Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Rydym ar y trywydd iawn i wneud ein cwricwlwm newydd yn realiti mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Mae mis Medi 2022 yn garreg filltir allweddol, ond nid yw'n ddiwedd y daith. Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid galluogi wedi bod yn cydweithio'n agos ag ysgolion a lleoliadau i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ers ymhell cyn y pandemig. Dylai ysgolion fod yn hyderus a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt baratoi i weithredu eu cwricwlwm newydd.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar baratoadau, ond mae ymrwymiad cryf o hyd i ddiwygio ym mhob rhan o'r sector, a dyhead i gynnal momentwm. Gyda'r Cwricwlwm i Gymru'n cael ei gyflwyno o fis Medi, mae pob rheswm i fod yn gadarnhaol ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma, gan gydnabod bod mwy i'w wneud dros y cyfnod i ddod. 

Mae ein cwricwlwm newydd wedi'i ddylunio ar gyfer pob dysgwr. Ein ffocws bob amser oedd gallu codi cyrhaeddiad pob dysgwr, i sicrhau y gallant gyrraedd eu potensial, ac mae'n parhau felly. Mae diwallu anghenion ein dysgwyr sydd dan anfantais ac sy'n agored i niwed wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy'r gwaith o ddatblygu fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r Cwricwlwm yn mynd ati'n benodol i herio cwricwlwm pob ysgol a lleoliad er mwyn codi dyheadau pob dysgwr. Mae ysgolion a lleoliadau yn paratoi eu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm i ddangos y modd y mae eu hegwyddorion ar gyfer dylunio'r cwricwlwm ac asesiadau yn diwallu anghenion pob dysgwr yn eu lleoliad. Mae sawl enghraifft eisoes o'r modd y mae ysgolion a lleoliadau yn defnyddio fframwaith y cwricwlwm fel modd o ddatblygu dulliau newydd o fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr.

Mae pedwar diben y cwricwlwm eisoes yn dod yn gyfarwydd i ymarferwyr a dysgwyr ledled Cymru, a bydd yn dod yn derm cyfarwydd i rieni a gofalwyr. Am y tro cyntaf, rydym wedi diffinio diben addysg yng Nghymru yn y gyfraith. Rydym am i bob person ifanc 16 oed fod yn ddinasyddion uchelgeisiol, mentrus, moesegol, iach a hyderus o Gymru a'r byd. Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag addysgu ar gyfer profion, bod ysgolion hefyd yn datblygu pobl ifanc i fod yn unigolion cyflawn ac iach, sy'n meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i wynebu'r dyfodol yn llawn hyder. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a'r gymdeithas ehangach, ac i ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth.

Cydnabu adroddiad annibynnol Archwilio Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd ar 26 Mai natur integredig yr agenda diwygio addysg ehangach: pwysigrwydd sylfaenol dysgu proffesiynol ac addysgeg, y gwaith ar wella ysgolion, hunanwerthuso ac atebolrwydd, diwygio cymwysterau, a phwysigrwydd rôl rhieni a gofalwyr i'r rhaglen hon. Cydnabu hefyd, wrth i ni ddatblygu, mai nod yr agenda ddiwygio yw gwella safonau addysgol ledled Cymru ac yn benodol i gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais neu y mae tlodi yn effeithio arnynt. Mae'r rhain yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer ein cefnogaeth barhaus o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm.

Yng nghyd-destun sector addysg sy'n adfer ar ôl y pandemig, mae'n bwysig cydnabod, er bod gwaith paratoi a chynllunio effeithiol yn hanfodol i gefnogi'r broses o weithredu'r cwricwlwm, bydd elfen o ddysgu a dealltwriaeth wirioneddol a fydd ond yn datblygu pan fydd lleoliadau wedi cael cyfle i ddechrau gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Er bod yr ecosystem gymorth ar gyfer diwygio'r cwricwlwm yn parhau i ddatblygu mewn ymateb i anghenion a'i bod yn parhau i wella, rydym yn cydnabod y bydd y gwaith ymarferol o weithredu'r cwricwlwm newydd yn dechrau o ddifrif o fis Medi i ysgolion a lleoliadau.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Y sefyllfa ddiwygio bresennol

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r paratoadau sydd ar waith i ddiwygio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau ansoddol ar lefel genedlaethol o gryfderau a meysydd i'w gwella ymhellach. Cafodd yr wybodaeth hon ei chasglu mewn amser real yn ystod tymor yr haf 2022, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol ar draws partneriaid strategol haen ganol (consortia a phartneriaethau rhanbarthol, Estyn ac awdurdodau lleol). Er enghraifft, cafwyd gwybodaeth gan y canlynol:

  • cynghorwyr cefnogi gwella/partneriaid gwella ysgolion/cynghorwyr herio/trafodaethau tîm y cwricwlwm ac ymweliadau i ysgolion gan wasanaethau gwella ysgolion
  • asesiadau awdurdodau lleol ar waith lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
  • arolygiadau cynradd peilot
  • gwerthusiadau o ddysgu a chymorth proffesiynol
  • canlyniadau arolygon a grwpiau ffocws
  • cyfarfodydd rhanbarthol/partneriaeth â phenaethiaid ac uwch-arweinwyr
  • presenoldeb rhanbarthol/partneriaeth mewn cyfarfodydd clwstwr
  • cyfleoedd anffurfiol a ffurfiol i roi adborth drwy rwydweithio, yn cynnwys drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol

O ganlyniad, cyflwynir yr adran hon i roi gwybodaeth ddiweddaraf ddefnyddiol am y cynnydd a wneir gan ysgolion a lleoliadau o ran y system empirig wrth iddynt weithredu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd. Fodd bynnag, nid yw'n ganlyniad un dull strwythuredig o gasglu a dadansoddi data. Felly, dylid ei ystyried o wybod hynny.

Yn gryno, mae'r darlun datblygol yn cynnwys y canlynol:

  • darlun cynyddol gadarnhaol o gynnydd lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a darlun sy'n gwella ers dechrau'r flwyddyn
  • dros y misoedd mwyaf diweddar, mae'n ymddangos bod ysgolion wedi bod yn gwneud cynnydd cyflymach tuag at ddylunio eu cwricwlwm
  • mae bron pob ysgol a lleoliad yn nodi eu ffactorau unigryw eu hunain a sut mae'r rhain yn cyfrannu at y pedwar diben
  • mae bron pob un ohonynt yn adolygu'r weledigaeth, y gwerthoedd a'r ymddygiadau i gefnogi'r broses o wireddu'r cwricwlwm
  • mae bron pob un ohonynt yn meithrin dealltwriaeth o ystyriaethau cynllunio'r cwricwlwm yn cynnwys elfennau gorfodol a pholisi'r ysgol mewn perthynas â'r Gymraeg
  • mae'r rhan fwyaf yn adolygu modelau cynllunio'r cwricwlwm ac yn ymchwilio i ba mor addas y byddant i'w defnyddio
  • mae'r rhan fwyaf yn ystyried rôl cynnydd, asesu ac addysgeg yn y cwricwlwm a'r cyd-destun lleol
  • mae'r rhan fwyaf yn cynllunio, yn trefnu ac yn treialu eu model cwricwlwm arfaethedig, gan werthuso dyluniadau cychwynnol a datblygu cynlluniau tymor canolig
  • yn galonogol, mae mwy o ysgolion yn hapus i drafod dulliau treialu ac yna eu mireinio os na fyddant yn gweithio
  • mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, yn ogystal â nifer o ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), yn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer eu dysgwyr Blwyddyn 7 ym mis Medi, flwyddyn cyn yr hyn sy'n ofynnol

Mewn perthynas â'r nifer bach o ysgolion hynny sy'n gwneud cynnydd arafach na'r disgwyl, bydd gan ysgolion gwahanol anghenion a blaenoriaethau gwahanol sy'n effeithio ar eu gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm. Lle bydd ysgolion yn gwneud cynnydd arafach, mae ein partneriaid yn nodi ei bod yn annhebygol iawn mai mater sy'n ymwneud â'r cwricwlwm yn unig yw hwn, a'i fod yn hytrach yn arwydd o heriau sylfaenol ehangach. Er enghraifft, mae rhai yn datblygu ansawdd a chysondeb dysgu ac addysgu fel rhagfynegiad i ddatblygu'r cwricwlwm mewn modd ystyrlon, ac mae eraill yn treialu dulliau gwahanol o gynllunio'r cwricwlwm. Yn anffodus, fel y gwelwyd cyn y pandemig a'r rhaglen diwygio addysg, mae ysgolion sy'n achos pryder ledled Cymru.

Mae'r holl ysgolion hyn yn cael cymorth pwrpasol a dwys.

Lleoliadau gofal plant meithrin a ariennir nas cynhelir

Mae'r lleoliadau hyn yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i gefnogi anghenion datblygu ein dysgwyr ifancaf. Mae tua 10,000 o blant 3 a 4 oed yn cael eu haddysg gynnar mewn tua 530 o leoliadau ac rydym wedi gweithi'n agos gyda Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru ac awdurdodau lleol i ddeall y cynnydd maent yn ei wneud i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae'r 2 flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol i'r sector gofal plant, ac mae'n rhaid bod yn gydymdeimladol i'w taith i weithredu'r cwricwlwm o ystyried hynny.

Mae canlyniadau'r adolygiad diwethaf ag awdurdodau lleol ym mis Mai yn creu darlun cadarnhaol o gynnydd lleoliadau, sy'n galonogol, a darlun sy'n gwella ers dechrau'r flwyddyn. Ers mis Ionawr, mae'r ffaith bod cyfyngiadau COVID-19 wedi codi yn benodol wedi galluogi lleoliadau i normaleiddio patrymau addysg a gofal, darparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr a chyfoethog i blant a sicrhau gwell ffocws ar baratoadau ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm. Rydym yn cymeradwyo gwaith lleoliadau, awdurdodau lleol a sefydliadau ambarél cenedlaethol sy'n rhoi cefnogaeth wych i'r broses o ddarparu addysg gynnar yn y sector.

