Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni gweithgynhyrchu Flamgard Calidair o Bont-y-pŵl wedi ennill contract gydag adeilad cyfyngu diogel newydd Chernobyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Flamgard yn darparu dampers tân a rhai sy'n cau i safle Chernobyl, sef strwythur symudol mwyaf y byd a ddyluniwyd i hwyluso'r gwaith o fonitro a dymchwel yr adeilad cyfyngu blaenorol yn dilyn trychineb 1986. Mae'r adeilad hefyd yn diogelu'r deunydd ymbelydrol sy'n weddill. Bydd y prosiect peirianneg amlwladol sy'n werth €1.5bn yn cael ei reoli gan y contractwr rhyngwladol Novarka ac yn cael ei weithredu ddiwedd 2017. 

Er mwyn cyflawni'r contract, roedd yn rhaid i Flamgard gael cyllid ychwanegol i dalu bond ymlaen llaw, ac mae hyn yn her gyffredin i allforwyr. Llwyddodd y cwmni i sicrhau'r arian drwy ei fanc, Lloyds. Cafwyd sicrwydd gan Gyllid Allforio y DU ac felly nid oedd angen blaendal. Cafodd y dampers tân pwrpasol eu datblygu gyda chymorth grantiau ymchwil a datblygu Llywodraeth Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth arloesi parhaus i Flamgard dros nifer o flynyddoedd gan gynnwys cymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gefnogi'r gwaith o ymchwilio i gynnyrch technegol uwch a'u datblygu, yn ogystal ag offer er mwyn galluogi i'r busnes fodloni'r galw byd-eang cynyddol am ei gynnyrch.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i Lywodraeth Cymru, Ken Skates: 

"Mae Flamgard yn gwmni arloesol iawn sydd ag enw da ar draws y byd am ragoriaeth. Mae ar flaen y gad o ran cyflenwi dyfeisiau diogelwch critigol ac mae'n enghraifft wych o'r arbenigedd sydd gennym yn y sector gweithgynhyrchu a deunyddiau uwch yng Nghymru.

"Mae'r cwmni bellach yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn ymchwil a datblygu ac rwy'n falch iawn bod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i roi Flamgard ar flaen y gad mewn diwydiant arbenigol iawn." 

Bu Flamgard hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe o dan raglen Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE) sy'n rhoi mynediad i weithgynhyrchwyr Cymru i arbenigedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf ym maes gweithgynhyrchu uwch ym mhob un o wyth o Brifysgolion Cymru, a daw rhan o'r arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Flamgard: 

"Dyma gontract rhyngwladol enfawr i Flamgard. Rydym yn gallu ymgymryd ag ef gyda chymorth Cyllid Allforio y DU, Llywodraeth Cymru a Grŵp Bancio Lloyds. Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i gael gan y llywodraeth a'r sector preifat wedi ein helpu i fod yn uchelgeisiol mewn marchnad fyd-eang." 

Croesawyd y cyhoeddiad gan y Gwir Anrh. Greg Hands AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Masnachu Rhyngwladol/Lois Taylor, Prif Swyddog Gweithredol, Cyllid Allforio y DU gan ddweud: 

"Mae'r llwyddiant hwn yn dangos bod byd o gyfleoedd ar gael i gwmnïau arloesol sy'n edrych tuag allan fel Flamgard. Ond pan fo angen eich arbenigedd ar y byd, mae'n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi, ac rwy'n falch iawn y bu modd i Lywodraeth y DU, drwy Gyllid Allforio y DU, ein helpu i sicrhau bod modd allforio’r cynnyrch arbennig hwn."

Dywedodd David Williams, rheolwr cysylltiadau Bancio Masnachol Lloyds: 

“Bydd technoleg arloesol Flamgard yn cael effaith enfawr ar brosiect cymhleth iawn Chernobyl. Roedd angen cyllid arbenigol arno i ddechrau er mwyn sicrhau’r contract a thrwy gydweithio ag UKEF roedd modd i ni ddarparu’r pecyn cyllid hyblyg sydd ei angen.”