Neidio i'r prif gynnwy

Mae estyniad gwerth £2m wedi dyblu maint safle gweithgynhyrchu Ready Foods yng Nghaernarfon ac wedi creu dros 25 o swyddi, a hynny diolch yn rhannol i gymorth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma gam cyntaf ymgyrch fawr i gynyddu trosiant ac allbwn, gwella effeithlonrwydd a lleihau costau.

Mae'r buddsoddiad hefyd wedi creu mwy o swyddi na'r disgwyl. Rhoddwyd grant o £320k o Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru i'r cwmni i helpu'r buddsoddiad cyfalaf a diogelu 73 o swyddi. Ers hynny, mae'r cwmni wedi creu dros 25 o swyddi ac mae nawr yn cyflogi bron 100 o bobl.

Wrth ymweld â Ready Foods heddiw i nodi lansiad yr estyniad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi estyniad y cwmni. Ar ben y swyddi newydd sydd wedi'u creu, bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i ddiogelu dyfodol cynaliadwy hirdymor y cwmni yn y dref.

“Mae Ready Foods yn gyflogwr pwysig yng Nghaernarfon sy'n gwneud cyfraniad pwysig at yr economi leol, hynny'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Dyna pam mae'r buddsoddiad hwn yn gymaint o newyddion da.”

Yn ogystal ag ailwampio a dyblu maint y ffatri, mae'r estyniad hefyd wedi cynyddu'i chapasiti. Mae bellach le i'r busnes dyfu ac mae hefyd wedi buddsoddi yn y dechnoleg a'r offer diweddaraf.

Ar hyn o bryd mae Ready Foods yn cynhyrchu 70,000 o unedau y dydd a'r nod yw cynyddu hyn i 150,000 y dydd ymhen dwy flynedd.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Iwan Thomas: 

“Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein safle, mae gennym dîm cryf o reolwyr ac rydym yn creu swyddi o ansawdd uwch. Heb gymorth Llywodraeth Cymru, mae'n annhebyg y byddai ein cynlluniau wedi mynd yn eu blaen i'r fath raddau ac inni allu diogelu dyfodol y safle hwn.  

“Rydym nawr yn bwriadu gweithio'n fwy effeithlon, cychwyn ar raglen gwella parhaus a datblygu'r safle i gynyddu capasiti a gwerthiannau i fodloni gofynion technegol cwsmeriaid o ran ansawdd, cost a gwasanaeth.”

Mae Ready Foods yn cyflenwi bwyd i'r diwydiant tafarndai a bwytai ledled y DU ac mae ganddo nifer o gleientiaid proffil uchel, gan amrywio o grŵp o fwytai uchel ei barch i gyfanwerthwyr a manwerthwyr. Mae pob cynnyrch yn cael ei greu ar y safle ac mae ryseitiau arbennig yn cael eu datblygu ar gyfer cwsmeriaid unigol. 

Mae Ready Foods, sy'n rhan o'r Grŵp Meadow Vale, yn cefnogi nifer o swyddi yn sector gwasanaethau'r ardal. Mae'n chwarae ei ran yn y gymuned leol, gan gefnogi a noddi sefydliadau ac elusennau lleol.