwch-arweinwyr ac ymarferwyr, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ken Jones. Ceir tair lefel o sicrhau ansawdd:
- Achrededig: mae'r ddarpariaeth yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a/neu'n rhyngwladol. Y darparwr unigol fydd yn ymgymryd â'r broses achredu
- Cymeradwy: mae'r ddarpariaeth yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol. Yn achos darpariaeth arwain, caiff hyn ei arwain gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Yn achos darpariaeth genedlaethol arall, caiff hyn ei arwain gan Lywodraeth Cymru.
- Cydnabyddedig: caiff ansawdd darpariaeth leol/ar raddfa lai ei sicrhau drwy broses adolygu gan gymheiriaid, sy'n seiliedig ar y meini prawf cymeradwyo cenedlaethol.
Bydd galwadau cychwynnol am gymeradwyaeth yn canolbwyntio ar raglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol sefydledig.
Mynediad i ddysgu proffesiynol
Er mwyn darparu un pwynt mynediad i raglenni dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy'n hawdd eu defnyddio ac sy'n diwallu anghenion pob gweithiwr addysg proffesiynol, cafodd adran dysgu proffesiynol newydd ei lansio ar Hwb yn 2023.
Mae'r adran dysgu proffesiynol wedi cael ei threfnu er mwyn helpu ymarferwyr i ddod o hyd i'r adnoddau cywir i ddiwallu eu hanghenion dysgu proffesiynol. Yn yr adran hon, gall ymarferwyr fanteisio ar ystod eang o hyfforddiant, dysgu hunangyfeiriedig, astudiaethau achos, canllawiau ac ymchwil ar bob agwedd ar ddysgu proffesiynol.
Mae'r adnoddau yn ymdrin â phedwar maes eang:
- y cwricwlwm, addysgeg ac asesu
- arweinyddiaeth a llywodraethu
- lles, tegwch a chynwysoldeb
- a datblygu fel person proffesiynol
Mae gwaith yn mynd rhagddo i barhau i wella a mireinio'r adran dysgu proffesiynol er mwyn rhoi'r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr.
HMS a'r grant dysgu proffesiynol
Er mwyn helpu i weithredu'r cwricwlwm a blaenoriaethau cenedlaethol eraill, rydym wedi darparu diwrnod HMS ychwanegol yn 2023 i 2024. Mae'r diwrnod HMS ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol ar y Cwricwlwm i Gymru, gyda phwyslais ar gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymwreiddio tegwch, lles a'r Gymraeg ym mhob rhan o gymuned gyfan yr ysgol.
Mae £12 miliwn arall wedi'i ddyrannu yn uniongyrchol i ysgolion yn ystod 2023 i 2024 i adeiladu ar y grant dysgu proffesiynol o £67 miliwn a ddyfarnwyd dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r cyllid hwn yn rhoi amser a chyfleoedd i ymarferwyr ac arweinwyr weithio gyda'i gilydd ar draws ysgolion a rhwydweithiau i wireddu'r cwricwlwm. Diben y cyllid hwn yw galluogi pob ymarferydd i ddatblygu sgiliau ac arferion i gyflwyno dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
I sicrhau bod HMS yn cael effaith gadarnhaol, gwnaethom gyhoeddi canllawiau er mwyn helpu ysgolion i gael y gorau o HMS a dysgu proffesiynol.
Ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
Mae'r arolwg cenedlaethol o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu, y fframwaith gwella ysgolion a'r safonau proffesiynol, yn parhau i osod sylfaen gadarn i ysgolion a lleoliadau nodi blaenoriaethau dysgu proffesiynol a datblygu diwylliant o gydweithio er mwyn helpu i roi'r cwricwlwm ar waith a gwella ysgolion. Er mwyn dangos sut y gall y model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu gael ei ddefnyddio fel fframwaith gwella, mae astudiaethau achos yn cael eu datblygu i'w cyhoeddi yn yr adran dysgu proffesiynol ar Hwb.
Rhaglen ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo drwy'r flwyddyn i gyflwyno rhaglen ddatblygu genedlaethol y Cwricwlwm i Gymru, drwy gonsortia addysg a phartneriaethau awdurdodau lleol. Mae sesiynau yn cynnwys cymysgedd o theori ac enghreifftiau ymarferol gan ysgolion a lleoliadau o bob rhan o Gymru. Fel y nodwyd yn y trosolwg uchod, mae ysgolion yn manteisio fwyfwy ar gymorth pwrpasol i weithredu'r cwricwlwm.