Mae ymdeimlad cynyddol o fomentwm yn y sector ac mae pob awdurdod lleol yn rhoi cynlluniau ar waith i wella dealltwriaeth o'r cwricwlwm a sicrhau y caiff ei weithredu mewn modd safonol. Mae cynlluniau gweithredu sydd wedi'u llywio gan hunanwerthusiadau a lleoliadau yn gamau nesaf allweddol. Mae penderfyniad o hyd i greu cyfleoedd datblygu o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n cael gofal plant ac addysg yn y sector nas cynhelir.

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar y math o gymorth sydd ei angen ar leoliadau, a byddwn yn canolbwyntio ar lunio trefniadau asesu ac adnoddau ar wahân sy'n benodol ar gyfer deall egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a'r broses o weithredu'r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Bydd cymorth ymarferwyr yn parhau i ganolbwyntio ar drefniadau gweithredu cyson, o ansawdd uchel i sicrhau gwell dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn a'r addysgeg i sicrhau gwelliannau cynaliadwy wrth ddarparu addysg gynnar, ac ar gynhyrchu adnoddau i gefnogi dealltwriaeth rhieni a gofalwyr o addysg mewn lleoliadau.

Mae rhai lleoliadau yn parhau i deimlo effaith y pandemig, a bydd awdurdodau lleol yn parhau i roi cymorth pwrpasol wedi'i dargedu i sicrhau y caiff y cwricwlwm ei weithredu'n effeithiol.

Ysgolion a gynhelir

Mae ysgolion sy'n paratoi'n dda ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru wedi ymgysylltu â gwaith clwstwr ehangach mewn diwylliant cydweithredol yn hytrach nag un cystadleuol. Mae'r cwricwla sy'n cael eu cynllunio yn defnyddio cyd-destunau lleol, gan atgyfnerthu cydberthnasau cymunedol ac ymgysylltu â phob rhanddeiliad mewn gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu ac addysgu. Caiff dysgwyr eu rhoi wrth wraidd y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm gan ddatblygu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion, a sicrhau cyfleoedd ar gyfer mwy o arloesedd a chreadigrwydd.

Cynradd

Gwyddom o nifer o adroddiadau ymchwil bod cefnogaeth a momentwm sylweddol i weithredu'r cwricwlwm newydd yn ein hysgolion cynradd o fis Medi. Rydym wedi nodi'n glir bod 2022 yn garreg filltir bwysig, ac rydym yn disgwyl ysgolion i barhau i wella wrth iddynt symud ymlaen i weithredu'r cwricwlwm. Rydym wedi creu gofod i ysgolion baratoi, yn cynnwys rhoi'r gorau i asesiadau a phrosesau cymedroli yng Nghyfnod Allweddol 2 ac ar ddiwedd cyfnodau.

Rhai meysydd allweddol lle mae ysgolion yn cael eu cefnogi i'w datblygu:

  • gwella dealltwriaeth o egwyddorion a chynnydd, camau cynnydd a phob math o asesu
  • dysgu proffesiynol wedi'i deilwra i athrawon a staff cymorth
  • rhannu gwybodaeth am ddiwygio'r cwricwlwm â phob partner, yn cynnwys rhieni, gofalwyr a chyrff llywodraethu
  • cyfleoedd trochi effeithiol i gefnogi dysgwyr i siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg

Uwchradd

Cafodd darparwyr uwchradd yr opsiwn i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru i'w dysgwyr Blwyddyn 7 flwyddyn yn gynharach na'r hyn sy'n ofynnol o fis Medi eleni. Neu gallent fabwysiadu'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2023 i flynyddoedd 7 ac 8. Ni roddwyd unrhyw bwysau na disgwyliadau ar ysgolion na lleoliadau mewn perthynas â'r opsiwn hwn, a darparwyd canllawiau yn pwysleisio y dylid gwneud penderfyniadau hyddysg yn lleol yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol ac anghenion eu dysgwyr. 

Llofnodwyd 104 o ddatganiadau i gyd i fabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 o fis Medi 2022, yn cynnwys 4 uned cyfeirio disgyblion a 100 o ysgolion a gynhelir. O'r 100 o ysgolion a gynhelir a wnaeth ddatganiadau:

  • roedd 13 yn ysgolion arbennig
  • roedd 6 yn ysgolion pob oedran/canol 
  • roedd 9 yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • roedd 13 yn ysgolion dwyieithog (pob categori) 

Ni welwyd unrhyw batrymau amlwg mewn perthynas â lleoliad nac anfantais gymdeithasol, gyda'r lledaeniad ledled Cymru yn unol â dwyster poblogaeth yn fras. Mae cyfran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n gweithredu'r cwricwlwm ym mis Medi 2022 yn cymharol debyg i'r ysgolion cyfrwng Saesneg.

Mae'r rhesymau sy'n effeithio ar benderfyniadau i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn gynnar, neu ddim, yn amrywiol, ond maent yn cynnwys:

  • sicrhau bod dysgwyr sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023 yn osgoi wynebu newid mewn agweddau ar y cwricwlwm ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024
  • gwaith paratoi cadarn a dyhead i gynnal momentwm
  • mwy o amser i gynllunio, trefnu a threialu dulliau, yn ogystal â chyfleoedd i gydweithio mewn clwstwr a rhwng ysgolion
  • effaith y pandemig ar allu i ymgysylltu â gwaith diwygio'r cwricwlwm
  • blaenoriaethu cymorth ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll cymwysterau
  • blaenoriaethau ar ôl arolygiadau i ysgolion sy'n achosi pryder

Ein camau i gefnogi'r broses o gyflawni diwygiadau

Mae cymorth cynhwysfawr ar gael i bob ysgol sy'n cynnwys darpariaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau ysgol gyfan, datblygu disgyblaethau maes a phwnc lle y bo'n briodol. Ymysg y rhain mae addysgeg (adeiladu ar y 12 egwyddor o fframwaith y cwricwlwm), gwaith dylunio a chynllunio'r cwricwlwm, asesu a chynnydd, sy'n cyd-fynd â'r camau a nodir yng nghanllawiau y daith i gyflwyno'r cwricwlwm i sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa i wella ansawdd y dysgu ac addysgu a dechrau'r broses o weithredu'r cwricwlwm o fis Medi. I gefnogi hyn, mae amrywiaeth o adnoddau (a ddarperir ar yr un pryd ac ar adeg wahanol) a rennir bellach ar sail genedlaethol i bob ymarferydd fanteisio arnynt. Mae cyfathrebu rheolaidd a pharhaus ag ymarferwyr drwy rwydweithiau yn flaenoriaeth allweddol o hyd er mwyn sicrhau mynediad agored a theg i bawb.

Mae datblygu ar y cyd yn dal yn elfen graidd o'r gwaith a wneir ym mhob rhan o'r system addysg, yn cynnwys darparu cyfleoedd ymarferol sy'n cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall yn well sut y gallant gynllunio, mabwysiadu a gweithredu eu cwricwlwm. Fel rhan hanfodol o hyn, mae prosesau gwerthuso cadarn ar waith er mwyn monitro effaith y cymorth a ddarperir a mireinio'r ddarpariaeth yn unol â hynny.

Ffocws ein camau gweithredu uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf yw cefnogi ysgolion a lleoliadau i baratoi ar gyfer eu cwricwla newydd a'u cyflwyno ynghyd â dechrau proses o ddysgu a myfyrio ar y cyd o’r gwersi cynnar pan gaiff ei weithredu. Bydd yr hyn a ddysgir yma yn hanfodol i sicrhau dull parhaus o wella ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ar bob lefel.

Cynnydd ac asesu

Mae cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn eu dysgu, ac asesu'r cynnydd hwnnw'n effeithiol, yn hanfodol er mwyn gallu gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus ym mhob maes dysgu a phrofiad (Meysydd). Dyma un o'r newidiadau mwyaf sylfaenol a gynigir gan y Cwricwlwm i Gymru ac mae'n hanfodol i godi safonau a disgwyliadau i ddysgwyr: gan sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd parhaus ac ystyrlon sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eu dysgu. Er mwyn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu'r modd y maent yn deall ac yn cyflawni cynnydd ac asesu yn y Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi darparu'r elfennau cymorth canlynol.

Cynllunio'r cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr: deunyddiau cymorth

Rydym wedi datblygu a chyhoeddi amrywiaeth eang o ddeunyddiau ymarferol i gefnogi ymarferwyr:

  • yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm ac
  • i greu cysylltiadau clir rhwng y Cwricwlwm i Gymru a'r canllawiau Gwella Ysgolion anstatudol newydd, sy'n gosod y fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd

Cyhoeddwyd y rhain mewn ardal newydd ar Hwb, gan ddwyn ynghyd ddeunyddiau cymorth sy'n bodoli eisoes â chanllawiau ymarferol newydd, gan gynnwys canllaw ar feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, cynllunio cwricwlwm a arweinir gan ddiben, gwerthuso cynnydd dysgwyr fel rhan o brosesau gwella ysgolion, a datblygu trefniadau asesu. Bydd y deunyddiau hyn yn parhau i ddatblygu yn unol ag anghenion ysgolion.

Camau: Asesu ar gyfer y Dyfodol

Cynhaliwyd y gweithdai datblygiad proffesiynol Asesu ar gyfer y Dyfodol gyda grŵp o ymarferwyr o bob cwr o Gymru, dan arweiniad Camau (menter gydweithredol Addysg Uwch sy'n arbenigo yn y maes) er mwyn helpu i wella dealltwriaeth o asesu, datblygu arferion asesu yn yr ystafell ddosbarth a helpu ymarferwyr i wireddu adran cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer eu dysgwyr.

