Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Yn unol â’n hadolygiad diweddar o’n hallbynnau ar gyfer crynodeb perfformiad a gweithgarwch y GIG, rydym wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio dangosfwrdd PowerBi.

Y mis hwn rydym wedi cyhoeddi data sy’n ymwneud â’r gwasanaeth 111 yng Nghymru am y tro cyntaf ar ein gwefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data ar alwadau sy’n cael eu cynnig, eu hateb a’u gadael.

Yn natganiad ystadegol y mis nesaf, rydym yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ddata sy’n ymwneud ag ymweliadau â thudalen we y gwasanaeth 111 a data’r gwiriwr symptomau ar-lein.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru a byddwn yn cynnwys mesuriadau perfformiad yn erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru o fis Mehefin ymlaen.

Prif bwyntiau

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Ebrill yn dangos bod nifer a chyfran y galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans lle mae bywyd yn y fantol yn dal yn uchel ac nid yw’r targed perfformiad yn cael ei gyrraedd o hyd.

Bu gostyngiad yn nifer yr ymweliadau dyddiol â’r adrannau brys, ar gyfartaledd, o gymharu â’r mis blaenorol, a gwelwyd gwelliant bach yn y perfformiad o ran y targedau pedair awr a deuddeg awr o gymharu â’r mis blaenorol. Er gwaethaf hyn, dyma’r trydydd a’r ail isaf ar gofnod, yn y drefn honno.  Yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau brys oedd yr ail hiraf ar gofnod hefyd, sef tair awr a dwy funud.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar gyfanswm y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth a pharhaodd hyn ym mis Mawrth, gyda’r rhestrau aros yn cynyddu i dros 700,000 am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae cyfradd y cynnydd yn dal yn is nag yr oedd yn gynharach yn ystod y pandemig, ac ym mis Mawrth gwelwyd y nifer mwyaf o lwybrau’n cau ers dechrau’r pandemig. Mae llwybrau cleifion yn wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu ers y mis blaenorol. Mae nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu i’r nifer mwyaf ar gofnod.  Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mawrth yn dal yn uchel ond roedd wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol i 22.5 wythnos.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed am yr ail fis yn olynol i’r lefel isaf ers mis Ebrill 2021.

Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros a’r rheini a oedd yn aros yn fwy na’r amser targed i’r lefel uchaf erioed ym mis Mawrth.

Roedd cyfanswm y gweithgarwch ym mis Mawrth ar gyfer gwasanaethau canser ar ei uchaf ers dechrau casglu data ym mis Rhagfyr 2020. Dechreuodd mwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf a chaewyd mwy o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser nag yn y mis blaenorol. Gostyngodd perfformiad rhyw fymryn o gymharu â’r targed 62 diwrnod ers y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd y gwasanaeth 111 ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Mawrth, gwnaethpwyd 86,000 o alwadau i’r gwasanaeth 111 yng Nghymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,863 o alwadau y dydd.  O gyfanswm y galwadau a wnaed, cafodd 73,000 eu hateb a chafodd 13,000 eu gadael gan y galwr.

O gyfanswm y galwadau a atebwyd gan y gwasanaeth 111 yn ystod y mis, ar gyfer 1,224 o alwadau nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Ebrill, gwnaethpwyd 38,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,262 o alwadau y dydd, cynnydd o 6 (0.5%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 21 (neu 1.7%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad. Roedd 120 o alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Ebrill. Dyma’r 11fed mis yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol.

Ym mis Ebrill, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 9.5%, i fyny o 9.2% ym mis Chwefror.

Targed

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Ebrill, cyrhaeddwyd 51.2% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Mae hyn 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond 9.8 pwynt canran yn is nag ym mis Ebrill 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Mawrth, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 49 eiliad. Roedd hyn 1 eiliad yn gyflymach nag ym mis Mawrth ond 1 funud 6 eiliad yn arafach nag ym mis Ebrill 2021. 

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Ebrill, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig dros 1 awr a 47 munud. Mae hyn bron i 4 munud yn arafach nag ym mis Mawrth, ac 1 awr a 6 munud yn arafach nag ym mis Ebrill 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Ebrill, roedd mwy nag 83,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Mae hyn yn gyfartaledd o 2,770 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 94 yn llai bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol, ond 10 yn fwy na’r un mis y llynedd.

