Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni bach o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn creu adnoddau digidol rhyngweithiol ar gyfer y sector addysg yn un o’r pum buddugwr rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gamescom (17-21 Awst) yw’r ffair fwyaf yn Ewrop ar gyfer gemau ac adloniant rhyngweithiol, a bydd Eiry Thomas, a sefydlodd The Flitlits Ltd., yn cael cyfle ar Ddiwrnod Trwyddedu ‒ y diwrnod masnachu ar gyfer trwyddedu a datblygu gemau ‒ i hyrwyddo’i chynhyrchion gerbron darpar fuddsoddwyr, cyhoeddwyr a dalwyr trwyddedau cysyniadau. 

Bydd hefyd yn arddangos ochr yn ochr ag Ukie ‒ y corff masnachu ar gyfer y diwydiant gemau ac adloniant rhyngweithiol yn y DU ‒ a thîm diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru. 

Cafodd Eiry gymorth o Gronfa Datblygu Digidol Llywodraeth Cymru i greu cyfres o apiau rhyngweithiol dwyieithog sy’n seiliedig ar anturiaethau The Flitlits /Y Sbridion ‒ sef cymeriadau a greodd er mwyn helpu i wella sgiliau llythrennedd pobl ifanc.

Dywedodd: 

“Dw i’n hynod falch imi gael fy newis, drwy gystadleuaeth ryngwladol, i hyrwyddo fy nwyddau yn Gamescom. Bydda i’n siŵr o fynd ati i dynnu sylw at Gymru. Mae’n gyfle anhygoel imi gael mynd ati gerbron cynulleidfa ryngwladol i gyflwyno’r Flitlits, yr apiau a’r bwrdd, y gemau digidol a’r gemau ar gyfer yr ystafell ddosbarth dw i wrthi'n eu datblygu.

“Dw i wedi treulio sawl blwyddyn yn ymchwilio i’r cysyniad ac yn ei ddatblygu, ac mae’r cyfle hwn yn agor y drws at bartneriaethau posibl ac at y posibilrwydd o daro bargeinion trwyddedu a mynd â’r gwaith yn ei flaen i’r lefel nesaf. Dw i’n gobeithio y bydd fy syniadau’n cael sylw oherwydd dw i’n credu bod potensial aruthrol, ond mae dod i’r digwyddiad a chael gwneud cyflwyniad ynddo yn ddigon ynddo’i hun i helpu i sicrhau bod pobl yn adnabod y brand. Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio.”    

Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru anfon dirprwyaeth o gwmnïau gemau a chyfryngau digidol i Gamescom – bydd lle penodol i’r cwmnïau ar y stondin, a byddant yn gallu manteisio ar gymorth oddi wrth gynrychiolwyr UKIE, a chael cymorth gyda’u costau teithio.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates: 

“Mae’r diwydiannau creadigol yn un o sectorau allweddol economi Cymru ac mae gennym nifer o gwmnïau technegol clyfar iawn sy’n gwneud eu marc ym maes gemau ac adloniant. Byddwn yn mynd ati yn Gamescom i hyrwyddo’r arbenigedd sydd gennym yma yng Nghymru ac ’all y ffaith bod cwmni Eiry Thomas wedi cael ei ddewis ond helpu i roi proffil uwch inni yn y digwyddiad rhyngwladol hwn.”

Mae’r apiau, a gafodd eu lansio gan Apple, ar gael yn Gymraeg, Saesneg a Saesneg UDA a byddai modd eu cyfieithu a’u haddasu ar gyfer ieithoedd a gwledydd eraill. Mae India a Tsiena wedi dechrau dangos diddordeb eisoes ac yn UDA, maent wedi’u hardystio ar gyfer y cwricwlwm ysgolion. Dyfarnodd y grŵp US Teachers with Apps Wobr yr Apiau Enghreifftiol Gorau iddynt.  

Maent yn rhan o becyn amlgyfrwng unigryw y mae Eiry wedi’i ddatblygu sy’n cynnwys cyfres o lyfrau printiedig ac e-lyfrau, gwefannau rhyngweithiol ac adnoddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth a gemau addysgol.

Ymhlith rhai o’r cwmnïau o Gymru sy’n rhan o ddirprwyaeth fasnach Llywodraeth Cymru y mae Toxic Games o Gwmbrân, Vision Games Lab o Borth-cawl, Wales Interactive o Ben-coed, a West Coast Software o Aberystwyth.