Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2023 i Awst 2024
Darpariaeth gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a disgyblion ym Mlwyddyn 6 ysgol gynradd ar gyfer Medi 2023 i Awst 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cwnsela annibynnol rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar safle pob ysgol uwchradd y mae'n ei chynnal a disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd. Yn ychwanegol, gall awdurdod lleol gynnig gwasanaethau cwnsela mewn lleoliadau eraill, e.e. mewn ysgolion annibynnol, colegau addysg bellach neu mewn cyfleusterau cymunedol eraill.
Mae’r data hyn yn llywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae cynghori yn y cyd-destun hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc siarad wyneb yn wyneb â chynghorydd am eu pryderon, i weithio trwy deimladau anodd fel y gallant ddysgu eu rheoli. Lle y bo'n briodol, gall cwnsela arwain at atgyfeiriad i wasanaeth arall (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau amddiffyn plant).
Cesglir yr holl ddata yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth awdurdodau lleol ar ffurflen casglu data cyfanredol.
Doedd Conwy ddim yn gallu darparu data ar gyfer 2023/24. Rydym wedi defnyddio'r data a ddarparwyd gan Gonwy ar gyfer 2022/23 i briodoli eu data ar gyfer 2023/24.
Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod o amser (2016/17 i 2023/24) sy’n cynnwys y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r ystadegau cyn mis Mawrth 2020 yn cynnwys cwnsela wyneb yn wyneb yn unig. Ers mis Mawrth 2020 mae cwnsela a gynhaliwyd trwy sesiynau ar-lein wedi'u cynnwys i adlewyrchu newidiadau i'r ddarpariaeth cwnsela yn ystod y pandemig. Ym mlwyddyn academaidd 2023/24, cynhaliwyd 98% o sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb. Fe fydd cau ysgolion rhwng Mawrth ac Awst 2020 ac Ionawr i Fawrth 2021 yn debygol o fod wedi cael effaith ar ystadegau 2019/20 a 2020/21 a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.
Prif bwyntiau
- Cafodd 13,936 o blant neu bobl ifanc eu cwnsela yn 2023/24, i fyny 1,573 (13%) o'i gymharu â 2022/23.
- Y ffordd fwyaf cyffredin o atgyfeirio oedd gan staff ysgol neu staff addysgol eraill, yn gyfrifol am dros hanner o’r holl atgyfeiriadau (61%).
- Benywod oedd tua dwy ran o dair o'r plant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2023/24 a gwrywod oedd yn cyfrif am draean.
- Pryderon a materion teuluol oedd y materion fwyaf cyffredin i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cwnsela.
- Nid oedd angen cyfeirio 87% o’r plant a’r bobl ifanc ymlaen ar ôl iddynt gwblhau’r sesiynau cwnsela.
Rhyw, awdurdod lleol, y math o atgyfeiriad, grŵp oedran ac ethnigrwydd
Ffigur 1: Nifer bobl ifanc a gafodd eu cwnsela yng Nghymru, yn ôl rhyw, 2016/17 i 2023/24 [r] [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar pentyrru sy'n dangos bod nifer y plant a phobl ifanc a dderbyniodd gwnsela wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ond ers hynny mae wedi cynyddu i'r lefel uchaf ers 2016/17. Roedd tua dwy ran o dair o blant a phobl ifanc a dderbyniodd gwnsela yn fenywod ac roedd traean yn ddynion ym mhob blwyddyn ers 2016/17.
Nifer y plant a phobl ifanc sy’n mynychu gwasanaeth cwnsela yn ôl ardal a rhyw (StatsCymru)
[r] Mae data ar gyfer 2017/18, 2018/19, 2019/20 a 2022/23 wedi’u diwygio ers y cyhoeddiad blaenorol.
[Nodyn 1] Yn 2022/23, cafodd gwryw a benyw eu hegluro i gyfeirio at ryw adeg geni yn y ffurflen casglu data. Adroddodd awdurdodau lleol fod 74 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2023/24, 78 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2022/23 a 322 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2021/22 ddim yn uniaethu fel gwryw neu fenyw neu wedi dewis i beidio â dweud.
- Cafodd 13,936 o blant neu bobl ifanc wasanaethau cwnsela yn 2023/24. Dyma'r uchaf ers dechrau cofnodion ac mae i fyny 1,573 (13%) o'i gymharu â 2022/23.
Ffigur 2: Nifer o bobl ifanc (fesul 100 o drigolion 10-18 oed) a gafodd eu cwnsela yng Nghymru, yn ôl awdurdod lleol, Medi 2023 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar yn dangos mai Powys oedd â'r gyfradd uchaf o blant a phobl ifanc yn derbyn cwnsela a Chasnewydd oedd â'r gyfradd isaf.
Nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu gwasanaeth cwnsela yn ôl ardal a rhyw (StatsCymru)
Amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol, rhanbarth ac oedran (StatsCymru)
[Nodyn 1] Daw’r amcangyfrifon poblogaeth o amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2023 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
- Cafodd 4.2 o blant a phobl ifanc fesul 100 o drigolion 10 i 18 oed eu cwnsela yng Nghymru yn 2023/24.
- Amrywiodd y cyfraddau ar gyfer awdurdodau lleol o 1.8 yng Nghasnewydd i 10.3 ym Mhowys.
Ffigur 3: Y math o atgyfeiriad ar gyfer phobl ifanc a gafodd eu cwnsela, yn ôl rhyw, Medi 2023 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos bod dros hanner y plant a’r bobl ifanc a gafodd gwnsela wedi’u hatgyfeirio gan staff ysgol neu staff addysg eraill ar gyfer dynion a merched.
[Nodyn 1] Yn 2022/23, cafodd gwryw a benyw eu hegluro i gyfeirio at ryw adeg geni yn y ffurflen casglu data. Adroddodd awdurdodau lleol fod 74 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2023/24, 78 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2022/23 a 322 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2021/22 ddim yn uniaethu fel gwryw neu fenyw neu wedi dewis i beidio â dweud.
[Nodyn 2] Meddyg Teulu, ysbyty, nyrs ysgol, ac ati
[Nodyn 3] Mae heb ei nodi yn cynnwys y categorïau ‘Dewis peidio dweud’, ‘Ddim yn hysbys’ ac ‘Arall’.
- Atgyfeiriad gan staff ysgol a staff addysgol eraill oedd y math mwyaf cyffredin o atgyfeiriad, gan gyfrif am dros hanner yr holl atgyfeiriadau (61%) yn 2023/24.
- Hunanatgyfeiriad oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o atgyfeiriad (22%) yn 2023/24, ac yna atgyfeiriad gan rieni (9%).
- Roedd y bechgyn a’r merched a oedd yn mynychu gwasanaethau cwnsela yn arddangos tuedd debyg o ran y modd y cawsant eu hatgyfeirio, gydag atgyfeiriad gan staff ysgol yn fwyaf cyffredin, ac yna hunanatgyfeiriad.
- Roedd benywod yn fwy tebygol o atgyfeirio eu hunain (25% o'r holl atgyfeiriadau benywaidd), o’i gymharu â 17% o'r holl atgyfeiriadau gwrywaidd.
- Roedd gwrywod yn fwy tebygol o fod wedi cael eu atgyfeirio gan staff addysg eraill (64% o'r holl atgyfeiriadau gwrywaidd), o’i gymharu â 59% o'r holl atgyfeiriadau gan fenywod.
Ffigur 4: Nifer bobl ifanc a gafodd eu cwnsela yng Nghymru, yn ôl rhyw a grŵp oedran blwyddyn ysgol, Medi 2023 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos mai’r grŵp blwyddyn ysgol fwyaf cyffredin ar gyfer plant a phobl ifanc a gafodd gwnsela oedd Blwyddyn 10 i fenywod a Blwyddyn 8 i ddynion.
[Nodyn 1] Yn 2022/23, cafodd gwryw a benyw eu hegluro i gyfeirio at ryw adeg geni yn y ffurflen casglu data. Adroddodd awdurdodau lleol fod 74 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2023/24, 78 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2022/23 a 322 o blant neu bobl Ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2021/22 ddim yn uniaethu fel gwryw neu fenyw neu wedi dewis i beidio â dweud.
[Nodyn 2] Ddim yn hysbys yn cynnwys 348 o blant a dderbyniodd gwnsela ym mlynyddoedd ysgol 1 i 5.
- Yng ngrŵp oedran Blwyddyn 9 (mae rhan fwyaf o’r plant o oedran 13 i 14) y gwelwyd y nifer uchaf o blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela, yna grŵp oedran Blwyddyn 10, yn 2023/24.
- Yng ngrŵp oedran Blwyddyn 13 (hynny yw, y bobl ifanc hynny yn y chweched dosbarth neu sydd wedi gadael yr ysgol) y gwelwyd y nifer isaf.
- Roedd grŵp oedran Blwyddyn 9 yn cyfrif am 19% o’r holl blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2023/24.
- Roedd mwy o ferched na bechgyn a gafodd eu cwnsela ym mhob grŵp blwyddyn, ac eithrio Blwyddyn 6.