Bwriedir i'r adnodd a ddatblygwyd o ganlyniad i'r gweithdai hyn annog ymarferwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau strwythuredig er mwyn meithrin eu dealltwriaeth o gynnydd dysgu a'r cysylltiadau rhyngddo a dulliau asesu. Mae ar ffurf cyfres o 6 gweithdy, gyda deunyddiau ategol, y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan grwpiau o ymarferwyr a fydd yn gweithio fel cymuned ymholi i feithrin eu dealltwriaeth o gynnydd ym mhob rhan o'r cwricwlwm a thrwy hynny, feithrin eu gallu yn eu cyd-destun eu hunain i gynllunio a defnyddio dulliau asesu sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd ar gael yn nhymor yr haf 2022.

Camau i’r Dyfodol

Lansiwyd y prosiect 3 blynedd hwn, a gynhelir ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, er mwyn helpu i feithrin gallu a dealltwriaeth o'r cynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru. Drwy wneud hyn, bydd yn adeiladu ar ganlyniadau gweithdai Camau, Asesu ar gyfer y Dyfodol.

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar y cyd i bob dysgwr sy'n ystyrlon, yn ymarferol ac yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r broses o ddatblygu arferion a all wireddu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn hydrin i ysgolion a lleoliadau ac y caiff ei gyflawni mewn modd cynhwysol, sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth â thegwch, gonestrwydd a chysondeb rhwng pob rhan o'r system. Bydd yn rhoi sail dystiolaeth ddatblygol a all fwydo'n ôl i mewn i'r system a rhoi gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla sy'n seiliedig ar gynnydd, arferion proffesiynol a newid addysgol.

Mae'r prosiect eisoes wedi cyflwyno cyfres o sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar gynnydd ac asesu er mwyn trafod egwyddorion cynnydd, rhannu profiadau a dulliau, a datblygu'r sail dystiolaeth ar gyfer gwaith pellach.

Dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Cyhoeddwyd Cyfarwyddyd statudol ar 27 Mehefin er mwyn helpu i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth a rennir o gynnydd dysgwyr. Mae'r trafodaethau hyn yn allweddol er mwyn helpu i sicrhau cydlyniaeth, parhad a thegwch i ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r deunyddiau a gyhoeddwyd ar 28 Mehefin hefyd yn cefnogi ysgolion a lleoliadau yn y trafodaethau hyn. Caiff y trafodaethau hefyd eu cefnogi gan adnodd Camau, Asesu ar gyfer y Dyfodol.

Canllawiau ar ddeddfwriaeth

Rydym wedi datblygu canllawiau newydd i gyd-fynd ag is-ddeddfwriaeth er mwyn meithrin dealltwriaeth a chefnogi'r dasg o'i rhoi ar waith. Diweddarwyd canllawiau presennol y Cwricwlwm i Gymru i egluro'r sefyllfa bresennol, ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio drwy'r Senedd dros y 12 mis diwethaf.

Deddfwriaeth

Ar ôl i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 gael ei phasio yng ngwanwyn y llynedd, mae'r pecyn sylweddol o is-ddeddfwriaeth y nodwyd bod ei angen i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru bron wedi'i gwblhau erbyn hyn. Dim ond un offeryn statudol arall y bwriedir ei gyflwyno gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae'r rhaglen deddfwriaethol bwysig hon wedi cynnwys rhoi'r tri chod statudol ar waith (cynnydd, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig), datganiad statudol ar gefnogi dealltwriaeth o gynnydd a chyfres o reoliadau newydd ac wedi'u diweddaru a wnaed i roi Deddf 2021 ar waith yn llawn. Mae'r pecyn hwn o is-ddeddfwriaeth wedi'i ategu gan y broses o ddatblygu canllawiau cwricwlwm ac asesu statudol ac anstatudol.

Bydd gwaith yn parhau i sicrhau y rhoddir Deddf 2021 ar waith yn llawn. Rydym yn bwriadu parhau i gydweithio er mwyn cefnogi ymarferwyr i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP a CCUHPA ymysg y sawl sy'n darparu addysg a dysgu. Gwneir rhagor o waith hefyd i ddatblygu polisïau effeithiol ar gyfer cymhwyso'r Cwricwlwm i Gymru i blant a gedwir yn gaeth ac atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng y Cwricwlwm i Gymru a Cymraeg 2050.

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm

Lansiwyd y Rhwydwaith Cenedlaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Medi 2021, ac mae'n dod ynghyd â gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid galluogi (gan gynnwys consortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol ac Estyn), er mwyn nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn llwyfan agored sy’n rhoi cyfle i bob ymarferydd yng Nghymru gymryd rhan mewn proses datblygu ar y cyd genedlaethol, er mwyn mynd i’r afael â’n heriau a’n cyfleoedd cyffredin. Mae'n sicrhau y gellir:

  • datblygu darlun cenedlaethol o'r profiad cychwynnol o'i weithredu, dod â gwahanol farnau, safbwyntiau ac arbenigedd at ei gilydd i ddeall sut rydym yn datblygu, beth yw'r heriau a sut mae pobl yn ymateb iddynt
  • datblygu polisi cenedlaethol i gefnogi'r broses weithredu, datblygu cefnogaeth i oresgyn heriau
  • parhau â'r broses o ddatblygu ar y cyd, dwyn ynghyd bolisïau ac arferion: gweithwyr addysgu proffesiynol, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a'r sawl sy'n llunio polisïau i lywio a gwella cymorth

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn ystyried materion allweddol ynghylch gweithredu'r cwricwlwm drwy sgyrsiau. Yn ystod blwyddyn academaidd 2021 i 2022, roedd y sgyrsiau'n cwmpasu:

  • paratoi ar gyfer y cwricwlwm, a ydym ar y trywydd iawn?
  • cynnydd ac asesu
  • adnoddau a deunyddiau ategol
  • cynllunio cwricwlwm 
  • hanes Cymru, a hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • diwygio cymwysterau
  • llafaredd a darllen (Gorffennaf 2022)

Mae'r sgyrsiau hyn wedi galluogi ymarferwyr i rannu dulliau gweithredu, syniadau a heriau, a gwella eu hyder i gyflwyno prosesau blaengynllunio, cynllunio, dysgu ac addysgu'r Cwricwlwm i Gymru yn eu hysgolion a'u lleoliadau eu hunain. Mae'r sgyrsiau hefyd wedi llunio a llywio Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i gefnogi'r broses o wireddu'r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffilmiau byr gan ymarferwyr yn hyrwyddo gwerth cymryd rhan mewn sgyrsiau
  • llywio'r broses o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru: canllaw ar gynllunio a blaenoriaethau; cefnogi deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu, a gwerthuso cynnydd dysgwyr; ac adnoddau'r gweithdy Asesu ar gyfer y Dyfodol
  • rhoi mewnbwn uniongyrchol ar y broses o ddatblygu'r Canllawiau ar Adnoddau a Deunyddiau Ategol a gaiff eu cyhoeddi erbyn diwedd y tymor hwn
  • llywio prosiect Camau i'r Dyfodol, a gaiff ei lansio i gefnogi'r broses o feithrin gallu a dealltwriaeth o gynnydd yn y cwricwlwm
  • llywio pwysigrwydd amrywiaeth o ddulliau dysgu proffesiynol i gefnogi'r broses o addysgu Hanes Cymru, yn cynnwys cyflwyno sesiynau liw nos a oedd yn llwyddiannus iawn
  • llywio camau nesaf Cymwysterau Cymru ar ddiwygio cymwysterau

I gefnogi'r gwaith datblygu ar y cyd parhaus i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus, mae'r strwythur sgwrsio yn galluogi'r cyfranogwyr i hwyluso sgyrsiau yn eu hysgolion, eu lleoliadau a'u clystyrau eu hunain.

Cefnogir y Rhwydwaith Cenedlaethol gan grŵp cydlyniaeth sy'n cynnwys ymarferwyr a rhanddeiliaid, a chaiff ei lywio hefyd gan grŵp cyfeirio arbenigwyr, sy'n cynnwys academyddion allweddol o amrywiaeth o awdurdodaethau addysgol. Dros y flwyddyn sydd i ddod, bydd y grwpiau hyn yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y Rhwydwaith Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn ehangu rôl ymarferwyr a rhanddeiliaid yn y broses gynllunio i roi ffocws cryfach ar anghenion ymarferwyr mewn meysydd ffocws a nodwyd.

Byddwn yn cyhoeddi'r sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 cyn i'r sgyrsiau ddechrau. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn parhau i ganolbwyntio ar bolisïau cenedlaethol yn cynnwys defnyddio sgyrsiau i lywio prosesau o bolisi i arferion, nodi heriau polisi a defnyddio arferion gorau sy'n datblygu i lywio polisi cenedlaethol. Bydd y themâu sgwrsio yn parhau i fod yn ymatebol ac yn parhau i ddatblygu i ddiwallu anghenion ymarferwyr. Yn ystod yr hydref, bydd sgyrsiau'n parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau cyffredin y cwricwlwm, gan gynnwys cynnydd, asesu a chynllunio'r cwricwlwm. Caiff y sgyrsiau hyn eu llywio gan ein blaenoriaethau, gan gynnwys sgiliau trawsgwricwlaidd a Fframwaith y Gymraeg. O wanwyn 2023 ymlaen, bydd mwy o ffocws ar flaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg drwy'r meysydd dysgu a phrofiad. 

