Cwricwlwm i Gymru: adroddiad blynyddol 2023
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf o fis Medi 2023.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
1. Rhagair y Gweinidog
Mae'r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi bod yn garreg filltir bwysig o safbwynt ein diwygiadau i'r cwricwlwm. Yn y cyfnod byr ers i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno yn y mwyafrif o ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fis Medi diwethaf, rydym eisoes yn dechrau gweld adroddiadau ynghylch rhai o'r buddiannau rydym yn disgwyl i'r cwricwlwm newydd eu cynnig. Megis dechrau mae'r gwaith o hyd, ond mae rhai arwyddion cynnar a chalonogol.
Mae'r ail adroddiad blynyddol hwn yn rhoi amlinelliad o'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn ein system addysg, meysydd y mae angen canolbwyntio mwy arnynt, a blaenoriaethau ar gyfer cymorth ar drothwy blwyddyn academaidd 2023 i 2024; blwyddyn pan fydd pob ysgol a lleoliad yn defnyddio'r Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddolenni a gwybodaeth ychwanegol er mwyn helpu i ddwyn rhai o'r agweddau allweddol ar ein diwygiadau ynghyd, a'r modd y maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau gyda'n gilydd.
Rwy'n cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i staff mewn ysgolion a lleoliadau gyda chyfyngiadau cyllidebol, yn ogystal â phwysau llesiant ar ymarferwyr a dysgwyr yn dod i'r amlwg ar ffurf gweithredu diwydiannol a lefelau presenoldeb is. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi maint y dasg a'r gwaith sydd i'w wneud o hyd. Mae'n glir i mi fod angen cefnogaeth gan y llywodraeth a chefnogaeth gan sefydliadau rhanddeiliaid amrywiol er mwyn diwygio'r cwricwlwm.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ysgolion a'r lleoliadau a welais yn defnyddio'r diwygiadau i'r cwricwlwm fel sbardun i ganolbwyntio mwy ar anghenion eu dysgwyr a'u cymunedau penodol wedi creu argraff fawr arnaf. Drwy'r pwyslais hwn, a thrwy weithio mewn clystyrau a thrwy Gymru gyfan, rydym i gyd yn codi dyheadau a safonau dysgu. Mae Estyn yn gweld cynnydd da ar y cyfan, ac mae gwaith ymchwil ar fewnwelediadau cynnar yn dangos bod arweinwyr ysgolion, ymhlith pethau eraill, yn achub ar y cyfle i wella tegwch a chynhwysiant i'w dysgwyr ac yn sicrhau ar yr un pryd fod diwygiadau ADY yn cael eu rhoi ar waith mor effeithiol â phosibl.
Wrth i mi gyhoeddi'r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2023, rwyf hefyd yn cyhoeddi ein cynllun gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru fel dogfen ar wahân. Bydd y cynllun hwn yn darparu'r gwerthusiad ffurfiannol llawn o brif elfennau'r cwricwlwm sydd ei angen arnom er mwyn asesu beth sydd wedi gweithio, a'n helpu hefyd i wneud gwelliannau yn y dyfodol i'r system gyfan.
Yn sail i'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru bob amser fu datblygu ar y cyd a chydweithio, gan gynnwys drwy ein Rhwydwaith Cenedlaethol. Ni all system hunanwella a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd weithio heb gydweithio. Wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd, mae'n hollbwysig o hyd ein bod ni a'n partneriaid yn rhoi'r lle, yr amser a'r cymorth i staff ysgolion weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau'r cwricwla gorau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc i gyd.
Rwyf wrth fy modd â'r cynnydd y mae ysgolion a lleoliadau wedi'i wneud hyd yma a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl staff ein system addysg am eu hymdrech ddiwyro i wella profiadau dysgu ein plant a'n pobl ifanc i gyd.
Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
2. Gweithredu'r cwricwlwm: trosolwg
Gan adeiladu ar y cynnydd a'r ffocws a amlinellwyd yn adroddiad blynyddol 2022, mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r cynnydd y mae ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn ei wneud mewn perthynas â'r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â meysydd y mae angen cymorth arnynt o hyd.
Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd mewn amser real dros y misoedd diwethaf drwy ddulliau amrywiol ar draws partneriaid strategol haen ganol (consortia rhanbarthol a phartneriaethau, Estyn ac awdurdodau lleol), yn ogystal â rhai mewnwelediadau cynnar o'n gweithgareddau gwerthuso a monitro. Er enghraifft, cafwyd gwybodaeth gan y canlynol:
- cynghorwyr cefnogi gwella, partneriaid gwella ysgolion, trafodaethau tîm y cwricwlwm ac ymweliadau i ysgolion gan wasanaethau gwella ysgolion
- asesiadau awdurdodau lleol o waith lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
- arolygiadau, diweddariadau ac adroddiad blynyddol Estyn
- prosiect Camau i'r Dyfodol
- gwerthusiadau o ddysgu a chymorth proffesiynol
- canlyniadau arolygon a grwpiau ffocws
- cyfarfodydd rhanbarthol ac partneriaeth â phenaethiaid ac uwch-arweinwyr
- presenoldeb rhanbarthol ac partneriaeth mewn cyfarfodydd clwstwr
- adborth anffurfiol a ffurfiol drwy rwydweithio, gan gynnwys drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol
- ymchwil ansoddol (mewnwelediadau cynnar) ag uwch-arweinwyr ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: adroddiad Cam 1
Mae'r crynodeb hwn o gynnydd hyd yma yn seiliedig ar asesiad o dystiolaeth ffurfiol ac anffurfiol o bob rhan o'r system. Nid yw'r dystiolaeth hon wedi cael ei hadolygu na'i chyfuno'n systematig. Hefyd, o safbwynt y gwaith ymchwil mewnwelediadau cynnar, mae risg o duedd wrth ddethol ymhlith y sampl a ddefnyddiwyd; mae'n bosibl bod y rhai a oedd wedi mynd ymhellach nag eraill wedi bod yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn cyfweliadau. Fodd bynnag, mae'r themâu cyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r ffynonellau gwybodaeth yn rhoi hyder i ni fod darlun cydlynol yn datblygu. Mae cynllun gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru yn amlinellu sut y byddwn yn cynnal gwerthusiad systematig yn y dyfodol.
Mae pob lleoliad ac ysgol gynradd, nifer o unedau cyfeirio disgyblion, a thua hanner yr ysgolion uwchradd wedi bod yn gweithredu o dan fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Bydd gweddill yr ysgolion uwchradd a'r unedau cyfeirio disgyblion yn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer eu dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi. Felly, mae llai na blwyddyn wedi mynd heibio o hyd o'r broses hirdymor o wireddu'r cwricwlwm, fel rydym yn ei hadnabod. Dyna pam mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw bod ysgolion a lleoliadau yn parhau i dreialu, gwerthuso a gwella eu cwricwla fel rhan o'r daith gwelliant parhaus.
Yn gryno, mae'r darlun datblygol yn cynnwys y canlynol:
- mae uwch-arweinwyr yn fodlon ar y cyfan ar y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm
- mae rhai ysgolion yn dal i bryderu am gynnydd, ond mae ysgolion eraill yn dweud eu bod wedi dod drwy hynny a'u bod nawr yn gwneud cynnydd da
- mae'r ysgolion hynny sydd wedi bod yn cynllunio ac yn datblygu eu cwricwlwm ers tair neu bedair blynedd yn ymddangos yn fwy hyderus yn eu dulliau na'r rhai sydd ar gam cynharach yn y broses o weithredu eu cwricwlwm
- mae ymarferwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb a pherchnogaeth dros weithredu'r cwricwlwm
- mae cydweithio o fewn clystyrau'n cael ei ddefnyddio'n gynyddol i gefnogi gwaith cynllunio ar gyfer cynnydd; sicrhau parhad yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm; a meithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
- bu mwy o ffocws ar addysgeg a gweithgarwch ar y cyd o fewn lleoliadau ac yn eu clystyrau
- mae datblygu a gweithredu'r cwricwlwm ysgol wedi creu heriau o ran capasiti ac amser staff, yn enwedig cynllunio'r cwricwlwm a sicrhau ei fod yn ymdrin â'r elfennau gofynnol a nodir yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
- mewn lleoliadau, erys ymdeimlad sicr o benderfyniad i greu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n defnyddio gofal plant ac addysg a cheir lefel sylweddol o hyder bod cynnydd yn cael ei wneud mewn ffordd gynaliadwy
- mae tegwch a chynhwysiant i ddysgwyr ar eu hennill, gydag arweinwyr o'r farn bod cynllunio'r cwricwlwm mewn ffordd sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr yn helpu ysgolion i adlewyrchu cymdeithas yn well a chefnogi eu dysgwyr i gyd yn briodol
Mae'r mwyafrif helaeth o ysgolion a lleoliadau sydd wedi mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru yn ystod y flwyddyn academaidd hon bellach wedi bodloni'r gofyniad i gyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm. Mae'r gweddill, yn ogystal â'r rhai sy'n mabwysiadu'r Cwricwlwm o fis Medi, yn cael cymorth. Mae pecyn cymorth ar grynodebau o'r cwricwlwm, a ddatblygwyd ar y cyd, ar gael i leoliadau yn benodol hefyd.
Lleoliadau gofal plant meithrin a ariennir nas cynhelir
Mae lleoliadau yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i gefnogi gwaith dysgu a datblygu ein dysgwyr ifancaf. Mae tua 530 o leoliadau gofal plant meithrin nas cynhelir yn darparu addysg feithrin i ryw 10,000 o blant 3 a 4 oed. Mae pob un o'r lleoliadau gofal plant hyn wedi mabwysiadu'r cwricwlwm a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Mae tystiolaeth gan awdurdodau lleol a'r sector gofal plant yn dangos cynnydd ardderchog, gyda chamau i roi'r cwricwlwm ar waith yn gynnar yn esgor ar gyfleoedd ar gyfer datblygiadau newydd a hyfforddiant yn ogystal â chyfle i fyfyrio'n drylwyr ac yn sensitif ar y darlun sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru. Mae'r etheg gwaith a'r ymdrech sy'n ofynnol i arwain newid sylweddol o'r fath, yn enwedig drwy gyfnodau anodd, yn glodwiw.
Mae'r cynnydd ardderchog sy'n cael ei wneud gan leoliadau yn cynnwys newid i ddull a gaiff ei arwain i raddau mwy gan y plentyn ac ystyried gofynion y Cwricwlwm i Gymru wrth gynllunio. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth. Mae lleoliadau'n defnyddio diddordebau dysgwyr fel man cychwyn ac yn sicrhau eu bod yn canolbwyntio'n briodol ar ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd mewn ffordd gyfannol. Mae rhai adroddiadau'n awgrymu bod ymarferwyr yn addasu cynlluniau'n llwyddiannus er mwyn cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio sgemâu mewn darpariaeth chwarae.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o ymarferwyr ac arbenigwyr eraill i ddatblygu trefniadau asesu sy'n cefnogi'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir. Mae'r trefniadau'n cynnwys canllawiau i'w helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, trefniadau asesu cychwynnol a chymorth i asesu a sicrhau cynnydd pob dysgwr yn barhaus.
Yn dilyn ymgynghoriad ar drefniadau drafft a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion a dechreuwyd cynnal gweithdai mireinio i fynd i'r afael â'r adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad ym mis Chwefror. Drwy hyn, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i atgyfnerthu'r egwyddorion a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhoi mwy o eglurder ynghylch trefniadau asesu cychwynnol, yn enwedig terminoleg ac ystyried anghenion dysgu proffesiynol eraill.
Cafodd y trefniadau asesu canlyniadol a ddatblygwyd ar y cyd eu cyhoeddi ar 5 Gorffennaf.
Rydym wedi parhau i gefnogi awdurdodau lleol a staff mewn lleoliadau ac ysgolion â'u dysgu proffesiynol, drwy ddatblygu modiwlau i gefnogi addysgeg dysgu sylfaen. Mae mwy o fodiwlau yn canolbwyntio ar gwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir wedi cael eu cyhoeddi ar Hwb. Rydym hefyd yn parhau i rannu ymarfer effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau ar gyfer ymarferwyr gan gynnwys rhestrau chwarae ac astudiaethau achos.
Ysgolion a gynhelir
I ysgolion, mae Estyn yn nodi bod yr heriau a achoswyd gan bandemig COVID-19, gan gynnwys cyfyngu ar gyfleoedd i ymarferwyr gynllunio cwricwla a chydweithio ag eraill, wedi golygu mai cynnydd amrywiol a wnaed. Mae ymchwil fwy diweddar ar fewnwelediadau cynnar hefyd yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud ar gyflymder gwahanol. Yn ddealladwy, mae'r rhai sydd wedi bod yn cynllunio ers tair neu bedair blynedd yn fwy hyderus na'r rhai a deimlai eu bod ar gam cynharach o'r broses weithredu. Nododd rhai uwch-arweinwyr eu bod wedi pryderu i ddechrau am faint y dasg o'u blaenau ond eu bod bellach yn teimlo eu bod yn gwneud cynnydd da. Hefyd, mae cynnydd yn cael ei wneud yn gyflymach mewn rhai rhannau o'r cwricwlwm nag eraill, yn enwedig y rheini sy'n cynrychioli newid mwy sylweddol o gymharu â dulliau blaenorol.
Er gwaethaf hyn, mae'r dystiolaeth yn nodi cynnydd gwirioneddol ledled Cymru a dulliau cynyddol hyderus o gynllunio'r cwricwlwm. Mae uwch-arweinwyr yn nodi boddhad cyffredinol gyda'r cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud. Maent yn nodi bod ymarferwyr yn teimlo hyder cynyddol yn y Cwricwlwm i Gymru y maent wedi'i gynllunio a'r broses gyflwyno a chymryd perchnogaeth ohono. Dywedwyd bod mwy o weithgarwch ar lefel clwstwr a hwylusir gan ymarferwyr yn enghraifft o ymreolaeth a pherchnogaeth gynyddol ymarferwyr dros y cwricwlwm. Mae'n galonogol bod yr adborth cynnar yn tynnu sylw at ffocws cynyddol ar addysgeg a mwy o gydweithio o fewn ysgolion a rhwng ysgolion o ganlyniad i'r diwygiadau hyn.
Yn yr ymchwil ar weithrediad cynnar gwelwyd mwy o ymdeimlad o ymreolaeth ymarferwyr yn datblygu ymhlith staff ysgol wrth i ymarferwyr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am weithredu'r cwricwlwm a theimlo mwy o berchnogaeth ohono. Ymddengys fod cydnabyddiaeth gynyddol mai proses tymor hwy yw diwygio'r cwricwlwm, yn hytrach nag un digwyddiad.
