Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Rhagfyr 2018 a Ionawr 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Crynodeb

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Ionawr. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na phedair awr yno ac roedd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch. Y perfformiadau hyn ar ar gyfer y ddau fesur yw’r rhai gwannaf ers mis Mawrth 2018.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans yn is ym mis Ionawr. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed ond roedd fymryn yn is nag a oedd ym mis Rhagfyr.

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn uwch ym mis Rhagfyr ond roedd yn is ar gyfer gwasanaethau therapi. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth yn is o’i gymharu â mis Tachwedd, ond roedd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na 36 wythnos wedi gostwng. Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwaethygu.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser ond roedd wedi gostwng mymryn ar gyfer y rheini nad oeddent ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng ac roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.

Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros cyfartalog yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Ionawr ac roedd cyfartaledd yr amseroedd ymateb i alwadau brys ar gyfer ambiwlansys yn arafach. Mae’r amseroedd aros cyfartalog diweddaraf rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac amseroedd aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi wedi cynyddu ym mis Rhagfyr.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Rhagfyr 2018 a Ionawr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 504 KB

PDF
504 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.