Adnoddau a deunyddiau ategol

Mae gwaith yn parhau i gomisiynu a chyhoeddi amrywiaeth eang o adnoddau a deunyddiau ategol i gefnogi'r broses o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Crëwyd adran Cwricwlwm i Gymru newydd ar y dudalen adnoddau ar Hwb ac ychwanegir ati yn wythnosol bron. Yn dilyn gwaith gydag ymarferwyr yn y gwanwyn, mae tacsonomeg chwilio, hidlyddion a phrosesau tagio sy'n briodol i'r Cwricwlwm i Gymru bellach yn cael eu cymhwyso.

Yn dilyn gwaith datblygu ar y cyd ag ymarferwyr a sefydliadau partner, yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi canllaw i gefnogi'r broses o ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol o dan y Cwricwlwm i Gymru. Cynlluniwyd y canllaw i'r sawl sydd am rannu adnoddau rhwng ysgolion a lleoliadau ac mae'n nodi egwyddorion allweddol ynghyd â chyfres o gwestiynau datblygu i arwain prosesau datblygu a chyhoeddi. Mae'r canllaw yn pwysleisio'n glir bod angen rhoi ystyriaeth ganolog i'r iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf a chaiff hyn ei ddiweddaru wrth i'r cwmni adnoddau newydd ddechrau dod yn weithredol o 2023.

Gan gydweithio â grŵp o ymarferwyr, a dilyn y canllaw, rydym hefyd yn ymgymryd â'r broses hir o adolygu mwy na 5,000 o adnoddau cwricwlwm dwyieithog sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd ar Hwb. Wrth iddynt gael eu hadolygu a chael eu hystyried yn addas, cânt eu symud i'r adran adnoddau benodol y Cwricwlwm i Gymru.

Ymgysylltu â rhieni a gofalwyr

Mae ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, yn rhan hanfodol o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae canllawiau statudol ar y cwricwlwm eisoes yn cynnwys disgwyliadau ar ysgolion a lleoliadau, y mae gwaith ymchwil wedi cadarnhau eu bod yn ffynhonnell o wybodaeth y gall rhieni a gofalwyr ymddiried ynddi.

Felly, er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu a chyfathrebu â rhieni a gofalwyr, rydym eisoes yn rhannu ystod o ddulliau cymorth a gwybodaeth. Caiff y wybodaeth hon a ddatblygir yn genedlaethol ei diweddaru bob mis ac mae wedi'i chynllunio i gael ei haddasu gan ysgolion a lleoliadau fel y gallant ei defnyddio a'i phersonoli yn eu gohebiaeth.

Mae'r gwaith gwerthuso parhaus a'r adborth rheolaidd ar effeithiolrwydd y dulliau hyn yn nodweddion o'r rhaglen waith hon. Mae gwaith gwerthuso ehangach er mwyn ystyried safbwyntiau rhieni a gofalwyr, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, hefyd yn nodwedd o'n rhaglen gwerthuso a monitro.

Cefnogi agweddau penodol ar y cwricwlwm

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn nodi camau gweithredu mewn perthynas â chymorth a datblygu mewn agweddau penodol ar ddiwygio'r cwricwlwm, yn cynnwys y chwe Maes a'r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd.

Dysgu sylfaen

Wrth i ni ddechrau gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru ac ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi penderfynu y caiff y term Cyfnod Sylfaen ei ddisodli gan Ddysgu Sylfaen o fis Medi. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod y cwricwlwm newydd yn gontinwwm 3 i 16 heb gamau na chyfnodau ar wahân. Ni fydd y term newydd yn disodli cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn uniongyrchol. Ei brif nod fydd cefnogi ymarferwyr i drafod ac ystyried anghenion y dysgwyr iau neu'r rheini sydd ag anghenion ychwanegol o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Gwyddom fod addysg gynnar o safon uchel ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf yn hanfodol i ddatblygiad plant. Mae'r profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer dysgu gydol oes, dinasyddiaeth weithgar a chyflogaeth yn y dyfodol yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac er mwyn dysgu'n ystyrlon, mae angen i brofiadau addysgol cynnar gyd-fynd yn agos ag egwyddorion datblygiad plant. Mae hyn yn sicrhau ymrwymiad gydol oes cadarnhaol tuag at ddysgu.

Cyhoeddwyd adran galluogi dysgu canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag ymarferwyr, ym mis Ionawr i gefnogi ysgolion a lleoliadau i drefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n briodol yn addysgegol i bob dysgwr. Bydd o ddiddordeb arbennig i'r rheini sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd yn y cyfnod dysgu sy'n arwain at gam cynnydd 1.

Cyhoeddwyd cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir hefyd ym mis Ionawr i gefnogi dysgu cynnar mewn lleoliadau gofal plant nas cynhelir. Datblygwyd y cwricwlwm ar y cyd gan ymarferwyr i ymarferwyr, gan fanteisio ar arbenigedd o bob rhan o'n sector nas cynhelir gan gynnwys safbwyntiau arbenigwyr ym maes datblygiad plant ac addysg gynnar.

Yn ogystal, cyhoeddwyd amrywiaeth o fodiwlau cymorth er mwyn helpu i hwyluso'r dasg o roi trefniadau'r cwricwlwm ar waith ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ynghyd â hyfforddiant a ddarperir i awdurdodau lleol ac eraill ar sut i'w defnyddio. Ymysg y rhain mae datblygiad y plentyn, dysgu a chwarae yn yr awyr agored a dysgu'n seiliedig ar chwarae. Ar ôl ymgysylltu â'r sector nas cynhelir, caiff rhagor o fodiwlau hyfforddi ar wahân eu datblygu'n benodol ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Byddant yn ehangu ar egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru ac egwyddorion y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, arweinyddiaeth a datblygiad sgematig plentyn.

Er mwyn ategu'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir, rydym hefyd yn gweithio gydag ymarferwyr i ddatblygu trefniadau asesu ar y cyd ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Bydd y trefniadau'n cwmpasu canllawiau i gefnogi lleoliadau i feithrin dealltwriaeth a rennir o gynnydd, cefnogi'r broses barhaus o asesu cynnydd dysgwyr ac asesiadau priodol ar adeg eu derbyn, ac ymgynghorir ar hyn yn ddiweddarach yn 2022.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a dyma'r blociau adeiladau hanfodol sy'n sail i bob math o ddysgu. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i bawb: gan alluogi dysgwyr i fanteisio ar ehangder y cwricwlwm a'r cyfoeth o gyfleoedd a dewisiadau a gynigir ganddo, gan roi sgiliau gydol oes iddynt a chefnogi'r broses o gyflawni'r pedwar diben. Mae meithrin y sgiliau hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr dan anfantais ac mae ein rhaglenni llythrennedd, rhifedd a digidol wedi ystyried sut y gellir sicrhau'r effaith a'r buddiannau gorau i'r dysgwyr hyn.

Ymysg y cymorth cwricwlwm a gynigir ar gyfer sgiliau trawsgwricwlaidd mae:

  • fersiynau wedi'u diweddaru o'r fframweithiau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gefnogi dysgu ac addysgu ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru
  • asesiadau personol fel dulliau hyblyg i ymarferwyr eu hintegreiddio â dulliau eraill wrth asesu sgiliau a chynnydd o ran darllen a rhifedd
  • amrywiaeth o ddarpariaeth llythrennedd, rhifedd a digidol a arweinir gan gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol
  • cymorth, adnoddau a mentrau i ysgolion gan gynnwys:
    • Dechrau Da, Pori Drwy Stori, Clwb Blwch Llythyrau, Amser Rhigwm Mawr Cymru a gynhelir gan BookTrust Cymru
    • Her Darllen yr Haf, Stori Sydyn a Diwrnod y Llyfr a gynhelir gan Gyngor Llyfrau Cymru

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad llafar ar lafaredd a darllen. Cyflwynodd hyn ffocws ar lafaredd a sgiliau darllen er mwyn parhau i wneud cynnydd tuag at hyrwyddo dysgu a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Cytunwyd ar gynllun gweithredu â phartneriaid ledled Cymru i gefnogi safonau uchel o ran meithrin sgiliau siarad, gwrando a darllen. Fel rhan o hyn, rydym yn darparu llyfr i bob plentyn yng Nghymru, llyfrau ychwanegol i bob ysgol yng Nghymru, yn ogystal â chynllun gwell o gymorth darllen, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a dysgwyr dan anfantais. Ar y carfanau hyn yr effeithiodd COVID-19 fwyaf, felly mae ffocws ar ddatblygu iaith, llafaredd, magu hyder a meithrin sgiliau yn hanfodol.

Cynhelir sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar ddarllen a llafaredd yn ystod mis Gorffennaf i lywio cyfeiriad cymorth, canllawiau ac adnoddau ar lafaredd a darllen yn y dyfodol.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn cefnogi ysgolion a lleoliadau wrth iddynt wireddu'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd cyfleoedd ar gael i bob plentyn 3 i 16 oed mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys chwarae offerynnau cerdd neu ganu, gan ddatblygu ar draws amrywiaeth o genres cerddorol, a phrofi perfformiadau cerddoriaeth fyw.

Lansiwyd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol ar 17 Mai gan gyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu sef sicrhau nad yw arian yn rhwystr i bobl ifanc ddysgu sut i chwarae offeryn. Byddwn yn sicrhau y gall pob dysgwr, ni waeth beth fo'i gefndir nac incwm ei deulu, fanteisio ar addysg cerddoriaeth. Mae'r cynllun yn dilyn proses ymgysylltu eang a chaiff ei gefnogi gan £13.5 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol dros y 3 blynedd nesaf gan sicrhau dyfodol cynaliadwy i addysg cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt i ddatblygu adnoddau a chanllawiau i gefnogi athrawon i addysgu cerddoriaeth ym Maes y Cyfryngau Mynegiannol. Rydym yn rhagweld y bydd y rhain ar gael erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf ynghyd ag adnoddau tebyg ar gyfer dawns.

