Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni o Sir Ddinbych yn elwa ar gefnogaeth Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a lles ei staff.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Glyndŵr Innovations Ltd o Lanelwy wedi cael help a chyngor gan Cymru Iach ar Waith (CIW), rhaglen sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu cyflogwyr, unigolion a gweithwyr iechyd o bob math.

Mae CIW yn helpu pobl o oed gweithio yng Nghymru i gadw'n ffit a iach er mwyn gallu para i weithio neu i fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch.

Fel un o is-gwmnïau Prifysgol  Glyndŵr Wrecsam, roedd iechyd a diogelwch eisoes yn un o brif flaenoriaethau Glyndŵr Innovations Ltd sy'n cyflogi 18 o staff ac yn rheoli Canolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy.

Ond ar ôl gweithio gyda CIW i adolygu ei bolisïau a'i asesiadau risg a chymryd rhan mewn gweithdy, dysgodd y cwmni bwysigrwydd ystyried lles mewn ffordd holistig ac mae wedi gweithio i ennyn diddordeb ei weithwyr yn y pwnc. Fel cydnabyddiaeth o hynny, dyfarnwyd Gwobr Iechyd Efydd CIW y Gweithle Bach iddo.

Dywedodd Debbie Davies, rheolwr y ganolfan arloesi a busnes yn Glyndŵr Innovations Ltd:

"Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi ennill gwobr ansawdd genedlaethol am iechyd a lles yn y gwaith a hithau'n wobr mor uchel ei bri. Trwy weithio amdani, gwnaethon ni weld mor bwysig yw atal afiechydon fel anhwylderau cyhyrysgerbydol ac mae'r staff, o ganlyniad, lawer mwy ymwybodol nawr o'r help sydd ar gael.

Mae'r rhaglen CIW yn rhoi'r pwys mwyaf ar leihau effaith anhwylderau meddwl a chyhyrysgerbydol.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar ddechrau Uwchgynhadledd Iechyd yn y Gwaith Cymru yn Llandudno, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae Glyndŵr Innovations Ltd yn enghraifft wych o fusnes sy'n cymryd camau i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles ei weithwyr.

"Mae byw bywyd iach yn ei gwneud yn bosib inni wireddu ein potensial a'n huchelgais a chwarae rhan lawn yn economi a chymdeithas Cymru. Mae gan Cymru Iach ar Waith ran hanfodol i'w chwarae yn hynny o beth a byddwn i'n annog pob busnes, mawr a bach, i gymryd rhan yn y rhaglen.

"Mae gweithlu iach yn newyddion da hefyd i'r busnes. Trwy fynd i'r afael â phroblem absenoldeb oherwydd salwch, bydd cyflogwyr yn elwa ar gadw mwy o'u staff, lleihau trosiant staff a chael gweithlu mwy cynhyrchiol a hapus.