Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni recriwtio o Gaerdydd, sy'n arbenigo mewn atebion technolegol ar gyfer cyfrifeg a chyllid, yn mynd i greu 61 o swyddi newydd, yn dilyn £250,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ddiweddar, dathlodd Recruit 121 Limited, brand a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sy'n canfod ac yn cyflwyno cyfrifwyr cymwys a rhannol gymwys i gwmnïau sy'n defnyddio meddalwedd SAP - system cynllunio adnoddau menter busnes - ei ben-blwydd yn 18 oed.

Ar ôl symud yn ddiweddar i swyddfeydd newydd yn Capital Tower, bydd y cwmni yn awr yn cychwyn ar gynllun ehangu dros gyfnod o bedair blynedd, gan dyfu ei dimau cyflawni mewnol a gwella ei wasanaethau o safon uchel i frandiau sefydledig fel BMW, Nestle, Ralph Lauren a Bosch.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Rwyf wrth fy modd bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn galluogi'r busnes ffyniannus hwn i greu 61 o swyddi newydd ac ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach ledled y byd. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol i fusnesau, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau Cymru ym mhob ffordd y gallwn i sicrhau eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol i dyfu a ffynnu.

“Mae'n wych gweld bod Recruit 121 hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru, gan weithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd ar raglen lawn amser dros gyfnod o ddwy flynedd ar waith, hyfforddiant ac astudiaethau academaidd sy'n unigryw i Gymru, gyda'r nod o recriwtio 40 o raddedigion er mwyn datblygu cronfa dalent o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. 

“Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol a buddsoddi mewn staff a graddedigion yn rhywbeth sydd wrth wraidd ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ac mae'n sicr wedi bod yn llwyddiannus i'r cwmni hwn yng Nghaerdydd. Rwy'n falch o weld cyllid Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y weledigaeth hon ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ehangu.”

Dywedodd Che Hookings, y Prif Swyddog Gweithredol:

“Fel sefydliad yng Nghymru, rydym yn falch o'n tîm talentog sy'n gweithio gyda'i gilydd i'n helpu i gyflawni ein dyheadau o ran twf. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ers peth amser ac rydym yn ddiolchgar iawn am ei chymorth.

“Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yng nghanol Caerdydd, mae Recruit 121 Group yn darparu amgylchedd gwaith rhagorol a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n canolbwyntio ar y cyflogai, gan fod yn fodel rôl i sefydliadau eraill ymgyrraedd ato.

“Mae'n bwysig i mi a'r tîm arweinyddiaeth ein bod yn parhau i adeiladu amgylchedd gweithio a diwylliant cydweithredol iawn.

“Rydym yn falch o'n sgôr 4.8/5 Glassdoor a'r ffaith y byddai 96% o'n tîm yn ein hargymell fel lle gwych i weithio. Wrth i Recruit 121 Group ddechrau ar gam nesaf ein gwaith ehangu, rydw i yr un mor gyffrous ynglŷn â datblygu ein tîm o weithwyr proffesiynol dawnus ag yr ydw i am gynorthwyo ein cleientiaid.