Caiff £3 miliwn ychwanegol hefyd ei ddarparu dros y 3 blynedd nesaf i ehangu rhaglen lwyddiannus dysgu creadigol drwy'r celfyddydau. Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig arian cyfatebol ar gyfer y buddsoddiad hyd at £6 miliwn. Mae'r rhaglen hon, sy'n weithredol ers 2015, yn annog ac yn datblygu dulliau creadigol o ddysgu ac addysgu. Mae'r rhaglen yn cynnwys y prif linyn ysgolion creadigol, y mae mwy na 650 o ysgolion wedi cymryd rhan ynddi hyd yma.

Iechyd a Lles

Mae'r maes cwricwlwm newydd arloesol hwn yn annog partneriaid i gymryd rhan, ac rydym yn cydweithio â chydweithwyr ym mhob rhan o'r llywodraeth mewn meysydd fel cydraddoldeb, iechyd a chwaraeon ac â rhanddeiliaid allanol ar raglenni cysylltiedig, yn ogystal â phroses o adolygu a datblygu adnoddau newydd.

Yn fwy penodol, mae maes gorfodol trawsbynciol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei roi ar waith fel rhan o broses ysgolion o gyflwyno'r cwricwlwm ar ôl i'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a ddatblygwyd ar y cyd gael ei basio gan y Senedd ym mis Rhagfyr 2021. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae wrth greu amgylcheddau diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau diogel, iach a boddhaus drwy gydol eu bywydau. Yn y blynyddoedd cynnar, mae dysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn canolbwyntio ar feithrin cydberthnasau cynhwysol ac iach ag aelodau o'r teulu, ffrindiau a chyfoedion, gan ddod i ddeall yr hawl i barchu ein gilydd yn raddol.

Mae canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn nodi'n glir y dylai'r dull ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried y gall fod angen i ddysgwyr gael eu cefnogi i gael yr wybodaeth i gydnabod pob ffurf ar wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dylai'r hyn a addysgir a'r hyn a ddysgir o fewn addysg cydberthynas a rhywioldeb gael eu cefnogi gan ddull gweithredu ysgol gyfan ac mae hyn yn hollbwysig er mwyn cefnogi lles dysgwyr. Mae hyn yn golygu cysylltu pob agwedd ar yr ysgol yn effeithiol, gan gynnwys y cwricwlwm, polisïau, staff, diwylliant, yr amgylchedd a'r gymuned er mwyn cefnogi dysgwyr. Dylai hyn gefnogi'r gwaith o feithrin cydberthnasau cadarnhaol, gan alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i ffynnu, gan atgyfnerthu ethos cyson a chadarnhaol a rhoi cymorth cyfannol o ansawdd uchel i ymarferwyr a dysgwyr a chreu amgylcheddau cadarnhaol sy'n rhydd o gasineb at fenywod, homoffobia, aflonyddu a bwlio ar sail rhywedd ar bob lefel.

Rydym wedi datblygu pecyn cymorth o adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rydym hefyd yn cydweithio â phartneriaid ar raglen dysgu proffesiynol genedlaethol ac ar broses gyson o ddatblygu adnoddau dysgu ac addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Y Dyniaethau

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol yr Athro Charlotte Williams OBE ym mis Mawrth 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Athro Williams i weithredu ar yr argymhellion sy'n tanlinellu pwysigrwydd addysgu profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru.

Gan ystyried barn gyfunol arbenigwyr a'r cyngor a roddwyd ganddynt, gwnaethom ddiwygio'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Maes y Dyniaethau. Bellach, maent yn cyfeirio at ddysgu am stori eu cymdogaeth a stori Cymru, yn ogystal â stori'r byd ehangach, sy'n amrywiol, ac yn cwmpasu cymunedau gwahanol gan gynnwys straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Drwy'r gofyniad gorfodol hwn, nod y Cwricwlwm i Gymru yw rhoi ymdeimlad o berthyn, balchder a chynefin i athrawon a dysgwyr, gan ddathlu diwylliant amrywiol Cymru fodern.

Ar ddechrau 2022, rhoddwyd llyfr ar hanes Cymru, Hanes yn y Tir/History Grounded, i bob ysgol yng Nghymru. Mae'r adnodd addysgol hwn yn helpu ymarferwyr i archwilio hanes amrywiol Cymru, darganfod eu treftadaeth, deall pwysigrwydd y Gymraeg, a meithrin dealltwriaeth o'u cynefin. Ym mis Mawrth, gwnaethom gomisiynu deunyddiau ategol a fydd yn cefnogi athrawon i addysgu hanes a chyfraniadau pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel rhan o hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd y deunyddiau hyn yn hyblyg er mwyn helpu athrawon i ystyried sut y gallant ymgorffori ac addysgu'r themâu hyn ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Ym mis Mawrth, gwnaethom hefyd gefnogi cyfres o ddigwyddiadau hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru a gyflwynwyd gan Brifysgolion Cymru i uwchsgilio ymarferwyr.

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol ar 21 Mehefin ar gynnydd o ran rhoi'r argymhellion o adroddiad terfynol yr Athro Charlotte Williams ar waith.

Mae dinasyddiaeth, a chefnogi dysgwyr i arfer eu hawliau democrataidd a gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn elfen ganolog o'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig ym Maes y Dyniaethau. Mae hyn yn golygu y bydd pob cwricwlwm yn gweld dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithio.

Fel rhan o'r broses o ddatblygu amrywiaeth o adnoddau gwleidyddol a dinasyddiaeth newydd a deunyddiau ategol ar gyfer ysgolion a lleoliadau, byddwn yn cyhoeddi deunyddiau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ar CCUHP ym mis Gorffennaf ar Hwb, gan amlinellu pa hawliau sydd gan blant a phobl ifanc, gyda chanllawiau i athrawon. Byddwn hefyd yn cyhoeddi astudiaethau achos dinasyddiaeth fyd-eang y tymor nesaf er mwyn dangos y modd y mae amrywiaeth o leoliadau addysgol wedi cynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol a difyr ar yr agwedd hon ar y Cwricwlwm i Gymru.

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae'r Maes hwn yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Mae'n cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm ac yn galluogi dysgwyr i feithrin gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth. Caiff gwahanol ieithoedd eu harchwilio mewn perthynas â'i gilydd ac felly hefyd sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Mae hefyd yn golygu y dylid ystyried bod dysgu am lenyddiaeth a thrwy lenyddiaeth yn cyfrannu at bob agwedd ar y broses o ddysgu am ieithoedd.

Bydd y Gymraeg yn bwnc gorfodol i bob dysgwr 3 i 16 oed, gyda'r ysgolion a'r lleoliadau yn penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau bod eu dysgwyr yn gwneud cynnydd. Er mwyn cefnogi'r broses hon, ym mis Ionawr 2021, gwnaethom ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith ar gyfer dysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp o ymarferwyr wedi mapio gwaith yn seiliedig ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd, disgrifiadau dysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg, a'r fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin ar gyfer ieithoedd (Saesneg yn unig). Daeth yr ymgynghoriad dilynol ar fframwaith drafft i ben ym mis Mai ac mae bellach yn cael ei fireinio gan ymarferwyr i adlewyrchu'r adborth hwnnw a bwriedir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Medi.

Fel fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd y cwricwlwm, bydd fframwaith y Gymraeg ar gyfer ysgolion, lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Saesneg ar gael fel canllawiau anstatudol. Bydd hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion yng Nghymru fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, heb amharu ar alluogedd a chreadigrwydd athrawon.

Dyfodol Byd-eang yw ein cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru rhwng 2022 a 2025. Gyda'n partneriaid Dyfodol Byd-eang, byddwn yn cefnogi ieithoedd rhyngwladol yn ein Cwricwlwm i Gymru a'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ehangu'r gwaith o addysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion.

Ein nodau strategol ar gyfer y 3 blynedd nesaf yw:

  • cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru
  • rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau i'n hymarferwyr i gynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol
  • herio'r camdybiaethau o ran dysgu ieithoedd

Mae rhaglen Dyfodol Byd-eang a'n cefnogaeth i ieithoedd rhyngwladol yn cynnwys yr elfennau canlynol a ariennir:

  • prosiect i fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern ym Mhrifysgol Caerdydd
  • cymorth gan gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol ar gyfer ieithoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
  • athrawon Y Brifysgol Agored yn dysgu sut i addysgu'r rhaglen ieithoedd

Y Cwricwlwm i Gymru oedd y cyntaf yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ochr yn ochr â Saesneg ac ieithoedd eraill yn y cwricwlwm ar gyfer defnyddwyr BSL byddar a'r rheini sy'n dysgu BSL fel ail iaith, trydedd iaith neu iaith ddilynol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru hefyd yn cynnwys fersiynau BSL o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Maes hwn ac o'r pedwar diben. Er mwyn helpu ymarferwyr i drefnu, cynllunio ac addysgu BSL fel rhan o'r cwricwlwm, cynhaliwyd sesiynau gwybodaeth cenedlaethol rhwng mis Mawrth a mis Mai i athrawon plant byddar, tiwtoriaid BSL a staff eraill o ysgolion a lleoliadau. Bydd adnoddau i gefnogi'r broses o ddysgu ac addysgu BSL ar gael am ddim ar Hwb o fis Medi. Sefydlwyd grŵp ym mis Ionawr i ddatblygu rhestr termau BSL ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru i sicrhau cysondeb o ran yr arwyddion BSL a ddefnyddir yn ein canllawiau a'n hadnoddau BSL yn y dyfodol.

Mathemateg a Rhifedd

Rydym yn darparu £450,000 ar gyfer y rhaglen cymorth mathemateg bellach yn 2022 i 2023 er mwyn ehangu mynediad i Fathemateg Bellach ar lefel TGAU ac UG/U2 drwy atgyfnerthu'r ddarpariaeth drwy feithrin gallu ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Caiff hyn ei hwyluso drwy gynnig dysgu proffesiynol, datblygu adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog a thrwy weithio gyda chonsortia rhanbarthol a phartneriaethau i lywio modelau cyflenwi ym mhob maes. Yn 2021, dyfarnwyd Safon Uwch Mathemateg Bellach i 680 o fyfyrwyr, sy'n cynrychioli cynnydd o 12.4% ers 2020.

Mae rhifyn Cymru o adnodd Mae'ch Arian o Bwys ar gael i bob ysgol yng Nghymru. Buom yn cydweithio â'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i sicrhau bod yr adnodd hwn yn cyd-fynd â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod dysgwyr yn ystyried y sgiliau mathemategol i fod yn llythrennog yn ariannol ac yn cael yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau i ddatblygu agweddau cadarnhaol ac iach at arian a chyllid.

Mae'r Bwrdd Cydraddoldeb mewn STEM a gaiff ei gadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn cynnig cyfeiriad strategol i wella cydraddoldeb mewn astudiaethau a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM yng Nghymru. Mae'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer yr is-grŵp addysg yn cyd-fynd â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru yn benodol mewn perthynas â'r Meysydd Mathemateg a Rhifedd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Nod y Bwrdd yw codi dyheadau a herio stereoteipiau er mwyn mynd i'r afael ag achosion o dangynrychioli mewn gyrfaoedd gwahanol, gan gydnabod bod dysgu STEM yn hanfodol i bob dysgwr, i baratoi ar gyfer astudio, cyflogaeth a bywyd yn y 21ain ganrif.

Wrth ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth, mae'r is-grŵp yn canolbwyntio ar yr holl grwpiau a dangynrychiolir mewn STEM, ac mae'r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr o Anabledd Cymru, Stonewall Cymru a Chwarae Teg, er mwyn sicrhau y gall Cymru fod yn genedl lle nad oes unrhyw rwystrau i fanteisio ar gyfleoedd STEM mewn addysg o bob lefel.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni cyllid grant sy'n werth mwy na £1 miliwn ar gyfer 2022 i 2023 i gefnogi gwyddoniaeth a thechnoleg yn y cwricwlwm. Ar lefelau dysgwyr ac ymarferwyr, mae'r rhain yn cwmpasu ehangder y pynciau sy'n dod o fewn Meysydd STEM y cwricwlwm. Rydym eisoes wedi darparu £300,000 i gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau ar gyfer mentrau codio a chyfrifiadureg er mwyn cefnogi'r fframwaith cymhwysedd digidol.

Mae'r rhaglenni hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau STEM, yn cynnwys cyfrifiadureg, dylunio a thechnoleg, mathemateg, ffiseg, bioleg a chemeg. Maent wedi'u teilwra i gefnogi'r broses o roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith, ac maent yn cynnwys:

  • Techniquest ac X-Plore! (Saesneg yn unig) Mae'r ddau yn cynnal rhaglenni sy'n cyfoethogi gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi ymgysylltu â 242 o ysgolion cynradd a 47 o ysgolion uwchradd gan ymgysylltu ag ychydig mwy na 20,000 o ddysgwyr
  • mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yn cynnal rhaglenni ledled Cymru i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i ddewis gyrfaoedd mewn STEM, gan ganolbwyntio'n benodol ar beirianneg. Ar hyn o bryd, mae 53 o dimau o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn y prosiect hwn
  • mae Technocamps yn cynnal gweithdai codio cyfrifiadurol i ddysgwyr ac ymarferwyr ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru
  • mae rhaglen rhwydwaith ysgogi ffiseg y Sefydliad Ffiseg (Saesneg yn unig) yn rhoi cymorth gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru i ymarferwyr ar gyfer dysgu proffesiynol a hyfforddiant, gan gynnwys y sawl nad ydynt yn arbenigo mewn ffiseg. Yn ogystal, rydym yn cynnwys prosiect peilot cynhwysiant ysgol gyfan ar gyfer ffiseg, gan dargedu grwpiau wedi'u tangynrychioli. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r rhwydwaith wedi gweithio gyda 78 o ysgolion uwchradd ac mae wedi cyflwyno 95 o sesiynau dysgu proffesiynol
  • nod y rhaglen mentora ffiseg yw gwella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn pynciau gwyddoniaeth yn ogystal â gwella cyfranogiad pobl ifanc ôl 16 oed mewn ffiseg. Mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn graddau sy'n gysylltiedig â ffiseg yn gweithio fel mentoriaid gyda dysgwyr Blynyddoedd 8, 9 a 10 i ystyried y dyheadau a'r cyfleoedd a all godi o astudio ffiseg ar lefel TGAU, Safon Uwch a phellach. Ers ei sefydlu, mae'r prosiect wedi ymgysylltu â thua 530 o ddysgwyr ledled Cymru

Yn adran addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith y Cwricwlwm i Gymru, rydym yn canolbwyntio ar y broses o gyfathrebu cyfleoedd am yrfaoedd STEM ac yn ceisio ehangu ymgysylltiad cyflogwyr mewn ysgolion cynradd i feithrin dealltwriaeth well o gyfleoedd STEM o oedran cynnar.

Rhyngddibyniaethau â diwygiadau eraill

Gwella ysgolion

Er mwyn i'r Cwricwlwm i Gymru fod yn llwyddiannus, rhaid iddo gael ei gefnogi gan bob agwedd ar y system ysgolion, y mae angen iddynt gyd-fynd â'r cwricwlwm a'i egwyddorion sylfaenol a'u cefnogi. Mae'r canllawiau Gwella Ysgolion anstatudol newydd yn diffinio sut y dylai prosesau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd weithio fel system ac maent wedi'u cynllunio i ysgogi ymddygiadau ac arferion sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a threfniadau asesu. Mae'r canllawiau yn nodi ein dull gweithredu newydd o wella ysgolion, sy'n canolbwyntio ar broses hunanwerthuso gadarn gan yr ysgolion eu hunain, ac mae cymorth o ansawdd uchel ar gael i bob ysgol gan gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau, awdurdodau lleol ac ysgolion eraill.

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae'r dull gweithredu newydd o wella ysgolion yn canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr, ac mae'r canllawiau yn nodi'r cwestiynau allweddol ynghylch p'un a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd a sut maent yn gwneud hynny fel canolbwynt i broses hunanwerthuso ysgolion. Felly, mae'r canllawiau Gwella Ysgolion yn awgrymu mai cynnydd yw'r cwestiwn ysgogol ar gyfer eu gweithgareddau gwella: a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd gorfodol ac a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd ar gyflymder sy'n unol â disgwyliadau ymarferwyr a'r cwricwlwm. Dylai'r atebion i'r cwestiynau hyn bennu ffocws gwaith hunanwerthuso a gwella dilynol, gan helpu i ddatblygu llinellau ymholi i ysgolion eu holrhain, ac i ddatblygu eu blaenoriaethau gwella ysgolion yn y pen draw.

Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach i ddeall y cyd-destun newydd hwn, mae'r canllawiau Gwella Ysgolion yn nodi tri phrif faes hunanwerthuso: gweledigaeth ac arweinyddiaeth; cwricwlwm, dysgu ac addysgu; a lles, tegwch a chynhwysiant, a ddylai fod yn rhan o gylch hunanwerthuso safonol ysgol. Mae wyth ffactor cyfrannol yn disgrifio prif nodweddion ysgolion sy'n cyflawni'r cwricwlwm yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn ffactorau sy'n cefnogi diwygiadau ac sydd, pan fyddant yn absennol, yn debygol o weithredu fel rhwystrau i lwyddiant. Mae'r ffactorau yn cwmpasu cynnydd dysgwyr a'r cwricwlwm ei hun, yn ogystal â phrosesau a blaenoriaethau ehangach. Mae dull gweithredu newydd Estyn o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn adlewyrchu'r ffactorau cyfrannol hyn, a bydd gwasanaethau gwella ysgolion yn defnyddio'r rhain i gefnogi eu dealltwriaeth o ble y gall ysgolion gael budd o gymorth ychwanegol ar gyfer cyflawni'r cwricwlwm.

Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth glir i ysgolion o'r modd y mae'r cwricwlwm a gwaith gwella ysgolion yn cydweithio, a sut mae'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu maent yn eu datblygu yn ffurfio'r sail ar gyfer hunanwerthuso.

Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol

Lansiwyd y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn 2018. Mae'n cyd-fynd â'r safonau proffesiynol a dull gweithredu ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu, i greu gweledigaeth addas ar gyfer y system addysg sy'n datblygu yng Nghymru i bob ymarferydd addysgol. Mae'n seiliedig ar ymchwil, ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau:

  • y gall ymarferwyr gael gafael ar enghreifftiau o arferion gorau wrth ddiffinio a rhannu dysgu proffesiynol, yn enwedig drwy ddulliau ymholi beirniadol a dysgu cydweithredol
  • bod darparwyr dysgu proffesiynol, y consortia rhanbarthol, prifysgolion ac eraill, yn dylunio dysgu proffesiynol sydd o ansawdd uchel, yn hygyrch ac yn addas at y diben, er enghraifft drwy ddyluniadau sy'n cynnwys ymholi cydweithredol ac e-ddysgu
  • bod Llywodraeth Cymru yn cyllido'r dulliau priodol o ddysgu proffesiynol y mae tystiolaeth yn dangos y byddant yn cael effaith ar arferion mewn ystafelloedd dosbarth

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adnewyddu'r dull cenedlaethol o gyd-fynd â datblygiadau diweddar mewn polisïau a gwaith ymchwil. Mewn cysylltiad â gwaith adolygu parhaus, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ymarferwyr ar bob lefel yn gwbl ymwybodol o'u hawl dysgu proffesiynol.

