Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Mawrth ac Ebrill 2020
Crynodeb o ddata gweithgarwch GIG Cymru, gan gynnwys gwybodaeth ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans a chleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Sylwch fod y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. O ganlyniad, bydd hyn yn effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener 13 Mawrth ynghylch diddymu gweithdrefnau meddygol penodol a llacio'r targedau perfformiad, mae nifer o gasgliadau data cenedlaethol wedi dod i ben dros dro ac rydym hefyd wedi rhoi'r gorau i gofnodi ystadegau perfformiad dros dro. Bydd y newidiadau hyn yn weithredol tan o leiaf cyfnod adrodd Hydref 2020.
Felly, yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am weithgarwch GIG Cymru yn unig. Yn benodol, mae hyn yn golygu nifer y bobl sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a faint sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, nifer y galwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans, a nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser. Ni fydd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad nac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, oedi wrth drosglwyddo gofal, llwybrau wedi cau neu atgyfeiriadau i gleifion allanol.
Mae mwy o fanylion am ddata ym mhob maes ar gael yn nhablau StatsCymru. Mae cyhoeddi ein datganiadau misol ar weithgareddau'r GIG ar yr un diwrnod yn rhoi darlun mwy cyflawn ac integredig i ddefnyddwyr o weithgarwch ac yn rhoi golwg fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.
Mae data newydd sy'n ymwneud â galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans a phresenoldeb a derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu darparu ar gyfer mis Ebrill 2020. Darperir data newydd yn ymwneud â chleifion sy'n dechrau triniaeth canser ar gyfer mis Mawrth 2020.
1. Gofal heb ei drefnu
Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans
Ym mis Ebrill 2020, gwnaethpwyd 32,550 o alwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans ac ar gyfartaledd roedd 1,085 o alwadau bob dydd.
Mae hyn yn ostyngiad o 13.4% (neu 167 o alwadau yn llai bob dydd) ers y mis diwethaf a gostyngiad o 18.4% (neu 244 o alwadau yn llai bob dydd) o'i gymharu ag Ebrill 2019.
Roedd cyfran y galwadau a nodwyd fel y galwadau mwyaf difrifol (galwadau ‘coch ') yn 5.8%, i lawr o 7.0% ym mis Mawrth 2020.
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y tymor hir. Ers i gasgliadau data misol ddechrau ym mis Ebrill 2006, mae galwadau dyddiol cyfartalog wedi codi o lai na 1,000 y dydd i rhwng 1,200 a 1,450 y dydd, ond ym mis Ebrill 2020 gwelwyd y nifer lleiaf o alwadau cyfartalog bob dydd ers mis Mai 2011.
Nifer cyfartalog y galwadau coch bob dydd ym mis Ebrill oedd 63, i lawr o 87 ym mis Mawrth 2020.
Ymddengys fod diweddariad i arferion ymdrin â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y digwyddiadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.
Presenoldeb a derbyniadau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
Yn gyffredinol, mae presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ym misoedd yr haf na'r gaeaf
Roedd 41,473 yn bresennol yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru ym mis Ebrill. Mae hyn 34.3% yn is nag ym mis Mawrth 2020 (21,683 yn llai yn bresennol) a 54.0% yn is nag ym mis Ebrill 2019 (48,720 yn llai yn bresennol).
Nifer cyfartalog y bobl oedd yn bresennol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys bob dydd ym mis Ebrill oedd 1,382. Mae hyn 32.1% yn is nag ym mis Mawrth 2020 (655 yn llai yn bresennol bob dydd ar gyfartaledd) a 54.0% yn is nag ym mis Ebrill 2019 (1,624 yn llai yn bresennol bob dydd ar gyfartaledd) a'r isaf ar gofnod.
Cyfanswm nifer y bobl oedd yn bresennol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2020 oedd 994,802. Mae hyn 5.8% yn is na'r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Ebrill 2019) ond 1.3% yn uwch na'r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Ebrill 2015).
Ym mis Ebrill, derbyniwyd 10,881 o gleifion i'r un ysbyty neu ysbytai gwahanol ar ôl bod yn bresennol mewn adran damweiniau ac achosion brys fawr. Mae hyn 2,435 yn llai na'r mis blaenorol (Mawrth 2020) a 6,386 yn llai na'r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl (Ebrill 2019).
2. Gofal wedi’i drefnu
Cleifion sy'n dechrau triniaeth canser wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys a’r llwybr heb fod ar frys
Caiff cleifion canser yng Nghymru eu cyfrif ar lwybrau brys a heb fod ar frys, yn ogystal â'r Un Llwybr Canser.
Yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020, dechreuodd 8,394 o gleifion oedd newydd gael diagnosis o ganser driniaeth ar frys oherwydd amheuaeth o ganser. Mae hyn yn gynnydd o 2.5% (206 o gleifion) dros y 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019) ac yn gynnydd o 25.4% (1,700 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015).
Yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020, dechreuodd 9,175 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis canser a hynny drwy’r llwybr heb fod ar frys oherwydd amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 2.4% (228 o gleifion) dros y 12 mis blaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019) ac yn ostyngiad o 4.8% (458 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015).
Un llwybr canser (ystadegau arbrofol)
Mae'r Un Llwybr Canser yn cwmpasu pob claf o'r eiliad y ceir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y derbynnir eu hatgyfeiriad yn yr ysbyty a bod diagnosis wedi'i wneud.
Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser yn dangos bod 10,031 o gleifion wedi ymuno â'r llwybr ym mis Mawrth 2020. Mae hyn yn ostyngiad o 19.4% (2,421 o gleifion) o fis Chwefror 2020 ac mae'n cynnwys pawb sy'n dechrau triniaeth y mis hwn a'r rhai sydd eisoes ar y llwybr.
Ar gyfer Un Llwybr Canser, mae data sy'n ymwneud â nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn cyfateb i gyfanswm y cleifion a gafodd eu trin drwy’r llwybr amheuaeth o ganser ar frys a heb fod ar frys.
Ym mis Mawrth 2020, cafodd 1,692 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu trin drwy'r un llwybr canser. Mae hyn yn gynnydd o 22.5% (311 o gleifion) o fis Chwefror 2020.
3. Gwybodaeth o ansawdd
Amseroedd ymateb ambiwlansys
Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu’r arferion ymdrin â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau Coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.
Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, rhoddwyd model ymateb clinigol newydd ar waith yng Nghymru o 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad gwerthuso annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr Adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.
Categorïau galwadau
Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).
Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).
Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).
Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.
Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.
Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru
Gwasanaethau Ambiwlans: adroddiad ansawdd
Gwasanaethau Ambiwlans: cyhoeddiadau blynyddol
Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
Mae ystadegau’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn dangos data misol ar nifer y bobl sy'n bresennol ac yn cael eu derbyn i ysbytai o ganlyniad i dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys mawr yng Nghymru. Mae dau gategori o gyfleuster gofal brys, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ac Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill. Diffinnir Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a llety ar gyfer derbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor. Caiff Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill eu diffinio fel yr holl unedau Damweiniau ac Achosion Brys/argyfyngau/mân anafiadau eraill, sydd â llety i dderbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys ac y gellir cael gafael arnynt heb apwyntiad.
Oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, mae sawl Uned Mân Anafiadau wedi cau dros dro, yn effeithiol o fis Mawrth ymlaen. Mae'r Unedau Mân Anafiadau hyn yn cynnwys: Ysbyty’r Barri, Ysbyty Dolgellau ac Abermo ac Ysbyty Bryn Beryl.
Llwybrau canser
Mae cleifion sydd â chanser yn cael eu rhannu’n ddau grŵp penodol (yn unol â'r safonau canser).
Y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:
- Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol (ee, gan feddyg teulu) i ysbyty fel achosion brys ag amheuaeth o ganser, a bod hyn wedyn yn cael ei gadarnhau fel achos brys gan yr ymgynghorydd meddygol neu gan aelod dynodedig o’r Tîm Amlddisgyblaethol.
Y rheini nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:
- Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sydd â chanser (ni waeth beth yw eu llwybr atgyfeirio), nad ydynt wedi’u cynnwys yn barod fel cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio fel achos brys ag amheuaeth o ganser.
Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys pob claf â chanser, waeth beth fo'i ardal breswyl, sydd wedi dechrau triniaeth yn y cyfnod adrodd. Nid ydynt yn cynnwys cleifion o Gymru â chanser sy'n cael triniaeth mewn ysbytai preifat neu ysbytai'r GIG y tu allan i Gymru.
Nid yw cleifion lle mae’r canser cynradd gwreiddiol yn dychwelyd yn cael eu cynnwys.
Nid yw Powys ar hyn o bryd yn cyflwyno data ar gleifion â chanser a atgyfeiriwyd drwy’r llwybr ar frys oherwydd amheuaeth o ganser neu heb fod ar frys gan nad yw Powys yn darparu gwasanaethau acíwt. Caiff trigolion o Bowys eu cynnwys yn y data a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol eraill.
Ar hyn o bryd, caiff data ei ddadansoddi drwy Safle Canser a'i gyhoeddi ar StatsCymru bob chwarter. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn sicrhau bod y data hwn ar gael bob mis.
Un Llwybr Canser
Mae'r Un Llwybr Canser yn gasgliad o amseroedd aros newydd a gyhoeddwyd yn 2018 gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r ystadegau'n cynnwys pob claf yr amheuir bod canser arno. Mae'r llwybr yn mesur yr amser rhwng yr amheuaeth a dechrau'r driniaeth, yn hytrach na'r pwynt atgyfeirio.
I gael rhagor o wybodaeth am yr un llwybr canser, darllenwch ddogfennau allweddol yr un llwybr canser.
Ffynonellau
- Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
- Mae data amseroedd aros canser yn cael eu darparu gan y byrddau iechyd lleol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
- Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth (gweler y dolenni isod).
Yr amserlen
Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael cyn gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr.
Data
Gellir dod o hyd i ragor o setiau data manwl, eu llwytho i lawr neu gael gafael arnynt drwy ein API data agored o StatsCymru.
Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.
Adolygiadau
Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.
Perthnasedd
Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?
Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- cyngor i Weinidogion
- asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
- llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
- gan Fyrddau Iechyd Lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
- cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
- helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru
Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?
Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:
- Gweinidogion a'u cynghorwyr
- Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
- byrddau iechyd lleol
- awdurdodau lleol
- Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
- Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
- y cyfryngau
Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU
Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
Llywodraeth yr Alban
Adran Iechyd Lloegr
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r holl ystadegau a gyflwynir yma fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan ddynodi ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.
Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol yn 2011 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2011.
Ystadegau arbrofol
Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig ag Un Llwybr Canser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.
Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.
Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10) (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) chyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
18 Mehefin 2020
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir eu darparu drwy e-bost at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
4. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 49/2020