Ym mis Ebrill, derbyniwyd bron 13,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 7.3% yn is na’r mis blaenorol, ac 16.8% yn is na’r un mis yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Mae data mis Ebrill yn dangos fod 65.9% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, sef y drydedd lefel isaf ar gofnod. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, ond 9.5 pwynt canran yn is na’r un mis y llynedd. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022.  Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Ebrill, canolrif yr amser aros oedd 3 awr a 2 funud. Roedd hyn chwe munud yn gynt na’r mis blaenorol, ond yr ail amser aros hiraf ar gyfartaledd erioed.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr. 

Ym mis Ebrill, treuliodd plant 2 awr a 18 munud ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 8 awr a 10 munud mewn adrannau brys, yr ail hiraf ar gofnod. 

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, roedd bron i 10,400 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 573 yn llai nag yn y mis blaenorol a oedd ar y lefel uchaf erioed.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Apwyntiad yw apwyntiad claf allanol, yn aml mewn ysbyty neu glinig, lle nad oes angen i’r claf aros yn yr ysbyty dros nos. Mae ystadegau atgyfeirio cleifion allanol yn dangos data misol ar nifer y ceisiadau atgyfeirio am apwyntiad claf allanol cyntaf a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,715 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mawrth.  Mae hyn yn gynnydd o 0.5% (18 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o gymharu â mis Chwefror. 

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Mawrth, roedd dros 109,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, cynnydd o 2.2% o gymharu â’r mis blaenorol ac roedd dros 63,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 8.2% o gymharu â’r mis blaenorol i’r lefel uchaf erioed.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd Mawrth, roedd bron i 42,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig.  Roedd hyn yn ostyngiad o 4.9% o gymharu â’r mis blaenorol, ond roedd bron i bum gwaith yn fwy nag ym mis Mawrth 2020.

Ddiwedd mis Mawrth, roedd bron i 15,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Mae hyn yn gynnydd o 9.9% o gymharu â mis Chwefror 2022, a dyma yw’r degfed cynnydd o fis i fis yn olynol.

Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Mawrth, 5.4 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Mae hyn yr un fath â’r mis blaenorol. 5.8 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn yn gynnydd o 5.3 wythnos yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch gan lwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd dros 701,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011. Roedd hyn 1.4% yn uwch nag yn y mis blaenorol ac roedd 53.5% yn uwch nag ym mis Mawrth 2020.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 82,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mawrth.  Mae hyn yn gyfartaledd o 3,552 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith, cynnydd o 1.7% ers mis Chwefror, a’r ail uchaf ers mis Chwefror 2020. 

Perfformiad

Targedau
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith y 701,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Mawrth, roedd 54.2% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Mae hyn 0.8 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond 27.7 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd bron i 253,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.1% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Mae hyn 1,530 (neu 0.6%) yn fwy o lwybrau’n aros na’r mis blaenorol, a bron i naw gwaith yn fwy nag ym mis Mawrth 2020.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Mawrth, 22.5 wythnos oedd canolrif yr amser aros. Mae hyn yn ostyngiad o 22.9 wythnos yn y mis blaenorol.

Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, dechreuodd 1,720 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Mae hyn yn gynnydd o 12.4% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn ostyngiad o 2.4% ers mis Mawrth 2021.

Cafodd 12,643 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 11.1% yn fwy na’r mis blaenorol.

Roedd cyfanswm y gweithgarwch ym mis Mawrth ar gyfer gwasanaethau canser ar ei uchaf ers dechrau casglu data ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Mawrth, agorwyd 15,300 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 1,658 (12.1%) o gymharu â’r mis blaenorol, a’r uchaf ers dechrau casglu data ym mis Rhagfyr 2021.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd 58.7% o’r llwybrau (1,009 allan o 1,720) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 9.0 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Hysbysiad adolygu

Mae data ar gyfer amseroedd atgyfeirio a thriniaeth wedi cael eu diwygio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Chwefror 2022. Roedd data a gyhoeddwyd yn y gorffennol wedi cael eu cyflwyno gyda data anghywir ar gyfer swyddogaeth trin sy’n mynnu bod rhai codau’n cael eu cyflwyno’n ôl wrth gyfrif am is-arbenigedd penodol. Dim ond ar ychydig o gofnodion y mae hyn yn effeithio a bydd yn cyd-fynd â’r diwygiadau data misol arferol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

23 Mehefin 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 141/2022