Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Rhagfyr 2019 i Ionawr 2020.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y mis blaenorol. Roedd canran y cleifion sy’n treulio llai na 4 awr yno yn uwch na’r mis blaenorol. Roedd nifer y cleifion sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yr uchaf erioed i gael ei gofnodi.

Roedd nifer cyfartalog cyffredinol y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans a nifer cyfartalog y galwadau dyddiol yn y categori mwyaf difrifol (‘galwadau coch’) yn is ym mis Ionawr 2020. Roedd canran y galwadau coch lle cafwyd ymateb o fewn 8 munud wedi cynyddu ac yn uwch na’r targed o 65% am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng ym mis Ionawr 2020.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn uwch ond roedd y nifer wedi gostwng ar gyfer gwasanaethau therapi ym mis Rhagfyr 2019. Roedd amseroedd aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi wedi cynyddu.

Roedd perfformiad atgyfeirio a thriniaeth wedi gostwng ers y mis diwethaf. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos wedi gostwng (yr isaf ers mis Rhagfyr 2015) ac roedd y nifer a oedd wedi aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu (yr uchaf ers mis Ionawr 2016). Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth yn uwch na’r mis diwethaf.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2019, mae nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau cael triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae’r nifer yn dechrau ar driniaeth heb fod drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser wedi gostwng. Er bod y targed o drin cleifion ar gyfer y llwybr brys a’r rhai nad ydynt ar y llwybr brys wedi methu, roedd canran y cleifion a gafodd eu trin o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer y ddau lwybr ers y mis diwethaf. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, Rhagfyr 2019 i Ionawr 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 535 KB

PDF
535 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.