Er bod tegwch wedi bod yn ffocws allweddol i ysgolion a lleoliadau bob amser, mae'n gadarnhaol bod arweinwyr ysgolion eisoes yn nodi buddiannau cynllunio'r cwricwlwm a monitro cynnydd dysgwyr mewn ffordd sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr, fel y nodir yn y Cwricwlwm i Gymru, gyda'r hyblygrwydd i deilwra cymorth. Mae ffocws cynyddol ar lais dysgwyr yn cyfrannu at gwricwla sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n gynhwysol.
Fodd bynnag, roedd datblygu a gweithredu cwricwlwm yr ysgol wedi creu heriau o ran capasiti ac amser staff, yn enwedig cynllunio'r cwricwlwm a sicrhau ei fod yn cyflawni'r elfennau gofynnol a nodir yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Yn ogystal â dysgu proffesiynol, mae consortia, partneriaethau ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyflwyno amrywiaeth o gymorth i ysgolion ar ddiwygiadau'r cwricwlwm. Mae'r dull gweithredu hwn yn gyson â'r camau datblygu a nodwyd yn yr adran ‘y daith i weithredu'r cwricwlwm’ yn y canllawiau ar y Cwricwlwm i Gymru. Un o flaenoriaethau allweddol pob consortiwm a phartneriaeth yw helpu eraill i gydweithio ac mae hyn wedi'i nodi'n benodol yn nhelerau'r cyllid grant. Mae disgwyl yn benodol iddynt hefyd helpu ysgolion i gymryd rhan yn sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol a phrosiect Camau i’r Dyfodol, yn ogystal â rhoi cymorth pwrpasol i'r ysgolion uwchradd hynny a fydd yn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi. Mae agweddau eraill ar eu blaenoriaethau ar gyfer 2023 i 2024 yn cynnwys: helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd o fewn ysgolion mewn clwstwr a rhyngddynt; helpu i ddatblygu a rhannu arferion asesu pwrpasol; a helpu pob ysgol i ddatblygu ei phroses hunanwerthuso yn unol â'r canllawiau gwella ysgolion, bydd hyn yn helpu i werthuso effaith blwyddyn weithredu gyntaf y Cwricwlwm i Gymru.
3. Sicrhau ac ymwreiddio tegwch i bob dysgwr
Sicrhau tegwch drwy ddiwygio
Mae Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb yn amlinellu ein map trywydd i ailosod ein gweledigaeth ar gyfer system addysg gynhwysol. Dileu rhwystrau fel y gall pob dysgwr, o bob oedran, yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein ac yn y gwaith, sicrhau cyfleoedd a deilliannau addysg rhagorol, drwy nodi cynnar, cymorth a chamau gweithredu wedi'u targedu.
Mae system addysg gynhwysol yn un lle mae ysgolion yn gwrando ar anghenion dysgwyr ac maent yn cael eu cefnogi i gyfranogi'n llawn gyda dull ysgol neu leoliad cyfan yn diwallu anghenion pob dysgwr. Dylai'r cwricwlwm godi dyheadau pawb ac ymateb i anghenion unigolion, ac felly dylai hefyd gefnogi'r broses o adnabod, cynllunio a chynnydd i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Y rheswm am hyn yw mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr, gan ystyried cyfle cyfartal wrth roi cymorth ac ymyriadau ar waith neu wneud addasiadau rhesymol. Dyluniwyd y Cwricwlwm i Gymru i rymuso ac annog ysgolion i fynd ati eu hunain i ystyried effeithiau addysgol anfantais fel rhan annatod o’u prosesau wrth gynllunio a dylunio cwricwlwm, gan gynnwys codi disgwyliadau a mynd i’r afael â bylchau o ran cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr. O’r cychwyn cyntaf, mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn herio ysgolion i ystyried sut bydd eu cwricwlwm yn rhoi sylw i ADY a gwahanol fylchau o ran cyrhaeddiad. Dyluniwyd fframwaith y cwricwlwm â phob dysgwr mewn golwg: i’w cefnogi a’u herio, gan gydnabod anghenion unigol. Nod diwygiadau'r Cwricwlwm i Gymru a'r Ddeddf ADY, gyda'i gilydd, yw trawsnewid y disgwyliadau, y profiadau dysgu a'r deilliannau i blant a phobl ifanc yn y ffordd hon, er mwyn sicrhau gwell cyfleoedd i bob dysgwr mewn bywyd ledled Cymru.
Yn y gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar nodwyd adborth gan uwch-arweinwyr ysgolion cynradd ac uwchradd ar fanteision y Cwricwlwm i Gymru a oedd yn eu galluogi i hyrwyddo a chanolbwyntio ar gynhwysiant a mynd i’r afael ag effeithiau anfantais. At hynny, awgrymwyd bod gwelliannau ehangach i ymarfer sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, a nodwyd bod hyblygrwydd nawr i deilwra cymorth i ddysgwyr yn unol â hynny. Roedd uwch-arweinwyr yn teimlo eu bod bellach yn canolbwyntio ar y dysgwr yn well wrth gynllunio'r cwricwlwm. Eu teimlad oedd bod mwy o ffocws ar weithgarwch llais y dysgwr, a oedd bellach yn cael ei ystyried yn fwy canolog i'r broses o gynllunio'r cwricwlwm, a dulliau mwy unigoledig o fonitro cynnydd dysgwyr yn cefnogi addysg gynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Drwy gysoni ein cynlluniau gwerthuso a'n gweithgareddau ar gyfer diwygiadau'r cwricwlwm ac ADY yn agos, byddwn yn monitro effaith y diwygiadau cyfochrog hyn ar ddysgwyr ag ADY.
Roedd uwch-arweinwyr o'r farn bod dulliau mwy unigoledig o fonitro cynnydd dysgwyr yn allweddol er mwyn helpu i gynyddu tegwch a chynhwysiant a mynd i’r afael ag effeithiau anfantais. Gwnaethant sylwadau ar bwysigrwydd cwricwlwm cydlynol, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr na fyddai ar gael iddynt fel arall efallai. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gallu ymateb i ddigwyddiadau cyfoes drwy’r cwricwlwm, a dathlu diwylliant pob dysgwr, gan sicrhau bod y deunydd yn briodol ac yn berthnasol i ddysgwyr o bob cefndir. Nododd uwch-arweinwyr bod elfennau megis hiliaeth, cydraddoldeb, goddefgarwch a pharch yn gweu eu ffordd drwy holl Feysydd y cwricwlwm, nid dim ond yng ngweithgareddau Iechyd a Lles. Nodwyd hefyd bwysigrwydd addysgu o safon uchel i sicrhau tegwch, gan roi enghreifftiau o ymyriadau haenog i ddysgwyr, yn ogystal â’u dulliau o greu cysylltiadau rhwng pynciau. Dywedwyd bod rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd sy'n briodol i'w ddysgu a'i ddatblygiad ei hun yn cefnogi tegwch a chynhwysiant. Mae’r ddwy elfen yn ddatblygiadau i’w croesawu, ac yn hollbwysig er mwyn gwireddu’r cyfleoedd yn y Cwricwlwm i Gymru i wella safonau, gan leihau’r bylchau rhwng gwahanol grwpiau ar yr un pryd o ran cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr.
Roedd uwch-arweinwyr o'r farn bod newid cynnwys y cwricwlwm fel ei fod yn fwy amrywiol ac yn adlewyrchu cymdeithas yn well yn newid cadarnhaol. Roeddent yn teimlo bod yr agwedd hon ar y cwricwlwm yn gwneud cynnydd da, a bod amrywiaeth o adnoddau a chyfleoedd hyfforddi ar gael i gefnogi hyn.
Deall yr heriau
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda thimau cymorth dysgwyr a'r cwricwlwm i ymgynnull grŵp ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar yr heriau a'r cyfleoedd penodol a ddaw yn sgil cyflwyno diwygiadau'r cwricwlwm a diwygiadau i ADY ar yr un pryd. Mae'r grŵp wedi bod yn ystyried ffyrdd gwahanol o gefnogi'r proffesiwn, yn ogystal â rhannu profiadau eu hysgolion, eu lleoliadau, eu clystyrau a'u rhwydweithiau.
Mae aelodau'r grŵp wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â dealltwriaeth rhieni; ADY fel cyfrifoldeb i bob ymarferydd; a chysondeb o ran cyllid, ar gyfer cymorth addysgol mewn ysgolion i bob dysgwr yn ogystal â chymorth i ddysgwyr ag ADY, sy'n adlewyrchu cyd-destun yr ysgol neu'r lleoliad unigol.
Cyfeiriodd yr ymchwil ar weithrediad cynnar at y cyfleoedd a'r heriau a wynebir gan ymarferwyr mewn perthynas â diwygio'r cwricwlwm ac ADY. Mae uwch-arweinwyr yn cydnabod gwerth dull sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr, ond erys pryderon ynghylch bylchau mewn cyrhaeddiad sydd wedi ymestyn o ganlyniad i effeithiau'r pandemig.
Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad hefyd wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol. Mae gan y Grant Datblygu Disgyblion rôl allweddol i'w chwarae er mwyn cyflawni hyn ac rydym yn adeiladu ar yr ymarfer effeithiol sydd ar waith yn barod drwy sicrhau ein bod yn targedu cyllid yn y ffordd orau bosibl. Er mai ysgolion ddylai benderfynu sut y caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei ddefnyddio yn y pen draw, mae angen dylanwad mwy strategol ar y penderfyniadau hyn, dylent fod yn fwy seiliedig ar dystiolaeth a dylid monitro eu heffaith yn drylwyr. I'r perwyl hwnnw, rydym yn llunio canllawiau newydd i ysgolion ar ddefnyddio'r Grant, gan weithio'n agos gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol.
Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Nododd Adroddiad yr Athro Charlotte Williams ar ran y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd ffyrdd o wella'r modd y caiff themâu a phrofiadau sy'n ymwneud â chymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol eu haddysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Mae addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn benodol, ochr yn ochr â hanes Cymru, yn helpu pob dysgwr i wneud cysylltiadau cryf â'i gartref a'i gymuned, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth fel dinasyddion Cymru. Mae ehangder yr argymhellion i'r system addysg gyfan yn cyfrannu at newid cymdeithasol ehangach a'r uchelgais i Gymru fod yn wrth-hiliol erbyn 2030. Mae'r llwyddiant wrth weithredu yn cyfrannu at y nod hwn.
Mae mwyafrif yr argymhellion o adroddiad yr Athro Williams wedi cael eu rhoi ar waith, neu ar fin cael eu cwblhau, ac rydym yn hyderus y bydd yr argymhellion i gyd wedi cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Mae'r canlynol yn amlinellu'r hyn a gyflawnwyd ers diweddariad yr adroddiad blynyddol diwethaf.
Prosiect Cynefin
Mae prosiect ‘Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol’ yn rhan o raglen Dysgu creadigol drwy'r Celfyddydau a gaiff ei rhedeg ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n defnyddio dull cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol y rhaglen, gan gynnig cyfleoedd i ysgolion weithio gyda gweithwyr creadigol amrywiol er mwyn ystyried ffyrdd o archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol, drwy edrych ar themâu allweddol yn ymwneud ag amrywiaeth, nawr ac yn y gorffennol. Mae dysgwyr ac ymarferwyr yn gweithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol, y mae eu profiadau yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu dilys yn cael eu cynnig sy'n cysylltu'r Cwricwlwm i Gymru â byd go iawn dysgwyr a'u cymunedau. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2021, mae 84 o ysgolion, tua 2,500 o ddysgwyr a mwy na 70 o ymarferwyr creadigol wedi cymryd rhan uniongyrchol, tra bod mwy na 100 o athrawon a 50 o ymarferwyr creadigol wedi cael hyfforddiant i gefnogi'r gwaith.
Llenyddiaeth Cymru
Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023, cynhaliodd Llenyddiaeth Cymru gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol er mwyn ymdrin â materion hil a hunaniaeth drwy'r gair llafar a symudiadau. Cafodd mwy na 56 o sesiynau eu cyflwyno gan awduron o gefndir Pobl Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol i ddysgwyr uwchradd ledled Cymru. Roedd y sesiynau wedi rhoi cyfle i'r dysgwyr ystyried cysyniadau cymhleth a phryfoclyd a chyfleoedd i ymarferwyr ystyried sut y gallent gynnwys y themâu hyn fel rhan o ddysgu yn y dyfodol.
Cefnogi'r proffesiwn
Dysgu proffesiynol: ymarfer gwrth-hiliol
Mae Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) wedi cael ei flaenoriaethu fel rhan o'r cynnig dysgu proffesiynol i ymarferwyr addysg. Mae DARPL, a gafodd ei lansio'n ffurfiol yn ystod hydref 2022, yn hollbwysig er mwyn gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru a sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.
Hyb adnoddau, addysgu a dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac arweinwyr addysg yw DARPL fel y gallant feithrin dealltwriaeth o ymarfer gwrth-hiliol a'i ddatblygu. Y nod yw uwchsgilio ymarferwyr ledled Cymru ym maes ymarfer gwrth-hiliol a themâu cysylltiedig. Mae DARPL yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau amrywiaeth i sicrhau y gall ymarferwyr fanteisio ar amrywiaeth o rwydweithiau cefnogol.
Mae holl ganllawiau, hyfforddiant ac adnoddau gwrth-hiliol DARPL ar gael drwy gampws rhithwir DARPL, sy'n denu dros 2,000 o drawiadau bob mis. Ers iddo gael ei lansio, mae DARPL wedi gwneud cynnydd cyflym, gyda rhyw 18,000 o ymarferwyr yn cymryd rhan ar adeg paratoi'r adroddiad hwn, drwy gyfrwng digwyddiadau byw, ymgyngoriadau ac adnoddau anghydamserol.
Cafodd darpariaeth DARPL i uwch-arweinwyr ei chymeradwyo'n ddiweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys cynhadledd Cymru gyfan i fwy na 250 o arweinwyr addysgol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin. Ochr yn ochr â'r digwyddiad hwn lansiwyd modiwl arweinyddiaeth estynedig lefel uwch newydd DARPL, sy'n darparu llwybr i uwch-arweinwyr tuag at arweinyddiaeth wrth-hiliol barhaus. Mae cymorth ychwanegol gan gymheiriaid ar gael hefyd i arweinwyr addysgol drwy Grŵp Cyswllt Gwrth-hiliol cenedlaethol.
Mae'r radd Feistr Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) wedi cael ei datblygu gan 7 Sefydliad Addysg Uwch (SAUau) ac mae'n cynnwys 5 llwybr, gan gynnwys ADY ac arweinyddiaeth. Mae un o'r unedau craidd cyffredin yn ystyried tegwch a chydraddoldeb, sy'n golygu ei bod yn ofynnol i bob myfyriwr astudio o leiaf un modiwl sy'n ymwneud â thegwch a chydraddoldeb er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn ymwybodol o ymarfer gwrth-hiliol, yn ei ddeall ac yn gallu ei ddefnyddio yn eu gwaith.
