Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cwmni yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn helpu cwmnïau fferyllol i gyflwyno cynhyrchion newydd i'r farchnad yn creu 16 swydd newydd ar gyfer gweithwyr medrus iawn, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd mae CatSci Limited, a leolir ym Mharc Busnes Capital yng Ngwynllŵg, yn cyflogi 31 o staff, a byddant yn creu'r swyddi newydd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i ehangu'r busnes dros dair blynedd.

Mae'n dilyn grant Cronfa Dyfodol yr Economi/Cymorth Buddsoddi Cyfalaf a Chymorth Cyflogaeth gwerth £125,800 gan Lywodraeth Cymru, a benthyciad gwerth £350,000 arall drwy Fanc Datblygu Cymru.

Yn ogystal â chyflogi staff newydd, bydd y cwmni hefyd yn ehangu ac yn gwella ei gyfleusterau labordy cyfredol fel rhan o fuddsoddiad mawr o £1.3 miliwn.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Rwyf wrth fy modd bydd ein cymorth ar gyfer CatSci Limited yn creu'r swyddi hyn ar gyfer gweithwyr medrus – sy'n derbyn cyflog uwch o gryn dipyn na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, ac yn galluogi'r cwmni i gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol i ehangu. 

“Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru, ac i sicrhau eu bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen i gynyddu lefelau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr medrus.

“Mae CatSci yn un o brif allforwyr gwasanaethau o'r fath i'r Unol Daleithiau, ac wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed bod diwydiannau'n ceisio meithrin perthnasau â chwmnïau ledled y byd.”

Ar hyn o bryd mae CatSci yn buddsoddi mewn tri labordy newydd:

  • cyfleuster OEB4
  • labordy bach sy'n gallu ymgymryd â phrosiectau mawr, a
  • labordy dadansoddi wedi'i neilltuo i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu a phrofi cyffuriau.

Mae'r cwmni yn ceisio galluogi cwmnïau i gyflwyno cynhyrchion newydd i'r farchnad, ac yn rhoi cyngor ar fodloni'r holl ofynion cyfreithiol, meddygol, moesegol ac iechyd.

Mae hefyd yn datblygu prosesau newydd er mwyn treialu a phrofi technegau gweithgynhyrchu ar raddfa fwy.

Dywedodd Dr Ross Burn, Prif Swyddog Gweithredol CatSci:

“Bydd y cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu cyflymder ein rhaglen ehangu i fodloni anghenion ein cwsmeriaid wrth iddyn nhw esblygu. Bydd recriwtio 16 aelod o staff ychwanegol a buddsoddi £1.3 miliwn mewn cyfleusterau dros y ddwy flynedd nesaf yn cynyddu ein hallforion yn sylweddol ac yn rhoi CatSci mewn sefyllfa gyffrous i dyfu ymhellach yn y tymor hir.”