Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi ymweld â phencadlys newydd GM Jones Ltd (GMJ) yn Llanrwst
Mae GMJ yn buddsoddi £1.3m yn ei bencadlys newydd yn Llanrwst gyda chefnogaeth ariannol gwerth £400,000 gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru.
Bydd y gwaith ehangu yn galluogi i'r cwmni adeiladu greu 40 o swyddi a diogelu 46 arall. Mae'r cwmni ar hyn o bryd yn cyflogi dros 140 o staff.
Gwnaeth y cwmni gaffael tir ym Mharc Tŷ Gwyn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'r safle newydd 13,700 o droedfeddi sgwâr ac mae'r buddsoddiad diweddar gan GMJ wedi arwain at gwmnïau eraill yn buddsoddi ar y safle.
Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth helpu GMJ i ehangu. Dyma enghraifft wych o'r ffordd rydyn ni'n buddsoddi yn y diwydiant i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a chefnogi'r potensial i dyfu. Mae'r sector adeiladu yn allweddol i sicrhau economi lewyrchus yng Nghymru ac rwy'n falch y bydd buddsoddi mewn pencadlys newydd yn creu ac yn diogelu swyddi."
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol GMJ, Jenny Hudson:
"Rydyn ni'n profi twf parhaus a bydd ein safle newydd yn hanfodol bwysig i'r busnes. Bydd yn ein galluogi i wireddu ein potensial i dyfu ac yn rhoi'r adnoddau a'r gwagle inni ehangu. Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i fwrw ymlaen â'r buddsoddiad hwn a'n bwriad i greu swyddi newydd."