Mae bron £2.5 miliwn wedi'i gymeradwyo i helpu busnesau o Gymru i addasu i heriau Brexit ers i Raglen Llywodraeth Cymru, Cydnerthedd Busnes Brexit gael ei lansio y llynedd, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi.
Mae cyfanswm o 51 o gwmnïau cymwys wedi eu cymeradwyo ar gyfer cyllid o rhwng £10,000 a £100,000 fel rhan o Gronfa Grant Cydnerthedd Busnes Brexit, fel y gallent fuddsoddi i oresgyn yr heriau presennol sy'n gysylltiedig â Brexit.
Ymhlith y cwmnïau sydd wedi elwa o'r cymorth, mae'r cwmni meddygol o'r Drenewydd, Splice Cast- sy'n cynhyrchu cyfres amlwg iawn o offerynnau canfod canser ceg y groth sy'n gallu achub bywydau.
Wedi sylweddoli y byddai effaith negyddol posibl ar eu trefniadau a'u cyflenwadau, gwnaeth y cwmni gais am Grant Cydnerthedd Brexit o £48,595.
Roedd hyn yn galluogi'r cwmni i fuddsoddi mewn lle ychwanegol mewn warws i ddal stociau mwy o ddeunyddiau crai a nwyddau wedi'u cwblhau i'w gwarchod rhag yr oedi ar ffiniau a tharfu ar gyflenwadau.
Meddai Duncan Morren, Rheolwr-gyfarwyddwr Splice Cast:
"Mae angen inni gyflenwi i amserlen gaeth gan bod clinigau y GIG yn defnyddio ein cynnyrch, ac mae'n hanfodol bod gennym stociau. Byddai'r oedi posibl wrth gyflenwi deunyddiau a'u cael o Ewrop ac ymhellach, yn argyfyngus gan y gallem golli contractau a gorfod talu iawndal. Rydyn ni eisoes wedi cael cais am brawf o'n gallu i rwystro problemau posibl gyda'r cyflenwad ac mae cadw stoc mwy yn dod yn hanfodol.
"Mae cymorth gan y Grant Cydnerthedd Brexit wedi bod yn gam hollbwysig wrth ein gwneud yn barod ar gyfer Brexit a'r anawsterau posibl gyda'r cyflenwad, yn ogystal â chadw ein cwsmeriaid a'n contractau presennol.l Mae'r cymorth yn ddefnyddiol iawn, ac mae'n beth da i wybod bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithgynhyrchu meddygol. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cymorth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn parhau i achosi ansicrwydd mawr o fewn ein heconomi, gan fygwth swyddi a bywoliaeth pobl.
"Mae nifer o fusnesau wedi manteisio ar y Gronfa Grant Cydnerthedd Brexit a sefydlwyd gennym i helpu i sicrhau bod ein heconomi yn barod at y dyfodol ac i gydweithio â'r sector busnes i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau.
"Mae'n amlwg bod y cymorth hwn yn helpu cwmnïau ledled Cymru i ymdopi â phroblemau a'r ansicrwydd yn union wedi Brexit ac i ddatblygu dulliau newydd o gydweithio ac arloesi. Hoffwn annog unrhyw gwmni o Gymru i ddod i wybod sut y gall Busnes Cymru helpu iddynt reoli a pharatoi ar gyfer ansicrwydd parhaus Brexit.
Mae Cronfa Grant Cydnerthedd Busnes Brexit wedi ei ddefnyddio erbyn hyn, ond mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod mwy o gyllid ar gael.
I ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael ewch i Busnes Cymru.