Mae gwefan y ranbarthau yn rhoi mynediad cyfartal i wybodaeth am y ddarpariaeth dysgu proffesiynol i ymarferwyr a mynediad agored i arlwy'r Cwricwlwm i Gymru.
Ymchwilio ac ymholi
Mae sefydliadau addysg uwch yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi dysgu proffesiynol mewn ysgolion, ac mae'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol yn cael ei roi ar waith o hyd er mwyn cynyddu gallu ymholi proffesiynol ym mhob rhan o'r system.
Ers iddo gael ei sefydlu, mae'r Prosiect Ymholi wedi helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae bron 300 o ysgolion wedi bod yn rhan o garfan 2023 i 2024 fel egin ymholwyr, ymholwyr sy'n datblygu neu ymholwyr sefydledig, yn seiliedig ar eu lefel arbenigedd. Mae pob un o ymholiadau'r Prosiect Ymholi dros y flwyddyn wedi canolbwyntio'n gyffredinol ar weithredu'r cwricwlwm. Caiff canfyddiadau ymholiadau eu rhannu â'r system ehangach drwy'r adran dysgu proffesiynol ar Hwb.
Er mwyn helpu pob ysgol i newid i ddull ymholi proffesiynol cynaliadwy, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu modiwlau ymholi proffesiynol newydd i'w lansio yn 2025.
Gwybodaeth Ysgolion
Rydym yn parhau i ddefnyddio Adroddiad Cyllid Cymdeithasol: datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd a oedd yn amlinellu argymhellion ynglŷn â dulliau o ddefnyddio data a gwybodaeth mewn ffordd sy'n galluogi'r system i gydweithio i gefnogi ein holl ddysgwyr i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u cefndir. Rydym yn diwygio'r ecosystem gwybodaeth ar gyfer ein system ysgolion er mwyn rhoi mwy o gymorth i sicrhau gwelliannau cynaliadwy i ysgolion, gan ysgogi'r ymddygiad a'r arferion sy'n ofynnol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a'i egwyddorion sylfaenol.
Mae fersiwn ddrafft ein canllawiau dysgu 14 i 16 oed yn egluro'r pethau pwysicaf ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed ym marn Llywodraeth Cymru. Ar ôl dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y polisi hwn yn llywio'r gofynion o ran gwybodaeth y byddwn yn eu cyflwyno fel rhan o'r ecosystem gwybodaeth ddiwygiedig. Byddwn yn datblygu ac yn rhannu cynigion dros y flwyddyn i ddod wrth inni barhau i weithio gydag ymarferwyr ac arweinwyr i lunio a mireinio cynigion, gan gadarnhau manylion ein trefniadau newydd erbyn haf 2025 yn barod ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd.
Mae ein hymgynghoriad ar y canllawiau dysgu 14 i 16 oed yn awgrymu y bydd y trefniadau gwybodaeth newydd i gefnogi ein dysgwyr 14 i 16 oed yn disodli'r set bresennol o fesurau cyfnod allweddol dros dro sydd ar waith, gan gynnwys y dangosydd capio 9. Yn y cyfamser, bydd y trefniadau presennol yn parhau.
Rhaglen gwerthuso a monitro
Ymchwil ar Weithrediad Cynnar
Yn Adroddiad Blynyddol 2023, gwnaethom adrodd ar ganfyddiadau Cam 1 o'r Ymchwil ar Weithrediad Cynnar, a luniwyd i ganfod barn a phrofiadau ysgolion a dysgwyr o flynyddoedd cyntaf y broses o weithredu'r cwricwlwm. Wedi hynny, gwnaethom gyhoeddi Cam 2 ac mae'r canfyddiadau, ynghyd â thystiolaeth arall, yn llywio'r Adroddiad Blynyddol hwn.
Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2023 yn bennaf ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol manwl â 74 o uwch-arweinwyr a naw grŵp ffocws gyda chyfanswm o 54 o ddysgwyr. Roedd y sampl yn cynnwys cymysgedd da o sectorau, cyfryngau iaith a rhanbarthau. Nid sicrhau cynrychiolaeth lawn yw diben yr ymchwil ansoddol, yn hytrach y nod yw y bydd yn arwain at nodi ystod eang o faterion a thrafodaeth ddyfnach.
