Bydd busnesau bwyd a diod llai Cymru yn elwa ar raglen sy'n werth €1.8 miliwn i'w gwneud yn fwy gystadleuol ym marchnadoedd y byd.
Cymru fydd y genedl ddiweddaraf i ymuno â Phrosiect Allforio Ardal yr Iwerydd, sy'n helpu busnesau ar draws Bwa'r Iwerydd i gydweithio er mwyn goresgyn y rhwystrau y mae busnesau llai yn y sector yn eu hwynebu wrth ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.
Ar hyn o bryd, mae dros 72% o fwyd a diod sy'n cael eu hallforio yn uniongyrchol o Gymru yn mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r ffigur hwn lawer yn uwch ar gyfer cig coch o Gymru, lle y mae 90% ohono yn cael ei allforio i'r UE.
Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn gwneud y cyhoeddiad yn ystod ail ddiwrnod Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydym wedi gweld cwmnïau o Gymru yn datblygu'n frandiau byd-eang ac ansawdd uchel y bwyd a diod a gynhyrchwn yma yng Nghymru sy'n gyfrifol am hynny.
"Hoffwn helpu mwy o gwmnïau bach i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Bydd cyhoeddiad heddiw yn eu helpu i wneud hyn – gall un llwyddiant bach roi hwb sylweddol i economi cefn gwlad."
Mae gwerth y bwyd a diod sy'n cael eu hallforio wedi cynyddu bron 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd yr hwb diweddaraf hwn i fusnesau llai yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth y byddai £21 miliwn yn cael eu neilltuo drwy Brosiect HELIX i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd llai yng Nghymru i gynhyrchu mwy ac i leihau gwastraff. Ers hynny, mae'r prosiect wedi cefnogi 162 o fusnesau bach a chanolig ac wedi diogelu 120 o swyddi.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i fuddsoddi £2.4 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i ehangu marchnad allforio'r diwydiant bwyd a diod ac i godi proffil Cymru ar draws y byd.
Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi heddiw y bydd y digwyddiad llwyddiannus, BlasCymru, yn dychwelyd yn 2019. Yn ystod y digwyddiad hwn a gynhaliwyd yn gynharach eleni, daeth aelodau'r diwydiant bwyd a diod rhyngwladol i Gymru i feithrin cysylltiadau â chynhyrchwyr lleol.
Cawn wybod hyn oll wrth i ganfyddiadau cychwynnol o ymchwil a wnaed gan y Llywodraeth ar farn defnyddwyr y DU ar werth cynhyrchion o Gymru ddangos bod gwell gan 8/10 siopwr brynu cynhyrchion Cymreig a bod 75% o'r farn bod bwyd Cymreig o ansawdd ardderchog.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl ac i osgoi codi unrhyw rwystrau newydd sy'n llesteirio busnesau bwyd a diod Cymru rhag gweithio'n effeithiol. Mae'r cyfleoedd yn eang ac rydym yn helpu ein sector bwyd a diod i gael y budd gorau ohonynt.”