Neidio i'r prif gynnwy

O ganlyniad i gael cymorth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, bydd Hotpack Packaging LLC, cwmni deunydd pacio bwyd o Dubai, yn ehangu ei fusnes i Wrecsam, gan greu 250 o swyddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, bod Hotpack Ltd eisoes wedi prynu eiddo a thir ar Ystad Ddiwydiannol Llai yn Wrecsam, gyda’r bwriad o greu 250 o swyddi gweithgynhyrchu a swyddi warws ar y safle dros y tair i bum mlynedd nesaf. 


Ar ôl 22 o flynyddoedd o ehangu ers ei sefydlu yn y Dwyrain Canol, roedd tîm rheoli Hotpack yn chwilio am leoliad gweithgynhyrchu addas yn Ewrop. Penderfynodd y cwmni symud i’r Gogledd ar ôl derbyn cymorth a chyngor gan Lywodraeth Cymru dros nifer o fisoedd, yn ogystal â benthyciad o £1.5 miliwn drwy Cyllid Cymru, sydd bellach yn fanc datblygu cyntaf y DU. 


Y benthyciad hwn yw’r cyntaf yn y Gogledd o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, dan nawdd Llywodraeth Cymru, cronfa sy’n werth £100 miliwn.


Mae’r cwmni wedi canmol y cymorth a gafodd gan Lywodraeth Cymru a Cyllid Cymru a’i helpodd i ddewis safle yng Nghymru yn wyneb cystadlu cryf gan Slofacia a gwledydd eraill Ewrop. 


Disgwylir i safle Hotpack yn y Gogledd ddenu buddsoddiad gwerth £50 miliwn i’r rhanbarth. 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Dw i wrth fy modd bod Hotpack Ltd wedi penderfynu symud i Wrecsam yn dilyn cyfnod o gydweithio â Llywodraeth Cymru a chael £1.5 miliwn drwy’r banc datblygu. 

“Gyda’i gynllun busnes sy’n cynnwys creu 250 o swyddi dros y 3 blynedd nesaf, dw i’n hyderus y bydd Hotpack yn dod â manteision go iawn i’r economi a chymuned leol, a dw i’n edrych ymlaen at ymweld â’r cyfleuster newydd ar ôl iddo agor.


“Dyma esiampl o beth sy’n cael ei gyflawni pan fydd busnesau’n gallu elwa ar y cyngor a’r cymorth sydd ar gael. Fis diwethaf, roeddwn yn falch o gael lansio Banc Datblygu Cymru, a fydd yn rhoi mantais inni wrth gystadlu yn y DU. O’i herwydd, dw i’n hyderus y byddwn ni’n fwy llwyddiannus byth o ran creu swyddi yng nghymunedau ledled Cymru.


Dywedodd Mr Abdul Jebbar, Cyfarwyddwr byd-eang Hotpack Packaging: 

“Ers ein hymweliad cyntaf â’r wlad, mae pobl Cymru, ac yn benodol bobl Wrecsam, wedi cynnig lefel hynod uwch o gymorth inni, yn bersonol ac yn fasnachol. 

Roedd y cymorth a gawson ni gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig, a chan wleidyddion eraill a Chyngor Wrecsam wedi creu argraff fawr arnon ni. Mae tîm cymorth busnes Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â ni yn ystod ein hymweliadau ymchwil. Nawr ein bod wedi prynu’r safle, rydyn ni wedi dechrau’r gwaith datblygu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael perthynas hir a llewyrchus â phobl a busnesau Cymru.”

Dywedodd Rhodri Evans, Rheolwr Rhanbarthol y Gogledd, Banc Datblygu Cymru:

“Mae’n newyddion gwych mai’r cwmni cyntaf yn y Gogledd sy’n elwa ar Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yw un sydd â’r potensial i ehangu’n fawr yn yr ardal.  Drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu darparu’r arian i helpu i ddenu busnes sy’n ehangu i Gymru a dewis Wrecsam fel ei safle cyntaf yn y DU.”