Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Rhif 1 Cwr y Ddinas – yr adeilad Gradd A a gafodd ei gaffael yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ysgogi datblygiad swyddfeydd o’r radd flaenaf yn Ardal Fenter Caerdydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr adeilad 79,500 troedfedd sgwâr, y mae ei holl swyddfeydd wedi’u gosod, ei adeiladu fel datblygiad tybiannol gan JR Smart a chafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013 am £14 miliwn.  

Roedd datblygu’r swyddfeydd Gradd A newydd yn agwedd allweddol ar y strategaeth i sicrhau mai Ardal Fenter Canol Caerdydd fyddai un o brif leoliadau’r DU ar gyfer y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. 

Roedd caffael Rhif 1 Cwr y Ddinas yn golygu bod modd sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gwblhau’n gyflym, gan ddarparu swyddfeydd o’r radd flaenaf yr oedd gwir eu hangen ar gyfer denu buddsoddiad a swyddi newydd. Ar y pryd nid oedd ond un cynllun swyddfeydd Gradd A ar waith yn y ddinas a oedd wedi’i gwblhau ac a oedd ar gael.

Er mwyn sicrhau bod rhagor o swyddfeydd o safon yn cael eu darparu cefnogodd Llywodraeth Cymru JR Smart i adeiladu a chyllido datblygiad swyddfeydd gradd A arall dros 85,000 o droedfeddi sgwâr ar lain cyfagos drwy ddefnyddio Grant Datblygu Eiddo. 

Mae’r adeilad a gydnabyddir fel ‘Da Iawn’ gan BREEAM bellach yn gwbl lawn ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar drydydd datblygiad swyddfeydd dros 75,000 o droedfeddi sgwâr. Mae maes parcio sy’n cynnig 300 o leoedd hefyd yn cael ei ddatblygu.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Mae Ardal Fenter Canol Caerdydd yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae gwerthiant Rhif 1 Cwr  y Ddinas yn tystio i hyn. Yn ddiamau roedd buddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru’n ysgogiad a gwnaeth yn sicr ennyn hyder yn y farchnad. Canlyniad hyn yw buddsoddiad sylweddol mewn datblygiadau mawr yn y ddinas. 

“Mae darparu swyddfeydd o’r radd flaenaf wedi cyfrannu at lwyddiant Ardal Fenter Canol Caerdydd, ac wedi galluogi busnesau presennol yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol i ehangu a denu mewnfuddsoddiad newydd.” 

Cafodd Global Gate Capital gyngor gan Bilfinger GVA ac mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o strategaeth ehangach o fuddsoddi mewn adeiladau o safon o fewn lleoliadau craidd yn y DU. 

Knight Frank oedd asiantwyr Llywodraeth Cymru a gwnaeth Blake Morgan ddarparu’r cyngor cyfreithiol. Swyddfa Belfinger GVA yn Llundain a weithredodd ar ran y prynwr. 

Yn ogystal â Chwr y Ddinas, mae Cynllun Sgwâr Canolog Rightacre, sy’n gwbl arloesol ac a gefnogir gan y buddsoddwr Legal & General, yn parhau i ddenu tenantiaid newydd, gan gynnwys y cwmni MotoNovo sy’n gwmni allweddol o fewn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol. Mae gwaith ar Bencadlys newydd y BBC a Rhif 2 y Sgwâr Canolog yn mynd rhagddo o hyd ac mae swyddfeydd eisoes wedi’u gosod i gwmnïau amlwg. Mae’r gwaith o ddymchwel Tŷ Marland ar gyfer yr Hwb Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd ac ar gyfer datblygu rhagor o swyddfeydd ar raddfa fawr hefyd yn mynd rhagddo.