Busnes peirianyddol teuluol yn Nhredegar yw’r cyntaf i elwa o Gronfa Ad-daladwy BBaCh Llywodraeth Cymru.
Mae’r gronfa, sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau ym mhrif sectorau Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyllid ad-daladwy o rhwng £50,000 a £500,000 i BBaChau ac mae wedi’i chynllunio i fod yn gyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau, cyllid sydd wedi dod o gyllid preifat ar y farchnad fasnachol. Mae’r gronfa wedi ei chynllunio i helpu busnesau bychain a chanolig i ddatblygu a chreu swyddi.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi BBaCh yng Nghymru, ac mae’r Gronfa hon yn ychwanegol i’r gyfres bresennol o gymorth busnes sydd ar gael. Rwy’n falch iawn ei fod yn helpu M&J Europe – busnes brodorol teuluol – i ehangu a chreu swyddi sy’n talu yn dda iawn yn ardal Blaenau’r Cymoedd.”
Mae’r cwmni wedi ei leoli ar Ystad Diwydiannol Tafarnaubach, a bydd yn ehangu eu gyfleuster gweithgynhyrchu ac yn addasu’r safle i wella’r cynhyrchu, cynnwys ardal Ymchwil a Datblygu benodol a gwella’r gallu i ddyblu y trosiant.
Meddai Chris Garland o M&J Europe:
“Mae’r cyllid ad-daladwy hwn wedi rhoi yr hyder inni fynd ymlaen ac ehangu’r busnes, buddsoddi mewn offer newydd a chynyddu ein hallbwn. Byddwn yn gallu cynhyrchu yn fwy effeithiol ac effeithlon fydd yn ei dro yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth sydd hyd yn oed yn well i’n cleientiaid ledled Prydain. Rydym hefyd yn falch iawn o greu swyddi newydd yn yr ardal.”
Mae M&J Europe yn arbenigo mewn gwasanaethau trin deunyddiau, ac mae ganddynt brofiad eang mewn dylunio, gweithgynhyrchu a chomisiynu systemau cludo cyflawn. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig contractau cynnal a chadw a gwasanaethu yn ogystal â gwasanaeth rheoli prosiectau ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr.
Roedd y busnes yn targedu diwydiannau cloddio trwm yn wreiddiol fel mwyngloddio a chwarela ond ers hynny mae wedi arallgyfeirio i wasanaethu amrywiol ddiwydiannau sy’n rhan o awtomatiaeth bwyd, argraffu, prosesu, ailgylchu, fferyllol, cynyrhcu pŵer a phacio.
Mae’n cynllunio systemau pwrpasol i fodloni gofynion cwsmeriaid penodol, gan gynnwys dylunio a chynhyrchu armywiol gynnyrch fel systemau cludo, peiriannau pwrpasol, dulliau ffisegol o amddiffyn, rhodfeydd a llwyfannau ar gyfer amrywiaeth eang o gwmnïau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Abingdon Flooring, Braces Bakery, Rockwool, Wilkinson’s Distribution Centre, Siniat (Plasterboard Mills) a TRW ac ati.
Mae hefyd wedi buddsoddi llawer i ddatblygu nifer o beiriannau arbenigol newydd sydd yn y cyfnod prototeip cyn cynhyrchu.
Roedd y cwmni hefyd yn freintiedig i gael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu plac ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Caeredin ar agoriad swyddogol y Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy.