Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi llongyfarch y cwmni digidol o Gaerdydd, Object Matrix, ar ennill archebion allforio gwerth £2 miliwn gan wledydd megis Brasil, UDA, Sweden a Colombia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Object Matrix yn enwog am ei blatfform digidol ar gyfer cynnwys sy’n ymwneud â gofynion llywodraethu, MatrixStore, sy’n storio cynnwys digidol ac yn darparu amddiffyniad a llywodraethu am oes. 


Gall sefydliadau mewn unrhyw farchnad ddefnyddio’r platfform MatrixStore ond ar hyn o bryd mae’n cael ei ddefnyddio fwyaf gan gwmnïau sy’n creu, gwarchod a dosbarthu deunydd fideo digidol. Ymhlith y sefydliadau adnabyddus sy’n defnyddio’r platfform mae NBC Universal, France Televisions, Orange ac EDF.  


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 


“Mae’r ffaith bod Object Matrix wedi llwyddo i fachu £2 miliwn o archebion gan amryw o farchnadoedd rhyngwladol yn dipyn o gamp. Hoffwn i longyfarch cyfarwyddwyr a gweithwyr y cwmni’n wresog ar eu llwyddiant. 


“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag Object Matrix, gan ddarparu cymorth a chyngor i helpu’r cwmni i ddatblygu ac ehangu cangen allforio ei fusnes. 


“Mae llwyddiant parhaus y cwmni’n esiampl wych i gwmnïau eraill. Mae’n dangos bod cael y cyngor a’r cymorth iawn yn gallu helpu busnesau yng Nghymru i ehangu a manteisio ar farchnadoedd newydd”. 


Dywedodd Nick Pearce-Tomenius, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Object Matrix:


“Yn naturiol, mae angen ar ddarparwyr cynnwys, boed yn ddarlledwyr mawr neu’n gwmnïau bach nad ydynt yn defnyddio fawr o ddeunydd fideo, rywle i gadw eu fideos yn ddiogel. Ond hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw allu cael gafael yn hawdd ac yn ddiogel ar y fideos sydd wedi’u storio, heb ymdrech fawr. 


“A dyna beth mae MatrixStore yn ei wneud, yn ogystal â darparu gwasanaeth awtomataidd ac integredig sy’n sicrhau y gall busnes barhau mewn argyfwng. Er enghraifft, hyd yn oed os byddwch yn colli’ch holl gyflenwad ynni, bydd modd ichi barhau i reoli cynnwys eich busnes.


“Mae’r platfform yn cynnig nifer o fanteision i sefydliadu sydd angen archifo, trefnu a dosbarthu llawer o ddeunyddiau ond sydd am i’w staff weithio ar swyddogaethau uwch eu gwerth. Mae’r cwmni’n darparu cwmwl preifat ar y safle neu y tu allan iddo sy’n gallu tyfu wrth i’ch cwmni chi dyfu, ac yn unol â'ch gofynion chi. Mae hefyd yn darparu platfform llwyddiannus a dibynadwy sy’n sicrhau y gall busnes barhau, a lefelau uchel o ddiogelwch.


Ar y dechrau, roedd Object Matrix yn canolbwyntio ar werthu yn y DU. Yn 2009, ar ôl denu nifer o gwsmeriaid megis y BBC, BT a Gorilla, roedd yn awyddus i allforio. Felly, ymwelodd â’i farchnad dramor gyntaf, yn Ffrainc. Dyma Nick yn esbonio: 

“Mae’n syniad da eich profi’ch hunain yn lleol cyn ceisio llwyddiant byd-eang. Gan fod gennym gwsmeriaid dibynadwy yn y DU, y cam nesaf naturiol i’n busnes oedd allforio. Mae allforio wedi trawsnewid ein busnes. Nid yn unig y mae’n gwerthiant wedi cynyddu ond hefyd rydyn ni wedi llwyddo i elwa ar farchnadoedd a thueddiadau newydd.” 

“Gall allforio ymddangos fel tipyn o her ar y dechrau. Ond y prif wersi inni eu dysgu yw pwysigrwydd cael partneriaid da, dyfalbarhau ac ymweld â’ch marchnad. Hefyd, defnyddiwch y cymorth sydd ar gael. Yn bendant, rydyn ni wedi elwa ar gyngor a chymorth Llywodraeth Cymru.