Mae Aon, sef cwmni blaengar ym maes gwasanaethau proffesiynol byd eang sy'n darparu gwahanol wasanaethau risg, ymddeoliad ac iechyd, yn agor swyddfa yng Nghaerdydd.
Mae prifddinas Cymru eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau Cymreig blaengar gan gynnwys Admiral, Go Compare a Deloitte.
Mae'r ffaith bod cymaint o staff talentog ar gael yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant y sector yng Nghymru. Mae'r gallu i fod yn rhan o brosiectau hyfforddiant a chyflogadwyedd gan gynnwys Rhaglen lwyddiannus Cymru i Raddedigion ym maes Gwasanaethau Ariannol yn galluogi'r sector yng Nghymru i gadw'r graddedigion Cymreig mwyaf disglair.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae ymrwymiad wrth galon Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi i ddatblygu perthynas newydd a deinamig rhwng y Llywodraeth a busnesau sy'n seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol.
"Mae'r ansawdd bywyd y gall pobl sy'n byw a gweithio yng Nghaerdydd ei fwynhau wedi'i hen gydnabod gan gyflogwyr; golyga cysylltiadau ffordd, trên ac awyr rhagorol ynghyd â thai fforddiadwy ac addysg a chyfleusterau diwylliannol heb eu hail mai Caerdydd yw un o'r lleoliadau mwyaf deniadol yn Ewrop ar gyfer y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.
"Pleser yw croesawu Aon a bydd yn ymuno â rhestr sy'n prysur dyfu o gwmnïau uchel eu bri ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sydd wedi profi twf a ffyniant yma. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â nhw wrth i ni greu Cymru sy'n fwy teg a chyflawni ein huchelgais o sicrhau ffyniant i bawb."
Dywedodd Martyn Denney, Rheolwr-Gyfarwyddwr Aon Affinity:
"Mae gan Gaerdydd sector gwasanaethau ariannol ac yswiriant ffyniannus a chadarn a all wasanaethu cwsmeriaid mewn modd rhagorol. Roedd y ffactorau hyn yn rhai allweddol wrth i'r cwmni benderfynu agor swyddfa yn y ddinas. Rydym yn edrych ymlaen at ddod â'n busnes i Gymru."