Cynllun Gwerthuso
Ym mis Gorffennaf 2023, gwnaethom gyhoeddi Cynllun Gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru a oedd yn amlinellu ein dull o gynnal gwerthusiad systematig. Yn unol â'n hymrwymiad i adolygu'r cynllun gwerthuso bob blwyddyn, rydym wedi ystyried y cynllun yn erbyn blaenoriaethau a'r adnoddau sydd ar gael ac mae diweddariad ar gynnydd yn erbyn cynlluniau i'w weld isod.
Mae'r prosiectau canlynol ar waith:
Gwerthusiad ffurfiannol ac astudiaethau achos dwfn
Dechreuodd y gwerthusiad ffurfiannol ym mis Ionawr. Caiff ei gynnal gan Arad, ynghyd â'i bartneriaid ar gyfer y gwaith: Prifysgol Stirling, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Auckland, Prifysgol Bangor ac AlphaPlus.
Bydd y gwerthusiad ffurfiannol yn rhoi darlun ansoddol a meintiol inni o'r ffordd y mae'r diwygiadau yn gweithio, sut mae arferion yn newid, a phrofiad ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd o'r newidiadau hyn. Mae'n ddarn mawr o waith sy'n archwilio safbwyntiau a phrofiadau uwch-arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a rhieni a gofalwyr. Mae'n cynnwys arolygon â sampl gynrychioliadol o'r poblogaethau hyn, yn ogystal â gwaith ymchwil ansoddol manwl i roi dealltwriaeth fanylach a dyfnach. Bwriedir cynnal yr arolygon cyntaf yn yr hydref a bydd y gwaith ansoddol yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Yn ôl y bwriad, mae'r gwerthusiad ffurfiannol hefyd yn cynnwys nifer o astudiaethau achos dwfn ansoddol ar rannau penodol o'r cwricwlwm a'r system, gan ganolbwyntio'n fwyaf uniongyrchol ar:
- dulliau gweithredu ar gyfer tegwch a chynwysoldeb
- cynllunio'r cwricwlwm
- dulliau addysgeg
- y Maes iechyd a lles
- cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm mewn unedau cyfeirio disgyblion a mathau eraill o ddarpariaethaddysg heblaw yn yr ysgol
Penderfynir ar ffocws astudiaethau dwfn eraill dros gyfnod y prosiect er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau wrth inni feithrin dealltwriaeth well o'r gwerthusiad hwn a thystiolaeth arall.
Caiff adroddiadau o'r gwahanol elfennau o'r gwerthusiad ffurfiannol ac astudiaethau achos dwfn eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod, yn ogystal ag adroddiad synthesis i driongli tystiolaeth o'r gwaith ymchwil er mwyn nodi ac amlygu themâu allweddol, tueddiadau a rhyngddibyniaethau. Bydd yr adroddiadau hyn yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a pham. Byddant hefyd yn tynnu ein sylw pan na fydd pethau'n datblygu fel y byddem wedi disgwyl iddynt, a pham, er mwyn inni allu gweithio gyda phartneriaid y system i ganolbwyntio cymorth a chanllawiau yn y mannau cywir. Yn ogystal â chyhoeddi adroddiadau gwerthuso manwl, byddwn yn rhannu'r dystiolaeth mewn fformatau defnyddiol a hygyrch â'r system ehangach er mwyn hyrwyddo cynnydd dysgwyr, gwelliannau i ysgolion a hyder athrawon.
Rhaglen genedlaethol i samplu cynnydd a chyrhaeddiad
Mae gwaith cwmpasu a dichonoldeb wedi cael ei gyflawni i nodi'r opsiynau ar gyfer rhaglen genedlaethol i samplu cynnydd a chyrhaeddiad.Fel rhan o'r gwaith hwn, ymgysylltwyd yn eang ag arbenigwyr addysgol a'r sector er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen a fydd yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a dilys ac a fydd yn hawdd i ysgolion ei defnyddio.
Nid profi pob dysgwr yw'r nod, ond deall y darlun cenedlaethol o gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr dros amser er mwyn cefnogi gwelliant mewn addysg ar lefel system cenedlaethol mewn ffordd sy'n gyson â'r Cwricwlwm i Gymru ac sy'n cadw ymreolaeth a rhyddid ysgolion i gynllunio'r cwricwlwm. Ni fydd yn gysylltiedig â mesurau perfformiad ysgolion.
Bydd samplu cenedlaethol hefyd yn rhan o ddull gweithredu ehangach yr ecosystem gwybodaeth a fydd yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth ansoddol a meintiol am wahanol agweddau ar y system ysgolion.