- O flwyddyn 7 i flwyddyn 11 parhaodd nifer y bechgyn a oedd yn mynychu sesiynau cwnsela yn gymharol sefydlog, gyda rhwng 650 a 850 ym mhob grŵp blwyddyn.
- Cynyddodd nifer y merched yn sylweddol o flwyddyn 7 i flwyddyn 10 o’i gymharu â’u cyfoedion a oedd yn fechgyn, gan gyrraedd y nifer uchaf ym mlwyddyn 10 o 1,837 o ferched.
Cefndir ethnig | Nifer | Canran |
---|---|---|
Gwyn | 12,843 | 92.2 |
O Dras Cymysg | 302 | 2.2 |
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig | 139 | 1.0 |
Du neu Ddu Prydeinig | 79 | 0.6 |
Tsieineaidd neu Dsieineaidd Prydeinig | 20 | 0.1 |
Unrhyw gefndir ethnig arall | 154 | 1.1 |
Anhysbys | 399 | 2.9 |
Cyfanswm | 13,936 | 100.0 |
Mae’r tabl yn dangos bod mwyafrif (92.2%) y plant a’r bobl ifanc a gafodd gwnsela wedi nodi eu bod yn Wyn yn 2023/24. Mae'r dosbarthiad yn fras yn gynrychioliadol o ddosbarthiad pobl ifanc yn y boblogaeth ysgol ehangach.
Y materion a gyflwynwyd a’r prif faterion
Mater a gyflwynir yw’r rheswm pam y mae cleient yn hunanatgyfeirio at gwnselydd. Gofynnir i awdurdodau lleol gofnodi hyd at dri mater a gyflwynir fesul plentyn neu berson ifanc. Mae’r ffigur isod yn dangos canran y plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela, ynghyd â’r pum mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd. Seilir y canrannau ar gyfanswm y plant a phobl ifanc, nid cyfanswm y materion a gofnodwyd.
Ffigur 5: Y materion amlycaf a gyflwynwyd ar gyfer phobl ifanc a gafodd eu cwnsela, yn ôl rhyw, Medi 2023 i Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos mai pryder, problemau teuluol, dicter, hunanwerth a phrofedigaeth oedd y materion mwyaf cyffredin a gyflwynwyd.
- Pryder oedd y mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd ar gyfer menywod (44%) a gwrywod (33%) yn 2023/24.
- Mae pryder wedi cynyddu fel mater a gyflwynwyd o 23% yn 2016/17 i 46% yn 2022/23 ond wedi gostwng i 40% yn 2023/24.
- Materion teulu oedd y mater a gyflwynwyd mwyaf cyffredin nesaf ar gyfer menywod (29%) a gwrywod (28%).
- Roedd gwrywod yn fwy tebygol na benywod i gael eu hatgyfeirio oherwydd materion dicter, gyda 20% ar gyfer gwrywod o’i gymharu â 11% ar gyfer benywod.
- Roedd benywod yn fwy tebygol na gwrywod i gael eu hatgyfeirio oherwydd materion hunanwerth, gyda 12% ar gyfer benywod a 9% ar gyfer menywod.
Prif fater yw’r mater(ion) sylfaenol a nodir yn ystod y broses gwnsela. Er enghraifft, efallai mai dicter yw’r mater a gyflwynir gan berson ifanc, ond trwy’r broses gwnsela, efallai y daw i sylweddoli mai’r prif fater yw perthnasoedd teuluol. Gofynnir i awdurdodau lleol gofnodi hyd at dri phrif fater fesul plentyn neu berson ifanc. Mae’r siart isod yn dangos canran y plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela mewn perthynas â phob un o’r pum prif fater mwyaf cyfredin. Seilir y canrannau ar gyfanswm y plant a phobl ifanc, nid cyfanswm y materion a gofnodwyd.
Ffigur 6: Y prif faterion amlycaf ar gyfer phobl ifanc a gafodd eu cwnsela, yn ôl rhyw, Medi 2023 i Awst 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar yn dangos mai pryder, problemau teuluol, dicter, hunanwerth a pherthnasoedd eraill oedd y materion mwyaf cyffredin.
[Nodyn 1] ‘Perthnasoedd ag eraill’ yw perthnasoedd heblaw'r rhai gyda cariadon neu gydag athrawon.
- Roedd y tri brif fater amlycaf yr un fath â'r tri fater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd yn gyffredinol.
- Roedd gan ganran uwch o ddisgyblion broblemau teuluol a hunanwerth fel y prif faterion o’i gymharu â materion a gyflwynwyd ac roedd pryder yn is.
