Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o Wrecsam yn elwa ar gefnogaeth Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a lles ei staff.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Wockhardt UK yn gwmni blaenllaw sy'n cyflenwi meddyginiaethau generig a brand i ysbytai, siopau a fferyllfeydd a chafodd help a chyngor gan Cymru Iach ar Waith, rhaglen sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu cyflogwyr, unigolion a gweithwyr iechyd o bob math.

Mae CIW yn helpu pobl o oed gweithio yng Nghymru i gadw'n ffit a iach er mwyn gallu para i weithio neu i fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch.

Mae Wockhardt UK yn cyflogi dros 400 o bobl a dechreuodd weithio at Safon Arian Iechyd Corfforaethol CIW trwy sefydlu grŵp llywio, ac yna tîm o wirfoddolwyr i gadw golwg ar ddatblygiad mentrau iechyd a lles.

Gyda help a chyngor CIW, mae'r cwmni erbyn hyn wedi llunio polisi gweithio hyblyg a chyflwyno therapi holistig, brechlynnau'r ffliw am ddim, holiadur am stres ac atgyfeiriadau i gael ffisiotherapi.

Dywedodd Lynn Roberts, cyfarwyddwr cynorthwyol adnoddau dynol Wockhardt:

"Trwy weithio at y wobr, gwnaethon ni weld pa agweddau ar yr amgylchedd gwaith roedd angen eu gwella er lles iechyd staff Wockhardt. Roedd yr help a chyngor a gawsom ni gan dîm Iechyd Cyhoeddus Cymru yn werthfawr iawn i'n helpu ni i ennill y wobr a hefyd, i gynnal a phara i wella ein strategaeth Iechyd a Lles.

Bydd Wockhardt UK yn dal ati i adolygu ei gynllun gweithredu a'r nod bellach yw cyflwyno swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, sefydlu grŵp i annog gweithwyr i wneud ymarfer corff a chodi ymwybyddiaeth am fwyta'n iach trwy gymryd rhan yn ymgyrchoedd diwrnodau ymwybyddiaeth cenedlaethol. Bydd hynny gobeithio yn ei helpu i ennill Safon Aur Iechyd Corfforaethol CIW.

Mae'r rhaglen CIW yn rhoi'r pwys mwyaf ar leihau effaith anhwylderau meddwl a chyhyrysgerbydol.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar ddechrau Uwchgynhadledd Iechyd yn y Gwaith Cymru yn Llandudno, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

“Mae  Wockhardt UK o Wrecsam yn enghraifft wych o fusnes sy'n cymryd camau i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles ei weithwyr.

"Mae byw bywyd iach yn ei gwneud yn bosib inni wireddu ein potensial a'n huchelgais a chwarae rhan lawn yn economi a chymdeithas Cymru. Mae gan Cymru Iach ar Waith ran hanfodol i'w chwarae yn hynny o beth a byddwn i'n annog pob busnes, mawr a bach, i gymryd rhan yn y rhaglen.

"Mae gweithlu iach yn newyddion da hefyd i'r busnes. Trwy fynd i'r afael â phroblem absenoldeb oherwydd salwch, bydd cyflogwyr yn elwa ar gadw mwy o'u staff, lleihau trosiant staff a chael gweithlu mwy cynhyrchiol a hapus.