Dysgu proffesiynol: dysgwyr agored i niwed a difreintiedig
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid i gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau er mwyn datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol cenedlaethol i gefnogi ymarferwyr i godi safonau yn sylweddol i ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed. Yn benodol, mae’r rhaglen hon yn cynnig mynediad at ddysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar wella arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu.
Mae adnoddau dysgu proffesiynol dwyieithog sy’n gysylltiedig â’r rhaglen ar gael erbyn hyn i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru drwy wefan Cefnogi dysgwyr bregus trwy addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r pecyn deunyddiau wedi’i rannu’n 10 prif faes addysgeg: adborth; metawybyddiaeth; dysgu annibynnol; gwahaniaethu; sgaffaldwaith a modelu; asesu ar gyfer dysgu; siarad, trafod a llafaredd; sicrhau effaith fwyaf bosibl cynorthwywyr addysgu; dysgu cydweithredol a llais y disgybl.
Hyd at fis Mawrth eleni, roedd 500 o ymarferwyr o bob rhan o Gymru wedi cofrestru ar y wefan. Mae sampl o ysgolion yn helpu i werthuso’r adnoddau a fydd yn golygu cynnal cyfweliadau ansoddol a meintiol i nodi a thrafod tueddiadau ac effaith.
Addysg gychwynnol i athrawon
Cafodd y meini prawf newydd ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru eu cyhoeddi ym mis Mai ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r meini prawf newydd yn sicrhau bod pob athro newydd wedi cael ei addysgu ynghylch ymarfer gwrth-hiliol a chynhwysol, er mwyn meithrin dosbarthiadau cynhwysol sy’n diwallu anghenion pob dysgwr, a’u bod yn deall y rhwystrau posibl i ddysgu (er enghraifft, rhwystrau gwybyddol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd). Mae’r meini prawf AGA newydd hefyd yn sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn datblygu’r gwerthoedd, yr wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol. Yn ogystal â llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, mae’r rhain yn cynnwys cynhwysiant cymdeithasol a mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, fel y bydd pawb sy’n newydd i’r proffesiwn yn deall sut i gefnogi pob dysgwr i wireddu eu huchelgais.
At hyn, mae gofyn i athrawon dan hyfforddiant ddeall a rheoli’r rhwystrau amrywiol sy’n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, ac sy’n effeithio ar y materion y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn yr ysgol o safbwynt annhegwch. Dylai hyn gynnwys diwallu anghenion dysgwyr:
- o gefndiroedd amrywiol yn ddiwylliannol, yn ieithyddol ac yn grefyddol
- o gefndiroedd amrywiol yn economaidd-gymdeithasol
- ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Ers i'r Cynllun recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon gael ei gyhoeddi, mae holl bartneriaethau AGA Cymru wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio er mwyn cynyddu nifer yr unigolion o leiafrifoedd ethnig sy'n gwneud cais am le ar gyrsiau AGA yn benodol. Cafodd manylion am y cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau'r cynllun eu cyhoeddi ym mis Ebrill.
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd y Gweinidog gymhelliad i ddenu mwy o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig i AGA er mwyn adlewyrchu'r flaenoriaeth recriwtio hon o fewn y gweithlu addysgu. Mae'r cynllun cymhelliant bellach ar waith ac mae hyd at £5,000 wedi bod ar gael i athrawon dan hyfforddiant cymwys ers mis Medi 2022.
Gwobrau Addysgu Proffesiynol Newydd
Cafodd Gwobr Addysgu Broffesiynol gyntaf Betty Campbell MBE ei lansio yn 2022 er mwyn hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ysgol Llanwern a enillodd y wobr am ddatblygu diwylliant o Gynefin, lle mae holl aelodau cymuned yr ysgol yn meithrin ymdeimlad o berthyn. Mae'r ysgol wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan o ymdrin ag amrywiaeth, lle caiff pob ethnigrwydd ei ddathlu.
Llywodraethwyr ysgolion
Cafodd canllawiau newydd i lywodraethwyr ar weithdrefnau cwyno ysgolion eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022 ac maent yn darparu cyngor penodol ar ymdrin â chwynion ynghylch gwahaniaethu er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn eu hysgolion.
4. Cynllunio a mireinio'r cwricwlwm a threfniadau asesu o fewn ac ar draws Meysydd
Deall gwaith cynllunio'r cwricwlwm
Gan adeiladu ar y dulliau datblygu ar y cyd a gafodd eu modelu wrth i'r ysgolion arloesi ddatblygu canllawiau fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru, mae peilot cynllunio'r cwricwlwm yn ystod y gwanwyn wedi cefnogi sampl cynrychioliadol o ysgolion ledled Cymru i ystyried dulliau cynllunio'r cwricwlwm mewn ffordd ymarferol. Gan ymgysylltu ag arbenigwyr rhyngwladol, fel rhan o brosiect Understanding by Design, mae 30 o ysgolion wedi gweithio gyda rhanbarthau, awdurdodau lleol a darparwyr AGA i brofi syniadaeth cynllunio tuag yn ôl ac asesu pa mor addas ydyw i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Mae gwerthusiadau'r prosiect yn gadarnhaol iawn lle bo dulliau datblygu ar y cyd yn parhau i fod o fudd i ymarferwyr.
Mae'r prosiect wedi dangos bod gwneud synnwyr ar y cyd yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ansawdd y dysgu yn ein hysgolion gan fod y dysgu'n dod yn fwy pwrpasol a dilys er mwyn helpu i gyflawni'r pedwar diben. Caiff allbynnau'r prosiect eu rhannu drwy flogiau, podlediadau ac astudiaethau achos fideo yn yr hydref, gan gyflwyno ysgolion i'r dull arbennig hwn o gynllunio'r cwricwlwm a'u helpu i feddwl yn feirniadol am ddulliau sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr a'u cyd-destun.
Mae'r prosiect wedi cadarnhau 3 egwyddor allweddol er mwyn helpu i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru:
- mae'n rhaid deall fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, elfennau'r fframwaith hwnnw a sut i'w defnyddio'n effeithiol er mwyn cynllunio cwricwlwm pwrpasol
- mae deall diben y dysgu yn greiddiol er mwyn cynllunio cwricwlwm effeithiol
- mae cydweithio a chymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol o ansawdd yn adnoddau grymus i'ch helpu wrth gynllunio cwricwlwm
Mae sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn parhau i lywio'r ffordd y caiff y Cwricwlwm i Gymru ei wireddu'n ymarferol mewn ysgolion a lleoliadau. Mae sgyrsiau drwy gydol y flwyddyn ar gynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu wedi dangos bod ymrwymiad yn bodoli i wneud amser i brosesau myfyrio a gwerthuso fel rhan o'u disgwyliadau ar gyfer dull iterus o gynllunio'r cwricwlwm. Neges gyson oedd nad oedd popeth yn newydd ac nad oedd yn rhaid dechrau o'r dechrau bob tro. Roedd y ffocws ar ystyried diben pob dull (pam y dylid ei ddefnyddio) yn hollbwysig wrth gefnogi newid.
Mae gwerth dysgu dilys pwrpasol wrth wraidd cynnydd dysgwyr wedi cymell llawer o ddulliau, ynghyd ag awydd i ‘ddeall dealltwriaeth’ a'r dysgu cynyddol soffistigedig a gaiff ei greu drwy ystyried yr egwyddorion cynnydd a'r sbardunau cysyniadol yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Siaradodd llawer o ymarferwyr am rôl prosiectau ymchwil fel y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC) fel ffordd o lywio eu prosesau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu. Roedd gwerth nodi diben gwaith ymchwil a gweithredu yn egwyddor glir ar gyfer llywio prosesau cynllunio'r cwricwlwm. Mae'r gwerthusiad strategol i lywio'r camau nesaf yn nodwedd amlwg o brosesau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu.
Mae llawer o ysgolion yn atgyfnerthu camau gweithredu, gan geisio myfyrio a gwerthuso eu cynnydd yn rheolaidd a chymryd y camau nesaf mewn ffordd ystyriol a gaiff ei llywio gan ymchwil. Mae'r canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd yn adlewyrchu'r neges bwysig hon. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn teimlo bod prosesau addysgu a dysgu sefydledig yn galluogi dysgwyr i fyfyrio ar eu cynnydd, gwerthuso eu dysgu a meithrin dealltwriaeth ddatblygol o'r camau nesaf. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ategol wedi cael eu cynllunio gydag ymarferwyr ledled Cymru sy'n adlewyrchu'r allbynnau o sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod cywair sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol wedi newid, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu prosesau a ffyrdd o weithio fel ffordd o gyflawni effeithiau cadarnhaol o ran cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu yn hytrach na chwilio am gynhyrchion. Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi'n gynyddol yr amser a gaiff ei neilltuo i drafodaethau proffesiynol er mwyn cynllunio ar y cyd. Mae hyn yn her o hyd, ond mae ymrwymiadau tebyg i'w gweld mewn adborth ehangach a chanfyddiadau'r gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar.
Datblygu Meysydd y cwricwlwm
Mae ymarferwyr yn cynllunio ac yn mapio elfennau o fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn erbyn pob un o feysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm (Meysydd) er mwyn sicrhau dysgu pwrpasol a chydlynol ac osgoi ailadrodd lle bo hynny'n bosibl. Mae amrywiaeth o ddulliau wedi cael eu disgrifio yn sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol a'r gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar ynghylch datblygu cysylltiadau rhwng pynciau a Meysydd. Roedd ysgolion cynradd yn fwy tebygol o ddefnyddio dull thematig neu seiliedig ar bwnc mwy integredig, ac roedd tuedd ymhlith ysgolion uwchradd i gyfeirio at fwy o gydweithio rhwng arweinwyr pwnc, o gymharu â'r cwricwlwm blaenorol, ac ymdrechion i geisio nodi tebygrwydd a chysylltiadau rhwng dysgu mewn pynciau a Meysydd gwahanol.
Yn gyffredinol gwelwyd amrywiadau yn y Meysydd a oedd yn gwneud cynnydd da, ym marn uwch-arweinwyr, o ran cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm. Ar y cyfan, nodwyd bod Iechyd a Lles ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Feysydd mwy datblygedig o safbwynt cynllunio ar y cyd a gweithio mewn ffordd integredig. Gwelwyd ymdrechion i sicrhau bod sgiliau Mathemateg a Rhifedd yn cael eu mapio yn erbyn Meysydd eraill a'u hintegreiddio ynddynt yn effeithiol. Cafwyd adborth cymysg ar lwyddiant ymdrechion i hyrwyddo gwaith cynllunio ar y cyd ym Meysydd y Dyniaethau a'r Celfyddydau Mynegiannol. Mae'n ymddangos mai Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd y Maes mwyaf heriol o ran annog gwaith cynllunio ar y cyd, ym marn uwch-arweinwyr.
Mae llawer o leoliadau wedi canolbwyntio ar fapio cynnydd o fewn Meysydd, gydag uwch-arweinwyr yn disgrifio'r rôl allweddol yr oedd gweithgarwch clwstwr yn ei chwarae wrth ddatblygu eu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Fodd bynnag, mae uwch-arweinwyr yn ymwybodol o hyd o'r heriau capasiti sy'n codi wrth ryddhau staff i gymryd rhan mewn sesiynau cynllunio ar y cyd a gweithgarwch clwstwr.
Dangosodd y gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar wahaniaethau clir yn y graddau yr oedd uwch-arweinwyr cynradd ac uwchradd wedi cynnwys ieithoedd rhyngwladol yn eu cwricwlwm. Nododd ysgolion cynradd eu bod ar gamau cynnar y broses o ddechrau addysgu ieithoedd rhyngwladol yn eu hysgolion. Er bod rhai eisoes wedi ymgorffori ieithoedd rhyngwladol drwy raglenni eraill, nododd y rhan fwyaf ohonynt eu bod yn dibynnu ar weithgarwch ar y cyd ag ysgolion uwchradd neu bartneriaid allanol i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol. Nododd uwch-arweinwyr mewn ysgolion uwchradd fod eu darpariaeth ieithoedd rhyngwladol yn parhau yn unol â datblygiadau'r cwricwlwm. Dywedodd rhai ysgolion fod mwy o weithgarwch i gefnogi eu hysgolion cynradd clwstwr. Cyfeiriodd sawl uwch-arweinydd, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, at bwysigrwydd rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg cyn ieithoedd rhyngwladol.
5. Cynnydd, asesu a chyfathrebu â rhieni a gofalwyr
Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, yn atgyfnerthu ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth, ac yn llunio cysylltiadau ac yn defnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu mewn cyd-destunau gwahanol, mae ysgolion yn datblygu cynlluniau cynnydd ar draws Meysydd y cwricwlwm, gan ymgorffori'r egwyddorion cynnydd gorfodol wrth gynllunio'r cwricwlwm. Gwyddom hefyd o'r gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar eu bod yn cydnabod y pwyslais ychwanegol ar y cynnydd a wneir gan y dysgwr unigol fel rhan o'u syniadaeth a'u gwaith cynllunio mewn perthynas â chynnydd. Cydnabu uwch-arweinwyr hefyd fod dulliau newydd o ymdrin â chynnydd dysgwyr yn gofyn am newid ym meddylfryd ymarferwyr, sy'n debygol o gymryd amser i ymsefydlu.
Adolygodd adroddiad Estyn yn 2022 ar ymagweddau effeithiol wrth asesu sy'n gwella addysgu a dysgu sut roedd ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed ac arbennig a gynhelir yn datblygu dulliau effeithiol o asesu sy'n gwella prosesau dysgu ac addysgu. Mae'r adroddiad yn cefnogi egwyddorion sylfaenol asesu yn y Cwricwlwm i Gymru, gan dynnu sylw at arferion da mewn llawer o ysgolion a chydnabod rôl hollbwysig asesu o ran cefnogi cynnydd dysgwyr.
Mae'r ymchwil ar weithrediad cynnar hefyd yn dangos bod ysgolion yn newid y ffordd y maent yn rhannu gwybodaeth am gynnydd â rhieni a gofalwyr, a nododd uwch-arweinwyr newid i'w groesawu tuag at gyswllt mwy personol â nhw o ran dysgwyr unigol.
Cynnydd
Dyma un o egwyddorion mwyaf sylfaenol y cwricwlwm ac mae'n hanfodol i godi safonau a disgwyliadau i ddysgwyr: sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd parhaus ac ystyrlon sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eu dysgu. Dyna pam y rhoddir pwyslais arno mewn sawl rhaglen gymorth, yn ogystal â dulliau monitro a gwerthuso.
Nododd y gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar fod uwch-arweinwyr yn datblygu cynlluniau cynnydd ar draws Meysydd y cwricwlwm, gan ymgorffori'r egwyddorion cynnydd gorfodol. Mae arweinwyr ysgolion yn cydnabod y pwyslais ychwanegol ar y cynnydd a wneir gan y dysgwr unigol fel rhan o'u syniadaeth a'u gwaith cynllunio, ac y bydd dulliau newydd o ymdrin â chynnydd dysgwyr yn cymryd amser i ymwreiddio. Mae ysgolion yn gweithio'n fewnol ac mewn clystyrau i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, yn enwedig er mwyn helpu dysgwyr i bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd.
Nodwyd heriau gan ysgolion hefyd, yn enwedig y risg bod y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion yn amrywio gormod. Er i'r ymchwil gydnabod bod ysgolion yn gweithio mewn clystyrau i sicrhau cydlyniaeth, gallai'r amser a oedd ei angen i wneud hyn dynnu sylw oddi ar weithgarwch arall.
Mewn ysgolion uwchradd, mynegodd arweinwyr bryder ynglŷn â sut y dylid sicrhau bod dulliau gweithredu ar gynnydd (ac asesu) yn bodloni gofynion o ran atebolrwydd a gofynion statudol. Roedd ymdeimlad ymhlith rhai arweinwyr bod camau cynnydd y cwricwlwm yn cael eu dehongli fel ‘fframwaith asesu’ yn hytrach na chyfeirbwyntiau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm. Mewn rhai ysgolion, roedd amharodrwydd ymhlith ymarferwyr i newid o'r dulliau presennol o olrhain cynnydd dysgwyr, er enghraifft parheir i ddefnyddio lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn ogystal â'r ffordd y caiff yr wybodaeth hon ar gynnydd dysgwyr ei chyfleu i rieni a gofalwyr. Mae helpu ysgolion i ddefnyddio'r dulliau newydd o ymdrin â chynnydd, a mynd i'r afael â phryderon ynghylch cydlyniaeth y dulliau hynny, yn flaenoriaethau allweddol i Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn nesaf, fel y nodir yn yr adran edrych i'r dyfodol.
Camau i'r Dyfodol
Mae prosiect Camau i'r Dyfodol yn rhan allweddol o'n gwaith parhaus i gefnogi dealltwriaeth a sicrhau cynnydd fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r prosiect yn gweithio gydag ymarferwyr, uwch-arweinwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r system addysg i feithrin y gallu i gynllunio cynnydd mewn cwricwla.
Canolbwyntiodd cam cyntaf y prosiect ar ddeall dealltwriaeth ysgolion a'r system ehangach o gynnydd a'u hymgysylltiad â chynnydd. Fel rhan o hyn, cafwyd trafodaethau â phartneriaid yn y system addysg; cafwyd trafodaeth drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol i ddwyn ymarferwyr ynghyd i drafod dulliau; cynhaliwyd grwpiau ffocws ag ysgolion er mwyn deall eu profiad o ddatblygu cynnydd yn eu cwricwlwm; ac ymgysylltwyd â thystiolaeth a gwaith ymchwil rhyngwladol ar gynnydd dysgu.
Mae adroddiad cam 1 wedi cael ei gyhoeddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ystyriaethau'r adroddiad yn uniongyrchol berthnasol i'r gwaith parhaus o ddatblygu cymorth i ysgolion, gan gynnwys drwy gam nesaf y prosiect. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd cefnogi cydweithio rhwng ysgolion ar gynnydd, rôl disgyblaethau pwnc mewn cynnydd, a meithrin dealltwriaeth well o beth yn union yw cynnydd mewn ysgolion. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn esgor ar oblygiadau ac ystyriaethau pwysig i ysgolion. Mae adnodd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer arweinwyr ysgolion sy'n crynhoi goblygiadau'r gwaith hwn, gan gynnwys mewnwelediadau allweddol ac ystyriaethau ar gyfer gweithredu ar lefel ysgol; a sgyrsiau er mwyn helpu i feithrin gallu o ran cynnydd ymhellach mewn ysgolion.
Mae Cam 2 y prosiect nawr yn canolbwyntio ar feithrin gallu yn y system addysg mewn perthynas â chynnydd dysgu. I gefnogi hyn, mae grŵp datblygu ar y cyd sy'n cynnwys ysgolion a sefydliadau partner wedi bod yn gweithio ers mis Hydref 2022. Mae'r grŵp yn nodi blaenoriaethau ar gyfer cymorth ar gynnydd, ac yn creu deunyddiau ategol ymarferol i ymateb i'r blaenoriaethau hyn, sy'n annog ymarfer yn unol ag ethos y Cwricwlwm i Gymru gan ganolbwyntio ar y ffaith ei bod yn bwysig bod ymarferwyr yn teimlo perchnogaeth dros eu cwricwlwm eu hunain. Caiff y deunyddiau hyn eu cyhoeddi ym mis Medi. Yn dilyn hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda'r prosiect a'n partneriaid i wreiddio'r dysgu hwn mewn ysgolion.
Asesu
Nododd yr ymchwil ar weithrediad cynnar fod dulliau newydd o asesu yn cael eu datblygu mewn ysgolion, gyda mwy o ffocws ar ddulliau asesu ffurfiannol o ddydd i ddydd. Nododd arweinwyr cynradd ac uwchradd newid bwriadol tuag at asesu ar gyfer dysgu a sicrhau bod pob aelod o'r staff yn ei ddefnyddio. Nododd llawer hefyd eu bod wedi bod yn ymwybodol o werth asesu ar gyfer dysgu, ond bod y Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn sbardun i gyflwyno newid.
Mae'n werth nodi y gwelwyd ymrwymiad cryf ymhlith ymarferwyr i sicrhau bod asesiadau o ansawdd uchel yn cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus ac o ddydd i ddydd, fel rhan annatod o addysgu a dysgu. Yn benodol, mae'r ffocws ar systemau sy'n cefnogi'r gwaith o goetsio a mentora dysgwyr yn dechrau canolbwyntio mwy ar ddysgu a arweinir gan ddiben a chefnogi sgiliau myfyrio a gwella dysgu yn annibynnol.
Mae'r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at leihad yn nifer yr asesiadau ffurfiol drwy gydol y flwyddyn, ond mae ysgolion yn parhau i ddefnyddio asesiadau personol cenedlaethol i fesur cynnydd ym maes darllen a rhifedd. Pwysleisiodd rhai uwch-arweinwyr eu pwysigrwydd parhaus i feincnodi cyrhaeddiad dysgwyr. Mewn achosion eraill, defnyddir asesiadau personol i fapio'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni neu'r hyn sydd heb gael ei gyflawni'n ddigonol. Mae hyn yn adlewyrchu newid i'w groesawu gan nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd tuag at ddefnyddio gwybodaeth asesu i gefnogi a gwella gwaith cynllunio'r cwricwlwm.
Drwy sicrhau bod dysgu yn bwrpasol a chrynhoi'r ‘rheswm’ dros unrhyw ddilyniant dysgu, roedd y penderfyniadau ynghylch asesu yn llawer haws eu deall. Wrth nodi diben unrhyw ddysgu, dechreuodd yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau ganolbwyntio mwy ar gynnydd dysgwyr, gan gefnogi, yn eu tro, benderfyniadau ynghylch y dangosyddion y byddai ymarferwyr yn disgwyl eu gweld pe bai dysgwyr yn gwneud cynnydd. Wrth gynllunio cyfleoedd i grynhoi hyn, mae prosesau cynllunio asesu hefyd yn dod i'r amlwg mewn ffordd llawer mwy pwrpasol na'r hyn a allai fod wedi bod yn brocsis dysgu ynysig o'r blaen.
Yn yr adborth, soniodd ysgolion hefyd am natur ddilys unrhyw gyfle asesu penodol, gyda digwyddiadau dathlu ac arddangos sy'n darparu'r cyd-destun dysgu ac yn cael eu rhannu â chymuned yr ysgol yn aml. Roedd defnyddio portffolios dysgwyr digidol i grynhoi datblygiad dysgwyr yn nodwedd gyffredin a oedd yn dod i'r amlwg mewn ysgolion a lleoliadau, ochr yn ochr â dulliau mwy traddodiadol o ymdrin â gwaith dysgwyr.
I lawer o uwch-arweinwyr, erys cwestiynau pwysig am asesu. Ochr yn ochr â chanllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, mae'r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 yn nodi'n glir na ddylid cynnal asesiadau at ddibenion atebolrwydd. Yn hytrach, dylai'r wybodaeth fanwl a geir drwy asesu ategu arferion hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion i ysgogi safonau uwch. Serch hynny, nododd nifer o ysgolion eu bod yn dal i bryderu am y data asesu y bydd yn ofynnol iddynt eu darparu fel rhan o'r trefniadau atebolrwydd. Mewn nifer o achosion, mae ysgolion yn parhau i ddefnyddio adnoddau asesu allanol ochr yn ochr â'r dulliau asesu newydd sy'n cael eu datblygu.
Cefnogi'r proffesiwn
Mae prosiect 3 blynedd Camau i’r Dyfodol, fel y nodir uchod, yn gweithio gydag ymarferwyr, uwch-arweinwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o'r system addysg i feithrin y gallu i gynllunio cynnydd mewn cwricwla.
Rydym yn parhau i gynnal sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol drwy ddwyn ymarferwyr ynghyd i rannu dulliau gweithredu ar gynnydd a llywio ein cymorth i ysgolion. Mae adnoddau ategol, fideos, a phecynnau o gwestiynau ar gael i ymarferwyr i'w helpu i drafod materion mewn gweithdy yn eu lleoliadau eu hunain.
Yn gysylltiedig â'r gwaith ar ddatblygu cynnydd dysgwyr ac fel y'i nodwyd yn yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm y llynedd, mae cefnogi dealltwriaeth a hyder y proffesiwn ynglŷn ag asesu yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y gwaith sy'n mynd rhagddo gennym i helpu i'w weithredu'n llwyddiannus. Rydym wedi bod yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol a chydweithwyr sydd mewn partneriaeth â ni drwy gydol y flwyddyn i ymgorffori'r adnoddau asesu, a ddatblygwyd yr haf diwethaf, yn y cymorth i asesu a gynigir ganddynt, gan hyrwyddo a chefnogi eu defnydd, a sicrhau eu bod yn werthfawr i ysgolion ac ymarferwyr.
Mae Gweithdai Asesu ar gyfer y Dyfodol CAMAU: cyfres o weithdai a ddatblygwyd ar y cyd ag ymarferwyr i'w helpu i feithrin gallu ym maes arferion asesu ar gael i bob ysgol o hyd. Mae'r gweithdai yn helpu i ddatblygu dulliau asesu sy'n creu cynnydd mewn dysgu yn hytrach na phrofi dysgu cyfredol yn unig. Ac, ar ôl y gyfres o ddeunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr (Mehefin 2022) rydym wedi parhau i ychwanegu'r adnoddau hyn y flwyddyn academaidd hon, drwy gyhoeddi nifer o astudiaethau achos ar ddulliau o gynllunio'r cwricwlwm, pontio, asesu a chynnydd.
Cymwysterau
Arlwy a chymwysterau'r cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed
Cafodd y weledigaeth ar gyfer y dysgu y bydd pobl ifanc 14 i 16 oed yn cael budd ohono o dan y Cwricwlwm i Gymru, a rôl bwysig cymwysterau o fewn hynny, ei hamlinellu yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar 20 Mawrth. Dylai arlwy cwricwlwm ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg orfodol yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo ar eu llwybrau unigol, wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y pedwar diben; a dylai eu cyflawniadau a'u cynnydd gael eu cydnabod. Mae'n hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar ehangder y dysgu a'r profiadau a gynigir mewn ysgolion uwchradd wrth i bobl ifanc symud ymlaen tuag at eu camau nesaf, ac yn cydnabod y rôl y mae cymwysterau yn ei chwarae yn hyn o beth. O dan y Cwricwlwm i Gymru, caiff dysgwyr fudd o'r rhannau gorfodol o'r cwricwlwm nad ydynt o reidrwydd yn arwain at gymhwyster ond sy'n cyfrannu at eu datblygiad, eu llwyddiant a'u cynnydd yn y dyfodol.
Yn dilyn ei drydydd ymgynghoriad yr hydref diwethaf a gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad penderfyniadau sy'n cadarnhau'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru a fydd ar gael o 2025 pan fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr y Cwricwlwm i Gymru yn cyrraedd Blwyddyn 10. Yn ogystal â'r meini prawf cymeradwyo technegol ar gyfer pob TGAU newydd, mae'r adroddiad yn darparu cyd-destun y gwaith hwn a'i rôl wrth helpu i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru. Darperir y rhesymeg dros bob penderfyniad, ynghyd â throsolwg o brosesau datblygu ar y cyd ac ymgynghori Cymwysterau Cymru, a lywiodd bob penderfyniad. Bydd y cynnydd mewn asesiadau diarholiad a gofyniad i bob TGAU gwneud-i-Gymru adeiladu ar ddealltwriaeth gysyniadol dysgwyr yn elfennau pwysig o'r gyfres newydd o gymwysterau.
Mae Cymwysterau Cymru'n gweithio gyda CBAC i'w helpu i greu'r TGAU newydd, yn unol â'r meini prawf cymeradwyo a gyhoeddwyd. Bydd CBAC yn gweithio i gyhoeddi manylebau arholi ym mis Medi 2024, a fydd yn rhoi amser i ymarferwyr baratoi i addysgu'r TGAU newydd am y tro cyntaf o fis Medi 2025.
Daeth ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16 i ben ar 14 Mehefin. Manylodd yr ymgynghoriad hwn ar y syniadaeth ynghylch cymwysterau eraill heblaw am TGAU (sgiliau, cyn-alwedigaethol a sylfaen) i gyd-fynd â'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Diben y Cynnig Llawn yw sicrhau cymwysterau cynhwysol a hygyrch i bob dysgwr. Bydd creu cynnig dwyieithog, cynaliadwy sy'n cynnig llwybrau cynnydd clir i ddysgwyr yn allweddol. Bydd yr elfen hon ar gael i ddysgwyr am y tro cyntaf yn 2027. Mae Cymwysterau Cymru'n ymrwymedig i barhau i gydweithio wrth ddatblygu'r Cynnig Llawn, gan sicrhau ei fod yn gyson â'r Cwricwlwm i Gymru. Dylai helpu ysgolion i wireddu eu cwricwla eang a chytbwys.
Bydd y cymwysterau newydd a ddatblygir fel rhan o'r Cynnig Llawn yn eistedd ochr yn ochr â chymwysterau cyffredinol, ynghyd â'r rhannau gorfodol o'r cwricwlwm nad ydynt o reidrwydd yn arwain at gymwysterau, er mwyn helpu dysgwyr i wneud cynnydd hyderus tuag at y pedwar diben a'r cam nesaf yn eu bywyd. O ystyried yr amcan hwn, rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ymarferwyr a phartneriaid i ddatblygu cynigion ar gyfer portffolio dysgwr a fydd yn helpu dysgwyr i hunanfyfyrio, cynllunio ar gyfer y camau nesaf ac, yn y pen draw, symud yn llwyddiannus ar hyd eu llwybrau unigol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda Cymwysterau Cymru i ddatblygu Bagloriaeth Cymru yn unol â'r newidiadau ehangach hyn ym maes dysgu a chymwysterau.