Mae'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn cael ei datblygu ar y cyd â'r proffesiwn a phartneriaid i gefnogi dysgu ac addysgu o ansawdd uchel drwy alluogi ymarferwyr i wneud y canlynol:

  • cefnogi blaenoriaethau ein system, yn benodol blaenoriaethau'r cwricwlwm a gwneud diwygiadau ehangach a gwella cydraddoldeb drwy addysg
  • manteisio ar fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu proffesiynol, ni waeth beth fo'u hiaith, eu lleoliad, eu rôl yn yr ysgol, eu pwnc mewn ysgolion uwchradd, a ph'un a ydynt yn weithwyr llawn amser, yn weithwyr rhan amser neu'n weithwyr cyflenwi
  • manteisio ar ddarpariaeth a chymorth o'r ansawdd uchaf
  • cael gafael yn hawdd ar ddarpariaeth a chymorth sydd ar gael iddynt yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • ymgymryd â gwaith ymholi a chael cymorth drwy hyfforddi a mentora

Bydd yr hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn barod i ymarferwyr ym mis Medi ac mae'n adeiladu ar ein system dysgu proffesiynol bresennol ac amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gwerthuso cynlluniau penodol ac adolygiadau annibynnol o agweddau gwahanol ar ein system, yn cynnwys adolygiad OECD 2020 (Saesneg yn unig). Tynnodd yr astudiaeth sylw at y fframwaith polisi cynhwysfawr ac ymrwymiad cyffredin rhanddeiliaid ar draws y system yng Nghymru fel nodweddion allweddol yn darparu amodau ardderchog er mwyn symud ymlaen.

Rhoddodd datganiad ysgrifenedig Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Senedd ar 17 Mai y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd hefyd. Bydd yr holl ddysgu proffesiynol i bob ymarferydd yn agored i brosesau gwerthuso mwy trwyadl. Mae'r gwaith hwn hefyd yn mynd i'r afael ag argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ar 26 Mai.

Gan gydweithio â phartneriaid, mae ein hamrywiaeth eang o gamau dysgu proffesiynol yn cynnwys:

  • gwefan taith ddysgu broffesiynol newydd, a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o adnoddau o ansawdd uchel a luniwyd mewn partneriaeth â chonsortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol ac ysgolion o fis Medi
  • cymorth i ddatblygu ysgolion fel sefydliadau dysgu, yn cynnwys yr arolwg cenedlaethol o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu i ysgolion gynnal asesiad sylfaenol
  • rhaglen ranbarthol y Cwricwlwm i Gymru sy'n ategu'r uchod, fel yr esbonnir mewn ffilm ragflas fer, a thrwy wefannau consortia rhanbarthol
  • rhaglen datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, gyda bron i £12.2 miliwn wedi'i fuddsoddi dros 6 blynedd i gefnogi consortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol i sicrhau y gall ysgolion wireddu'r cwricwlwm newydd. Bydd £3.2 miliwn pellach yn cefnogi cymorth mwy pwrpasol i ysgolion yn 2022 i 2023
  • bydd gwefan i roi mynediad agored i adnoddau dysgu proffesiynol y Cwricwlwm i Gymru ni waeth ble mae ymarferwyr yn byw neu'n addysgu yng Nghymru yn cael ei lansio ym mis Medi gyda mynediad uniongyrchol drwy Hwb
  • comisiynu amrywiaeth o arbenigwyr a phartneriaid allanol i ddatblygu dysgu proffesiynol pwrpasol er mwyn helpu ymarferwyr i fodloni gofynion y cwricwlwm newydd. Er enghraifft, mae'r ffaith bod dysgu am addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith bellach yn codi o 3 oed yn galw am ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer ymarferwyr. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo mewn meysydd eraill, fel ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, hawliau plant, y sector gwaith ieuenctid, y celfyddydau mynegiannol, a llythrennedd a rhifedd
  • y prosiect addysgeg cenedlaethol i wella ein dealltwriaeth o addysgeg (yn cynnwys y 12 egwyddor addysgegol) yng nghyd-destun cwricwlwm a arweinir gan ddibenion
  • cymorth i ymarferwyr feithrin eu sgiliau iaith Gymraeg yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Yn 2021 i 2022 gwnaethom fuddsoddi £6.3m i gefnogi'r broses o ddatblygu'r Gymraeg yn y gweithle

Anghenion dysgu ychwanegol a thegwch

Un o nodau canolog y Cwricwlwm i Gymru yw y gall pob dysgwr wneud cynnydd i'w lawn botensial, ni waeth beth fo'i anghenion na'i gefndir.

Ar y dechrau'n deg, mae canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru yn herio ysgolion i ystyried sut y bydd eu cwricwlwm yn cyfrif am anghenion dysgu ychwanegol a bylchau cyrhaeddiad gwahanol, ac yn ganolog i hyn mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae fframwaith y cwricwlwm wedi'i ddylunio gan ystyried pob dysgwr: i'w gefnogi a'i herio.

Drwy godi safonau a dyheadau i bawb, mae gan y Cwricwlwm i Gymru ran bwysig i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae diwallu anghenion dysgwyr sydd dan anfantais ac sy'n agored i niwed wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y gwaith o ddatblygu fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a bydd yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth i'r cwricwlwm gael ei gyflawni. 

Drwy fframwaith sy'n gweld pob dysgwr fel unigolyn gyda chryfderau gwahanol a meysydd i'w datblygu, mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi pob dysgwr, yn enwedig y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel rhan o'n proses ehangach i ddiwygio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru, mae amrywiaeth o ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi bod yn cydweithio i ddiweddaru deunyddiau Ar Drywydd Dysgu. Gwnaed hyn i adlewyrchu'r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, yn ogystal â chanllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Wrth i ni symud tuag at weithredu a gwella parhaus, byddwn yn cydweithio'n agos er mwyn sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyd-fynd a bod y Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi ein hagenda ehangach.

Monitro effeithiolrwydd

Rhaglen gwerthuso a monitro

Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi adroddiad terfynol prosiect i ddeall pa mor barod mae ysgolion a lleoliadau i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi. Dosbarthwyd arolwg o'r holl ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion drwy sianelau lluosog a dilynwyd hyn â chyfweliadau manwl â thrawstoriad o ymarferwyr i ddeall y modd y mae'r diwygiadau'n gweithio mewn ysgolion, y rhwystrau a'r hwyluswyr i'w gweithredu ac i lywio'r cymorth rydym ni a'n partneriaid yn ei roi ar waith i sicrhau'r llwyddiant gorau. 

Caiff adroddiad cwmpasu gwaith gwerthuso a gomisiynwyd yn allanol ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, ynghyd â'n hymateb. Bydd yn nodi damcaniaeth newid y rhaglen; cwestiynau ymchwil a gwerthuso allweddol; rhaglen a argymhellir o weithgarwch casglu tystiolaeth i ateb y cwestiynau hynny; a'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r gweithgarwch hwn. Roedd y gwaith yn cynnwys ymgysylltu ag ysgolion a dysgwyr, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r system addysg ehangach..

Yn ein cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, gwnaethom gomisiynu gwerthusiad trylwyr a thryloyw o'r diwygiadau, i ddeall sut mae'r diwygiadau'n gweithio ac i archwilio'r graddau y maent yn cael y canlyniadau a fwriadwyd ar gyfer pob dysgwr. Mae'r adroddiad cwmpasu hwn yn gam pwysig i'n helpu i lywio ein cynlluniau gweithredu.

Byddwn yn rhoi ymchwil barhaus ar waith gyda sampl o ysgolion o dymor yr hydref 2022, er mwyn deall y modd y mae diwygiadau'n datblygu'n ymarferol ac yn nodi pa gymorth ychwanegol sydd ei angen.

Cyllid a briodolwyd i ddiwygio'r cwricwlwm

Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi i gefnogi'r broses o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau o ran diwygio. Yn ein cyllideb yn 2021 i 2022 gwnaethom fuddsoddi £8.3 miliwn ychwanegol i gefnogi gwaith i ddiwygio'r cwricwlwm, a chaiff y cyllid ychwanegol hwnnw ei gynnal i mewn i'r flwyddyn ariannol hon i roi cymorth parhaus ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn effeithiol o fis Medi.

Yn ogystal, rydym yn cydnabod bod y ffocws ar lesiant yn rhagflaenydd i ddysgu o ansawdd uchel. Daeth y Cynllun Adnewyddu a Diwygio â £278 miliwn o ymyriadau cyllid ynghyd i gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr. Cafodd egwyddorion a blaenoriaethau'r cynllun hwn eu cysoni â gwaith i ddiwygio'r cwricwlwm, gan adeiladu ar arferion a phrofiadau effeithiol o'r pandemig er mwyn helpu i fagu hyder, gallu a galluogrwydd tuag at ddiwygio.

Mae'r pwyslais a roddwyd gennym ar gynnydd dysgwyr o dan y cynllun Adnewyddu a Diwygio hefyd yn sicrhau y gellir cymryd camau breision tuag at ddiwygio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau. Dyna pam y mae'r cyllid Adnewyddu a Diwygio ychwanegol o £6 miliwn yn 2021 i 2022 ar gyfer cynnydd dysgu hefyd wedi cael ei ehangu i gyllideb 3 blynedd bresennol Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn darparu £5.33 miliwn yn 2022 i 2023, £5 miliwn yn 2023 i 2024 a £1.66 miliwn yn 2024 i 2025, gan ostwng o flwyddyn i flwyddyn wrth i'n diwygiadau gael eu rhoi ar waith.

Felly, mae'r ddarpariaeth a gynlluniwyd ar gyfer 2022 i 2023, sydd tua £35.4 miliwn, yn adlewyrchu'r flaenoriaeth a roddwn ar gefnogi ysgolion a lleoliadau i roi'r diwygiadau hyn ar waith.

