Mae cwmni blaenllaw sy'n cyflenwi tractorau a chyfarpar arall i'r sector amaethyddol yn y Gogledd yn elwa ar fand eang cyflym iawn yn ei ddepo yng Ngwynedd, ac mae'r busnes wedi gweld gwahaniaeth.
Ymwelodd Arweinydd y Tŷ, Julie James, sy'n gyfrifol am seilwaith digidol, â depo Mona Tractors yn Llanystumdwy i ddysgu rhagor am yr effaith y mae band eang cyflym iawn wedi'i chael ar y busnes.
Mabwysiadodd y cwmni band eang cyflym iawn ar ddiwedd 2016 ac mae'n elwa bellach ar gyflymder lawrlwytho o ryw 70 Mbps, o gymharu ag un neu ddau Mbps o'r blaen.
Mae depo Llanystumdwy yn manteisio ar fand eang cyflym iawn yn sgil rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru sydd wedi cyflwyno cyswllt cyflymach â'r rhyngrwyd yn yr ardal na fyddai fel arall yn gallu ei gael.
Mae'r manteision i’r cwmni wedi cynnwys gwella pa mor effeithlon y mae Mona Tractors yn gweithredu drwy ddefnyddio technoleg cwmwl. Ar ben hynny, mae cwsmeriaid yn falch o gael cysylltiad mwy cyflym a dibynadwy.
Mae wedi galluogi'r cwmni i wneud y defnydd gorau o system uwch ar gyfer rheoli prosesau, sy'n cyfuno prosesau gwerthu, hyrwyddo, adnoddau dynol a chyllidol mewn un platfform canolog. Gall gweithwyr gysylltu-o-bell â’r platfform hwn hefyd.
Mae'r cwmni hefyd yn defnyddio technoleg band eang symudol, sef dyfeisiau MiFi, i sicrhau bod modd cysylltu-o-bell wrth ymweld â chleientiaid. Mae'r dyfeisiau hyn yn gallu manteisio mwy a mwy ar fand eang cyflym iawn 4G sy'n cyflymu'r broses hyd yn oed yn fwy.
Dywedodd Julie James:
"Mae wedi bod yn wych gweld y gwahaniaeth y mae band eang cyflym iawn wedi'i wneud i'r busnes hwn sydd wedi bod yn gweithredu yn y Gogledd ers amser hir. Ni fyddai band eang cyflym iawn yng Ngwynedd heb raglen Cyflymu Cymru oherwydd nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i'w gyflwyno yn yr ardal, ond mae'r depo yn Llanystumdwy yn manteisio bellach ar gysylltiad cyflym iawn a dibynadwy.
“Mae bron 733,000 o adeiladau ledled Cymru yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn yn sgil y rhaglen hon. Mae cael defnyddio band eang cyflym iawn a gwibgyswllt yn dod yn fwyfwy pwysig i fusnesau, a dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi yn y seilwaith sy’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn.
“Er bod y mwyafrif llethol o adeiladau ledled y wlad yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn bellach, rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych ar sut i gyflwyno band eang cyflymach yn yr ardaloedd hynny sydd hebddo.”
Dywedodd Susan Jones, Cyfarwyddwr Mona Tractors:
“Mae band eang cyflym iawn nid yn unig yn ein helpu i redeg y busnes, mae'n hanfodol i'n helpu i gynnal busnes hefyd. Cyn inni gael band eang cyflym iawn, roedden ni'n defnyddio cysylltiad â chyflymder o un neu ddau Mbps, ond bellach mae tua 70. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni a'n cwsmeriaid oherwydd gallwn ddarparu gwasanaeth mwy cyflym a dibynadwy."
Mae dros 58,400 o adeiladau yng Ngwynedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn yn sgil rhaglen Cyflymu Cymru.