Bydd Cymwysterau Cymru'n parhau i adolygu a myfyrio ar fethodolegau asesu gwahanol o fewn cymwysterau, sy'n cysylltu â'r angen i'w cadw yn gyfoes ac yn berthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun datblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial.
Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio pwysigrwydd cynnydd dysgwyr. Ni ellir deall sut mae dysgwr wedi datblygu na myfyrio ar beth a sut mae'n dysgu drwy fesur cyrhaeddiad yn unig. Dylai ysgolion ganolbwyntio ar ddulliau asesu sy'n cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ac sy'n rhan annatod o'r bartneriaeth ddysgu ac addysgu honno. O'r broses hon, bydd ymarferwyr yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr i ganfod ffyrdd effeithiol o roi gwybodaeth am gynnydd, a nodi'r camau nesaf yn nhaith y dysgwr hwnnw.
Mae adran Cefnogi cynnydd dysgwyr: asesu o ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru, yn nodi'r gofynion statudol ar gyfer rhannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr bob tymor, a'r gofyniad i roi crynodeb o wybodaeth am ddysgwyr unigol bob blwyddyn. Er mwyn helpu ymarferwyr i fodloni'r gofynion hyn, rydym wedi datblygu astudiaethau achos fideo sy'n dangos y ffyrdd arloesol y mae dwy ysgol gynradd, Ysgol Min y Ddol ac Ysgol Merllyn, ac un ysgol uwchradd, Ysgol Calon Cymru, wedi gwneud hyn. Mae'r astudiaethau achos yn dangos bod y dulliau hyn wedi arwain at fwy o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
Yn ogystal, nododd y gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar fod ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i roi gwybodaeth am y cwricwlwm i rieni a gofalwyr. Dywedodd rhai ohonynt fod yn rhaid bod yn ofalus wrth rannu gwybodaeth am newidiadau'r Cwricwlwm i Gymru gan dynnu sylw at ystod o ddulliau a ddefnyddiwyd i roi diweddariadau cryno yn rheolaidd er mwyn ceisio osgoi llethu rhieni a gofalwyr â gormod o wybodaeth. Nododd ysgolion eu bod wedi defnyddio eu crynodebau o'r cwricwlwm gorfodol i rannu gwybodaeth, sy'n nodi trefniadaeth y Cwricwlwm i Gymru a throsolwg o ddulliau ar gyfer sicrhau cynnydd dysgwyr.
Soniodd rhai uwch-arweinwyr mai siomedig oedd lefelau presenoldeb rhieni a gofalwyr mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn benodol ar y Cwricwlwm i Gymru, fel gweithdai ynghylch y newidiadau. Gwelsant ei bod yn well ymgysylltu drwy ddigwyddiadau a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru fel rhan ohonynt, fel cyflwyniadau, digwyddiadau dathlu a gwasanaethau yr oedd dysgwyr yn cymryd rhan ynddynt hefyd. Mae sawl lleoliad wedi dechrau cynnwys ‘diwrnodau dysgu’ fel ffordd newydd o roi gwybodaeth, gan wahodd rhieni a gofalwyr i ddod i weld a thrafod gwaith eu plant.
Mae uwch-arweinwyr hefyd wedi disgrifio amrywiaeth o ymdrechion i gynnwys rhieni a gofalwyr yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm. Fodd bynnag, ar y cyfan, cyfyngedig fu'r ymatebion i ddulliau fel arolygon neu gyfarfodydd. Mewn rhai achosion nodwyd bod lleoliadau wedi penderfynu peidio ag ymgynghori â rhieni a gofalwyr nes bod yr ymarferwyr a'r lleoliadau wedi treulio mwy o amser yn cynllunio eu cwricwlwm a'u bod yn teimlo'n fwy hyderus yn eu dulliau.
Mae pecyn cymorth wedi cael ei ddatblygu ar gyfer lleoliadau i'w helpu i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ynghylch y Cwricwlwm i Gymru. Mae hwn yn eu helpu i esbonio'r newidiadau i'r cwricwlwm a'r modd y mae'n cefnogi profiadau dysgu a datblygu cyntaf eu plant. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys ystod o adnoddau gan gynnwys poster, templed ar gyfer cylchlythyr a negeseuon allweddol i'w hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwella dealltwriaeth rhieni a gofalwyr.
Mae canllaw a gyhoeddwyd yn flaenorol ar fuddiannau addysg feithrin i blant 3 a 4 oed yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y newidiadau i'r cwricwlwm, ac mae'n rhoi cyngor i rieni a gofalwyr ar ddysgu drwy chwarae a sut i ddod o hyd i le meithrin, naill ai mewn ysgol neu leoliad.
6. Elfennau trawsgwricwlaidd
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a dyma'r blociau adeiladau hanfodol sy'n sail i bob math o ddysgu. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i bawb: gan alluogi dysgwyr i fanteisio ar ehangder y cwricwlwm a'r cyfoeth o gyfleoedd a gynigir ganddo, gan roi sgiliau gydol oes iddynt a chefnogi'r broses o gyflawni'r pedwar diben. Mae meithrin y sgiliau hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr dan anfantais ac mae ein rhaglenni llythrennedd, rhifedd a digidol wedi ystyried sut y gellir sicrhau'r effaith a'r buddiannau gorau i'r dysgwyr hyn.
Ymysg y cymorth cwricwlwm a gynigir ar gyfer sgiliau trawsgwricwlaidd mae:
- fersiynau wedi'u diweddaru o'r fframweithiau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gefnogi dysgu ac addysgu ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru
- asesiadau personol fel dulliau hyblyg i ymarferwyr eu hintegreiddio â dulliau eraill wrth asesu sgiliau a chynnydd o ran darllen a rhifedd
- mae adolygiad o'r tirlun digidol yn cael ei gynnal a'i oruchwylio gan drawsgyfarwyddiaeth fewnol y Bwrdd Prosiect Addysg Ddigidol. Bydd yr adolygiad yn nodi bylchau a blaenoriaethau o ran darparu cymorth gan gynnwys ar gyfer sgiliau digidol trawsgwricwlaidd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol
- cafodd pecyn cymorth ar gyfer dull ysgol gyfan mewn perthynas â llafaredd a darllen ei gyhoeddi ar 23 Mawrth, a bydd yn cynnwys pedair astudiaeth achos sy'n dangos rhywfaint o'r gwaith cadarnhaol ym maes llafaredd a darllen sy'n digwydd mewn ysgolion
- animeiddiad i gefnogi ac annog rhieni a gofalwyr dysgwyr hŷn i barhau i ddarllen gyda'u plant er mwyn eu helpu i ddatblygu cariad at ddarllen
- mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llyfr i bob dysgwr yng Nghymru
- dechreuodd y Prosiect Peilot ar gyfer Mentora Darllen ym mis Chwefror. Mae'r prosiect hwn, a gaiff ei arwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn datblygu deunyddiau hyfforddi ac adnoddau i fentoriaid a mentoreion
- mae'r prosiect Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn canolbwyntio ar raglen Gymraeg wedi'i theilwra sy'n datblygu geirfa a sgiliau llythrennedd Cymraeg
Rydym yn edrych ar dystiolaeth i lywio safbwynt Llywodraeth Cymru ymhellach ar y broses o addysgu a dysgu darllen ac yn enwedig rôl ffoneg. Pe bai angen gwneud unrhyw newidiadau i ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, cânt eu hystyried fel rhan o'r cylch diweddaru nesaf. Rydym yn ymrwymedig o hyd i'r egwyddor mai'r dull ysgol gyfan mewn perthynas â llafaredd a darllen yw'r llwybr ar gyfer gwreiddio ymgysylltiad â darllen ym mhob blwyddyn.
Rydym hefyd yn datblygu gwerthusiad o dystiolaeth mewn perthynas â rhifedd a fydd ar gael ym mis Medi. Bydd yr adolygiad yn rhoi trosolwg o sefyllfa bresennol mathemateg a rhifedd yng Nghymru, yn nodi gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i godi safonau rhifedd pob dysgwr ac yn cefnogi trafodaeth ynghylch unrhyw gamau eraill y gall fod angen eu cymryd i wella safonau cyrhaeddiad a mwynhad o fathemateg a rhifedd.
Hawliau dynol
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ymhlith staff dysgu ac addysgu.
Mae hawliau dynol yn un o themâu trawsbynciol y Cwricwlwm i Gymru, ac mae canllawiau ar gael er mwyn helpu i gynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyried hawliau dynol wrth gynllunio a gweithredu cwricwla. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw un o'r egwyddorion allweddol i'w dilyn wrth lunio polisïau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y confensiynau eu hadlewyrchu ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chonsortia rhanbarthol a phartneriaethau, gyda chymorth Comisiynydd Plant Cymru, i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr. Mae Anabledd Cymru hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda World of Inclusivity yn 2022 ar brosiect peilot i gyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i ddysgwyr mewn ysgolion ledled Cymru. Mae Anabledd Cymru yn gweithio i sicrhau bod yr adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer y prosiect hwn ar gael i ymarferwyr am ddim ar Hwb.
Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith
Mae'r gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar yn edrych ar y modd y caiff addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith eu haddysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm yng ngham 2. Mae gwaith maes yn mynd rhagddo a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Medi.
Eleni, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Career Development Institute gynnal adolygiad o lenyddiaeth ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi arfer da mewn perthynas â phrofiad gwaith mewn ysgolion. Dylai profiadau anelu at agor llygaid dysgwyr i'r posibiliadau sydd o'u blaen a dylent roi cyngor o ansawdd uchel ar sgiliau a llwybrau gyrfa, gan godi dyheadau dysgwyr nad ydynt efallai yn sylweddoli bod rhai cyfleoedd ar gael iddynt. Gwnaethom hefyd gomisiynu ymchwil i werthuso cydberthnasau presennol rhwng ysgolion, diwydiant a chyflogwyr, er mwyn nodi arfer da yn y maes hwn ac adeiladu arno, a chefnogi ysgolion i feithrin cysylltiadau â busnesau, entrepreneuriaid a chyflogwyr lleol. Byddwn yn defnyddio'r gwaith ymchwil hwn a'r argymhellion dilynol i ystyried y camau pellach y mae angen eu cymryd er mwyn helpu ysgolion i wreiddio addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru.
Y llynedd, gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i Hefin David AS adolygu camau pontio o addysg i gyflogaeth mewn ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch. Bydd yr adolygiad yn llywio'r modd y caiff dysgwyr eu cefnogi yn eu profiad a'u dealltwriaeth o fyd gwaith, a'r modd y mae ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion yn cydweithio ar gamau pontio llwyddiannus rhwng camau dysgu gwahanol. Mae'r 'Pontio i fyd gwaith: adroddiad' a'r argymhellion dilynol mewn perthynas ag ymgysylltiad busnesau a chyflogwyr ag ysgolion bellach wedi cael eu cyhoeddi, a byddant yn llywio gwaith pellach yn y maes hwn.
Rydym wedi ymrwymo i brosiect peilot blwyddyn o hyd Robert Owen ar gwmnïau cydweithredol o fewn addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith, gan gefnogi dealltwriaeth dysgwyr o rôl cwmnïau o'r fath yn yr economi. Caiff y prosiect ei gynnal gan Cwmpas a fydd yn ymgysylltu ag ysgolion er mwyn datblygu adnoddau dysgu.
Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi ysgolion i gynllunio a datblygu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn chwe Maes y cwricwlwm, ac yn cyfrannu at eu gwaith. Mae'n darparu cyfleoedd go iawn ac ystyrlon i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth yn barod ar gyfer heriau a chyfleoedd dysgu pellach a'r byd gwaith sy'n datblygu'n barhaus. Mae Gyrfa Cymru yn datblygu gwobr ansawdd ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith i gefnogi ysgolion â'u rhaglenni ac i gydnabod cyflawniadau.
7. Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Nododd y gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar fod cynnydd da wedi cael ei wneud mewn perthynas â gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Nid oedd llawer o arweinwyr ysgolion wedi clywed am bryderon gan rieni a gofalwyr er eu bod weithiau wedi disgwyl y byddai problemau. Roedd rhai uwch-arweinwyr wedi cael ymatebion negyddol gan rieni a gofalwyr am addysg cydberthynas a rhywioldeb ond roedd llawer ohonynt wedi gallu mynd i'r afael â'r pryderon drwy gyfathrebu mewn modd agored a thryloyw.
Nododd llawer o uwch-arweinwyr, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, eu bod yn defnyddio deunyddiau allanol (a gaiff eu prynu fel arfer) er mwyn eu helpu i gynllunio a darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mewn rhai achosion, roeddent wedi addasu rhai o'r deunyddiau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn briodol o safbwynt datblygiadol. Dywedodd rhai yr hoffent gael cymorth mwy canolog i gynllunio'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb a chodwyd pryderon am eu gallu i gyflawni'r agwedd hon ar y cwricwlwm heb gost ariannol.
Mae helpu ysgolion i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr adran adnoddau Iechyd a Lles ar Hwb yn cynnwys dewis eang o ddeunyddiau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel, sy'n briodol o safbwynt datblygiadol ac sy'n ddibynadwy, yn unol â'r Cod, y gall ysgolion eu defnyddio yn hyderus.
Mae grŵp arbenigol o ymarferwyr ysgol a chydlynwyr ysgol iach yn adolygu'r adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb sydd ar Hwb ar hyn o bryd. Mae'r adran newydd ar Hwb y tymor hwn ar gyfer adnoddau'r Cwricwlwm i Gymru yn cyfeirio at adnoddau allweddol, a chaiff mwy o ddeunyddiau eu hychwanegu yn yr hydref. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys consortia rhanbarthol, partneriaethau ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod eu dulliau yn gyson ag egwyddorion yr adolygiad.
Mae'r adolygiad hefyd yn gyfle i gynnal ymarfer mapio a lle caiff bylchau eu nodi, bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn helpu i gyd-ddatblygu adnoddau i ysgolion.
Mae'r adolygiad o adnoddau yn dangos y pwys rydym yn ei roi ar sicrhau y gall pob ysgol a lleoliad fod yn hyderus bod eu dull yn gyson â'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Dros y flwyddyn academaidd nesaf, byddwn yn gweithio ar y cyd â'n partneriaid i sicrhau y gall ymarferwyr fanteisio'n gynyddol ar gymorth proffesiynol ac adnoddau sydd ar gael yn gyhoeddus ac a gaiff eu rhannu ag ysgolion a lleoliadau eraill ledled Cymru.
O safbwynt yr adolygiad barnwrol o addysg cydberthynas a rhywioldeb, ar ôl i'r achos gael ei wrthod yn yr Uchel Lys y llynedd, mae'r Llys Apêl hefyd wedi gwrthod rhoi caniatâd i'r hawlwyr apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys ac wedi gwrthod eu hawliadau am y Cod a'r canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb ar bob sail. Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Males yn y Llys Apêl:
The applicants' various challenges to the Code and the guidance all proceed on the basis that these documents mandate the teaching and promotion of particular sexual lifestyles in ways which amount to indoctrination. As the respondents point out, however, the fundamental difficulty with these challenges is that the Code and guidance do no such thing.