Mae adroddiad Archwilio Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru newydd, a gyhoeddwyd ar 26 Mai yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gydag ysgolion i gyd-ddylunio'r cwricwlwm newydd. Mae hefyd yn cydnabod ein bod wedi ymateb i anghenion sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig, gan gynnal cynnydd ar y diwygiadau hyn.

Mae'r adroddiad hwn felly yn cynnwys gwybodaeth am gyllid a fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg sydd wedi'i briodoli'n fwy uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm. Drwy wneud hyn, rydym yn cydnabod bod nifer o linellau cyllideb arall yn y prif grŵp gwariant hefyd yn debygol o fod yn cyfrannu'n anuniongyrchol at y diwygiadau (er enghraifft: hyfforddiant cychwynnol athrawon, cymorth ar gyfer dysgu digidol, llythrennedd a rhifedd, Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol).

Felly, caiff cyllid sydd wedi'i briodoli'n uniongyrchol i ddiwygio'r cwricwlwm o brif grŵp gwariant y Gymraeg ac Addysg ei ddiffinio fel cyllid fydd yn cwmpasu:

  • arian uniongyrchol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion
  • cymorth ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
  • dysgu proffesiynol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm
  • prosiect cymorth cynnydd Camau i'r Dyfodol
  • datblygu cymwysterau newydd Cymwysterau Cymru
  • adnoddau a deunyddiau ategol
  • cymorth gwasanaethau gwella ysgolion ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu
  • rhaglen gwerthuso a monitro
  • cyfathrebu
  • Costau gweithredol Llywodraeth Cymru

Mae Tabl 1 yn adrodd ar wariant yn y meysydd hyn dros y 3 blwyddyn ariannol ddiwethaf wrth i ysgolion a lleoliadau baratoi i weithredu'r cwricwlwm.

Tabl 1

Gweithgaredd

2019 i 2020

2020 i 2021

2021 i 2022

Diwygio'r cwricwlwm

     

Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru

1,148,001

997,997

86,250

Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu

2,002,000

2,002,000

3,000,000

Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd

-

-

9,203,000

Ymgysylltu â'r rhwydwaith ysgolion

-

-

3,240,000

Adnoddau a deunyddiau ategol

-

-

306,749

Cymorth i leoliadau nas cynhelir

-

-

314,020

Rhaglen cymorth cynnydd

-

-

499,546

Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

216,289

77,447

327,150

Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro

82,301

17,293

235,701

Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau

421,069

288,597

240,664

 

       

Cwricwlwm ac asesu

     

Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion

400,000

400,000

400,000

 

       

Datblygu a chefnogi athrawon

     

Ysgolion arloesi ac ysgolion clwstwr Dysgu Proffesiynol

2,580,000

2,580,000

680,000

Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion)

2,225,000

1,771,000

5,900,000

Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol

300,000

300,000

390,000

Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion

15,000,000

7,000,000

12,000,000

Cymwysterau Cymru

     

Datblygu cymwysterau newydd

319,000

686,000

1,142,000

Cyfanswm

 

24,693,660

 

15,820,334

 

37,965,080

 

Mae Tabl 2 isod yn adrodd ar wariant yn y meysydd hyn dros y 3 blwyddyn ariannol a gwmpaswyd gan gyllideb bresennol Llywodraeth Cymru wrth i ysgolion a lleoliadau gyflwyno a chymryd rhan mewn prosesau parhaus i fireinio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu.

Tabl 2

Gweithgaredd

2022 i 2023

2023 i 2024

2024 i 2025

Diwygio'r cwricwlwm

   

 

Costau ymarferwyr ar gyfer datblygu canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru

-

-

-

Cymorth rhanbarthol a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu

3,000,000

3,000,000

3,000,000

Diwygio'r cwricwlwm a threfniadau asesu ysgolion, gan gynnwys llesiant a chynnydd

6,676,000

6,346,000

3,006,000

Ymgysylltu â'r rhwydwaith ysgolion

3,000,000

3,000,000

3,000,000

Adnoddau a deunyddiau ategol*

1,240,000

1,200,000

1,800,000

Cymorth i leoliadau nas cynhelir

400,000

400,000

400,000

Rhaglen cymorth cynnydd

1,315,000

600,000

-

Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

250,000

250,000

250,000

Trefniadau ymchwilio, gwerthuso a monitro

600,000

1,000,000

1,000,000

Costau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu canllawiau

595,000

550,000

550,000

 

     

 

Cwricwlwm ac asesu

   

 

Asesu rhanbarthol ac asesu awdurdodau lleol ar gyfer cymorth dysgu i ysgolion

400,000

400,000

400,000

 

     

 

Datblygu a chefnogi athrawon

   

 

Ysgolion arloesi ac ysgolion clwstwr Dysgu Proffesiynol

-

-

-

Rhaglen Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm (consortia rhanbarthol ac ysgolion)

6,400,000

6,400,000

6,400,000

Adnoddau Dysgu Proffesiynol y cwricwlwm cenedlaethol**

450,000

-

-

Grant Dysgu Proffesiynol ar gyfer ysgolion

12,000,000

12,000,000

12,000,000

Cymwysterau Cymru

   

 

Datblygu cymwysterau newydd

1,500,000

1,450,000

1,330,000

 

     

 

Cyfanswm

 

37,826,000

36,596,000

33,136,000

* yn cynnwys cymorth ar gyfer cymwysterau newydd maes o law

** ffigurau ar gyfer y 2 blwyddyn ariannol nesaf i'w cytuno maes o law

Bydd adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn diweddaru'r gwariant a adroddir a blaen amcanestyniadau, gan dynnu sylw at unrhyw bwysau neu arbedion a ragwelir.

Edrych i'r dyfodol

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio pwysigrwydd bod ysgolion a lleoliadau yn parhau i dreialu, gwerthuso a gwella eu cwricwla fel rhan o'r broses barhaus o wella. Bydd mis Medi yn garreg filltir allweddol i ysgolion cynradd ac i lawer o ysgolion uwchradd, ac o fis Medi 2023, bydd pob ysgol yng Nghymru yn addysgu'r cwricwlwm newydd.

Dros y flwyddyn academaidd nesaf, ffocws ein hymdrechion uniongyrchol fydd: cefnogi ysgolion â'r gwaith cychwynnol o weithredu'r cwricwlwm yn ogystal â chaffael a dysgu o wersi profiadau cychwynnol y broses gyflwyno.

Sefydlu cylch adolygu a mireinio

Yn unol â gofynion y Ddeddf, byddwn yn dechrau datblygu cylch ar gyfer gwaith parhaus o adolygu a mireinio fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hwn yn ddull hirdymor a gaiff ei ddatblygu gyda'r Rhwydwaith Cenedlaethol a'i gyflawni drwyddo. Bydd hyn yn dod yn un o nodweddion parhaol ein dull gweithredu ar gyfer y cwricwlwm: gan sicrhau ei fod yn datblygu fel y'i dyluniwyd mewn ymateb i anghenion dysgwyr, profiadau ysgolion a lleoliadau o weithredu'r cwricwlwm a'n gwerthusiad ohono. Hefyd, bydd angen cynnal cylchoedd adolygu a mireinio dros nifer o flynyddoedd, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o dystiolaeth a safbwyntiau. Bydd y cylchoedd adolygu hyn yn gweithio yn yr un ffordd ag y gwnaethom ddatblygu'r cwricwlwm: drwy ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr, gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf

Dros y flwyddyn gyntaf o weithredu'r cwricwlwm, byddwn yn canolbwyntio ein sylw ar agweddau sylfaenol allweddol fframwaith y Cwricwlwm i Gymru sy'n ganolog i'r broses o'i weithredu'n llwyddiannus. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ein cymorth a'n dadansoddiad o'r hyn sy'n gweithio ar yr agweddau allweddol hyn. Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn cydgyfnerthu llwyfan cadarn yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu'r cwricwlwm, gan sicrhau eu bod yn datblygu, yn mireinio ac yn ehangu eu cwricwlwm dros y blynyddoedd i ddod. Ymysg yr agweddau allweddol, sylfaenol hyn mae:

  • sicrhau ac ymwreiddio tegwch i bob dysgwr
  • dylunio a mireinio'r cwricwlwm a threfniadau asesu o fewn ac ar draws y meysydd dysgu a phrofiad
  • cynnydd
  • asesu, ac yn benodol, y modd y caiff hyn ei gyfleu i rieni a gofalwyr
  • sgiliau trawsgwricwlaidd
  • addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • Cymraeg Iaith

Bydd y rhain yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu ar gyfer y Rhwydwaith Cenedlaethol, yr adnoddau a'r cymorth rydym yn eu datblygu a ffocws ein partneriaeth â'r haen ganol er mwyn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau'n cael eu cefnogi. Dros amser, byddwn yn ehangu ein ffocws i gwmpasu elfennau ehangach y cwricwlwm, gan adeiladu ar yr agweddau allweddol a sylfaenol hyn. 

Byddwn yn parhau i fonitro gofynion cyllido a chymorth ysgolion a lleoliadau yn agos drwy ein dull gwerthuso a monitro, trafodaethau parhaus rheolaidd â rhanddeiliaid haen ganol a thrwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm.

Caiff yr adroddiad cwmpasu gwaith gwerthuso a gyhoeddir ym mis Gorffennaf ei ddilyn gan gynllun gwerthuso manylach yn ddiweddarach y flwyddyn hon. Bydd y gwaith yn archwilio yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hir dymor, y graddau y mae'r weledigaeth a'r gofynion a nodir yn fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gwireddu drwy weithredoedd ysgolion, lleoliadau a'r system addysg ehangach. Bydd y canfyddiadau'n llywio dysgu system fel rhan o gylch parhaus a bydd yn cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd a gweithgareddau ymatebol.