Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Monitise International Ltd wrth iddo ehangu ei ganolfan gymorth a datblygu yn Nantgarw

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y prosiect ehangu, fydd yn gweld y cwmni arbenigol mewn gwasanaethau ariannol, yn cynnal 34 o swyddi uchel eu gwerth yng Nghymru yn ogystal â chreu 26 o swyddi newydd. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan gyllid busnes gwerth £527,000 gan Lywodraeth Cymru.

Ffocws y buddsoddiad i ehangu fydd datblygiad FINKit®, platfform cynhwysfawr yn y cwmwl a lansiwyd y llynedd ac a sefydlwyd yn benodol er mwyn i fanciau a sefydliadau gwasanaethau ariannol drawsnewid a chyflymu eu gwasanaethau digidol i gwsmeriaid.

Bydd y swyddi newydd yn cefnogi tîm datblygu FINKit® wrth iddo barhau i ddylunio, adeiladu, profi a gwasanaethu ei blatfform newydd. Mae FINKit® yn darparu diogelwch ar raddfa banciau a'i nod yw helpu banciau i arloesi'n gynt ac yn fwy cost-effeithlon a chyfathrebu gyda'u cwsmeriaid drwy ffonau clyfar, tabledi, cyfrifiaduron, teledu digidol, oriorau clyfar, neu unrhyw gyfrwng digidol arall. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:  

"Mae Fintech yn faes sydd â'r potensial i dyfu'n fawr, ac mae denu buddsoddiad i'r sector hon yn brif ffocws i strategaethau'r sector gwasanaethau TGCh a'r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

"Mae'r ffaith bod Monitise wedi dewis atgyfnerthu ei dîm yn Nantgarw, yn hytrach na chreu'r swyddi newydd hyn yn Llundain neu yn un o'i leoliadau eraill, yn dystiolaeth bod modd dod o hyd i'r arbenigedd a'r profiad yn ecosystem fintech yng Nghymru.

Dywedodd Will Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Ewrop yng Ngrŵp Monitise: "Mae cronfa nodedig o ddoniau technolegol yng Nghymru, ac yn benodol, yn ardal Caerdydd. Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi twf parhaus y diwydiant wrth i ni ehangu'r tîm o arloeswyr sy'n gweithio ar FINKit® i roi pŵer i fanciau ddarparu mwy o gynnyrch a gwasanaethau arloesol i'w cwsmeriaid."