O ran sut mae’r Cod a'r canllawiau yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwahanol rywioldebau, adnabod hunaniaeth o ran rhywedd a thriniaeth barchus i bobl LHDTC+, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Males:
It is inconceivable that such teaching could be contrary to the common law or the Human Rights Act. On the contrary, diversity and inclusion (including as to the LGBTQ+ community) are fundamental values of British (including Welsh) society.
Mae hyn yn gyfiawnhad pwysig o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb. Bwriad y dull hwnnw yw cadw plant yn ddiogel a hyrwyddo cydberthnasau iach a pharchus. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion sicrhau bod y dysgu'n briodol yn ddatblygiadol, darparu gwybodaeth am addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n cynnwys ystod o safbwyntiau ar y pwnc ac nad yw'n ceisio hyrwyddo un farn dros un arall.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi annog ysgolion yn gyson i gymryd eu hamser i sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n agos â rhieni a gofalwyr. Wrth i'r flwyddyn academaidd fynd rhagddi, mae rhai dulliau gweithredu cadarnhaol iawn yn dod i'r amlwg sydd wedi cynnwys rhieni a gofalwyr gan sicrhau eglurder ynglŷn â'r hyn a gaiff ei addysgu a phryd, a pha adnoddau a gaiff eu defnyddio. Mae'r tryloywder hwn, ynghyd â thrafodaeth adeiladol ac agored os bydd problemau'n codi, yn hollbwysig er mwyn ennill hyder rhieni a gofalwyr.
8. Y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn eiddo i ni gyd. Mae'n rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Yr uchelgais yw bod pawb sy'n dysgu mewn ysgol neu leoliad yn cael cefnogaeth i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, gwneud cynnydd parhaus wrth ddysgu Cymraeg a meddu ar yr hyder a'r sgiliau iaith i ddewis defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Dyma pam mae'n bwnc gorfodol i bob dysgwr 3 i 16 oed, gyda'r ysgolion a'r lleoliadau yn penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau bod eu dysgwyr yn gwneud cynnydd.
I gefnogi hyn, gwnaethom gyhoeddi Fframwaith y Gymraeg ar gyfer ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg ym mi Hydref 2022. Mae'n pwysleisio bod yr iaith yn rhan annatod o'r Cwricwlwm i Gymru ac mae'n nodi'r gofynion statudol ar gyfer y Gymraeg, yn ogystal â nodi'r profiadau, yr wybodaeth, y sgiliau a'r ymagweddau sydd ymhlyg yn y cwricwlwm. Mae'r fframwaith wedi cael ei ddatblygu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr. Ei ddiben yw helpu ysgolion i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r hyn y dylent ei addysgu, yn ogystal â'u dealltwriaeth o gynnydd wrth ddysgu Cymraeg. Gall ysgolion ei ddefnyddio wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu er mwyn helpu i nodi'r wybodaeth, y sgiliau, y profiadau a'r ymagweddau a fydd yn ganolog.
Cynnydd dros y flwyddyn
Nododd adroddiad blynyddol Estyn yr effaith niweidiol a gafodd y pandemig ar ddysgu Cymraeg, a hynny ymhlith dysgwyr yn y sectorau cynradd ac uwchradd ac mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, am fod llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig os nad oedd y Gymraeg i'w chlywed yn y cartref. Ers y cyfnod clo, mae'r mwyafrif o ysgolion wedi rhoi blaenoriaeth i ailddatblygu gallu dysgwyr i siarad Cymraeg ac mae hynny'n dechrau cael effaith gadarnhaol. Bwriad fframwaith y Gymraeg yw helpu ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach.
Mae prosiectau fel ‘Ein Llais Ni’, a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ei ddatblygu ar y cyd gan GWE a Phrifysgol Bangor a'i ddarparu ledled y Gogledd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, wedi helpu i roi hwb i sgiliau llafaredd Cymraeg. Mae'r prosiect bellach wedi cael ei rannu'n genedlaethol ac wedi cael mwy o arian gan Lywodraeth Cymru i'w addasu i ysgolion cyfrwng Saesneg.
Mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig o ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg dysgwyr a fydd yn llywio cymorth yn y dyfodol, ochr yn ochr â chanfyddiadau arweinwyr ysgolion a dysgwyr sy'n deillio o'r ail gam o'r gwaith ymchwil ar weithrediad cynnar a gaiff ei gyhoeddi ym mis Medi.
Cefnogi'r proffesiwn
Mae ein huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn galw am newidiadau a chamau gweithredu pellgyrhaeddol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi'r Gymraeg wrth wraidd dysgu yng Nghymru oherwydd os ydym am greu cenedl lle mae pobl yn siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd, mae'n hollbwysig cynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. I wneud hynny, mae angen gweithlu cryf a medrus arnom.
Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg sy'n nodi camau gweithredu o dan bedwar nod cyffredinol:
- cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg
- cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr
- datblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd a’i arbenigedd i addysgu’r Gymraeg ac i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- meithrin gallu arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod gan bob arweinydd y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
Mae addysg gychwynnol i athrawon (AGA) wedi cael ei diwygio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd rhaglenni AGA newydd eu cyflwyno o fis Medi 2019 ymlaen, ac mae'r meini prawf achredu yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau fod yn glir ynghylch y gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn eu rhaglenni ar gyfer datblygu'r Gymraeg. Cafodd y meini prawf achredu eu hailwampio yn ddiweddar, gan atgyfnerthu ymhellach yr angen am raglenni AGA sy'n cefnogi'r cynnydd gofynnol yn nifer yr ymarferwyr sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg, a'r angen i ddatblygu iaith pob athro dan hyfforddiant i addysgu Cymraeg fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn parhau i gefnogi athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu eu gallu i ddefnyddio ac addysgu'r iaith. Mae gan y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg rôl ganolog i'w chwarae wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun yn darparu methodoleg a hyfforddiant Cymraeg i athrawon a chynorthwywyr dosbarth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Ers mis Medi 2022, gall ymarferwyr addysg ddilyn cyrsiau am ddim drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae consortia rhanbarthol, partneriaethau ac awdurdodau lleol yn arwain ystod o raglenni dysgu proffesiynol er mwyn helpu i addysgu Cymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddynt dîm o unigolion sy'n helpu i ddatblygu'r Gymraeg mewn ysgolion yn strategol ac sy'n cefnogi ymarferwyr a fyddai'n cael budd o'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg a chyfleoedd dysgu proffesiynol eraill. Yn ogystal, mae ystod o adnoddau dysgu ac addysgu wedi cael eu datblygu gan y timau ledled Cymru er mwyn helpu i addysgu Cymraeg ac addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r rhain ar gael yn yr adran rhwydweithiau ar Hwb drwy chwilio am ‘Y Pair’ ac ‘Y Gist’.
Mae gwaith ehangach sy'n cyfrannu at ddealltwriaeth y sector o'r Gymraeg fel rhan o ofynion y cwricwlwm yn cynnwys datblygu adnodd ar Hwb sy'n helpu arweinwyr i werthuso eu cynnydd wrth ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgol.
Cynigion deddfwriaethol
Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor y Senedd hon. Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi pob dysgwr yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol.
Ar 27 Mawrth gwnaethom gyhoeddi papur gwyn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer y Bil a daeth y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos i ben ar 16 Mehefin. Mae mwy o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu Bil i'w gyflwyno i'r Senedd yn ystod y tymor deddfwriaethol hwn.
9. Diwygiadau ategol
Adnoddau a deunyddiau ategol
Gan fanteisio ar arbenigedd ystod eang o ymarferwyr o bob cwr o Gymru, ynghyd â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a chan weithio mewn partneriaeth ag awduron adnoddau, mae adolygiad cynhwysfawr o'r holl adnoddau a deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm a geir ar Hwb yn cael ei gynnal. Gwneir hyn ar ôl i ganllaw, a luniwyd ar y cyd gan ymarferwyr a rhanddeiliaid, ar ddatblygu deunyddiau cwricwlwm gael ei gyhoeddi yn 2022, ar ôl iddo gael ei ystyried drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol. Mae'r adolygiad hefyd yn ystyried yr holl adnoddau newydd a gyflwynir i Hwb i'w cyhoeddi, yn ogystal â ffrwd waith benodol sy'n ystyried deunyddiau addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Er mwyn hwyluso mynediad i ymarferwyr, mae'r tudalennau perthnasol ar Hwb wedi cael eu diweddaru, gan greu cartref clir i'r holl adnoddau sy'n gyson â'r Cwricwlwm i Gymru. Wrth i'r adolygiad fynd rhagddo, mae adnoddau'n cael eu hychwanegu'n wythnosol bron at adrannau'r Cwricwlwm i Gymru.
Adnodd
Gwnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad llafar ar 28 Mawrth ynghylch sefydlu Adnodd, y cwmni sy'n gyfrifol am ddatblygu adnoddau addysg dwyieithog o ansawdd. Wrth iddo fabwysiadu ei swyddogaethau, bydd Adnodd yn darparu llwyfan i gydweithio a datblygu ar y cyd, gan ddarparu adnoddau'r cwricwlwm mewn ffordd fwy strategol.
Yn ystod tymor yr haf, mae Adnodd wedi dechrau gweithio i adeiladu'r cysylltiadau, y systemau a'r sylfeini sydd eu hangen arno i weithredu'n effeithlon. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, gan weithio gyda'r Rhwydwaith Cenedlaethol, bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn cael eu barn ar yr adnoddau sydd eu hangen, y ffyrdd gorau o'u comisiynu, sut i gydweithio er mwyn datblygu adnoddau, a'r hyn y dylai'r broses sicrhau ansawdd ei gynnwys. Yn dilyn hyn, rhagwelwn y bydd yn mabwysiadu ei swyddogaethau comisiynu newydd o wanwyn 2024 ymlaen.
Yn y cyfamser, mae anghenion a nodwyd yn barod mewn perthynas ag adnoddau'r cwricwlwm a deunyddiau ategol yn cael eu diwallu drwy waith comisiynu parhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r canllaw ar adnoddau a deunyddiau ategol yn cael ei ddiweddaru hefyd dros yr haf, ar y cyd ag Adnodd, er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau'r cwmni newydd.
Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol, a lansiwyd yn 2021, yn dod ynghyd â gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid galluogi (gan gynnwys consortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol ac Estyn), er mwyn nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, bydd saith sgwrs wedi cael eu cynnal drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol. Mae themâu mynych y sgyrsiau wedi canolbwyntio ar elfennau trawsbynciol fel cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ac hefyd ar gynnydd. Mae themâu sgyrsiau eraill wedi cynnwys y celfyddydau mynegiadol a'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Mae mwy na 500 o ymarferwyr wedi cymryd rhan yn sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn unig, gan elwa o'r cyfle hwn i rannu beth sy'n gweithio a dweud wrthym ble mae angen mwy o gymorth arnynt. Datgelodd adborth o sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol fod 100% o'r cyfranogwyr yn teimlo bod y sgwrs wedi rhoi cyfle iddynt ymgysylltu ag ymarferwyr eraill i gefnogi eu syniadaeth, ac y byddai 100% ohonynt yn argymell sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol i gydweithwyr.
Rydym yn parhau i gynnal sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol drwy ddwyn ymarferwyr ynghyd i rannu dulliau gweithredu ar gynnydd a llywio ein cymorth i ysgolion. Mae adnoddau ategol, fideos, a phecynnau o gwestiynau ar gael i ymarferwyr i'w helpu i drafod materion mewn gweithdy yn eu lleoliadau eu hunain.
Dysgu proffesiynol
Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Mae'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, a lansiwyd ym mis Medi 2022, yn allweddol i sicrhau bod darpariaeth dysgu proffesiynol o ansawdd ar gael i bob ymarferydd er mwyn sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae gan bob gweithiwr addysg proffesiynol hawl i'r canlynol:
- taith dysgu proffesiynol unigol
- dysgu proffesiynol wedi'i gynllunio'n dda sy'n cynnwys cyfuniad o ddulliau a chyfleoedd i fyfyrio, ymholi a chydweithio ar gyfer dysgu
- gweithio mewn ysgol neu leoliad, sy'n ystyried ei hun yn sefydliad sy'n dysgu ac sy'n defnyddio safonau proffesiynol ym mhob agwedd ar ddatblygiad proffesiynol
Fel rhan o'r broses o weithredu'r hawl, mae proses ddilysu newydd yn cael ei datblygu er mwyn sicrhau bod pob cyfle dysgu proffesiynol cenedlaethol yn mynd drwy brosesau sicrwydd cyffredin. Bydd hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, gyda 3 lefel yn cydnabod dysgu proffesiynol: achredu, cymeradwyo a chydnabod.
Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i ddatblygu datrysiad digidol newydd er mwyn gwella mynediad i gyfleoedd dysgu proffesiynol ac rydym wedi sefydlu grŵp ymarferwyr i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion gweithwyr addysg proffesiynol. Bydd y datrysiad ar gael yn yr hydref.
HMS a'r grand dysgu proffesiynol
Er mwyn helpu i weithredu'r cwricwlwm a blaenoriaethau cenedlaethol eraill, rydym yn darparu diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am y 3 blwyddyn academaidd nesaf gan ddechrau yn 2022 i 2023. Caiff y diwrnod HMS ychwanegol ei neilltuo ar gyfer dysgu proffesiynol ar y Cwricwlwm i Gymru, gyda phwyslais ar gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, llesiant a'r Gymraeg ym mhob rhan o gymuned gyfan yr ysgol.
Cafodd £12 miliwn arall ei ddyrannu yn uniongyrchol i ysgolion yn ystod 2022 i 2023 i adeiladu ar y grant dysgu proffesiynol o £55 miliwn a ddyfarnwyd dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae'r cyllid hwn yn rhoi amser a lle i ymarferwyr ac arweinwyr weithio gyda'i gilydd ar draws ysgolion a rhwydweithiau i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, yn unol â'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Diben y cyllid hwn yw galluogi pob ymarferydd i ddatblygu sgiliau ac ymarfer i gyflwyno dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
I sicrhau bod HMS yn cael effaith gadarnhaol, gwnaethom gyhoeddi canllawiau er mwyn helpu ysgolion i gael y gorau o HMS a dysgu proffesiynol.
Ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu (SLO)
Mae'r arolwg cenedlaethol o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn parhau i gefnogi ysgolion i gynnal asesiadau sylfaenol er mwyn helpu i wireddu'r cwricwlwm a gwella ysgolion. Mae llawer o weithgarwch o ansawdd yn digwydd mewn perthynas â SLO, ac mae'r enghreifftiau'n cynnwys penaethiaid yn gweithio gyda'i gilydd i rannu adnoddau a ffyrdd o weithio sy'n cefnogi'r agenda SLO, a phenodi hyrwyddwyr SLO er mwyn helpu uwch-arweinwyr i wreiddio'r dull SLO.
Rhaglen ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno rhaglen ddatblygu genedlaethol y Cwricwlwm i Gymru, drwy gonsortia addysg, partneriaethau ac awdurdodau lleol. Mae ysgolion sy'n rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith eleni wedi cael cymorth mwy pwrpasol.
Mae gwefan drawsranbarthol yn rhoi mynediad cyfartal i wybodaeth am y ddarpariaeth dysgu proffesiynol i ymarferwyr a mynediad agored i arlwy'r Cwricwlwm i Gymru ledled Cymru gyfan.
Yn 2023, cafodd yr agweddau ar y rhaglen sy'n ymwneud ag uwch-arweinwyr eu cymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynllunio Meysydd y cwricwlwm, gyda gweminarau a arweinir gan arweinwyr Meysydd rhanbarthol y cwricwlwm yn rhoi cyfleoedd i ymarferwyr weld enghreifftiau o bob rhan o Gymru.
Dysgu proffesiynol newydd
Mae gwaith yn mynd rhagddo ag ystod o bartneriaid ac arbenigwyr i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol i roi cymorth pellach i ymarferwyr er mwyn iddynt wireddu gofynion y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r partneriaid presennol yn cynnwys Rhwydwaith BAME Ed (Cymru) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cyflwyno Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar y cyd â nifer o randdeiliaid eraill i gefnogi ymarferwyr addysg ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb, hawliau dynol, a Chrefydd, gwerthoedd a moeseg.
Mae'r adnoddau newydd yn cael eu cyhoeddi fesul cam ac maent yn amrywio o ‘godi ymwybyddiaeth’ i ‘anelu at ragoriaeth’ i gymorth pellach i gefnogi ymarferwyr i gyflwyno dysgu ac addysgu o ansawdd uchel. Caiff y rhain eu hyrwyddo drwy ddigwyddiadau mewnwelediad polisi rhithwir.
Ymchwilio ac ymholi
Mae sefydliadau addysg uwch yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi dysgu proffesiynol ar draws y rhwydwaith ysgolion ehangach, ac mae'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol yn cael ei roi ar waith o hyd er mwyn cynyddu gallu ymholi proffesiynol ym mhob rhan o'r system.
Ers iddo gael ei sefydlu, mae'r prosiect wedi helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae bron 250 o ysgolion wedi cymryd rhan ym mhrosiect 2022 i 2023 fel egin ymholwyr, ymholwyr sy'n datblygu neu ymholwyr sefydledig, yn seiliedig ar eu lefel arbenigedd. Mae holl ymholiadau prosiect 2022 i 2023 yn canolbwyntio'n gyffredinol ar wireddu'r Cwricwlwm i Gymru fel y gellir casglu a rhannu tystiolaeth ar draws y system ehangach.
Addysgeg
Mae ein sianel, Trafod Addysgeg, Meddwl am Ddysgu yn cynnig gofod digidol i rannu arferion a chefnogi cydweithio o fewn ac ar draws ein hysgolion er mwyn ystyried addysgeg ac arferion wrth i ni barhau i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru. Gall ymarferwyr wneud y canlynol:
- dysgu beth mae eraill yn ei wneud a beth sy'n gweithio drwy rannu arferion, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i gydweithio
- cymryd rhan mewn sgyrsiau dysgu proffesiynol anffurfiol ynghylch addysgeg a'r Cwricwlwm i Gymru
- cael gafael ar recordiadau a deunyddiau ysgogi eraill i gefnogi sgyrsiau mewn ysgolion, clystyrau neu rwydweithiau
- cymryd rhan mewn sgyrsiau am addysgeg mewn perthynas â dull cyfunol, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau ar gyfer gwaith cynllunio dysgu
Yn ystod 2022 i 2023 gwnaed gwaith ymchwil ar y cyd i'r 12 egwyddor addysgegol er mwyn darparu gweithgarwch ysgogol a chrynodebau ymchwil i ysgolion er mwyn eu helpu i fyfyrio ar y 12 egwyddor addysgegol fel y gallant gynllunio ar gyfer a datblygu profiadau dysgu dilys, a chyflwyno'r canfyddiadau ymchwil hyn mewn ffordd hygyrch sy'n annog ymarferwyr i fyfyrio ac ymholi.
Arweinwyr
Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn parhau i gefnogi arweinwyr yn y system gan gynnig ystod o gyfleoedd iddynt, gan gynnwys:
- cymorth llesiant i arweinwyr mewn partneriaeth ag eraill
- digwyddiadau datblygu arweinwyr fel cyfres Datgloi Arweinyddiaeth a digwyddiadau Mewn trafodaeth i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
Meistr mewn addysg
Caiff y radd Feistr Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ei darparu gan 7 sefydliad addysg uwch ac mae'n cynnwys 5 llwybr, gan gynnwys ADY ac Arweinyddiaeth. O fis Medi, bydd 2 lwybr newydd ar gael ar y Cwricwlwm ac Ecwiti mewn Addysg.
Caiff y rhaglen ei chynnig ar ffurf cwrs dysgu cyfunol rhan amser ac mae'n helpu ymarferwyr i wella eu barn broffesiynol, eu hymreolaeth a'u gallu i ymateb i heriau mewn ffordd arloesol.
Effaith dysgu proffesiynol
Gwyddom ei bod yn cymryd amser i ddysgu proffesiynol gael effaith ar ddysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ar ddeilliannau dysgwyr.
Rydym yn gweithio gyda chonsortia addysg, partneriaethau ac awdurdodau lleol ar ddull y cytunwyd arno o fesur effaith dysgu proffesiynol yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor.
Rhaglen gwerthuso a monitro
Ym mis Ebrill 2023, gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau gwaith ymchwil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o gam cyntaf gwaith ymchwil ansoddol â 64 o uwch-arweinwyr mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ac edrychodd ar brofiadau cynnar ysgolion o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'n dilyn ein Hymchwil ansoddol gydag ymarferwyr ar baratoadau ar gyfer diwygiadau cwricwlwm ac asesu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Caiff adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ail gam o gyfweliadau ag uwch-arweinwyr, yn ogystal â gwaith maes gyda dysgwyr, ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2023.
Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaethom gyhoeddi Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, a ddatblygwyd gan Ymchwil Arad mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru, Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso'r diwygiadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru: adroddiad terfynol, a gyflwynodd ganfyddiadau'r gwerthusiad o'r diwygiadau i'r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru. Un o brif feysydd ffocws yr adroddiad yw'r theori newid, sy'n esbonio sut y disgwylir i'r broses ddiwygio gyflawni ei nodau a'i hamcanion, drwy nodi'n glir y mewnbynnau, y gweithgareddau, yr allbynnau, y deilliannau a'r effeithiau disgwyliedig, yn ogystal â'r cysylltiadau y tybir sydd rhyngddynt. Mae'r adroddiad yn cyflwyno'r cwestiynau ymchwil a gwerthuso y dylai Llywodraeth Cymru eu gofyn er mwyn ystyried i ba raddau y mae mecanweithiau'r theori newid yn gweithio yn ôl y disgwyl ac yn argymell cyfres gynhwysfawr o astudiaethau sydd, ar y cyd, yn golygu y gellir ystyried cynnydd ac effaith diwygiadau'r cwricwlwm dros amser.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad cwmpasu ar gyfer gwerthuso yn derbyn dull a chanfyddiadau'r awduron. Gwnaethom gydnabod bod angen rhaglen ymchwil, monitro a gwerthuso uchelgeisiol ac eang sy'n gymesur â graddfa ein Cwricwlwm i Gymru trawsnewidiol, a gwnaethom ymrwymo i ystyried y rhaglen waith a argymhellwyd wrth ddatblygu ein dull gwerthuso. Gwnaethom hefyd gytuno y dylai'r gweithgarwch ymchwil a gwerthuso gael ei ategu gan y 10 egwyddor a amlinellir yn yr adroddiad cwmpasu ar gyfer gwerthuso.
Rydym wedi ystyried yr argymhellion a nodir yn yr astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso ac wedi'u defnyddio i ddatblygu cynllun gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru.
Yn unol â'r adnoddau sydd ar gael, rydym yn cynnig canolbwyntio ar nifer o astudiaethau a fydd yn rhoi ystod o safbwyntiau a mathau o wybodaeth i ni. Gan driongli â chyfres ehangach o wybodaeth o'r system ysgolion, gan gynnwys data ar lesiant, cyrhaeddiad a gwelliannau i ysgolion, gallwn ddefnyddio'r dystiolaeth hon i ddeall cynnydd ar lefel genedlaethol a llywio cymorth er mwyn datblygu'r system a pholisïau yn y dyfodol. Mae'r cynllun gwerthuso yn rhoi mwy o fanylion am natur ac amseriadau'r astudiaethau hyn.
Gwyddom fod diwygio'r cwricwlwm yn newid pellgyrhaeddol a fydd yn newid profiadau dysgwyr, ymarferwyr ac ysgolion yn sylfaenol. Fel y nodir yn y cynllun gwerthuso, rydym yn gweithio i sicrhau bod tystiolaeth arall yn gydnaws â'r gwerthusiad o'r Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gydlynol o ddiwygiadau addysg yn ehangach.
Gwella ysgolion
Rydym wedi nodi'n glir bod angen inni sicrhau bod pob agwedd ar y system addysg yn gyson â gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi hynny'n llawn. Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi'r canllawiau gwella ysgolion i gyflwyno ffordd newydd i'r system addysg weithio gyda'i gilydd i helpu ysgolion i wella, ennyn hyder yn y system a chadw ffocws clir ar gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd ar bob cam yn eu haddysg. Rydym yn gweithio nawr i wneud y canllawiau hyn yn statudol y flwyddyn nesaf, a fydd yn ein helpu i symud tuag at system werthuso, gwella ac atebolrwydd sydd wedi'i gwreiddio'n gadarn ym mhrosesau hunanwerthuso ysgolion a chydweithio rhwng ysgolion er mwyn gwella.
Mae gan Estyn rôl allweddol i'w chwarae i gefnogi'r weledigaeth hon. Mae dull arolygu newydd Estyn yn cynnwys newid o ddyfarniadau crynodol i roi mwy o ffocws ar gryfderau a meysydd i'w gwella. Ceir hefyd fwy o hyblygrwydd yn y fframwaith i ystyried cyd-destun pob ysgol neu leoliad. Mae deialog broffesiynol bellach wrth wraidd y broses arolygu.
Yn ei adroddiad blynyddol, dywedodd Estyn fod y consortia rhanbarthol a'r awdurdodau lleol nad ydynt mewn consortiwm mwyach wedi ‘datblygu dulliau addas i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm’ ac wedi dechrau datblygu dulliau cryfach o gefnogi cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae Estyn wedi nodi, yn rhy aml, nad oedd y cymorth hwn yn ddigon pwrpasol i ddiwallu anghenion ac nad oedd darpariaeth yn cael ei gwerthuso'n ddigon effeithiol.
Cydnabu uwch-arweinwyr mewn ymchwil ar weithrediad cynnar bod gwasanaethau gwella ysgolion yn cynnig amrywiaeth o gymorth i ysgolion (er enghraifft, cyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd i arweinwyr asesu a chynnydd; deunyddiau i helpu ysgolion i ddatblygu dulliau o fapio cynnydd a chyrhaeddiad; mynediad at siaradwyr arbenigol a chynghorwyr i gefnogi gwaith cynllunio'r cwricwlwm). Nododd uwch-arweinwyr fod ysgolion yn gwerthfawrogi'r cymorth a roddir drwy glystyrau a rhwydweithiau.
Ecosystem wybodaeth ysgolion
Er mwyn cael system gwella ysgolion sy'n cefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru yn llawn, rhaid cael ecosystem wybodaeth. Rydym am weld dull symlach a chydlynol o ymdrin â gwybodaeth drwy ein system addysg gyfan: un sy'n rhoi lle canolog i ddysgu a dysgwyr ac sy'n lleihau'r beichiau ar ein hymarferwyr. Daeth prosiect ymchwil mawr i anghenion gwybodaeth a data'r system ysgolion yng Nghymru i ben ym mis Ionawr, ar ôl cyfnod o 18 mis. Mae'r adroddiad ar ddatblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion ynglŷn â datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd a fydd yn sail i'r diwygiadau i'r cwricwlwm.
Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog am wella ysgolion a gwybodaeth ar 19 Ionawr, rydym bellach mewn cysylltiad ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, Estyn a'n cynghorwyr arbenigol rhyngwladol. Ein nod yw datblygu tirlun gwybodaeth a gwella ysgolion newydd sy'n cefnogi ac yn galluogi ysgolion i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, ac sy'n ein galluogi ni a phartneriaid addysg i ddefnyddio gwybodaeth yn adeiladol er mwyn sicrhau gwelliannau cenedlaethol. Byddwn yn gwneud hyn drwy greu ecosystem wybodaeth sy'n gyfannol; un sy'n dal i gynnwys data ar gymwysterau ond fel rhan o dirlun gwybodaeth ehangach. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, byddwn yn ymwybodol o hyd o'n hymrwymiadau yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru yn 2022. Rydym yn:
- ystyried sut y gellir cymhwyso'r argymhellion at ecosystem data a gwybodaeth sy'n cefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru ac sy'n sail i nodau pob polisi addysg ysgol, a chydbwyso anghenion amrywiol rhanddeiliaid gwahanol ar yr un pryd
- defnyddio'r adroddiad i gynllunio ecosystem wybodaeth sy'n seiliedig ar egwyddorion cadarn, a all ddatblygu'n barhaus wrth i'r diwygiadau ymwreiddio yn y system ysgolion ac wrth i bolisi addysg barhau i ddatblygu
- defnyddio'r argymhellion i wella sut y gallwn roi data yn eu cyd-destun er mwyn:
- i) helpu i'w dehongli, a
- ii) dadansoddi effaith tlodi a rhwystrau eraill a wynebir gan ddysgwyr yn well a chefnogi effeithiolrwydd i bobl ifanc o dan anfantais
- parhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar fanylion argymhellion yr adroddiad ac ymgymryd â'r rhaglen waith briodol
- ystyried yn llawn yr argymhellion wrth ddatblygu ein dull diwygiedig o ddefnyddio gwybodaeth i helpu i wella ysgolion, ac, mewn partneriaeth ag ysgolion, symud tuag at system fwy cyfannol sy'n hyrwyddo dysgu ac yn rhoi dysgwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr wrth wraidd popeth
Cyllid a briodolwyd i ddiwygio'r cwricwlwm
Er mwyn darparu cymorth parhaus i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol, cafodd lefelau cyllid eu cynnal ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024. Yn 2024 i 2025, mae'n debygol y bydd lefelau cyllid yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn i adlewyrchu gweithrediad y rhaglen ddiwygio.