Deddfwriaeth
Bil y Gymraeg ac Addysg
Cafodd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg eu cyflwyno yng nghyd-destun yr her sylweddol sy'n gysylltiedig â strategaeth Cymraeg 2050, a'r targed o filiwn o siaradwyr. Mae hyn yn galw am weddnewid y ffordd rydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg yn y cyd-destun hwn. Felly, amlinellodd y Papur Gwyn yr ymgynghorwyd arno ar ddechrau'r flwyddyn adrodd, y camau rydym yn eu cynnig er mwyn galluogi pob dysgwr yng Nghymru i ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy'r system addysg statudol.
Dangosodd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, gefnogaeth gyffredinol i'r uchelgais a'r amcanion a amlinellir yn y Papur Gwyn. Ar sail y gefnogaeth honno, cadarnhaodd Gweinidogion eu bod yn bwriadu mynd ati i gyflwyno Bil a fydd yn mynd i'r afael â'r amcanion polisi a amlinellir yn y Papur Gwyn.
Cyllid a briodolwyd i ddiwygio'r cwricwlwm
Er mwyn darparu cymorth parhaus i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol, cafodd lefelau cyllid eu cynnal ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024. Ar gyfer 2024 i 2025, mae cyllid i ddiwygio'r cwricwlwm wedi dechrau gostwng yn ôl y bwriad i adlewyrchu gweithrediad y rhaglen ddiwygio. Fodd bynnag, rydym yn parhau i flaenoriaethu cyllid i ysgolion drwy'r Grant Addysg Awdurdodau Lleol: Trefniadau diwygio.
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg sydd wedi'i briodoli'n uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm. Drwy wneud hyn, rydym yn cydnabod bod nifer o gyllidebau eraill yn y prif grŵp gwariant hefyd yn debygol o fod yn cyfrannu'n anuniongyrchol at y diwygiadau (er enghraifft: hyfforddiant cychwynnol i athrawon, cymorth ar gyfer cyflawni digidol, llythrennedd a rhifedd, Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol). Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, caiff cyllid sydd wedi'i briodoli'n uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm o brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg ei ddiffinio fel cyllid fydd yn cwmpasu:
- arian uniongyrchol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion
- cymorth ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
- dysgu proffesiynol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm
- prosiect cymorth cynnydd Camau i'r Dyfodol
- datblygu cymwysterau newydd Cymwysterau Cymru
- adnoddau a deunyddiau ategol
- cymorth gwasanaethau gwella ysgolion ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu
- rhaglen gwerthuso a monitro
- cyfathrebu
- costau gweithredol Llywodraeth Cymru
Gweithgaredd | 2021 i 2022 (£) | 2022 i 2023 (£) | 2023 i 2024 (£) |
---|---|---|---|
Diwygio'r cwricwlwm | |||
Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru | 86,250 | 143,000 | 100,500 |
Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu | 3,000,000 | 3,000,000 | 3,000,000 |
Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd | 9,203,000 | 6,346,000 | 6,346,000 |
Ymgysylltiad ysgolion â'r rhwydwaith | 3,240,000 | 3,000,000 | 3,029,700 |
Adnoddau a deunyddiau ategol | 306,749 | 403,274 | 668,969 |
Cymorth i leoliadau nas cynhelir | 314,020 | 289,199 | 42,893 |
Rhaglen cymorth cynnydd | 499,546 | 1,314,454 | 600,000 |
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid | 327,150 | 258,327 | 232,743 |
Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro | 235,701 | 276,775 | 813,347 |
Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau a'r Rhwydwaith Cenedlaethol | 240,664 | 405,535 | 445,014 |
Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion | 400,000 | 400,000 | 400,000 |
Datblygu a chefnogi athrawon | |||
Ysgolion arloesi ac ysgolion clwstwr Dysgu Proffesiynol | 680,000 | 0 | 0 |
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion) | 5,900,000 | 6,400,000 | 5,700,000 |
Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol | 390,000 | 170,000 | 332,113 |
Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion | 12,000,000 | 12,000,000 | 12,000,000 |
Cymwysterau Cymru | |||
Datblygu cymwysterau newydd | 1,142,000 | 1,327,000 | 1,411,500 |
Cyfanswm | 37,965,080 | 35,733,564 | 35,122,779 |
O'r £35.12 miliwn a wariwyd ar ddiwygio'r cwricwlwm yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024, cafodd dros £22.03 miliwn ei drosglwyddo i ysgolion i'w helpu i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, sy'n fwy na'r swm o £21 miliwn a gynlluniwyd gennym yn wreiddiol.
