Neidio i'r prif gynnwy

ActiveQuote – un o’r cwmnïau FinTech sy’n datblygu gyflymaf ym Mhrydain – yn buddsoddi £2 filiwn i ddatlbygu platfform cynghori blaenllaw ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ActiveQuote wedi sicrhau twf sylweddol dros y dair blynedd ddiwethaf gan ei fod yn un o’r cwmnïau mwyaf sy’n cynnig yswiriant iechyd ar-lein.  Bydd y buddsoddiad diweddarfa hwn yn caniatâu i ActiveQuote gymharu ar-lein yn well drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu cwsmeriaid drwy’r broses o gymharu prisiau.  

Mae’r buddsoddiad, gydag oddeutu £400,000 o’r Gronfa Twf a Ffyniant, yn sicrhau bod yr ehangu yn digwydd yng Nghymru, a bydd yn creu hyd at 70 o swyddi, gan olgyu y bydd oddeutu 190 yn gweithio yn ActiveQuote.   

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

“Mae tri o’r cwmnïau FinTech amlycaf yn y DU - GoCompare, Confused.com & MoneySupermarket.com – yn gwmnïau o Gymru ac sydd â’u pencadlys yma, ac mae ActiveQuote yn bartner hirdymor y cwmnïau llwyddiannus hyn o Gymru.  

“Mae gan Gymru enw da sy’n datblygu erbyn hyn fel lleoliad perffaith ar gyfer y sector FinTech, ac ar lefel Ewropeaidd, mae Cymru yn amlwg iawn ac yn cael ei chydnabod fel enghraifft o dechnoleg safle ar y we i agregwyr ariannol.    

Mae ActiveQuote yn bwysig yn strategol ac yn aelod gwerthfawr o’n clwstwr FinTech ac mae wedi gweld twf sylweddol trwy barhau i fuddsoddi ac arloesi.  Rwy’n falch y bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ActiveQuote yn parhau i ddatblygu yma yng Nghymru.”

Meddai Rob Saunders, Rheolwr-gyfarwyddwr ActiveQuote: 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus yn yr hyn yr ydym am ei gyflawni yma yn ActiveQuote.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ym maes FinTech, ac mae ActiveQuote yn anelu at fod ar y blaen gyda’r datblygiadau hyn.  Ymunais â’r cwmni ddeufis yn ôl ac mae’r uchelgais a’r awydd sydd gan ein tîm wrth arwain y ffordd ar gyfer arloesedd digidol yn y farchnad yswiriant wedi creu argraff arnaf.  Golyga’r buddsoddiad hwn y gallwn wireddu ein cynlluniau cyffrous o’r genhedlaeth nesaf o ddulliau o gymharu prisiau yswiriant.”   

Dechreuodd y cwmni fel tim o ddau, ac ers ei gychwyn yn 2009, mae ActiveQuote wedi bod yn flaenllaw iawn ym maes broceriaeth yswiriant ar-lein ar gyfer defnyddwyr, gan ddatblygu ei wasanaeth i’r byd digidol.  

Roedd yn un o’r cwmnïau cyntaf i gymharu prisiau yswiriant iechyd, gan gymharu polisïau a manteision a helpu cwsmeriaid ddod o hyd i’r yswiriant a fyddai’n bodloni eu hanghenion a’u cyllideb. 

Mae bellach yn un o brif safleoedd cymharu y DU, ac mae’n cynnig gwasanaeth broceriaeth ar gyfer cynnyrch yswiriant gan gynnwys iechyd, diogelu incwm, yswiriant bywyd, a salwch critigol, tra bod ei dechnoleg yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif wefannau cymharu prisiau y DU.  

Mae ActiveQuote yn datblygu system gynghori newydd sy’n defnyddio technoleg flaenllaw ar gyfer ei gynnyrch yswiriant ar-lein, fydd yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid eu defnyddio, yn golygu bod modd cymharu’n gyflymach ac yn rhoi fwy o ddewis i gwsmeriaid.    

Yn 2014, cefnogodd Llywodraeth Cymru ActiveQuote trwy ddarparu £600,000 o gyllid busnes i greu 74 o swyddi yn ei bencadlys ym Mae Caerdydd.