Neidio i'r prif gynnwy

Yn syth yn ôl pedalau Tom Pidcock a’i fedal aur yng Ngemau Olympaidd Paris, mae seren arall ym myd beicio mynydd Prydain yn newid gêr wrth ddatblygu busnes beicio rhyngwladol yn y Canolbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Atherton Bikes, sy’n eiddo i Dan, Gee a Rachel Atherton, dau frawd ac un chwaer, ei sefydlu yn 2019 ac mae eisoes wedi rhoi Cymru ar fap y byd cynhyrchu beiciau mynydd. Er mai dim ond pump oed yw’r cwmni, mae Atherton Bikes eisoes wedi helpu Charlie Hatton i ennill teitl Pencampwr Lawr Rhiw UCI y Byd yn 2023 ac Andreas Kolb i fod yn Bencampwr Ewrop yn 2024. Gwnaeth y ddau gael eu buddugoliaethau ar feiciau Atherton Bikes.

Mae gan y cwmni gynlluniau nawr i ehangu eto ac mae wedi cael pecyn o gymorth gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys cyngor ar allforio gan Busnes Cymru a chymorth ariannol o Gronfa Dyfodol yr Economi. Bydd hynny’n helpu’r tri i gyrraedd copaon eu maes ac ehangu eu cwmni cynhyrchu beiciau mynydd - sy' eisoes yn allforio 66% o'u beiciau.

Cyn sefydlu'r busnes roedd y tri eisoes wedi gadael eu marc ar y byd beicio mynydd, ar ôl ennill bron i 50 o gwpanau beicio mynydd y byd rhyngddynt. Does yr un teulu yn y byd wedi ennill cymaint o gwpanau yn hanes y beic!!

Mae'r cwmni'n defnyddio technoleg a ddefnyddir yn Fformiwla Un a'r diwydiant awyrofod a phrosesau a thechnolegau blaengar i gynhyrchu ei feiciau, gan allforio beiciau ledled y byd gan gynnwys i’r Almaen, y Swistir, Japan, Singapore, Awstralia, Seland Newydd a Chanada.

Mae Atherton Bikes nawr am symud i bencadlys newydd yn Nhreowain, Machynlleth, gyda chymorth arian o Gronfa Dyfodol yr Economi. Yn y fan honno, bydd yn gallu cynhyrchu mwy o’i feiciau carbon drutach a mwy hefyd o’i feiciau alwminiwm mwy fforddiadwy. Bydd y prosiect yn creu hefyd un ar ddeg o swyddi newydd, gan ddarparu cyfleoedd gwaith o safon yn y Canolbarth a datblygu'r sgiliau’r gymuned leol.

Mae'r cwmni hefyd yn cefnogi economi ehangach Cymru, gan symud rhannau pwysig o'r gadwyn gyflenwi i wneuthurwyr yng Nghymru. Mae'r teulu yn berchen hefyd ar Barc Beicio Dyfi sy'n denu cannoedd o ymwelwyr bob wythnos i ardal Machynlleth. Mae’r Parc yn cael ei ddefnyddio hefyd fel maes profi ar gyfer cynnyrch newydd.

Dywedodd Dan Brown, Pennaeth Atherton Bikes: ‌

"Dim gorddweud yw ei bod wedi cymryd oes i greu’r cwmni hwn. Adeiladais fy meic cyntaf ym 1992 pan oeddwn yn 10 oed. A ninnau’n hen gyfarwydd â gweithio fel tîm erbyn hyn, mae pob un ohonon ni wedi breuddwydio am weithio yr un mor galed i ddatblygu’n beiciau ag y gwnaethon ni wrth wthio’r ffiniau ar draciau beicio’r byd am 20 mlynedd. Mae Atherton Bikes yn gweld y freuddwyd honno'n dod yn wir, a chyda chymorth Llywodraeth Cymru rydym hefyd yn talu’n dyled i’r gymuned sydd wedi ein cefnogi ni bob cam o’r ffordd."

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae Atherton Bikes yn sicr yn stori o lwyddiant i Gymru, gyda Dan, Gee a Rachel yn gwthio'r ffiniau ar ac oddi ar y trac beicio. Mae'r cwmni'n cystadlu ar lefel fyd-eang, a bydd y cymorth hwn yn ei helpu i estyn ei derfynau hyd yn oed ymhellach. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y cwmni ac ar y gadwyn gyflenwi ehangach, yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith newydd mewn ardal wledig.

"Un peth sy’n amlwg yw angerdd tîm Atherton Bikes dros gynhyrchu beiciau mynydd a hefyd dros sicrhau bod y Canolbarth yn rhan bwysig o’u cynlluniau ar gyfer parhau i arloesi yn y dyfodol."