Mae Undeb Golff y Menywod wedi cyhoeddi y bydd cystadleuaeth y 41ain Cwpan Curtis yn cael ei gynnal yng Nglwb Golff Conwy ym mis Mehefin 2020.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn rhoi cefnogaeth ariannol er mwyn i’r Gogledd fedru cynnal y digwyddiad.
Cystadleuaeth ar gyfer timau menywod amatur yw Cwpan Curtis a daw’r cyhoeddiad wrth i’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn, ddod i’w therfyn yn Dun Laoghaire. Bydd y gystadleuaeth yn dod i Gymru, a hynny am yr ail dro, yn 2020. Cafodd y Clwb Golff yng Nghonwy ei ddewis gan Undeb Golff y Menywod o blith 18 o gyrsiau golff yn y DU. Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghymru y tro diwethaf ym Mhorthcawl, a hynny ym 1964.
Mae Cymru bellach wedi hen ennill ei phlwyf fel lle ar gyfer cystadlaethau golff mawr gan gynnwys Cwpan Solheim ym 1996, Cwpan Ryder yn 2010 a’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn 2014 – a bydd y gystadleuaeth honno’n dychwelyd i Gymru yn 2017, ynghyd â’r Bencampwriaeth Amatur yn 2016.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r digwyddiad hwn. Bydd yn galluogi Conwy i roi llwyfan i’r gystadleuaeth hon yn y Gogledd, a hynny am y tro cyntaf yn 2020. Mae hwn yn gyfle arbennig inni weld rhai o sêr y dyfodol ym myd Golff Menywod. Yn draddodiadol, dyma’r gystadleuaeth olaf i’r chwaraewyr gymryd rhan ynddo cyn ymuno â’r chwaraewyr proffesiynol. Yn 2020, gallem weld y Charley Hull nesaf neu’r Amy Boulden nesaf, a hithau’n dod o Gymru wrh gwrs ac a fu’n chware yn y gystadleuaeth yn 2012. Mae’r ddwy bellach wedi dod yn amlwg yn y gêm broffesiynol”.
“Mae Cymru yn gyrchfan sydd â dyheadau mawr o ran golff. Er 2004, gwelsom gynnydd o 64% yn nifer y bobl sy’n ymweld â Chymru mewn cysylltiad â golff ac mae cyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â’r ymweliadau hynny wedi codi 79%. Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod golff yn bwysig i’n heconomi a bod cynnal cystadlaethau golff mawr wedi bod yn bwysig i godi proffil Cymru fel cyrchfan golff”
Ddywedodd Trish Williams, Cadeirydd Undeb Golff y Menywod:
“Rydym yn hynod falch o gyhoeddi mai yng Nghlwb Golff Conwy y bydd lleoliad cartref nesaf y gystadleuaeth. Roedd y broses bidio yn agos iawn ac rydw i’n gwybod y bydd Conwy yn lleoliad gwych ar gyfer y bencampwriaeth yn 2020".
Dywedodd, Chris Chance, Ysgrifennydd Clwb Golff Conwy
"Mae'n anrhydedd bod ein cwrs twyni wedi cael ei ddewis fel lleoliad 2020 Cwpan Curtis. Rydym eisoes yn gyffrous ac yn edrych ymlaen at groesawu’r holl chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr. Mae golff yn hynod boblogaidd yn yr ardal, ac yn denu ymwelwyr golffio o bob cwr o Brydain ac Iwerddon a thu hwnt. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru mae hwn yn gyfle gwych i arddangos golff yn ogystal ag atyniadau eraill Conwy. "