Gweithgaredd | 2024 i 2025 (£) |
---|---|
Diwygio'r cwricwlwm | |
Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru | 329,108 |
Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu | 2,600,000 |
Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd | 3,000,000 |
Ymgysylltiad ysgolion â'r rhwydwaith | 3,000,000 |
Adnoddau a deunyddiau ategol (yn cynnwys cymorth ar gyfer cymwysterau newydd maes o law) | 1,099,000 |
Cymorth i leoliadau nas cynhelir | 150,000 |
Rhaglen cymorth cynnydd | 5,000 |
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid | 237,000 |
Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro | 725,000 |
Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau | 671,061 |
Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion | 400,000 |
Datblygu a chefnogi athrawon | |
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion) | 5,700,000 |
Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol | 550,000 |
Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion | 12,000,000 |
Cymwysterau Cymru | |
Datblygu cymwysterau newydd | 1,520,000 |
Cyfanswm | 31,986,169 |
Bydd adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn diweddaru'r gwariant gwirioneddol a blaen amcanestyniadau, gan dynnu sylw at unrhyw bwysau neu arbedion a ragwelir.
Edrych i'r dyfodol
Mae'n hollbwysig ein bod yn adeiladu ar yr agweddau cadarnhaol ar gyflwyno'r cwricwlwm hyd yma, gan sicrhau hefyd fod digon o fanylion a chymorth ar gael. Yn ein hadroddiad blynyddol blaenorol, gwnaethom nodi pum agwedd allweddol ar ein cymorth parhaus mewn perthynas â chyflwyno'r cwricwlwm, sef:
- Monitro ac ystyried cymorth ychwanegol mewn perthynas ag agweddau ar y cwricwlwm a gaiff ei groesawu gan y proffesiwn
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dibyniaethau sy'n hollbwysig i lwyddiant y cwricwlwm yn adlewyrchu ei ethos ac yn gyson â dull Fframwaith y Cwricwlwm
- Parhau i ddatblygu polisi ar y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn glir ac yn cefnogi ysgolion
- Sicrhau cydlyniad rhwng disgwyliadau a chymorth o safbwynt cysyniadau sylfaenol a phrosesau'r cwricwlwm
- Manylion a chymorth symlach a chlir ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm, cynnydd a threfniadau asesu:
- Darpariaeth gydweithredol fydd ar gael ar draws Cymru ar gyfer cynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen beilot ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a chymorth ac arfer effeithiol presennol. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau a thempledi clir a fydd yn rhoi proses glir i ysgolion ei dilyn er mwyn datblygu a gwella eu cwricwlwm, ni waeth beth fo'u man cychwyn. Bydd hyn hefyd yn helpu i roi rhagor o fanylion am ffyrdd o asesu dysgu, gwerthuso cynnydd, a rhannu'r wybodaeth hon.
- enghreifftiau o'r hyn a all nodweddu gwaith da wrth gynllunio'r cwricwlwm, drwy hyrwyddo a rhannu arferion effeithiol.
- Bydd gwaith cychwynnol yn cael ei rannu drwy gydol blwyddyn academaidd 2024 i 2025 ac yn ehangu yn y flwyddyn ganlynol.
- Mwy o ffocws a chymorth mewn perthynas â sgiliau trawsgwricwlaidd:
- cymorth cydweithredol cenedlaethol i helpu sefydlu bodllythrennedd a rhifedd yn rhan annatod o bob rhan o'r cwricwlwm, a chodi safonau. Caiff y rhaglen hon ei threialu yn 2025 a'i hehangu drwy gydol blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
- rhoi sail statudol i'r fframweithiau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol er mwyn cefnogi cydlyniad ledled Cymru. Bydd y rhain yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu ein disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y sgiliau hyn. Bydd fframweithiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi erbyn 2026.Caiff ymgynghoriad ar fframweithiau llythrennedd a rhifedd sydd wedi'u diwygio a'u hatgyfnerthu ei gynnal yn 2025.l.
- Egwyddorion cenedlaethol ynghylch addysgu a dysgu ym maes llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, gan sicrhau bod y sylfeini ar gyfer dysgu cryfach yn glir a bod gan ysgolion adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi hyn.
- Cymorth penodol i gynllunio cynnydd ym mhob un o Feysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm. Bydd y deunyddiau hyn. Yn cefnogi’r proffesiwn i ddewis cynnwys ymestynnol a chynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau penodol. Byddwn yn dechrau treialu'r rhain o flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Byddwn yn datblygu'r uchod gan weithio'n agos gydag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion, partneriaid cyflawni, a rhanddeiliaid i ddatblygu manylion y cymorth hwn ar y cyd, er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer ystod eang o ysgolion a lleoliadau.