- Straen a hunanwerth oedd y pedwerydd a'r pumed mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd, ond nodwyd hunanwerth a pherthnasoedd eraill fel y pedwerydd a'r pumed mater amlycaf.
- Cynyddodd pryder fel prif fater amlycaf o 20% yn 2016/17 i 43% yn 2022/23 ond mae wedi gostwng i 36% yn 2023/24.
Sgôr Craidd YP Cyfartalog
Mae Craidd YP yn fesur o drallod seicolegol a adroddwyd gan bobl ifanc, cyn ac ar ôl cwnsela. Am wybodaeth bellach ar y ffurflen a gwblhawyd gan bobl ifanc, cyfeiriwch at y ddolen ganlynol: CORE Measurement Tools (CORE-10) (Child Outcomes Research Consortium).
Ffigur 7: Gwelliant ar gyfartaledd yn Sgôr Craidd YP ar gyfer plant a phobl ifanc a gafodd gwnsela yng Nghymru yn ôl awdurdod lleol, Medi 2023 i Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar yn dangos bod y gwelliant cyfartalog yn sgôr Graidd YP ymhlith plant a phobl ifanc a gafodd gwnsela yn 2023/24 yn amrywio o 3.5 yn Ynys Môn / Gwynedd i 8.1 yn Rhondda Cynon Taf.
Atgyfeiriadau ymlaen
Atgyfeirio'r bobl ifanc | Nifer | Canran |
---|---|---|
CAMHS Arbenigol | 232 | 1.7 |
Amddiffyn Plant | 334 | 2.4 |
Arall | 483 | 3.5 |
Dim | 12,164 | 87.3 |
Ddim yn hysbys | 723 | 5.2 |
Cyfanswm | 13,936 | 100 |
Mae’r tabl yn dangos nad oedd angen unrhyw fath o atgyfeirio ymlaen ar y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc a gafodd gwnsela ar ôl cwblhau sesiynau cwnsela (87.3% yn 2023/24).
- Atgyfeiriwyd 1.7% o blant a phobl ifanc a dderbyniodd gwnsela ymlaen i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn 2023/24. Mae hyn i lawr o 2.9% yn 2022/23.
Sesiynau cwnsela a fynychwyd
Siart 8: Nifer cyfartalog y sesiynau cwnsela a fynychwyd gan phobl ifanc gafodd eu cwnsela yng Nghymru, yn ôl awdurdod lleol, Medi 2023 i Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar yn dangos bod gan Wrecsam y nifer cyfartalog uchaf o sesiynau cwnsela a fynychwyd gan blant a phobl ifanc a Chaerdydd oedd â'r nifer isaf.
- Yn 2023/24, nifer cyfartalog y sesiynau cwnsela a fynychwyd gan blant a phobl ifanc a gafodd gwnsela yng Nghymru oedd 5.6, i lawr o 6.1 yn 2022/23.
- Amrywiodd nifer cyfartalog y sesiynau cwnsela a fynychwyd yn ôl awdurdod lleol o 4.8 yng Nghaerdydd i 7.7 yn Wrecsam.
- Cynhaliwyd 98% o sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb yn 2023/24 a chynhaliwyd 2% o bell. Roedd cwnsela wyneb yn wyneb yn is yn ystod y pandemig gyda 71% yn 2020/21.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Hygrededd
Mae awdurdodau lleol, a’u darparwyr gwasanaethau cwnsela lle bo hynny’n berthnasol, yn crynhoi data cyfanredol ar blant a phobl ifanc sy’n cael eu cwnsela, ac yn cyflwyno’r data i Lywodraeth Cymru. Mae’n ofynnol i’r wybodaeth ar gyfer pob blwyddyn ysgol academaidd gael ei chyflwyno erbyn 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn ysgol academaidd. Yna, caiff y ffurflenni eu dilysu gan Lywodraeth Cymru a’u cyhoeddi mewn datganiad ystadegol ym mis Mawrth.
Oherwydd sensitifrwydd y data, rhaid iddynt gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng diogel a’u cadw mewn amgylchedd diogel.
Rhaid i’r awdurdod lleol, neu’r unigolyn sy’n darparu’r gwasanaeth cwnsela, beidio â darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig na darparu gwybodaeth mewn ffordd (naill ai ar wahân neu ar y cyd â gwybodaeth arall) sy’n adnabod unigolyn, neu sy’n galluogi unigolyn i gael ei adnabod.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.
Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.
Ansawdd
Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Mae hwn yn gasgliad blynyddol sy’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu i Lywodraeth Cymru.
Mae awdurdodau lleol Ynys Môn a Gwynedd yn darparu ffiurflen casglu data ar y cyd, felly ni ellir dangos y data ar gyfer yr awdurdodau hyn ar wahân.
