Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi croesawu’r newyddion bod 70 o swyddi yswiriant newydd i gael eu creu yng Nghaerdydd yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r swyddi gyda’r brocer yswiriant a’r cwmni cymharu prisiau Assured Futures, sef  y cwmni cyntaf ym Mhrydain i gynnig dull o gymharu yswiriant iechyd ar y we dros 10 mlynedd yn ôl.

Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau cymharu ar gyfer cynnyrch diogelu incwm ac yswiriant bywyd, i gynnwys y rhai sydd dros eu 50au hefyd, gyda’u technoleg yn galluogi rhai o wefannau cymharu prisiau amlycaf y DU, gan gynnwys Comparethemarket, Moneysupermarket a Money.co.uk.  

Mae Assured Futures eisoes yn cyflogi dros 100 aelod staff yn eu prif swyddfa yn Cheltenham. Mae eu presenoldeb newydd yng Nghaerdydd yn rhan o dwf parhaus y cwmni wrth iddo ehangu ei wasanaethau presennol a datblygu cynnyrch newydd.  

Bydd y swyddfa newydd yng Nghymru yn golygu bod Assured Futures yn ymuno â sector yswiriant sydd eisoes yn llewyrchus, yn ogystal ag enwau adnabyddus eraill megis Admiral, Aon, Legal & General a Zurich.

Yn wir mewn adroddiad diweddar gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, amcangyfrifwyd bod y sector yswiriant a chynilo hirdymor yn cyflogi 8,000 o bobl yng Nghaerdydd yn unig, gan gyfrannu bron £645 miliwn at economi y rhanbarth yn 2015.  

Meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

Dwi’n falch iawn bod Assured Futures, yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi gwneud penderyfniad i ehangu eu gwaith yng Nghymru, gan greu 70 o swyddi ychwanegol o fewn y sector yswiriant, sy’n ffynnu yng Nghaerdydd.  

Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad, ac fel arweinydd y maes cymharu gwefannau, rydym yn falch iawn o’u croesawu, ac yn dymuno dyfodol hir a llwyddiannus iddynt yng Nghymru.  


Meddai Ian Sawyer, Rheolwr-gyfarwyddwr Assured Futures:

Dwi’n falch o weld ein bod yn ehangu ein busnes i Gymru mewn cyfnod sy’n hynod gyffrous i Assured Futures. Rydym yn ystyried bod Caerdydd yn lleoliad delfrydol i barhau ein twf, gyda’i hanes llewyrchus yn y sector yswiriant a chyllid a’n gweithlu dawnus a phrofiadol yn y sector hwn.

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth y maent wedi’i roi inni, oedd yn rhywbeth â fu’n help inni benderfynu ar Gaerdydd fel lleoliad ein swyddfa newydd, gan edrych ymlaen at yr hyn y gallwn ei gyflawni yn y blynyddoedd a ddaw.