Mewn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru newydd, ac yn unol â'r dull ehangach a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol ar y Cwricwlwm y llynedd, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru o brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg a gaiff ei briodoli'n uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm. Drwy wneud hyn, rydym yn cydnabod bod nifer o gyllidebau eraill yn y prif grŵp gwariant hefyd yn debygol o fod yn cyfrannu'n anuniongyrchol at y diwygiadau (er enghraifft: hyfforddiant cychwynnol i athrawon, cymorth ar gyfer cyflawni digidol, llythrennedd a rhifedd, Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol). Felly, caiff cyllid sydd wedi'i briodoli'n uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm o brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg ei ddiffinio fel cyllid fydd yn cwmpasu:
- arian uniongyrchol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion
- cymorth ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
- dysgu proffesiynol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm
- prosiect cymorth cynnydd Camau i'r Dyfodol
- datblygu cymwysterau newydd Cymwysterau Cymru
- adnoddau a deunyddiau ategol
- cymorth gwasanaethau gwella ysgolion ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu
- rhaglen gwerthuso a monitro
- cyfathrebu
- costau gweithredol Llywodraeth Cymru
Tabl 1 |
Gweithgaredd |
2019 i 2020 (£) |
2020 i 2021 (£) |
2021 i 2022 (£) |
2022 i 2023 (£) |
---|---|---|---|---|---|
Diwygio'r cwricwlwm |
|
||||
Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru |
1,148,001 |
997,997 |
86,250 |
143,000 |
|
Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu |
2,002,000 |
2,002,000 |
3,000,000 |
3,000,000 |
|
Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd |
0 |
0 |
9,203,000 |
6,346,000 |
|
Ymgysylltu â'r rhwydwaith ysgolion |
0 |
0 |
3,240,000 |
3,000,000 |
|
Adnoddau a deunyddiau ategol |
0 |
0 |
306,749 |
403,274 |
|
Cymorth i leoliadau nas cynhelir |
0 |
0 |
314,020 |
289,199 |
|
Rhaglen cymorth cynnydd |
0 |
0 |
499,546 |
1,314,454 |
|
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid |
216,289 |
77,447 |
327,150 |
258,327 |
|
Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro |
82,301 |
17,293 |
235,701 |
276,775 |
|
Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau a'r Rhwydwaith Cenedlaethol |
421,069 |
288,597 |
240,664 |
405,535 |
|
Cwricwlwm ac asesu |
|
||||
Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion |
400,000 |
400,000 |
400,000 |
400,000 |
|
Datblygu a chefnogi athrawon |
|
||||
Ysgolion arloesi ac ysgolion clwstwr Dysgu Proffesiynol |
2,580,000 |
2,280,000 |
680,000 |
0 |
|
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion) |
2,225,000 |
1,771,000 |
5,900,000 |
6,400,000 |
|
Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol |
300,000 |
300,000 |
390,000 |
170,000 |
|
Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion |
15,000,000 |
7,000,000 |
12,000,000 |
12,000,000 |
|
Cymwysterau Cymru |
|
||||
Datblygu cymwysterau newydd |
319,000 |
686,000 |
1,142,000 |
1,327,000 |
|
Cyfanswm |
24,693,660 |
15,820,334 |
37,965,080 |
35,733,564 |
O'r £35.733 miliwn a wariwyd ar ddiwygio'r cwricwlwm yn 2022 i 2023, cafodd dros £21.7 miliwn ei drosglwyddo i ysgolion i'w helpu i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, sy'n fwy na'r swm o £21 miliwn a gynlluniwyd gennym yn wreiddiol.
Tabl 2 |
Gweithgaredd |
2023 i 2024 (£) |
2024 i 2025 (£) |
|
---|---|---|---|---|
Diwygio'r cwricwlwm |
|
|||
Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru |
255,000 |
200,000 |
||
Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu |
3,000,000 |
3,000,000 |
||
Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd |
6,346,000 |
3,006,000 |
||
Ymgysylltu â'r rhwydwaith ysgolion |
3,000,000 |
3,000,000 |
||
Adnoddau a deunyddiau ategol (yn cynnwys cymorth ar gyfer cymwysterau newydd maes o law) |
1,098,000 |
1,500,000 |
||
Cymorth i leoliadau nas cynhelir |
198,000 |
200,000 |
||
Rhaglen cymorth cynnydd |
600,000 |
0 |
||
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid |
250,000 |
250,000 |
||
Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro |
1,050,000 |
1,100,000 |
||
Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau |
785,000 |
750,000 |
||
Cwricwlwm ac asesu |
|
|||
Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion |
400,000 |
400,000 |
||
Datblygu a chefnogi athrawon |
|
|||
Ysgolion arloesi ac ysgolion clwstwr Dysgu Proffesiynol |
0 |
0 |
||
Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion) |
5,700,000 |
5,700,000 |
||
Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol** |
400,000 |
cytunwyd maes o law | ||
Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion |
12,000,000 |
12,000,000 |
||
Cymwysterau Cymru |
|
|||
Datblygu cymwysterau newydd |
1,450,000 |
1,330,000 |
||
Cyfanswm |
36,532,000 |
32,436,00 |
Bydd adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn diweddaru'r gwariant gwirioneddol a blaen amcanestyniadau, gan dynnu sylw at unrhyw bwysau neu arbedion a ragwelir.
Deddfwriaeth
Daeth Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022 i rym ar 1 Medi 2022. Roedd y rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i ddeddfwriaeth arall a oedd yn deillio o roi Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ar waith. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i derminoleg i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.
Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru fersiwn wedi'i diweddaru o'r cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar 2 Mehefin er mwyn gwneud newidiadau i'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig mewn perthynas â hanesion Cymru, ar ôl ymgynghoriad yn 2022. Mae canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Maes Dyniaethau wedi cael eu diweddaru ar Hwb i adlewyrchu'r newidiadau hyn.
Fel y nodwyd yn adran Y Gymraeg yr adroddiad hwn, mae gwaith ymgynghori yn mynd rhagddo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg i'r Senedd yn ystod y tymor deddfwriaethol hwn.
10. Edrych i'r dyfodol
Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru ddechrau ar ei ail flwyddyn, byddwn yn cymryd camau i helpu ysgolion a lleoliadau i adeiladu ar eu gwaith ardderchog hyd yma. Rydym wedi dweud yn glir bod y cam gweithredu yn gam pwysig ar ein taith ddiwygio, ac nad diwedd y daith ydyw. Byddwn yn helpu ysgolion a lleoliadau i sefydlu cylchoedd mireinio parhaus, gan sicrhau ein bod yn parhau i ddysgu, datblygu ac esblygu. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn dysgu'n gynyddol o brofiadau ymarferol ysgolion a lleoliadau wrth iddynt ymgysylltu â'u diwygiadau i'r cwricwlwm o ddydd i ddydd.
Egluro disgwyliadau
Byddwn yn adolygu disgwyliadau ynghylch gweithredu a dulliau yn gyson, wrth i brofiadau newydd ddod i'r amlwg. Yn benodol, rydym yn adolygu ac yn diwygio cynnwys adran y daith i weithredu o ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd ac yn darparu mwy o gymorth ynghylch dulliau ysgolion i barhau i fireinio. Fel rhan o hyn, byddwn hefyd yn sicrhau bod disgwyliadau ynghylch paratoi i weithredu a chynllunio'r cwricwlwm mewn canllawiau statudol yn glir, yn syml ac yn gydlynol. Ni fyddwn yn newid natur y disgwyliadau hyn yn sylweddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach byddwn yn eu hegluro, yn eu crynhoi ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu'n glir. Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau wedi'u hailddrafftio yn yr hydref a chaiff y fersiynau wedi'u mireinio eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Ehangu'r Rhwydwaith Cenedlaethol
Byddwn yn parhau i esblygu'r Rhwydwaith Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn helpu i feithrin gallu a datblygu cysylltiadau drwy'r proffesiwn. Bydd cwmpas sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn datblygu, gan adeiladu ar sgyrsiau llwyddiannus ar gynllunio'r cwricwlwm a chynnydd ond gan ehangu hefyd i gynnwys agweddau mwy penodol ar y cwricwlwm. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ymarferwyr wrth wraidd y gwaith o gydlynu, arwain a dod i gasgliadau o sgyrsiau'r Rhwydwaith er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau, a datblygu polisi cenedlaethol ar y cwricwlwm. Bydd cyfleoedd i gofrestru i gymryd rhan yn y gwaith datblygu polisi yn yr hydref. Byddwn hefyd yn ceisio rhoi cyfleoedd i weithio mewn ffordd hybrid ac wyneb yn wyneb a byddwn yn cyhoeddi calendr o ddigwyddiadau'r Rhwydwaith ar ddechrau tymor yr hydref.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth parhaus i wireddu'r cwricwlwm
Byddwn yn pennu nifer o flaenoriaethau allweddol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau i gael ei weithredu'n llwyddiannus dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar gadarnhau'r agweddau sylfaenol ar y cwricwlwm sy'n hollbwysig i'w lwyddiant gan gydnabod hefyd y cymorth sydd ei angen ar agweddau penodol ar y cwricwlwm. Mae'r blaenoriaethau hyn wedi cael eu llywio'n uniongyrchol gan ystod o dystiolaeth, gan gynnwys: adroddiadau ar weithrediad cynnar, adroddiad Estyn ac adroddiad cam 1 Camau i'r Dyfodol. Maent yn adlewyrchu ein bwriad yn y byrdymor i ymateb i brofiadau ysgolion wrth i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith yn ogystal â chanolbwyntio ar y blaenoriaethau tymor hwy, sef:
Monitro ac ystyried cymorth ychwanegol mewn perthynas ag agweddau ar y cwricwlwm a gaiff ei groesawu gan y proffesiwn
Byddwn yn adolygu canllawiau, cymorth ac adnoddau mewn perthynas â'r agweddau hyn a byddwn yn gweithio gyda'r Rhwydwaith Cenedlaethol i nodi a datblygu'r cymorth ychwanegol sydd ei angen. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cefnogol i sicrhau bod dulliau cyffredin ar waith ar gyfer cymorth a dysgu proffesiynol. Yn ei hanfod, mae'r flaenoriaeth hon yn fwy hyblyg ond eleni, rhoddir ffocws ar y canlynol:
- rhannu a chefnogi dulliau sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â chynllunio'r cwricwlwm, cynnydd a gweithio mewn clwstwr
- cymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd fel ffactorau allweddol sy'n galluogi dysgu ac sy'n byrth i ddysgu, yn benodol, llafaredd, darllen a rhifedd
- helpu i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd
- cymorth ar gyfer y Gymraeg a defnyddio fframwaith y Gymraeg
Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dibyniaethau sy'n hollbwysig i lwyddiant y cwricwlwm yn adlewyrchu ei ethos ac yn gyson â dull Fframwaith y Cwricwlwm
Mae hyn yn ymwneud ag agweddau ar y system addysg ehangach sy'n allweddol er mwyn diwygio ac sy'n ganolog i hyrwyddo dulliau cadarnhaol. Mae'r dibyniaethau hyn hefyd yn agweddau y gwyddom, yn rhyngwladol, eu bod yn rhwystrau allweddol os nad ydynt yn adlewyrchu diwygiadau. Mae gennym gydberthnasau gwaith cryf â phartneriaid yn y maes hwn a byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r modd y gall ac y dylai'r rhain adlewyrchu diwygiadau, ac yn datblygu cynlluniau gyda nhw i ddisgrifio sut y gall ac y dylai'r meysydd hyn esblygu yn y tymor hwy. Mae cyfleu hyn yn hollbwysig i'r flaenoriaeth hon fel bod pob rhan o'r system yn cydnabod bod disgwyl i'r meysydd hyn gael eu llywio gan y Cwricwlwm i Gymru, ei athroniaeth a'i gysyniadau. Eleni a thros y blynyddoedd nesaf, bydd hyn yn canolbwyntio ar:
- sicrhau bod cymwysterau yn gyson â'r Cwricwlwm i Gymru
- sicrhau bod systemau gwella ysgolion, arolygu ac atebolrwydd yn gyson â'r Cwricwlwm i Gymru
- parhau i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cefnogi blaenoriaethau'r Cwricwlwm i Gymru
Parhau i ddatblygu polisi ar y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn glir ac yn cefnogi ysgolion
Bydd angen i ganllawiau fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru barhau i esblygu er mwyn adlewyrchu profiad, tystiolaeth ac ymchwil. Yn y tymor byr, bydd hyn yn canolbwyntio ar egluro a symleiddio, nid ychwanegu disgwyliadau newydd sylweddol, ond byddwn hefyd yn ystyried pa newidiadau tymor hwy y gallai fod angen eu hystyried. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r proffesiwn i ddeall pa mor ddefnyddiol yw disgwyliadau a chymorth, a ble mae angen mwy o gymorth a manylion. Eleni a thros y blynyddoedd nesaf, bydd hyn yn cynnwys:
- sicrhau bod disgwyliadau'n glir ac yn syml: byddwn yn diweddaru cynnwys adran y daith i weithredu o ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru ac yn ystyried y ffordd orau o gyflwyno'r wybodaeth hon. Byddwn yn ymgynghori ar hyn yn ystod tymor yr hydref
- gweithio gyda'r Rhwydwaith Cenedlaethol i ragweld sut y gallai'r disgwyliadau hynny esblygu yn y tymor hir i adlewyrchu profiadau o'r diwygiadau a chanfyddiadau prosiect Camau i'r Dyfodol
- sefydlu cylch hirdymor ar gyfer adolygu a mireinio fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
Sicrhau cydlyniaeth rhwng disgwyliadau a chymorth o safbwynt cysyniadau sylfaenol a phrosesau'r cwricwlwm
Mae'r rhain yn cynnwys yr egwyddorion a'r prosesau cyffredin sy'n cefnogi tegwch a chydlyniaeth ar draws cwricwla ysgolion. Byddwn yn sicrhau bod canllawiau cenedlaethol yn ddigon clir a byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid a'r Rhwydwaith Cenedlaethol i ddatblygu cymorth ychwanegol er mwyn egluro disgwyliadau a chynyddu gallu. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd hyn yn canolbwyntio ar ddarparu disgwyliadau a chymorth cydlynol mewn perthynas â'r canlynol:
- y broses o gynllunio'r cwricwlwm, cynnydd a threfniadau asesu
- cefnogi gwaith rhwng clystyrau ar gynllunio'r cwricwlwm, cynnydd a threfniadau asesu
Sicrhau cydlyniaeth rhwng disgwyliadau a chymorth o safbwynt agweddau ar y cwricwlwm lle mae angen cymorth penodol ar y proffesiwm
Fel uchod, byddwn yn sicrhau bod canllawiau cenedlaethol yn ddigon clir a byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cymorth ychwanegol ar gyfer ysgolion er mwyn egluro disgwyliadau a chynyddu gallu: mae hyn yn arbennig o berthnasol i addysg cydberthynas a rhywioldeb dros y flwyddyn nesaf.