Cyhoeddiadau sydd wedi llywio'r Adroddiad Blynyddol hwn
- Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU - Mai 2024
- Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir - Hwb (llyw.cymru) - Hydref 2023
- Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir: Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol 6 Rhagfyr 2023: adroddiad o'r canfyddiadau (llyw.cymru) - Ionawr 2024
- Pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith - 2022
- Ysgolion Bro | LLYW.CYMRU - Medi 2023
- Consortia Addysg Gymraeg | Welsh Education Consortia (google.com)
- Creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol - Hwb (llyw.cymru)
- Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir - Hwb (llyw.cymru) - Tachwedd 2022
- Cwricwlwm i Gymru: adroddiad blynyddol 2023 | LLYW.CYMRU - Gorffennaf 2023
- Cwricwlwm i Gymru: ymlaen â'r daith - Hwb (llyw.cymru) - Ionawr 2024
- Cynllun gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU - Gorffennaf 2023
- Canllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru - Hwb (llyw.cymru)
- DARPL - Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth
- Datblygu gweledigaeth ar gyfer cynllunio cwricwlwm - Hwb (llyw.cymru)
- Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy'n cefnogi'r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru: canfyddiadau o astudiaeth ymchwil: ymateb Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU
- Pecyn cymorth ymgysylltu ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir - (llyw.cymru)
- Astudiaethau achos o arfer effeithiol: dysgu dilys a phwrpasol - 2023
- Astudiaethau achos o arfer effeithiol: datblygiad plant - 2023
- Estyn - Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022 i 2023 - Ionawr 2024
- Estyn - Adroddiad arolwg thematig - cyfathrebu â rhieni (llyw.cymru) - Mehefin 2018
- Dyfodol Byd-eang: cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern | LLYW.CYMRU - Tachwedd 2022
- Canllaw i'r Grant Datblygu Disgyblion | LLYW.CYMRU - Hydref 2023
- Dweud Eich Dweud | Cymwysterau Cymru
- Limit Less: A whole-school approach to equity and inclusion | Y Sefydliad Ffiseg (iop.org)
- Major challenges for education in Wales | Y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (ifs.org.uk) - Mawrth 2024
- Cynllun mathemateg a rhifedd 2023 | LLYW.CYMRU - Tachwedd 2023
- Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru
- Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (nael.cymru) - cymeradwyaeth
- Adroddiad Rhwydwaith Cenedlaethol: Sgwrs wyneb yn wyneb am y Cwricwlwm ac Addysgeg (llyw.cymru) - 2024
- Cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth | LLYW.CYMRU - Mai 2022
- Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: Canllaw i rieni a gofalwyr (llyw.cymru)
- Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd | LLYW.CYMRU - Mehefin 2024
- PISA 2022: Adroddiad Cenedlaethol Cymru (llyw.cymru) - Rhagfyr 2023
- Dysgu proffesiynol - Hwb (llyw.cymru)
- Cymeradwyo dysgu proffesiynol - Hwb (llyw.cymru) a Meini prawf - Hwb (llyw.cymru)
- Rhaglen Iaith a Llythrennedd
- Ymchwil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn gynnar: cam 1 | LLYW.CYMRU - Ebrill 2023
- Ymchwil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn gynnar: cam 2 - Medi 2023
- Adnodd i gefnogi hunan-werthusiad o'r Gymraeg - Hwb (llyw.cymru) - Ebrill 2023
- Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion: llythyr at y Gweinidog [HTML] | LLYW.CYMRU
- Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd - Hwb (llyw.cymru) - Awst 2022
- Academi Seren | LLYW.CYMRU a Taith dysgwr - Hwb (llyw.cymru)
- Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu - Hwb (llyw.cymru)
- "Cymerwch y peth o ddifri": profiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd - Comisiynydd Plant Cymru - 2024
- TEachers Learning to Teach Languages (TELT) | Y Brifysgol Agored yn yr Alban
- Technocamps
- Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) | EESW | STEM Cymru
- Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16 | Cymwysterau Cymru
- Peilot Understanding by Design™: proses a dysgu - 2023
- Deall y cwricwlwm ar waith: Camau i'r Dyfodol - Hwb (llyw.cymru)
- Addysg Gymraeg: papur gwyn | LLYW.CYMRU - Mehefin 2023