Doedd Conwy ddim yn gallu darparu data ar gyfer 2023/24. Rydym wedi defnyddio'r data a ddarparwyd gan Gonwy ar gyfer 2022/23 i briodoli eu data ar gyfer 2023/24.
Mae’r ffigurau’n seiliedig ar nifer y plant a’r bobl ifanc sydd wedi cael cwnsela ac sydd wedi gorffen eu penodau o gwnsela yn ystod y cyfnod. Mae'r ystadegau cyn mis Mawrth 2020 yn cynnwys cwnsela wyneb yn wyneb yn unig. Ers mis Mawrth 2020 mae cwnsela a gynhelir drwy sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein wedi’i gynnwys i adlewyrchu newidiadau i’r ddarpariaeth gwnsela yn ystod y pandemig.
Mae grŵp oedran y plant a’r bobl ifanc hynny a gafodd eu cwnsela yn seiliedig ar eu blwyddyn ysgol yn hytrach na’u hoedran gwirioneddol. Noder nad yw’r holl blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn ddisgyblion ysgol. Lle bo hyn yn wir, mae’r plant a’r bobl ifanc hynny wedi cael eu cynnwys yn y grŵp oedran blwyddyn ysgol y byddent fel arfer yn ei mynychu pe byddent yn yr ysgol.
Er 2014, gwnaethpwyd cryn dipyn o waith ar ganllawiau a diffiniadau er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson rhwng awdurdodau, egluro rhai materion hysbys o ran arolygon cynharach, ac adlewyrchu’r polisi cyfredol. Oherwydd hyn, dylai unrhyw gymhariaeth gyda data cyn 2015/16 gael ei ddehongli’n ofalus.
Gwerth
Defnyddir yr ystadegau hyn yn eang yn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:
- gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
- aelodau Senedd Cymru
- adrannau eraill o’r llywodraeth
- awdurdodau lleol
- byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
- adran Addysg yn Llywodraeth Cymru
- meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
Mae cynghori yn y cyd-destun hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc siarad wyneb yn wyneb âhynghorydd am eu pryderon, i weithio trwy deimladau anodd fel y gallant ddysgu eu rheoli. Lle y bo'n briodol, gall cwnsela arwain at atgyfeiriad i wasanaeth arall (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau amddiffyn plant).
Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Lleol ddarparu gwasanaeth cwnsela annibynnol ar safle pob ysgol uwchradd y mae'n ei gynnal. Yn ogystal gall Awdurdod Lleol gynnig gwasanaethau cynghori mewn lleoliadau eraill, e.e. mewn ysgolion annibynnol neu mewn canolfan gymunedol leol, canolfan ieuenctid neu gyfleuster cymunedol arall ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol a / neu'n dymuno cael cwnsela y tu allan i leoliad addysg ffurfiol.
Ym mlwyddyn ariannol 2022-23, darparodd Llywodraeth Cymru dros £2m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion i gefnogi gwelliannau mewn cwnsela ac ehangu cwnsela i gleientiaid presennol a newydd. Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil annibynnol i archwilio'r effaith gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024. Bydd hyn yn helpu comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau cwnsela i sicrhau bod yr ymyriadau mwyaf priodol yn cael eu defnyddio ac maent yn gallu dangos tystiolaeth gyson o effaith ledled Cymru.
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
Daeth Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gyfraith yng Nghymru ar 4 Mawrth 2013. Mae’r Ddeddf yn pennu cynigion i gryfhau safonau ysgolion, gwella penderfyniadau lleol, a lleihau cymhlethdod. O dan Adran 92 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau cwnsela annibynnol rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd. O dan Adran 93, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ddienw am y gwasanaethau cwnsela hyn i Lywodraeth Cymru, yn unol â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran 93 o Ddeddf 2013.
Lle bo awdurdod lleol wedi trefnu i unigolyn ddarparu gwasanaeth cwnsela annibynnol ar ei ran, rhaid i’r awdurdod roi copi i’r unigolyn o gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, a rhaid i’r unigolyn hwnnw gasglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i chyflwyno i’r awdurdod lleol.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyd-fynd â thablau manylach ar y dudalen Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc ar StatsCymru, gwasanaeth am ddim sy’n galluogi ymwelwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Ni chyhoeddir unrhyw ystadegau swyddogol gan wledydd eraill y DU ar wasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae data wedi'i gyhoeddi ar gyfer Cymru am blant sy'n derbyn gofal a chymorth sy'n cael eu cofnodi fel rhai sydd â phroblem iechyd meddwl ac am amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed arbenigol (CAMHS).
Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.