Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni cyfreithiol o Gymru sy’n amlwg yn rhyngwladol am ddelio â throseddau Eiddo Deallusol i sefydlu pencadlys newydd rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae CJCH Solicitors, a luniwyd yn 2013 wrth i’r cwmni o Fro Morgannwg, Colin Jones Solicitors a’r cwmni o Gaerdydd, Clarke & Hartland gyfuno, cwmni sydd eisoes ag adran Atal Lladrata a Chydymffurfio lwyddiannus iawn ac sy’n gweithio gyda nifer o gleientiaid amlwg ledled y byd.  

Bydd arbenigedd yr adran hon bellach yn rhan ganolog o’r busnes newydd  - CJCH Ltd – cwmni gwasanaethau cyfreithiol byd-eang ym maes Eiddo Deallusol sydd â phencadlys yng Nghaerdydd.  

Caiff y buddsoddiad gymorth £432,000 gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y busnes newydd hwn i Gymru a chreu 71 o swyddi newydd erbyn 2020.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae lladrata eiddo deallusol, allai amrywio o ddwyn hawlfraint i nwyddau ffug, yn broblem sy’n gwaethygu ledled y byd, a gallai wneud difrod mawr i fusnesau, i’w brandiadu gwerthfawr ac i’r economi.  

“Mae’n newyddion da bod CJCH Solicitors – cwmni cyfreithiol o Gymru – eisoes yn chwarae rhan allweddol wrth geisio delio â’r troseddau hyn, a’u rhwystro, trwy ddatblygu, arloesi a darparu gwasanaethau gwrth-ladrata eiddo deallusol, sydd bellach yn ehangu ac yn creu cwmni newydd yn y farchnad arbenigol hon.  

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r buddsoddiad hwn – mae pencadlys Swyddfa Eiddo Deallusol y DU eisoes yng Nghasnewydd, a bydd y datblygiad newydd hwn yn gwella sefyllfa Cymru fel gwlad sy’n arwain ym maes Eiddo Deallusol, yn ogystal â bod yn ganolfan arloesi ym maes y gyfraith a diogelwch seibr.”  

Ychwanegodd y bydd y buddsoddiad yn creu swyddi sy’n galw am sgiliau datblygiedig iawn, gyda chyflogau uchel a chyfleoedd am waith i raddedigion y gyfraith yn ogystal â graddedigion TG diogelwch seibr/fforensig.  

Meddai Stephen Clarke, Prif Bartner, CJCH Solicitors:  

"Mae Tîm CJCH yn falch o fod yn gysylltiedig â datblygiad angenrheidiol o’r fath, ac yn teimlo’n gyffrous i fod mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.  

“Ers amser bellach mae ein tîm wedi bod yn gysylltiedig â’r bwlch cynyddol ym maes ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Seibr, Eiddo Deallusol a Diogelu data ac yn barod i gynnal busnes yn y maes.  Rydym wedi sicrhau mai ein prif nod yw cydweithio â nifer o’n partneriaid, megis Prifysgol Aberatwe, i leihau’r bwlch hwn, yn benodol drwy arwain ar ddatblygu yr arferion a’r syniadau gorau o fewn y gymuned yng Nghymru, a Phrydain.   

“Nid yw troseddau seibr yn mynd i ddiflannu, yn hytrach byddant yn datblygu, gan ddod yn fwy soffistigedig, bygythiol ac ymledu’n gyflym.  Ein nod yw sicrhau ein bod gam ar y blaen i’r troseddwyr ar-lein a cheisio diogelu Eiddo Deallusol y gymuned fyd-eang.”  

Mae gan CJCH Ltd bartneriaethau â chwmnïau rhyngwladol megis Dassault Systemes o Ffrainc ac AVEVA group plc.

Bydd ei bencadlys ar Columbus Walk yn gwmni gwahanol i’r prif gwmni cyfreithiol, ac ar lawr gwahanol, gyda’i wefan a’i nodweddion ei hun.