Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio’n raddol ar safleoedd ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru, mae cronfa cydnerthu economaidd bwrpasol Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth hanfodol o fwy na £ 2 miliwn i rai o'n cwmnïau twristiaeth allweddol mwyaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bu Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn ymweld â Zip World, Bethesda sydd, erbyn hyn wedi agor dau o’r tri safle gan gynnig chwech o’r anturiaethau sydd ar gael yn Zip World.

Dywedodd Sean Taylor, a sefydlodd Zip World:

"Rydyn ni wedi croesawu'r gefnogaeth a'r gwaith caled gan yr holl dîm yn Llywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng hwn. Diolchwn iddynt am eu hymdrech barhaus i gael yr economi ymwelwyr yn ôl i fod yn weithredol eto ac am gydnabod arwyddocâd ein brand i economi leol Gogledd Cymru.

Mae’r Cynllun Cadernid Economaidd, sy’n rhan o’r pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn sy’n cael ei gynnig i fusnesau gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i gwmnïau ym mhob cwr o Gymru, gan ategu’r cymorth sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y DU. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi cymorth ariannol gwerth mwy na £230 miliwn i dros 8,200 o fusnesau.

Ymhlith rhai o’r cwmnïau eraill ym maes twristiaeth sydd wedi cael cyllid o’r Gronfa y mae Bourne Leisure; Bluestone a JH Leeke – sydd yn rhedeg y Vale Resort.

Yn siarad o Zip World ym Methesda, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:

“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed yng Nghymru i  ailflaenoriaethu’n cyllidebau ac i ddefnyddio cyllid at ddibenion gwahanol pryd bynnag y bo modd inni wneud hynny er mwyn sicrhau bod cymorth ariannol ar gael lle mae ei angen fwyaf − a’i fod ar gael yn gyflym hefyd.

“Mae’n pecyn cymorth ni yn mynd ymhellach na’r hyn sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r DU, a dw i’n ymfalchïo yn y ffaith bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu miloedd o fusnesau i fynd i’r afael ar unwaith â materion y mae’n hanfodol ymdrin â nhw er mwyn iddyn nhw fedru goroesi a diogelu swyddi.

“Roedd y sector twristiaeth a lletygarwch ymhlith y cyntaf i deimlo effeithiau’r argyfwng, a ddaeth ar adeg pan ddylen nhw fod wedi bod yn croesawu ymwelwyr dros y Pasg. Mae’n parhau’n gyfnod anodd i’r cwmnïau hyn wrth i’r economi ymwelwyr ailagor yn raddol.

“Mae’n dda cael ymweld â Zip World a gweld sut mae pethau wedi mynd yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl iddo ailagor. Dw i’n falch hefyd o weld y camau diogelwch mae’r tîm wedi rhoi yn eu lle er mwyn rhoi hyder i ymwelwyr, y staff a chymunedau bod modd ailagor yn llwyddiannus.