Mae Delio Ltd, cwmni technoleg ariannol yng Nghymru sydd wedi datblygu system fuddsoddi arloesol, yn ehangu gan greu 30 o swyddi yng Nghaerdydd dan nawdd Llywodraeth Cymru.
Mae Delio, a sefydlwyd gan Gareth Lewis a David Newman yn 2015, wedi creu platfform hyblyg ar gyfer sefydliadau ariannol sy’n helpu i ddosbarthu llif busnes a chysylltu cleientiaid uchel eu gwerth â chyfleoedd i fuddsoddi yn y farchnad breifat fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £200,000 o gyllid busnes y mae’n rhaid ei ad-dalu a fydd yn uwchraddio’r busnes, yn creu 30 o swyddi newydd ac yn diogelu 7 swydd arall.
Mae’r buddsoddiad hwn, a’r cynnydd yn nifer y staff, yn hanfodol i Delio gyflawni ei gynllun twf tair blynedd. Hefyd, bydd yn cyflymu ei gynlluniau i ehangu gan sicrhau bod y busnes yn gallu manteisio ar ei eiddo deallusol drwy ei wasanaethau ariannol a phroffesiynol i gwsmeriaid o’r radd flaenaf.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae Technoleg Ariannol yn faes sy’n tyfu’n gyflym yn economi Cymru ac rydyn ni’n awyddus iawn i’w cefnogi a’u datblygu. Mae ein hecosystem dechnoleg lewyrchus, gyda’i chadwyn gyflenwi gynyddol, ynghyd â’n prifysgolion entrepreneuraidd, yn darparu sylfaen gadarn er mwyn i’r sectorau hyn allu ffynnu.
“Mae Delio eisoes wedi denu sylw oherwydd ei botensial i dyfu ac mae’n ymuno â nifer cynyddol o gwmnïau clyfar newydd yng Nghymru sy’n ennill eu plwyf yn y farchnad hon. Rwy wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau ehangu Delio.”
Mae Delio yn creu platfformau o asedau preifat ar gyfer sefydliadau gwasanaethau ariannol sy’n apelio at y genhedlaeth nesaf o fuddsoddwyr uchel eu gwerth. Mae’r platfformau pwrpasol yn caniatáu i’w cleientiaid uchel eu gwerth, darpar gleientiaid a chynghorwyr ddefnyddio platfform cyffredin i rannu ac archwilio cyfleoedd i gleientiaid preifat a manteisio arnynt
Fe’i datblygwyd oherwydd anghenion newydd crewyr cyfoeth heddiw sydd yn edrych fwyfwy at fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cyfleoedd ecwiti preifat a dyled, effaith gymdeithasol ac eiddo tirol; yn uniongyrchol a thrwy gronfeydd. O’r blaen, nid oedd y cynigion gan sefydliadau ariannol yn datblygu’n ddigonol i fodloni'r anghenion newydd hyn, a dyna pam cafodd Delio ei sefydlu.
Dywedodd Gareth Lewis, un o sylfaenwyr Delio:
“Mae’n system ninnau’n helpu pawb - o swyddfeydd teuluoedd drwodd i fanciau byd-eang - i gynnig mwy i’r rhai sy’n ceisio buddsoddi’n uniongyrchol mewn ecwiti preifat, dyled, eiddo tirol a mathau eraill o asedau. Mae’n darparu marchnadoedd ar gyfer amrywiaeth o swyddogaethau. Mae’r platfformau’n gallu cysylltu llawer o sefydliadau â’i gilydd, fesul unigolyn, fel y bydd modd rhannu’r llif busnes yn fewnol ac â phartneriaid allanol.
“Gellir ei ddefnyddio nid yn unig i wella'r system ddosbarthu i rwydweithiau sy’n bodoli eisoes ond hefyd i gyrraedd buddsoddwyr newydd a ffynonellau busnes drwy rannu cyfleoedd o dan reolaeth lawn ac mewn ffordd hyblyg."
Yn ogystal â chydweithio â chleientiaid yn y DU ac Ewrop, ar hyn o bryd mae Delio yn siarad â dau o brif sefydliadau ariannol y DU ynglŷn â chyflwyno eu gwasanaethau i fanciau eraill.
Mewn ychydig dros flwyddyn, mae Delio, sydd â swyddfeydd yn Llundain, wedi ennill cwsmeriaid yn Ewrop, gan agor swyddfa ym Mrwsel a gweithio ar brosiectau yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg, ac yn Awstralia.
Cafodd y cwmni gymorth gyda’r broses gwneud cais am grant gan Mike Fenwick, cyfarwyddwr grantiau Broomfield & Alexander, cwmni cynghori proffesiynau. Dywedodd Mike:
“Mae Delio yn enghraifft wych o fusnes technoleg ariannol sydd â photensial sylweddol i dyfu ac mae’n newyddion gwych bod y cwmni wedi penderfynu ehangu yng Nghymru dan nawdd Llywodraeth Cymru. Dymunaf bob llwyddiant i Gareth a’r tîm.”